Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr
Postiwyd ar: Mawrth 19, 2024gan Ben Nancholas
Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cyffredin sydd fel arfer yn effeithio ar allu person i ddarllen, ysgrifennu a sillafu.
Mae’n bwysig bod gan addysgwyr ac eraill sy’n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth dda o ddyslecsia er mwyn gallu cefnogi dysgwyr sydd â’r cyflwr yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwybod y canlynol:
- beth yw dyslecsia
- symptomau dyslecsia cyffredin
- diagnosis ar gyfer dyslecsia – a pha mor aml y rhoddir diagnosis dyslecsia – ymysg plant ifanc, plant yn eu harddegau, ac oedolion
- goblygiadau hirdymor dyslecsia
- strategaethau ar gyfer rheoli dyslecsia.
Beth yw dyslecsia?
Mae dyslecsia yn un o sawl anhawster dysgu penodol, gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia (neu (neu Anhwylder Cydlynu Datblygiadol), dyscalcwla, cam-ysgrifennu, ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Yn ôl y GIG, nid yw dyslecsia yn gysylltiedig â deallusrwydd, ac nid yw’n anabledd dysgu nac yn anhwylder dysgu. Yn hytrach, mae’n deillio o wahaniaethau yn y ffordd y mae’r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, gan ei gwneud hi’n anodd i bobl ddarllen, ysgrifennu, a sillafu geiriau. Mae hyn o ganlyniad i wahaniaeth niwrolegol sy’n effeithio ar brosesu ffonolegol, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar allu person i ddadgodio ac adnabod geiriau’n gywir.
Gall hyn effeithio ar sut mae pobl yn dysgu, gweithio a byw eu bywydau yn fwy cyffredinol.
“Yn yr un ffordd ag y mae pob person yn unigryw, mae profiad pawb o ddyslecsia hefyd yn wahanol. Gall amrywio o symptomau ysgafn i ddifrifol, a gall fod yn bresennol ar yr un pryd ag anawsterau dysgu eraill. Mae’r cyflwr fel arfer yn rhedeg yn y teulu, ac mae’n gyflwr gydol oes,” yn ôl Cymdeithas Dyslecsia Prydain. “Mae’n bwysig cofio bod elfennau cadarnhaol i feddwl yn wahanol. Mae nifer o bobl gyda dyslecsia yn dangos cryfderau mewn meysydd megis rhesymu ac mewn meysydd gweledol a chreadigol.”
Pa mor gyffredin yw dyslecsia?
Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cymharol gyffredin. Yn y DU er enghraifft, mae sefydliadau megis y GIG yn amcangyfrif bod gan 1 o bob 10 person ddyslecsia. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol bod dyslecsia ar oddeutu 1 o bob 10 disgybl yn nosbarthiadau Prydain.
Mae adnabod presenoldeb dyslecsia yn hanfodol i addysgwyr sy’n dymuno creu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol i blant.
Goblygiadau hirdymor dyslecsia
Mae dyslecsia yn gyflwr gydol oes, ond gyda chefnogaeth briodol, gall unrhyw un sydd â dyslecsia oresgyn yr heriau cysylltiedig – a ffynnu.
Gall dyslecsia heb ddiagnosis neu gefnogaeth arwain at effeithiau hirdymor fodd bynnag, yn enwedig o ran hunan hyder, iechyd meddwl a chyrhaeddiad academaidd.
Mae ymyrraeth gynnar a chefnogaeth wedi’i deilwra yn allweddol er mwyn lliniaru’r anawsterau posibl hyn.
Symptomau ac arwyddion cyffredin o ddyslecsia
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau cyffredin ar gyfer dyslecsia. Gallant amrywio yn ôl oedran, ond mae bod yn ymwybodol o rai o’r arwyddion mwyaf cyffredin yn gallu helpu addysgwyr – ac eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc – i adnabod dysgwyr a allai elwa o asesu a chefnogaeth bellach yn gynt.
