Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol?

Postiwyd ar: Mawrth 21, 2022
gan
Computer applications work in partnership with the rest of a computer’s software.

Cymwysiadau cyfrifiadurol yw’r feddalwedd rydych yn debygol o fod fwyaf cyfarwydd â’i defnyddio. Maent yn rhaglenni sydd wedi’u cynllunio i ymgymryd â thasgau penodol, fel gwrando ar gerddoriaeth, anfon negeseuon e-bost, prosesu geiriau, neu lunio taenlen ar gyfer gwaith. Maent yn wahanol i feddalwedd fel meddalwedd gwasanaethu a system, sy’n ymwneud â gweithred a pherfformiad y cyfrifiadur ei hun.

Meddyliwch amdano fel hyn: mae’n debygol eich bod yn gwybod bod strwythur ffisegol eich cyfrifiadur – y monitor, y bysellfwrdd, ac unrhyw ddarn arall ohono y gallwch ei gyffwrdd – yn cael eu hadnabod fel caledwedd y cyfrifiadur.

Mae’r feddalwedd wedyn yn sicrhau bod eich cyfrifiadur yn gwneud rhywbeth pan fyddwch yn ei roi ymlaen. Meddalwedd system, er enghraifft, yw beth sy’n dweud wrth y cyfrifiadur sut i weithio. Rhai o’r enghreifftiau gorau o feddalwedd system yw systemau gweithredu, fel Windows, MacOS a Linux, sy’n cefnogi swyddogaethau sylfaenol y cyfrifiadur. Mae meddalwedd gwasanaethu yn cefnogi rhwydwaith mewnol y cyfrifiadur – mae’n helpu i ffurfweddu, optimeiddio a chynnal y cyfrifiadur.

Mae’r rhain i gyd yn elfennau pwysig o gyfrifiaduron a systemau gwybodaeth. Ond ar eu pen eu hunain, mae’r defnyddiwr terfynol – sef chi –yn wynebu defnyddio dyfais eithaf di-nod.

Dyma lle mae cymwysiadau cyfrifiadurol yn gwneud gwahaniaeth. Dyma’r feddalwedd rydych chi’n medru ei defnyddio go iawn. Microsoft Word, Excel, Powerpoint, Spotify, iTunes, Outlook, a phorwyr gwe fel Chrome – mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau cyffredin o gymwysiadau bwrdd gwaith rydych chi’n debygol o’u canfod a’u defnyddio ar eich cyfrifiadur. Yn wir, mae’n debygol bod eich cyfrifiadur eisoes wedi’i rhagosod â nifer o gymwysiadau sylfaenol fel y rhain.

Sut mae cymwysiadau cyfrifiadurol yn gweithio

Mae cymwysiadau cyfrifiadurol yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill meddalwedd eich cyfrifiadur. Mae eich cyfrifiadur yn eithaf di-nod heb gymwysiadau, ac mae cymwysiadau yn eithaf di-nod heb weddill y cyfrifiadur. Mae’r cymwysiadau yn gofyn am feddalwedd system, er enghraifft, er mwyn rhedeg a gweithio fel y disgwyl. Er enghraifft, gall cymwysiadau gyfathrebu â meddalwedd systemau er mwyn cael mynediad at adnoddau caledwedd fel storfa a chof y cyfrifiadur.

Gall ambell i ffactor gwahanol effeithio ar sut mae meddalwedd cymwysiadau yn gweithio, fel sut mae wedi’i adeiladu, y cod y mae wedi’i ysgrifennu ynddo, a pha blatfform y mae’n rhedeg arno. Fel arfer, mae’n perthyn i un o dri phrif gategori:

  1. Cymwysiadau brodorol. Mae’r rhain yn rhedeg drwy ddefnyddio caledwedd penodol, fel camera ar eich gliniadur, ac yn cael eu hysgrifennu yn yr un iaith raglennu a system weithredu’r cyfrifiadur.
  2. Cymwysiadau gwe. Fel arfer, mae’r rhain ar gael drwy borwr gwe, ac nid oes ganddynt fynediad at galedwedd y cyfrifiadur. Gallant fod wedi’u hysgrifennu mewn sawl iaith raglennu, fel HTML, JavaScript a CSS.
  3. Cymwysiadau hybrid. Mae’r rhain yn gymysgedd o gymwysiadau brodorol a gwe – mae ganddynt fynediad at adnoddau dyfais, fel sydd gan gymwysiadau brodorol (drwy Rhyngwynebau Rhaglennu Rhaglenni), ond maent fel arfer wedi’u hysgrifennu mewn ieithoedd fel HTML a CSS.

Cymwysiadau ac apiau: beth yw’r gwahaniaeth?

Rydych yn defnyddio cymwysiadau cyfrifiadurol bob dydd, ond efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r enw arall arnynt – apiau. Mae cymwysiadau ac apiau yr un peth yn y bôn, ond mae apiau yn cael eu cysylltu’n bennaf â dyfeisiau symudol, fel ffonau a llechi.

