Pa gyflyrau y mae seicolegydd addysg yn gallu eu canfod?
Postiwyd ar: Mawrth 19, 2024gan Ben Nancholas
Rôl seicolegydd addysg yw cefnogi plant a phobl ifanc – yn ogystal â’r rhai sy’n eu dysgu ac yn gofalu amdanynt – a’u helpu i oresgyn rhwystrau rhag dysgu. Mae teitl y seicolegydd addysg wedi’i warchod yn gyfreithiol, ac mae’n deitl ar seicolegwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd a gwybodaeth benodol yn ymwneud â datblygiad plant a phobl ifanc a systemau addysg.
Mae seicolegwyr addysg yn gweithio mewn partneriaeth gyda lleoliadau addysg, awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill – megis gweithwyr cymdeithasol, paediatregwyr a therapyddion iaith a lleferydd – gyda’r nod o wella profiadau addysgol plant. Yn ogystal â phlant o oedran cyn yr ysgol, mae nifer o seicolegwyr addysg hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion hyd at 25 mlwydd oed. Mae hyn yn aml yn cynnwys asesu a chanfod anghenion dysgu arbennig penodol.
Pam y gallai plentyn gael ei gyfeirio at seicolegydd addysg?
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae plentyn yn cael ei atgyfeirio at seicolegydd addysg o ganlyniad i bryderon rhieni neu athrawon ynglŷn â chynnydd, datblygiad, dysgu neu ymddygiad y plentyn. Er enghraifft, gallai’r plentyn fod yn dangos anawsterau dysgu, problemau cymdeithasol neu emosiynol neu anhwylderau datblygu, dangos anghenion corfforol ychwanegol neu AAA arall.
Nod yr atgyfeiriad yw cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd ei angen ar y plentyn i ffynnu a chyrraedd ei botensial yn llawn. Gall seicolegydd addysg awgrymu strategaethau, addasiadau neu fath arall o gefnogaeth ychwanegol i leihau rhwystrau rhag dysgu a datblygu.
Yn ôl y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, mae pryderon cychwynnol ynghylch anghenion plentyn fel arfer yn cael eu codi gyda Chydlynydd Anghenion Addysg Arbennig yr ysgol. Er eu bod yn aml yn gallu helpu i gefnogi a mynd i’r afael â nifer o bryderon, mae’n bosibl y byddent yn cysylltu gyda Seicolegydd Addysg i ddechrau trafodaethau mwy manwl; gan ddibynnu ar elfennau penodol awdurdod lleol, mae’n bosibl na fydd hyn yn digwydd ar unwaith – ac mae nifer yn dewis dilyn trywydd ymarfer preifat fel opsiwn amgen cyflymach.
Beth yw asesiad seicolegydd addysg?
Mae seicolegwyr addysg yn cwblhau hyfforddiant arbenigol er mwyn eu galluogi i asesu a chanfod cyflyrau penodol, yn ogystal â chefnogi amrywiaeth o faterion cymdeithasol, emosiynol, datblygiadol ac ymddygiadol eraill. Mae seicolegwyr addysg yn cwblhau asesiadau a elwir yn asesiadau seicolegol addysgol, sydd fel arfer yn digwydd yn ysgol y plentyn.
Fel rhan o’r asesiad, bydd seicolegydd addysg yn cael trafodaethau gydag athrawon a rhieni neu ofalwyr, ac yn arsylwi’r plentyn yn ystod gweithgareddau chwarae neu yn y dosbarth. Mae archwilio sampl o waith dosbarth, rhyngweithio gyda’r plentyn a chynnal profion – i wirio datblygiad deallusol a sgiliau – hefyd yn rhannau pwysig o’r broses asesu.
Maent yn defnyddio ystod o offerynnau asesu, yn seiliedig ar anghenion y plentyn unigol. Dylai unrhyw brofion seicometreg a gynhelir gan seicolegydd addysg fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’u safoni. Mae’r profion yn aml yn cynnwys:
- Asesiad gwybyddol British Ability Scales (BAS)
- Graddfeydd asesu Wechsler (WORD, WOLD, WOND, WASI a WISC)
- Asesiad niwroseicolegol ar gyfer anawsterau datblygu (NEPSY)
- Rhestr BRIEF
- Graddfeydd GARS a CARS
- Graddfeydd Connor’s
- Graddfeydd Vineland a Graddfeydd ABAS
Mae Seicolegwyr Addysg wedi’u hyfforddi i roi diagnosis o gyflyrau gan gynnwys:
- dyslecsia
- dyspracsia
Yn dilyn asesiad, bydd y Seicolegydd Addysg yn cynhyrchu adroddiad manwl yn nodi eu canfyddiadau. Bydd yr adroddiad yn cynnwys trosolwg o gryfderau a gwendidau’r plentyn, awgrymiadau a strategaethau o ran y ffordd orau o gefnogi dysgu, datblygiad, a llesiant corfforol ac emosiynol y plentyn at y dyfodol, deunyddiau ychwanegol perthnasol, a chyngor ar y mathau o ysgolion sy’n gallu cefnogi anghenion penodol, os oes angen.
