Pontio ffiniau byd-eang: addysgu mewn cyd-destunau rhyngwladol
Postiwyd ar: Medi 8, 2023gan Ben Nancholas
Addysg ar draws y byd
Mae pob gwlad yn y byd wedi datblygu rhyw fath o system addysg, gan ddysgu sgiliau perthnasol a gwybodaeth academaidd i blant ochr yn ochr â normau diwylliannol a chymdeithasol.
Fodd bynnag, mae’r amgylcheddau dysgu hyn – a’r ffyrdd y cânt eu trefnu a’u gweithredu – yn amrywio’n ddramatig mewn nifer o ffyrdd allweddol. Er enghraifft:
- y swm a’r math o arian ac adnoddau sy’n cefnogi systemau addysg
- polisi addysg, gan gynnwys sut mae addysg yn cael ei threfnu a’i gweinyddu
- dosbarthu, a mynediad at, addysg
- cysyniadau addysgeg
- y gwerth a roddir ar addysg, a’r amser a neilltuir i addysgu a dysgu
- nodau a cherrig milltir addysgol.
Yn naturiol, mae llawer o hyn wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gwahaniaeth o ran cyfoeth rhwng gwahanol wledydd. Tra bod gwledydd sydd â chynnyrch domestig gros uwch (GDP) yn gallu sianelu mwy o arian i addysg, mae gwledydd incwm is sy’n ei chael yn anodd darparu amwynderau sylfaenol yn aml yn brin o systemau addysg cadarn ac efallai na fyddant yn darparu addysg ffurfiol.
Y canlyniad? Anghydraddoldeb addysgol byd-eang. Mae Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn cynnwys Nod Datblygu Cynaliadwy 4, sy’n ceisio ‘sicrhau addysg gynhwysol a theg o safon a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb’. Er bod gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae gwledydd yn ei ddarparu o ran addysg, mae hyn yn cynnig cyfoeth o brofiadau, o ddysgu a safbwyntiau rhyngwladol i’r rhai mewn addysg athrawon.
Beth yw addysg ryngwladol?
Mae’r Fagloriaeth Ryngwladol (IB) yn diffinio addysg ryngwladol fel ‘dull cynhwysfawr o ymdrin ag addysg sy’n fwriadol yn paratoi myfyrwyr i fod yn gyfranogwyr gweithredol ac ymgysylltiol mewn byd rhyng-gysylltiedig.’
Ymddengys bod addysg ryngwladol yn duedd gynyddol. Yn ôl ISC Research, o fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd yna:
- 13,912 o ysgolion rhyngwladol – cynnydd o 51% dros gyfnod o 10 mlynedd
- 6.51 miliwn o fyfyrwyr wedi cofrestru fel myfyrwyr rhyngwladol – cynnydd o 53% dros gyfnod o 10 mlynedd
- 626,76 o staff yn gweithio mewn ysgolion rhyngwladol – cynnydd o 59% dros gyfnod o 10 mlynedd
- $56.2 biliwn wedi’i dalu mewn ffioedd ysgol rhyngwladol – cynnydd o 66% dros gyfnod o 10 mlynedd.
Mae addysg – o’i hystyried drwy lens ryngwladol – yn ystyried y persbectif byd-eang, gan gwmpasu diwylliannau amrywiol, grwpiau ethnig, crefyddau, ieithoedd, profiadau a dulliau addysgeg. Yn ogystal ag ehangu’r profiad academaidd, ar gyfer addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd, ei nod yw sefydlu amgylchedd dysgu amlddiwylliannol.
Beth yw manteision addysgu mewn cyd-destun rhyngwladol?
Mae ein byd cynyddol gydgysylltiedig yn golygu bod ffiniau’n fwy annelwig, gan arwain at ddatblygiadau cadarnhaol ar gyfer ein systemau addysg. Mae sefydliadau addysg uwch yn croesawu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol, mae unigolion yn cofrestru fel athrawon Saesneg mewn gwledydd eraill, mae athrawon ac academyddion yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau a phrifysgolion partner ledled y byd – ar draws llinellau addysgu, rhannu gwybodaeth a phrosiectau ymchwil – ac mae microcosm ystafell ddosbarth gynradd yn aml yn cynnwys plant o gyfoeth o gefndiroedd, crefyddau, ethnigrwydd, diwylliannau a chredoau.
Mae hyn yn dod â llu o fanteision sy’n cyfoethogi’r profiad dysgu. Dyma lond llaw o enghreifftiau:
- Mwy o ymwybyddiaeth fyd-eang. Os ydynt am addasu i’n cymdeithas amlddiwylliannol a byd-eang, a ffynnu ynddi, mae angen i fyfyrwyr ddatblygu ymwybyddiaeth fyd-eang. Mae dysgu am ddiwylliannau a safbwyntiau gwahanol nid yn unig yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth, ond mae hefyd yn helpu myfyrwyr i ddeall a gwerthfawrogi eu cefndiroedd amrywiol eu hunain a rhai pobl eraill. Rhaid dysgu pobl ifanc i ymgysylltu ar draws ffiniau diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, technolegol a daearyddol. Mae datblygu eu gwybodaeth fyd-eang ac, yn ei dro, eu helpu i feithrin perthnasoedd byd-eang yn hanfodol.
