{"id":9543,"date":"2024-03-19T16:13:23","date_gmt":"2024-03-19T16:13:23","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=9543"},"modified":"2024-03-19T16:13:23","modified_gmt":"2024-03-19T16:13:23","slug":"seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/","title":{"rendered":"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell"},"content":{"rendered":"<h2>Beth yw seicoleg fforensig, yn fras?<\/h2>\n<p>Mae seicoleg fforensig yn faes cymharol newydd o seicoleg sy\u2019n<a href=\"https:\/\/www.psychology.org\/careers\/what-is-forensic-psychology\/\"> archwilio ymddygiad bodau dynol mewn perthynas \u00e2&#8217;r gyfraith<\/a>. Mae\u2019n defnyddio adnoddau, gwaith ymchwil a syniadau o seicoleg mewn sefyllfaoedd cyfreithiol. Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio gyda thwrneiod, barnwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill i ddeall ac egluro elfennau seicolegol mewn achosion cyfreithiol, cymryd rhan mewn ymchwiliadau troseddol, cynnal gwaith ymchwil seicolegol a dylunio rhaglenni ymyrraeth.<\/p>\n<h2>Beth yn union mae seicolegydd fforensig yn ei wneud?<\/h2>\n<p>Os ydych chi\u2019n hoff o raglenni teledu megis CSI, gellir maddau i chi am feddwl bod seicolegwyr fforensig yn treulio llawer o\u2019u hamser yn edrych drwy dystiolaeth mewn safleoedd trosedd, darllen meddyliau llofruddion cyfresol neu\u2019n rhoi tystiolaeth arbenigol gynhyrfus yn y llys.<\/p>\n<p>Mae\u2019r realiti yn dra gwahanol, ond yr un mor ddiddorol. Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio gyda phob agwedd ar y system gyfiawnder troseddol. Mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019u gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad \u00e2\u2019r heddlu, y gwasanaethau prawf, sefydliadau troseddwyr ifanc, neu ysbytai iechyd meddwl diogel.<\/p>\n<p>Mae rhai seicolegwyr fforensig yn gwasanaethu fel cynghorwyr a thystion arbenigol yn ystod achosion llys, ac maent yn dadansoddi tystiolaeth o safleoedd troseddau er mwyn datblygu proffiliau troseddol. Maent yn gallu cynnig mewnwelediad i gymhwysedd cleientiaid, dedfrydau a thriniaeth. Gan ddibynnu ar eu cyflogwyr a\u2019u meysydd arbenigol, mae\u2019n bosibl y byddant hefyd yn gwneud gwaith ymchwil o bell, gan helpu i well technegau holi, adsefydlu troseddwyr a dyluniad carchardai a chyfleusterau cywiro. Gall agweddau eraill ar eu gwaith gynnwys lleihau straen ar staff a throseddwyr mewn lleoliadau diogel, a chynghori byrddau par\u00f4l a thribiwnlysoedd iechyd meddwl.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n ymwneud \u00e2 phobl, tystiolaeth, risg, asesiadau personoliaeth, seicoleg ddatblygiadol a gwybyddol, ymchwil ystadegol &#8211; a chymhwysedd ymarferol, lle\u2019r ydych chi\u2019n gweld yn union sut mae\u2019r wybodaeth yn cael ei defnyddio a sut mae\u2019n gwneud gwahaniaeth,\u201d <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=HMPIvOUvqPA&amp;t=13s\">meddai Elizabeth Gilchrist<\/a>, Athro Seicoleg Fforensig ym Mhrifysgol Caeredin.<\/p>\n<h2>Beth yw prif nod seicolegydd fforensig?<\/h2>\n<p>Yn ei hanfod, mae maes seicoleg fforensig yn ymwneud \u00e2 phobl, sy\u2019n ei wneud yn heriol yn ogystal \u00e2 gwerth chweil.