Beth yw seicoleg iechyd?
Postiwyd ar: Mehefin 15, 2022gan Ruth Brooks
Mae seicoleg iechyd yn archwilio’r ffactorau seicolegol, ymddygiadol, emosiynol a diwylliannol sy’n effeithio ar iechyd a salwch.
Mae seicolegwyr iechyd yn gwneud y canlynol:
- Defnyddio’u dealltwriaeth o seicoleg iechyd i hyrwyddo llesiant a ffyrdd iach o ymddwyn mewn cymunedau. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd brechu’r cyhoedd er mwyn sicrhau y bydd yr ymgyrchoedd hynny’n fwy argyhoeddiadol ac effeithiol.
- Helpu cleifion i reoli eu llesiant seicolegol ac emosiynol eu hunain yn ystod eu triniaeth ac wrth iddynt adfer ar ôl salwch difrifol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy’n cael triniaeth canser, helpu pobl i reoli poen cronig, hirdymor, neu helpu pobl sydd newydd gael eu diagnosio â diabetes i reoli eu hiechyd yn effeithiol.
- Gweithio gyda phobl i ddatblygu ffyrdd iachach o fyw. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu pobl i roi’r gorau i smygu, neu’n gweithio gyda phobl er mwyn eu hannog i wneud dewisiadau gwell o ran maeth.
Ymhellach, mae seicolegwyr iechyd yn gweithio oddi mewn i systemau iechyd i wella gofal yn fwy cyffredinol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda meddygon a nyrsys i ddatblygu dulliau mwy effeithiol o gyfathrebu gyda chleifion, creu rhaglenni hyfforddi newydd mewn ysbytai, neu ymchwilio i ymyriadau seicolegol newydd er mwyn gwella iechyd y meddwl a’r corff.
Beth yw’r gwahanol fathau o seicoleg iechyd?
Mae seicoleg iechyd yn seicoleg gymhwysol a hefyd yn seicoleg ddamcaniaethol, a gellir ei hollti’n bum maes:
- Seicoleg iechyd clinigol. Mae seicoleg iechyd clinigol yn canolbwyntio ar drin pobl ar lefel unigolion. Mae seicolegwyr iechyd clinigol yn defnyddio addysg, technegau newid ymddygiad neu seicotherapi i helpu pobl i wneud dewisiadau o ran eu hymddygiad neu ddewisiadau’n ymwneud â’u ffordd o fyw – sef dewisiadau a fydd yn gwella’u hiechyd.
- Seicoleg iechyd cymunedol. Mae seicoleg iechyd cymunedol yn arf pwysig wrth ymdrin â chlefydau neu anhwylderau eraill sy’n gyffredin mewn cymunedau a rhanbarthau. Gan fod seicolegwyr iechyd cymunedol â golwg fwy cyffredinol ar bethau o fewn systemau iechyd, gallant helpu i sylwi ar anhwylderau newydd neu dueddiadau eraill yn ymwneud ag iechyd. Yn aml, byddant yn ymhél ag ymyriadau iechyd cymunedol, megis ymgyrchoedd yn ymwneud ag iechyd y meddwl a’r corff.
- Seicoleg iechyd y cyhoedd. Mae seicoleg iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio ar ffactorau seicolegol ac ymddygiadol sydd ar waith yn iechyd y boblogaeth. Yn aml, mae seicolegwyr iechyd y cyhoedd yn gweithio gyda’r llywodraeth neu sefydliadau iechyd y cyhoedd i ddatblygu polisïau newydd neu i gynnal ymchwil newydd yn ymwneud ag ymyriadau iechyd y cyhoedd, o safbwynt seicolegol.
- Seicoleg iechyd galwedigaethol. Mewn gwirionedd, mae seicoleg iechyd galwedigaethol yn estyniad o fesurau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd. Mae seicolegwyr iechyd galwedigaethol yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill i wella iechyd a pherfformiad gweithwyr, i lunio ac ymwreiddio polisïau newydd sy’n canolbwyntio ar lesiant y staff, ac i gynnig gwasanaethau cwnsela i weithwyr.
- Seicoleg iechyd critigol. Mae seicoleg iechyd critigol yn archwilio’r penderfynyddion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol sy’n cyfrannu at wahaniaethau mewn ymddygiad iechyd neu brofiadau iechyd, ac anghydraddoldebau mewn polisïau a systemau gofal iechyd. Mae seicolegwyr iechyd critigol yn gweithio gyda phobl mewn cymunedau a ymyleiddiwyd a chymunedau agored i niwed er mwyn ennill dealltwriaeth a gweithio tuag at gyfiawnder cymdeithasol – a newid cymdeithasol – a thynnu sylw at y modd y gall amgylchedd ffisegol, amgylchedd seicogymdeithasol neu statws economaidd-gymdeithasol unigolion ddylanwadu’n fawr ar eu hiechyd.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng seicoleg glinigol a seicoleg iechyd?
Ceir perthynas agos rhwng seicoleg iechyd a seicoleg glinigol, ac mae’r ddwy elfen yn archwilio iechyd meddwl yn drylwyr. Ond mewn gwirionedd, nid ydynt yr un fath â’i gilydd:
- Mae seicoleg glinigol yn anelu at ddeall, diagnosio a thrin salwch meddwl ac anhwylderau meddwl.
