Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant

Postiwyd ar: Mawrth 19, 2024
gan
Excited company boss or team leader introducing new employee to colleagues in office welcoming hired newcomer member congratulating with promotion applauding celebrating reward, supporting coworker

Sut mae cymhelliant staff yn effeithio ar gynhyrchiant?

Mae cymhelliant gweithiwr yn cyfeirio at ba mor hapus ac uchelgeisiol yw’r unigolyn yn ei rôl. Mae gweithwyr llawn cymhelliant yn fwy tebygol o lawer o fod eisiau gweithio’n galed, perfformio’n dda, a dymuno i’r busnes ffynnu. Mae mwy o gymhelliant yn golygu mwy o egni, creadigrwydd ac ymrwymiad, yn ogystal â chyd-fynd yn well gyda nodau sefydliadol ehangach – a dealltwriaeth o sut mae gwaith o ddydd i ddydd yn cyfrannu at y ‘darlun ehangach’.

Mae gweithlu llawn cymhelliant yn cynnig llu o fuddion eraill:

  • llai o absenoliaeth a phresenoliaeth
  • cadw mwy o staff a llai o drosiant staff
  • tebygolrwydd uwch o ddenu ymgeiswyr a phartneriaethau o ansawdd uchel
  • gwell cynhyrchiant a pherfformiad mewn swyddi
  • gwell perthynas rhwng busnesau a gweithwyr
  • diwylliant sefydliadol mwy cadarn a gwell amgylchedd gwaith
  • gwasanaeth a phrofiad cwsmer o safon uwch.

Yn ogystal, mae gweithwyr sydd â mwy o gymhelliant yn aml yn cael eu hysbrydoli ac yn fwy parod i gadw at weithredoedd ac ymddygiadau dymunol: maent yn teimlo boddhad a gwerth o fynd ‘uwchlaw a thu hwnt’ gan eu bod yn gweld gwerth yn eu gwaith ac wedi ymrwymo i gyflawni eu rôl yn dda.

Ar y llaw arall, mae gweithwyr gyda llai o gymhelliant yn fwy tebygol o wneud y gwrthwyneb, a gall hynny fod yn niweidiol i berfformiad y busnes. Daeth adroddiad ‘State of the Global Workplace: 2023 Report’ Gallup i’r casgliad bod gweithwyr di-gymhelliant yn costio $8.8 triliwn ar draws y byd mewn colledion cynhyrchiant – cyfwerth â 9% o gynnyrch gros domestig (GDP) byd-eang.

Beth yw’r ffordd orau o gymell staff?

Mae pobl yn dewis gweithio, a pharhau i weithio, mewn gweithleoedd penodol am sawl rheswm – ac mae teimlad o ysbrydoliaeth a chymhelliant yn un o’r rhesymau hynny. Mae technegau cymell yn un o brif ystyriaethau arweinwyr, rheolwr a gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol, ac mae’r technegau hyn ar eu mwyaf effeithiol pan fyddant wedi’u teilwra i anghenion y sefydliad a gweithwyr unigol.

Mae dulliau cyffredin o gynyddu lefelau cymhelliant y gweithlu yn cynnwys:

  • gosod nodau a disgwyliadau clir
  • cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad
  • ymreolaeth ac awdurdod
  • cyfleoedd ar gyfer twf
  • digollediad teg
  • arweinyddiaeth dda
  • adborth rheolaidd
  • gwaith sy’n ddigon heriol
  • amgylchedd gwaith hyblyg
  • diwylliant cynhwysol, cefnogol o fewn y cwmni
  • cynlluniau cymhelliant a gwobrwyo.

Beth am ofyn i’r gweithwyr eu hunain? Bu Statista yn holi gweithwyr drwy bleidlais i ganfod pa nodweddion o’u gwaith sy’n cynnig y cymhelliant mwyaf yn eu barn nhw. Y pum nodwedd bwysicaf o ran cymhelliant – yn eu trefn – oedd: gwaith sy’n creu effaith, cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, digollediad sy’n cyd-fynd â pherfformiad, ymreolaeth, a threfniadau gweithio hyblyg.

Yn ogystal, gall cymhelliant fod naill ai’n gynhenid neu’n anghynhenid:

  • Cymhelliant cynhenid yw pan fo gweithiwr yn gwneud rhywbeth oherwydd bodlonrwydd greddfol ac nid am ei fod yn disgwyl cael ei wobrwyo ar wahân amdano, ac mae’n gallu bod yn effeithiol iawn yn yr hirdymor
  • Cymhelliant anghynhenid yw pan fo gweithiwr yn gwneud rhywbeth sy’n gysylltiedig â gwobr allanol, a gall fod yn effeithiol iawn yn y tymor byr.

Mae sicrhau gwahanol fathau o gymhellion, sy’n cwmpasu’r elfen gynhenid ac anghynhenid, yn syniad da yn gyffredinol.

Beth yw effaith cymhellion o ran hybu cymhelliant?

Nod rhaglenni cymell a gwobrwyo gweithwyr yw hybu gweithredoedd ac ymddygiadau cadarnhaol – a’u halinio gydag amcanion a gwerthoedd y busnes, gwobrwyo gweithwyr am berfformiad a chyfraniad i’r swydd, a chreu gweithleoedd sy’n gwerthfawrogi aelodau’r tîm. Yn ôl Business Leadership Today, gall rhaglenni cymell arwain at gynnydd o 44% mewn perfformiad gweithwyr, a chymell 66% o weithwyr i aros gyda chyflogwr.