- Datblygu ymarferwyr myfyriol. Mae ymarfer myfyriol yn elfen graidd o ddatblygiad proffesiynol a rhagoriaeth addysgol. Gall addysgwyr sydd am wella eu dealltwriaeth a’u darpariaeth addysgeg yn barhaus ddefnyddio mewnwelediadau ymchwil gweithredol, cyfleoedd hyfforddi, rhaglenni cyfnewid, datblygiadau technolegol, sesiynau hyfforddi, profiadau byd-eang, a fforymau ar-lein i werthuso eu dulliau eu hunain a darganfod sut mae addysg yn llwyddo mewn gwahanol gyd-destunau a demograffeg.
- Dulliau addysgu ac arferion addysgol amrywiol. Y dyddiau hyn, rydym yn deall bod dysgwyr, o bob oed, yn cael eu haddysgu mewn pob math o wahanol ffyrdd. Gall ymwybyddiaeth a chynnwys strategaethau addysgu arloesol, diddorol a gwahanol ymestyn profiadau dysgu. Er bod yn rhaid i athrawon mewn ysgolion prif ffrwd, yn y DU, ddilyn y cwricwlwm cenedlaethol, mae gweithgareddau addysgu newydd a dod i gysylltiad ag amrywiaeth o ddulliau yn gallu creu maes llafur mwy diddorol a chyflawn ac, o bosibl, canlyniadau gwell i fyfyrwyr. Hefyd, gall ganiatáu i addysgwyr ddewis y rhannau gorau o wahanol systemau addysg.
Sut mae gwledydd gwahanol yn mynd i’r afael ag addysg?
Mae addysg gymharol yn fframwaith ymchwil gwyddorau cymdeithasol sy’n archwilio tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng arferion addysgu, polisïau addysgol, lefelau cyrhaeddiad – a phob math o agweddau sy’n gysylltiedig ag addysg – rhwng systemau mewn gwahanol wledydd.
Er bod nifer o astudiaethau achos ymchwil addysgol a chyd-destunau i ddewis ohonynt, beth am gymryd trawstoriad eang o Restr Addysg yn ôl Gwlad 2023 Adolygiad Poblogaeth y Byd . Er mwyn rhoi cyd-destun, mae’r DU yn 2il o blith 28 o wledydd:
Yn Seland Newydd (11fed allan o 78), mae’r rhan fwyaf o blant yn dechrau yn yr ysgol yn bump neu chwech oed – yn hwyrach nag yn y DU. Ar gyfartaledd, mae maint dosbarthiadau’n llai, gyda chymhareb is rhwng myfyrwyr ac athrawon, sy’n golygu bod plant yn cael mwy o sylw a chefnogaeth unigol ac yn gallu datblygu perthynas well â’u hathrawon. Rhoddir mwy o bwyslais ar archwilio harddwch naturiol y wlad a’r awyr agored, drwy dripiau addysgol a theithiau profiad; mae hyn yn annog ffocws ar gynaliadwyedd, diwylliant lleol a chymuned.
Mae gan Dde Affrica (33ain allan o 78) system addysg sydd, yn ôl Amnest Rhyngwladol, ‘wedi’i nodweddu gan seilwaith gwan, ystafelloedd dosbarth gorlawn, canlyniadau addysgol cymharol wael, ac anghydraddoldeb parhaus’. Mae canlyniadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd apartheid yn dal i ddylanwadu o ran ansawdd addysg a mynediad at addysg i lawer o fyfyrwyr yn Ne Affrica. Er enghraifft, ni all dros dri chwarter y plant naw oed ddarllen i ganfod ystyr. Mae materion sy’n ymwneud â’r llywodraeth a llunwyr polisi yn rhan annatod o ganlyniadau addysgol gwael.
Er bod Yr Iorddonen (58ain allan o 78) yn llwyddo yn rhai o’i nodau addysgol – fel mynediad at addysg gynradd, lle mae 97% o blant yn yr ysgol – nid yw cynnydd wedi effeithio ar blant yn gyfartal. Mae plant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel, y rheini sydd ag anableddau a’r rheini sy’n gysylltiedig â llafur plant mewn mwy o berygl o adael y system addysg. Yn gyffredinol, mae cyfleoedd dysgu a datblygu cynnar yn digwydd yn amgylchedd y cartref, gyda niferoedd isel o blant yn mynychu sefydliadau lefel meithrin.
Datblygwch eich dealltwriaeth o addysg drwy gyd-destunau rhyngwladol
Hoffech chi fynd â’ch astudiaethau addysgol – ac ymarfer – i’r lefel nesaf?
Os ydych chi’n awyddus i wella bywydau dysgwyr drwy eich arferion addysgol, dewiswch raglen Addysg MA ar-lein Ysgol Rheolaeth Gogledd Cymru.
Byddwch yn dysgu sut i atgyfnerthu eich profiad addysgol ymarferol gyda’r offer, y technegau a’r theori berthnasol sydd eu hangen i ragori. Byddwch yn datblygu fel ymarferydd myfyriol, ar gwrs hyblyg sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i symud ymlaen i rolau arwain uwch yn y sector addysg. Bydd eich astudiaethau’n cwmpasu: ymarfer cynhwysol; cynllunio, asesu ac adborth; addysgeg feirniadol; mentora a hyfforddi; technoleg dysgu; prosesau dysgu, damcaniaethau ac athroniaethau, a llawer mwy.