Mae symptomau cyffredin yn cynnwys anawsterau gyda’r canlynol:
- ymwybyddiaeth ffonolegol a phrosesu (megis odli, segmentu, a chyfuno sain)
- ffoneg a deall yr hyn sy’n cael ei ddarllen, gan gynnwys rhuglder a chywirdeb darllen
- sillafu a dadgodio geiriau anghyfarwydd
- trefnu meddyliau a chyfleu syniadau yn ysgrifenedig
- cofio trefn, megis dyddiau’r wythnos neu’r wyddor.
Mae’r GIG yn rhannu symptomau i wahanol grwpiau oedran:
Symptomau mewn plant cyn oed ysgol
- Oedi gyda datblygiad lleferydd, neu broblemau lleferydd, megis methu ag yngan geiriau hir yn gywir a chymysgu brawddegau
- Problemau wrth fynegi eu hunain, megis methu â chofio’r gair cywir i’w ddefnyddio, neu roi brawddegau at ei gilydd yn anghywir
- Ychydig iawn o ddealltwriaeth neu werthfawrogiad o eiriau sy’n odli mewn hwiangerddi
- Anawsterau, neu ddiffyg diddordeb, mewn dysgu llythrennau’r wyddor
Symptomau mewn plant ysgol gynradd
- Anawsterau wrth ddysgu enwau a synau llythrennau
- Sillafu anrhagweladwy ac anghyson
- Dryswch o ran llythrennau sy’n edrych yn debyg, a rhoi llythrennau’r ffordd groes
- Drysu trefn llythrennau mewn geiriau
- Anawsterau darllen, megis darllen yn araf neu wneud camgymeriadau wrth ddarllen yn uchel
- Ateb cwestiynau ar lafar yn dda, ond yn cael trafferth i ysgrifennu’r ateb
- Anawsterau wrth ddilyn cyfres o gyfarwyddiadau
- Trafferth i ddysgu trefn, megis dyddiau’r wythnos neu’r wyddor
- Ysgrifennu’n araf
- Llawysgrifen anniben
- Problemau wrth gopïo iaith ysgrifenedig a chymryd mwy o amser nag arfer i gwblhau gwaith ysgrifenedig
Ar y cam hwn, mae’r GIG hefyd yn nodi ei fod yn gyffredin i blant gyda dyslecsia neu ddangos diffyg ymwybyddiaeth ffonolegol – sef adnabod bod geiriau’n cael eu creu o unedau llai o sain neu ffonemau, a sut mae addasu ffonemau yn gallu creu geiriau ac ystyr newydd – a sgiliau dadgodio geiriau, lle mae plant yn gwneud synnwyr o eiriau anghyfarwydd drwy chwilio am eiriau llai, neu gasgliad o lythrennau, y mae’r plentyn eisoes wedi’u dysgu.
Pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion
- Gwaith ysgrifennu anhrefnus gyda diffyg mynegiant
- Anawsterau wrth gynllunio ac ysgrifennu traethodau, llythyrau neu adroddiadau, neu adolygu ar gyfer arholiadau|
- Ceisio osgoi darllen ac ysgrifennu lle bo’n bosibl
- Anawsterau wrth gymryd nodiadau neu gopïo
- Trafferthion wrth geisio cofio pethau, megis rhif PIN neu rif ffôn, neu drafferthion i gyrraedd terfynau amser
Profi ar gyfer dyslecsia ymysg plant
Pan fo rhiant neu addysgwr yn amau dyslecsia, mae’n arferol i gynnal asesiad diagnostig dyslecsia yn ysgol y plentyn. Mae’r gwerthusiad cynhwysfawr hwn yn gallu cael ei gynnal gan seicolegydd addysg neu athro dyslecsia arbenigol cymwys. Bydd yr aseswr yn edrych ar feysydd megis sgiliau darllen y plentyn, sgiliau a datblygiad iaith, ac ymwybyddiaeth ffonolegol.