Mae cymhellion yn gallu bod ar sawl ffurf, a gallant fod yn ariannol neu’n anariannol. Mae cymhellion ariannol yn cynnwys taliad bonws, trefniadau rhannu elw, codiad cyflog, cardiau rhodd, opsiynau stoc, ad-daliadau am hyfforddiant, a buddion ymddeol; mae cymhellion anariannol yn cynnwys cyfoethogi swydd, cyfle i ddatblygu gyrfa, gwobrwyo profiad, cydnabyddiaeth gyhoeddus, hyblygrwydd yn y gwaith, sicrwydd swydd, a mwy o amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl. Gan ddibynnu p’un a yw’r busnes yn dewis cymhellion cynhenid neu anghynhenid, gallai cymell staff drwy wobrwyo gynnwys gosod targedau clir, creu amgylchedd braf i weithio, arwain gyda gweledigaeth, annog gwaith tîm, pecynnau lles, sicrwydd swyddi a darparu amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd.

Yr hyn sy’n bwysig yw teilwra’r cymhellion i wahanol anghenion, dyheadau a diddordebau timau ac aelodau timau. Mae’r cymhelliant cywir ar gael i bawb; ond mae’n rhaid dod o hyd i’r hyn sy’n eu sbarduno a’r hyn sydd fwyaf gwerthfawr iddynt. Dewch i ni edrych yn fanylach ar hyn.

Pa ffactorau sy’n gallu effeithio ar gymhelliant staff?

Pam mae effaith cymhellion yn amrywio? Pam nad oes un dull sy’n addas i bawb wrth ddatblygu cynlluniau o’r fath?

Mae’r hyn sy’n cymell un person – ar lefel ddofn a phersonol – yn wahanol i’r hyn sy’n cymell person arall. Dylai arweinwyr a rheolwyr ystyried cymhelliant a gofynion unigryw er mwyn deall pa fath o wobrwyo sy’n debygol o fod yn effeithiol, neu’n aflwyddiannus.

Gall amrywiaeth o ffactorau effeithio ar effeithiolrwydd rhaglen gymhellion benodol, a ph’un a yw’r gweithwyr yn gweld ei werth, gan gynnwys:

  • gwerthoedd a chredoau personol –Alinio’r cymhellion gyda chredoau personol y gweithwyr yn aml yw’r dull mwyaf effeithiol gan eu bod wedi ymwreiddio o fewn cymhelliant cynhenid. Pa mor bwysig yw’r cymhellion i werthoedd a chredoau’r unigolyn?
  • diwylliant sefydliadol – Gall cymhellion fod yn fwy effeithiol pan maent yn cyd-fynd â diwylliant a diddordebau’r sefydliad. A yw’r math o gymhellion yn cyd-fynd â diwylliant y busnes?
  • purpose and fulfilment – Mae pwrpas yn gallu bod yn bwerus. A yw’r gweithiwr yn cysylltu’r cymhellion gyda mwy o ymdeimlad o bwrpas neu fodlonrwydd yn y gwaith?
  • cydbwysedd bywyd-gwaith a blaenoriaethau – Mae mwy a mwy o weithwyr – yn enwedig y rhai gydag ymrwymiadau teuluol, gofalu, neu ymrwymiadau eraill – yn ystyried hyblygrwydd yn flaenoriaeth uchel. Gall y dulliau hyn fod yn ffordd fwy cost effeithiol o annog gweithwyr i fusnesau. A fyddai modd cysylltu’r cymhellion gyda gwahanol drefniadau cydbwysedd bywyd gwaith?
  • datblygiad proffesiynol – Mae hyn yn werthfawr i weithwyr, o ran dilyniant gyrfa, ac i fusnesau o ran datblygu sgiliau gweithwyr. Sut mae’r cymhellion yn gysylltiedig â datblygiad proffesiynol a thwf hirdymor?
  • sefyllfa economaidd – Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl mai cymhellion ariannol – neu becynnau tâl sy’n cynnwys elfennau eraill, megis gofal iechyd – fyddai’r opsiwn mwyaf gwerthfawr er mwyn hybu cymhelliant. Gall ystyried anghenion sylfaenol sy’n gysylltiedig â Hierarchaeth Anghenion Maslow, ddatblygu’r cymhellion mwyaf ystyrlon ac effeithiol. A yw’r cymhellion yn rhoi ystyriaeth i’r realiti economaidd sy’n wynebu’r gweithwyr?

Mae monitro ac addasu systemau gwobrwyo dros amser yn ffordd dda o werthuso effeithiau cadarnhaol a negyddol cymhellion penodol, a sicrhau bod gweithwyr yn dal i gael eu hysgogi gan ddefnyddio’r dulliau gorau.

Defnyddiwch eich dealltwriaeth o ffactorau cymell i wella perfformiad sefydliadol

Ydych chi’n barod i ddysgu sut i wella ymgysylltiad, bodlonrwydd a pherfformiad gweithwyr yn eu gwaith?

Cyfle i gyflymu trywydd eich gyrfa ym maes busnes ac arweinyddiaeth – a dysgu cyfrinachau’n ymwneud ag ymgysylltiad a chymhelliant gweithwyr – gyda rhaglen MBA ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.

P’un a ydych chi’n lansio eich menter eich hun neu’n dymuno datblygu sgiliau er mwyn cael swydd lefel uwch mewn busnes presennol, gall ein cwrs gradd meistr hyblyg, ar-lein, fod o fudd i chi. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o sut i reoli a rhedeg busnes cymhleth, gan archwilio disgyblaethau allweddol megis rheolaeth strategol, marchnata, cyllid, rheoli adnoddau dynol, gweithrediadau, a mwy. Gallwch ddatblygu eich sgiliau busnes ymarferol a damcaniaethol, a dysgu sut i roi’r sgiliau hyn ar waith wrth wneud penderfyniadau, datrys problemau a meddwl yn strategol ar y lefelau uchaf.