Yn yr un modd â’r cymwysiadau rydych chi’n eu defnyddio ar eich cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, mae apiau symudol yn gweithio mewn partneriaeth â system weithredu eich dyfais i wneud popeth, o chwarae gemau i weithredu swyddogaethau, fel camera neu seinydd y ffôn.

Mae’r unig wahaniaethau go iawn rhyngddynt yn rhai pitw. Gall rhaglenni cymwysiadau ar eich dyfais symudol ddefnyddio rhywbeth o’r enw priodoliad ap symudol, sy’n ffordd o olrhain a mesur defnydd defnyddiwr o fewn yr ap oherwydd nad yw’n defnyddio pethau fel cwcis neu dagiau picsel, fel y byddai cymwysiadau gwe mwy traddodiadol yn debygol o wneud. Gall y wybodaeth defnyddiwr hon gynnwys pethau fel gweithgaredd neu bryniant o fewn yr ap, ac mae’r wybodaeth wedyn yn cael ei dadansoddi er mwyn helpu i wella’r ap.

Gall gofynion hygyrchedd hefyd gyfrannu at wahaniaethau pitw rhwng cymwysiadau gwe ac apiau symudol. Mae hyn oherwydd bod pethau’n gweithio ac yn ymddangos yn wahanol ar fonitor bwrdd gwaith mawr o gymharu â sgrin symudol fechan, felly bydd hyn yn cael ei ystyried wrth ddatblygu meddalwedd.

Mathau o gymwysiadau

Os ydych chi erioed wedi pori drwy’r Siop Apiau Apple ar iPhone neu Siop Google Play ar ddyfais Android, byddwch yn gwybod bod nifer di-rif o apiau ar gael. P’un a ydych yn eu defnyddio drwy glicio ar eicon ar eich ffôn symudol, neu yn ymweld â thudalennau gwe ar eich cyfrifiadur bwrdd gwaith, rydych yn defnyddio cymwysiadau.

Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin mae:

  • Porwyr gwe: Mae opsiynau poblogaidd yn cynnwys Chrome, Safari a Firefox.
  • Prosesyddion geiriau. Microsoft Word yw’r cymhwysiad prosesu geiriau mwyaf cyffredin ar gael, ac mae opsiynau am ddim hefyd, fel OpenOffice a Google Docs. Yn yr un modd, mae’r holl offer sydd ar gael yn y pecyn Microsoft Office, o Excel i PowerPoint, yn gymwysiadau.
  • Systemau chwarae a golygu aml-gyfrwng. Mae popeth o VLC Media Player i YouTube yn apiau sy’n chwarae fideos, ac os oes gennych chi brofiad o olygu lluniau, mae’n debygol y byddwch eisoes yn gyfarwydd ag Adobe Photoshop a GIMP.
  • E-bost a rhaglenni cyfathrebu eraill. Mae apiau poblogaidd yn cynnwys Microsoft Outlook, Apple Mail, a Gmail ar gyfer negeseuon e-bost, a Zoom, FaceTime a Skype ar gyfer galwadau fideo. Ac wrth gwrs, apiau cyfryngau cymdeithasol – Facebook, WhatsApp, Instagram, TikTok, Twitter, a SnapChat, i restru ond rhai yn unig.

Mae digonedd o apiau eraill wedi’u teilwra ar gyfer tasgau penodol hefyd, o feddalwedd addysgiadol – ar gyfer pob lefel astudio, a gan gynnwys popeth, o diwtorialau i opsiynau adborth – i gymwysiadau deallusrwydd artiffisial. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio system rheoli cymwysiadau er mwyn helpu i fonitro a chynnal eich cymwysiadau. A bydd nifer o apiau yn manteisio ar gyfrifiadura cwmwl er mwyn sicrhau bod data’n cael ei gadw mewn modd hygyrch, heb ddefnyddio gormod o le ar eich dyfais.

Dysgwch fwy am gymwysiadau cyfrifiadurol

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymwysiadau cyfrifiadurol – neu efallai creu un eich hun hyd yn oed – mae galw sylweddol am weithwyr proffesiynol sy’n medru helpu i lenwi’r bwlch sgiliau TG a digidol yn y DU.

Mae’r cwrs MSc Cyfrifiadureg rhan-amser yn Ysgol Reoli Gogledd Cymru wedi’i gynllunio gydag unigolion nad ydynt o gefndir cyfrifiadureg, ond sydd eisiau dechrau gyrfa yn y maes, mewn golwg, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y maes sydd eisiau rhoi hwb i’w gyrfa gyda chymhwyster o safon uchel – ac mae’r radd hyblyg yn cael ei hastudio 100% ar-lein, felly gallwch ennill cyflog wrth ichi ddysgu.