Gall rhai seicolegwyr addysg hefyd roi diagnosis ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd), gan ddibynnu ar yr ysgol a’r awdurdod lleol y maent yn gysylltiedig â nhw. Mewn nifer o achosion, mae’n bosibl y byddai’r Seicolegydd Addysg yn argymell i’r asesiad a’r diagnosis ADHD gael ei wneud gan swyddog proffesiynol arall gyda hyfforddiant penodol yn ymwneud â’r cyflwr hwn.
Beth sy’n digwydd yn dilyn asesiad neu ddiagnosis?
Mae’r amgylchiadau yn dilyn asesiad neu ddiagnosis yn dibynnu ar natur y diagnosis. Er enghraifft, er bod rhywfaint o orgyffwrdd, mae’r dulliau penodol sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflyrau megis gorbryder, dyslecsia neu anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn debygol o fod yn wahanol.
Mae Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal ar gyfer plant a phobl ifanc (hyd at 25 mlwydd oed) sydd angen cefnogaeth y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael drwy gefnogaeth Anghenion Addysg Arbennig safonol. Mae’r cynlluniau hyn yn nodi ystod o anghenion addysgol, iechyd a chymdeithasol ac yn sefydlu fframwaith o gefnogaeth ychwanegol i helpu eu diwallu. Gellir gwneud cais am Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal drwy’r awdurdod perthnasol; yn ogystal â rhieni, gofalwyr ac athrawon, gall rhanddeiliaid eraill – megis meddygon teulu, ymwelwyr iechyd neu ffrindiau i’r teulu – hefyd wneud ceisiadau.
Bydd manylion penodol y Cynllun Addysg Iechyd a Gofal yn llywio’r camau nesaf. Er enghraifft, mae plentyn sydd wedi derbyn diagnosis o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth sy’n ei chael yn anodd ymgysylltu gyda phlant eraill, yn aml yn dangos ymddygiad trafferthus ac yn ei chael yn anodd ymgysylltu â dysgu. Gallai seicolegydd addysg awgrymu cyflwyno strategaethau gan gynnwys:
- cymorth un i un gan gynorthwyydd dysgu (wedi’u hariannu fel arfer drwy oriau wedi’u sicrhau o fewn eu Cynllun Addysg Iechyd a Gofal)
- cyfathrebu clir gyda chymhorthion gweledol
- addasu amgylcheddau dysgu a chartref fel bo’r angen
- trefn strwythuredig y gall y plentyn ymgyfarwyddo â hi
- dylunio gweithgareddau dysgu o amgylch cryfderau a diddordebau’r plentyn
- cyfnodau “ymdawelu”
- offer arbenigol megis amddiffynwyr clustiau
- rheoli newid a phontio
- gweithio gydag arbenigwyr, megis therapyddion chwarae
- technegau ymwybyddiaeth ofalgar.
Yn ogystal â gweithio’n agos gydag athrawon, Cydlynwyr Addysg Anghenion Arbennig a chynorthwywyr dysgu, bydd Seicolegydd Addysg hefyd yn awgrymu strategaethau a dulliau y gellir eu hymgorffori yng nghartref y plentyn a darparu cymorth parhaus i rieni a gofalwyr.
Dysgwch y sgiliau i gefnogi anghenion cymhleth ac amrywiol plant, pobl ifanc ac oedolion
Cyfle i ddatblygu’n addysgwr gwych – a meithrin y sgiliau i fynd â’ch gyrfa a’ch ymarfer proffesiynol i’r lefel nesaf – gyda rhaglen MSc Seicoleg Addysgol ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.
Defnyddiwch fewnwelediad seicolegol a thechnegau arbenigol i drawsnewid amgylcheddau dysgu, a meithrin y sgiliau a’r ddealltwriaeth i gefnogi dysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o rôl seicolegydd addysg, yn ogystal â’r cysyniadau seicolegol sy’n sylfaen i ymarfer addysgol, ar gwrs hyblyg sy’n gallu cyd-fynd â’ch ffordd o fyw a’ch ymrwymiadau. Gallwch ddewis o ystod eang o bynciau gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, anhwylderau ymddygiad, anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, seicoleg fforensig, asesiadau clinigol a seicometrig, a mwy.