Dewis llwybr gyrfaol yn y byd marchnata
Postiwyd ar: Chwefror 14, 2022gan Ruth Brooks
Mae’n rhan o swydd marchnatwr i ddewis y ffyrdd gorau i gyrraedd eu cynulleidfaoedd targed er mwyn hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau eu cwmni. Fodd bynnag, mae sawl rôl yn y byd marchnata ac maent i gyd yn cynnwys cwblhau tasgau dyddiol amrywiol a defnyddio set sgiliau gwahanol.
Heddiw, mae’r byd gwaith yn dod yn fyd mwy a mwy digidol, felly mae’n ofynnol meddu ar sgiliau digidol ar gyfer y rhan fwyaf o rolau marchnata. Byddai meddu ar sgiliau creadigol a bod yn berson arloesol hefyd yn eich gwneud yn addas ar gyfer y maes, ac wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu, mae’r byd marchnata hefyd yn ddiwydiant sy’n datblygu.
Os ydych chi’n chwilio am yrfa sy’n cynnig y cyfleoedd i ddysgu rhywbeth newydd trwy’r amser ac mae addasu’n gyson i ddatblygiadau diweddaraf y diwydiant yn rhywbeth sy’n eich cyffroi, yna marchnata ydy’r yrfa i chi.
Wrth i bob cwmni ar draws pob sector sicrhau bod gweithgareddau marchnata yn rhan greiddiol o’u gweithrediadau, gallai eich rôl chi yn y byd marchnata fod mewn maes sy’n eich gweddu chi – boed hynny yn y meysydd ffasiwn neu gyllid, yn y sector nid-er-elw neu’r diwydiant technoleg sy’n ffynnu – mae sgiliau marchnata yn berthnasol ac yn drosglwyddadwy i bawb.
Pam gweithio yn y byd marchnata?
Mae sawl llwybr gyrfaol y gallwch eu dewis yn y byd marchnata a gallwch ddewis bod yn gyffredinolwr marchnata neu’n arbenigwr mewn un maes yn benodol. Mae gennych chi hefyd y dewis i weithio’n fewnol o fewn tîm marchnata presennol cwmnïau, neu mewn asiantaeth farchnata sy’n gweithio gyda sawl cwmni.
Yn ogystal â’r nifer o opsiynau a geir, mae marchnata hefyd yn ddiwydiant sy’n ehangu, a bron pob cwmni bellach yn ei adnabod fel elfen hanfodol o’u busnes. O ganlyniad i hyn, bydd dewis llwybr gyrfaol yn y byd marchnata yn sicrhau dyfodol sefydlog i chi a digon o gyfleoedd i ddatblygu ac mewn rhai achosion mae’n bosib dringo o safle lefel mynediad i safle rheolwr marchnata o fewn blynyddoedd.
Nawr yn fwy nac erioed cefnogir allbwn creadigol marchnata gan ddata. Wrth ddefnyddio data, mae gweithwyr proffesiynol y byd marchnata yn gallu gweld lle mae eu cwsmeriaid gan eu targedu’n fwy effeithlon, felly mae’n ddiwydiant delfrydol os ydych yn mwynhau gwneud darganfyddiadau wrth edrych ar rifau ac yn hoffi’r syniad o greu ymgyrch yn seiliedig ar ffeithiau a ffigyrau. Mae dehongli data hefyd yn eich galluogi i weld yn syth yr hyn rydych yn ei wneud yn iawn, ac yn eich galluogi i addasu i’r hyn rydych yn ei wneud yn anghywir. Wrth ddefnyddio adnoddau marchnata fel Google Analytics, gallwch weld canlyniadau eich gwaith bron yn syth.
Gan fod timoedd marchnata yn tueddu i fod yn gymysgfa o arbenigwyr a chyffredinolwyr, mae’n yrfa dda hefyd os ydych yn hoffi cydweithio â thîm sy’n ceisio cyflawni’r un amcanion. Mewn sawl achos, mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol i farchnata, ond wrth weithio â rhanddeiliaid o fewn eich tîm a hefyd ar draws y cwmni byddwch yn dysgu sut i weithio ochr yn ochr â phobl o bob math – sgìl werthfawr i’w chael.