- Mae seicoleg iechyd yn anelu at ddeall y berthynas rhwng iechyd y meddwl ac iechyd y corff – sut y mae’r naill yn effeithio ar y llall, a vice versa. Trwy gyfrwng y ddealltwriaeth hon, gall seicolegwyr iechyd ddatblygu a chynnig ymyriadau effeithiol ar gyfer cleifion sydd angen ymyriadau o’r fath.
Gyrfaoedd mewn seicoleg iechyd
Mae seicoleg iechyd yn faes sy’n prysur dyfu ac yn llwybr gyrfa gwerth chweil. Mae amrywiaeth eang o rolau ar gael i seicolegwyr iechyd.
Yn ôl Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), fel arfer mae seicolegwyr iechyd yn gweithio mewn:
- Ysbytai a thimau iechyd cymunedol
- Unedau ymchwil iechyd
- Awdurdodau lleol
- Adrannau iechyd y cyhoedd
- Ymgyngoriaethau
- Prifysgolion a lleoliadau addysg uwch o fath arall
Er mwyn ymarfer fel seicolegydd iechyd yn y DU, byddwch angen:
- Cofrestriad gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Sail Graddedigion ar gyfer Aelodau Siartredig (GBC) gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
Mae’n werth nodi hefyd bod Is-adran Seicoleg Iechyd Cymdeithas Seicolegol Prydain wedi datgan bod y pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen seicolegwyr iechyd, gan awgrymu y bydd gweithlu sy’n meddu ar gymwyseddau a sgiliau proffesiynol mewn seicoleg iechyd yn helpu i wneud y canlynol:
- Hybu ffyrdd iach a diogel o ymddwyn
- Cynnig cymorth adsefydlu seicolegol i bobl sy’n cael anhawster â chyflyrau hirdymor, yn cynnwys syndrom ôl-Covid-19
- Cynnig gwell cymorth o ran llesiant a gwytnwch i weithwyr iechyd proffesiynol a darparwyr gofal iechyd
Yn ôl y cwmni recriwtio graddedigion, Prospects, mae gyrfaoedd mewn seicoleg iechyd yn y GIG yn cwmpasu sawl lefel a sawl gradd gyflog.
Fel arfer, mae seicolegwyr iechyd yn dechrau eu gyrfa fel hyfforddeion, gan ennill £32,306 y flwyddyn. Bydd y cyflog hwn yn codi i £40,057 ar ôl iddynt ennill cymwysterau llawn.
Gall seicolegwyr gofal iechyd mwy profiadol ennill hyd at £63,862, a gall ymgynghorwyr ennill hyd at £90,387. Gall penaethiaid gwasanaethau seicolegol ennill mwy fyth.
Pa swyddi sydd ar gael yn y maes seicoleg iechyd?
Mae yna nifer o rolau traddodiadol i’w cael yn y maes seicoleg iechyd, yn cynnwys:
- Seicolegydd iechyd
- Seicolegydd iechyd clinigol
- Seicolegydd iechyd cymunedol
- Seicolegydd iechyd y cyhoedd
- Seicolegydd iechyd galwedigaethol
- Seicolegydd iechyd critigol
- Seicolegydd iechyd ymgynghorol
Mae llwybrau gyrfa eraill yn cynnwys:
- Eiriolwr iechyd cymunedol
- Seicolegydd ymchwil sy’n arbenigo mewn prosiectau ymchwil seicoleg iechyd a dulliau ymchwil (yn cynnwys ymchwil meintiol ac ansoddol)
- Addysgu a hyfforddi
- Gwaith ymgynghorol o fath arall, yn cynnwys datblygu seminarau a rhaglenni datblygiad proffesiynol ar gyfer seicolegwyr iechyd, cynnal adolygiadau systematig, a gweithio gyda meddygon teulu, nyrsys, deietegwyr, llawfeddygon a therapyddion adsefydlu er mwyn cynorthwyo pobl i newid eu hymddygiad
Rhoi egwyddorion seicoleg iechyd ar waith yn eich gyrfa bresennol
Mae seicoleg iechyd yn faes amlochrog y gellir ei roi ar waith mewn nifer o broffesiynau. Gallwch wella eich dealltwriaeth o seicoleg iechyd a rhoi’r egwyddorion ar waith yn eich rôl bresennol trwy astudio MSc Seicoleg yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sef rhan o Brifysgol Wrecsam. Cyflwynir y cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein.
Trwy gyfrwng y cwrs Gradd Meistr hyblyg hwn, bydd modd ichi dreiddio’n ddyfnach i’r ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol sy’n cyfrannu at iechyd, salwch a llesiant unigolion ac o fewn cymdeithasau a gweithleoedd. Hefyd, byddwch yn dysgu am bynciau fel hybu iechyd ac effaith y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag effaith straen a salwch cronig a sut i’w rheoli.
Caiff y cwrs ôl-radd rhan-amser hwn ei addysgu’n gyfan gwbl ar-lein. Fe’i lluniwyd er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol i roi egwyddorion seicolegol ar waith mewn cyd-destunau proffesiynol ehangach, yn ogystal â deall yn well y ffordd y mae gweithwyr a chwsmeriaid yn ymddwyn. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, yn cynnwys manylion am ffioedd addysgu, gofynion mynediad, cymhwystra a gwaith cwrs, cymerwch gipolwg ar wefan y Brifysgol.