Gall yr asesiad dyslecsia, ynghyd â mewnbwn gan athro ac aelodau o deulu’r plentyn, arwain at ddiagnosis ffurfiol o ddyslecsia.
Os ceir diagnosis o ddyslecsia, mae arbenigwyr dyslecsia hefyd yn gallu cefnogi plant – ynghyd â’u teuluoedd a’u hathrawon – gydag ymyriadau a strategaethau addas ar gyfer delio gyda’r cyflwr.
Profi ar gyfer dyslecsia ymysg oedolion
Mae dyslecsia yn aml yn mynd heb gael ei ganfod ymysg oedolion, sy’n gallu effeithio ar eu bywydau proffesiynol a phersonol.
Mae’n werth nodi mai dim ond drwy gwblhau asesiad diagnostig ardystiedig y gellir canfod dyslecsia mewn oedolion, ac nid yw’r rhain ar gael drwy’r GIG.
Fodd bynnag, mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain yn nodi bod diagnosis ffurfiol yn golygu:
- ei bod yn ddyletswydd ar weithleoedd a sefydliadau addysg i wneud addasiadau rhesymol i addasu i anawsterau dyslecsia, gan fod dyslecsia yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- bod oedolion gyda dyslecsia yn gallu cael gwell dealltwriaeth o natur eu hanawsterau, sy’n gallu eu helpu i weithredu strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli dyslecsia yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
Ceir hefyd nifer o brofion sgrinio dyslecsia ar-lein, ond mae’n bwysig cofio, er bod y rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol, nid ydynt yn gallu rhoi diagnosis ffurfiol o ddyslecsia.
Trin a rheoli dyslecsia
Ar ôl derbyn diagnosis, gall plant ac oedolion gyda dyslecsia elwa o nifer o ymyriadau a strategaethau gwahanol. Gall strategaethau effeithiol gynnwys:
- defnyddio adnoddau technoleg gynorthwyo megis meddalwedd testun i leferydd neu lyfrau sin, i gefnogi gweithgareddau dysgu neu waith
- dulliau dysgu amlsynhwyraidd sy’n defnyddio gwahanol rannau o’r ymennydd, megis cyffyrddiad a symudiad
- gofyn am amser ychwanegol ar gyfer asesiadau neu aseiniadau.
Cydweithio a chymorth
Mae cydweithio rhwng addysgwyr, cydlynwyr anghenion addysgol arbennig, seicolegwyr addysg, a rhieni hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant dysgwyr gyda dyslecsia. Trwy gydweithio, gallant ddatblygu cynlluniau addysg unigol wedi’u teilwra i anghenion bob plentyn, gan sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth briodol drwy gydol eu taith addysgol ac yn cyrraedd eu potensial yn llawn.
Ewch â’ch gyrfa ym myd addysg i’r lefel nesaf
Defnyddiwch seicoleg addysgol i wella profiadau yn y dosbarth i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr gyda dyslecsia, gyda’r cwrs gradd MSc Seicoleg Addysgol cwbl ar-lein y gellir ei astudio o bell o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, rhan o Brifysgol Wrecsam.
Mae’r cwrs meistr hwn wedi’i lunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i weithwyr addysg proffesiynol – gan gynnwys athrawon, prifathrawon, rheolwyr ysgol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a staff cefnogi, ymysg eraill – o rôl seicolegwyr addysg, yn ogystal â chysyniadau seicolegol craidd sy’n sylfaen i ymarfer ym maes seicoleg addysg.
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio tystiolaeth seicolegol i siapio a gwella arferion addysgiadol ac yn y dosbarth, a datblygu gwybodaeth mewn meysydd allweddol o fewn seicoleg addysgol, gan gynnwys:
- datblygiad plant a phobl ifanc
- anhwylderau ymddygiad a rôl gwytnwch
- anghenion dysgu ychwanegol a dawn
- seicoleg iechyd a lles
- seicoleg fforensig
- deall asesiadau clinigol a seicometreg.