Y llwybrau marchnata y gallwch eu dewis
Mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau gyrfaol yn y byd marchnata yn gysylltiedig â marchnata digidol, ac wrth i’r byd dreulio mwy a mwy o amser ar-lein, gallai arbenigo a datblygu gyrfa yn y maes marchnata digidol ddiogelu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Mae sawl gyrfa o fewn marchnata, ac er nad yw’r rhestr hon yn cynnwys yr holl swyddi y dewch ar eu traws wrth edrych ar hysbysfyrddau swyddi ac wrth chwilio ar Linkedln am rôl farchnata, gallai roi syniad i chi o’r llwybr yr hoffech ei ddilyn.
Marchnata cynnwys ac ysgrifennu copi
Gan fod llawer o gystadleuaeth i fusnesau yn y rhan fwyaf o sectorau, mae angen i gwmnïau ganfod ffordd o dorri drwy’r haenau sy’n bodoli ar-lein er mwyn cyrraedd eu cynulleidfa darged a’u dylanwadu er mwyn eu perswadio i fod yn gwsmeriaid sy’n talu. Mae awduron medrus ac ysgrifenwyr copi yn gallu adrodd stori a dal diddordeb wrth ddefnyddio geiriau – sgìl hanfodol ar gyfer timau marchnata. Mae ysgrifenwyr copi yn gweithio’n agos â sawl aelod arall o fewn adrannau marchnata er mwyn dod â geiriau’n fyw, gan gynnwys dylunwyr graffig a thimau’r we, yn ogystal â dadansoddwyr data sy’n gallu adolygu data a gweld y bylchau cynnwys gan adnabod yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd ddim yn gweithio.
Bydd marchnatwyr cynnwys hefyd yn rheoli’r strategaeth gynnwys. Gall hyn olygu rheoli’r holl adnoddau digidol, o’r wefan, i’r cyfryngau cymdeithasol, e-byst, tudalennau glanio, a hysbysebion talu gyda chlic (PPC). Pan y’i gweithredir ar wefan, gall cynllun strategaeth wella optimeiddiad peiriannau chwilio (SEO), gan helpu’r safle i ddod ar y brig mewn canlyniadau chwilio organig ac felly yn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid ddarganfod y cwmni.
Bellach, mae sawl brand yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol bellach i gyrraedd cwsmeriaid, ac os ydych yn weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol eich hun mae’n debygol eich bod yn dilyn rhai o’ch hoff frandiau ar un o’r llwyfannau poblogaidd – Facebook, Twitter, Instagram, Snapchat, neu TikTok.
Y tu ôl i gyfrifon y brandiau hyn, yn aml mae rheolwr y cyfryngau cymdeithasol, neu dîm cyfan yn rheoli’r cyfryngau cymdeithasol, sy’n creu ac yn dilyn strategaeth o’r hyn i’w bostio a phryd, gan ddefnyddio dadansoddwyr i ddarganfod yr hyn sy’n gweithio’n dda, ac yn cysylltu â’u cynulleidfa’n syth.
Marchnata trwy e-byst
Mae’n debygol bod eich mewnflwch yn cynnwys e-byst gan gwmnïau rydych wedi prynu ganddynt o’r blaen, ac mae’r e-byst hyn yn cael eu defnyddio yn rhan o’u strategaeth farchnata. Mae gweithwyr proffesiynol yn y maes marchnata trwy e-byst yn defnyddio dadansoddiad o ddata a strategaeth olygyddol er mwyn creu a chyflwyno e-byst i gwsmeriaid, gan gysylltu â chofnodion blog ar wefan eu cwmni ac yn gosod hysbysebion trawiadol mewn lleoliad sy’n annog y derbyniwr i brynu.
Yn ogystal ag ysgrifennu llinellau pwnc bachog er mwyn cynyddu’r siawns o’r e-bost yn cael ei agor, neu weithio gydag ysgrifennwr copi i wneud hynny, bydd marchnatwr e-byst yn defnyddio adnoddau sy’n dangos faint o bobl sydd wedi agor, wedi clicio trwy’r neges, ac wedi prynu cynnyrch yn dilyn darllen e-bost maent wedi’i dderbyn. Yna, bydd y data hwn yn dangos yr hyn sydd angen ei newid, efallai bod hynny’n golygu newid yr amser mae’r e-bost yn cael ei anfon yn ystod y dydd neu newid safle’r cynnwys mewn e-bost, ac yn gallu addasu eu hymdrechion parhaus er mwyn gwella’r canlyniadau.
Cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu corfforaethol
Mae arbenigwr marchnata sy’n canolbwyntio ar gysylltiadau cyhoeddus (PR) neu gyfathrebu corfforaethol yn gyfrifol am hyrwyddo brand neu gwmni cyfan, yn ogystal â hyrwyddo unrhyw gynnwys sydd wedi’i greu gan ysgrifenwyr copi’r tîm.
Mae’r rolau hyn yn cynnwys drafftio datganiadau i’r wasg a meithrin perthynas â newyddiadurwyr a allai fod â diddordeb mewn cyhoeddi unrhyw ddiweddariadau gan y cwmni.
Mae gweithwyr proffesiynol yn y byd marchnata sy’n arbenigo mewn PR yn treulio llawer o’u hamser ar y ffôn gyda rhanddeiliaid a newyddiadurwyr neu’n anfon e-byst atynt, ac yn mynychu sawl digwyddiad corfforaethol.
Rheoli brand
Mae rheoli brand yn faes creadigol ac yn rheolaeth brosiect, ac yn gofyn am sgiliau trefnu da ynghyd â’r gallu i feddwl am syniadau er mwyn annog cydweithwyr mewn adrannau gwahanol.
Mae rheolwr brand yn goruchwylio’r holl gyfathrebu o fewn busnes, yn fewnol ac yn allanol. Mae hefyd yn gyfrifol am ddod â brand cwmnïoedd neu eu llinell gynhyrchu yn fyw. Yn aml, mae profiad blaenorol yn y byd marchnata, yn aml yn ofynnol yn y rolau hyn, ac efallai’n rhywbeth i’w ystyried ar ôl gweithio yn y diwydiant marchnata am nifer o flynyddoedd, a hynny er mwyn camu ymlaen mewn gyrfa.
Ymchwil i’r farchnad
Wrth i’r defnydd o ddata barhau i ddatblygu yn y byd marchnata, mae cynnwys rheolwyr ymchwil a dadansoddwyr marchnata o fewn timoedd marchnata cwmnïoedd hefyd ar gynnydd.
Mae arbenigwyr yn y maes ymchwil i’r farchnad yn gorfod deall anghenion defnyddwyr ac arferion prynu wrth gwblhau arolygon a gweithio gyda grwpiau targed yn ogystal ag adolygu astudiaethau a data sy’n bodoli eisoes. Mae’r gofynion ar gyfer y rolau hyn yn cynnwys sgiliau cyfathrebu er mwyn gallu cael gwybodaeth gan bobl, a’r gallu i ddadansoddi data a chanlyniadau’n effeithiol.
Cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa marchnata
Os oes gennych chi brofiad eisoes yn y byd marchnata ac yn chwilio am gyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa, neu os ydych yn ystyried newid cyfeiriad eich gyrfa i’r maes cyflym hwn, bydd gradd feistr yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth rydych eu hangen i wella eich rhagolygon.
Bydd y cwrs MBA mewn Marchnata sy’n 100% ar-lein gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn cynnig sylfaen gadarn i chi yn y maes marchnata strategol, wrth arloesi a bod yn greadigol ac yn addysgu sgiliau cyfathrebu hanfodol yn ogystal â sgiliau rheoli rhanddeiliaid. Wrth raddio, byddwch yn deall sut i greu a gweithredu ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr arferion marchnata sydd i’w canfod ar-lein.
Astudiwch y radd farchnata hon yn rhan amser a defnyddiwch yr hyn rydych yn ei ddysgu yn eich rôl bresennol, gan gynllunio eich astudiaeth o gwmpas eich bywyd personol.