<\/p>\n<p>\u201cMae seicoleg fforensig yn ymwneud \u00e2 deall pobl, deall pam maen nhw wedi troseddu, a gweithio tuag at ffordd y gall y person hwnnw fyw bywyd gwell <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=HMPIvOUvqPA&amp;t=13s\">meddai Veronica Warn<\/a>, Seicolegydd Fforensig siartredig a seicolegydd cofrestredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.<\/p>\n<h2>Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i fod yn seicolegydd fforensig?<\/h2>\n<p>Yn y DU, y man cychwyn ar gyfer gyrfa ym maes seicoleg fforensig yw cwblhau cwrs gradd israddedig achrededig mewn seicoleg. Y cam nesaf yw cwblhau gradd Meistr mewn seicoleg fforensig, wedi\u2019i gymeradwyo gan Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Yn olaf, bydd angen y canlynol ar seicolegwyr fforensig:<\/p>\n<ul>\n<li>tair blynedd neu fwy o ymarfer dan oruchwyliaeth gyda thystiolaeth lle gall yr hyfforddai ddarparu tystiolaeth o ddefnyddio seicoleg yn briodol mewn ymarfer fforensig; neu<\/li>\n<li>rhaglen ddoethuriaeth wedi\u2019i hachredu gan Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sy\u2019n cynnwys lleoliadau ymarferol a thraethawd ymchwil yn y drydedd flwyddyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae derbyn profiad yn hanfodol &#8211; boed hynny gyda th\u00e2l neu\u2019n wirfoddol &#8211; wrth ymgeisio ar gyfer rhaglenni seicoleg fforensig. Y rhai sydd wedi cael profiad uniongyrchol o weithio o fewn lleoliad fforensig, e.e. carchardai, y gwasanaethau prawf neu wasanaeth troseddu\u2019r ifanc, yw\u2019r rhai sydd fwyaf tebygol o lwyddo.<\/p>\n<p>O ran rhinweddau personol, mae\u2019n rhaid i seicolegydd fforensig fod yn berson trugarog sy\u2019n dda iawn gyda phobl. Mae angen iddynt feddu ar sgiliau fforensig da iawn er mwyn gallu asesu unigolion yn seicolegol yn y system gyfreithiol, ac mae\u2019n rhaid iddynt hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar gwych ar gyfer asesiadau seicolegol, cyfweld, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno achosion.<\/p>\n<h2>Beth yw rhai o\u2019r heriau?<\/h2>\n<p>&#8220;Mae rhai o\u2019r heriau yn cynnwys gwrando ar ddeunydd trallodus iawn a helpu eraill i brosesu\u2019r emosiynau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hynny. Mae\u2019n gallu bod yn anodd yn emosiynol, ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr,\u201d meddai Dr Geraldine Akerman, <a href=\"https:\/\/www.healthcareers.nhs.uk\/explore-roles\/psychological-therapies\/roles\/forensic-psychologist\/real-life-story-hon-professor-dr-geraldine-akerman\/real-life-story-hon-professor-dr\">seicolegydd fforensig yn Ymddiriedolaeth Iechyd Meddwl y GIG yn Barnet, Enfield a Haringey<\/a>.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n gallu bod yn anodd gweithio mewn lleoliadau megis carchardai, lle mae prinder cyllid, ac sy\u2019n aml yn cael eu gweld mewn goleuni anffafriol gan y cyhoedd,\u201d ychwanegodd.<\/p>\n<p>Nid yw gyrfa Seicoleg Fforensig yn addas ar gyfer y rhai sy\u2019n chwilio am swydd hawdd wrth ddesg rhwng 9 a 5, nag i\u2019r rhai sy\u2019n canolbwyntio ar \u2018drwsio\u2019 pobl. Wrth weithio ar ymyriadau gyda chleientiaid fforensig, mae\u2019n gallu bod yn anodd derbyn yn aml mai dim ond lleihau\u2019r risg sy\u2019n bosibl, yn hytrach na\u2019i waredu\u2019n gyfan gwbl.<\/p>\n<p>Eglurodd <a href=\"https:\/\/www.bps.org.uk\/psychologist\/reality-work-forensic-psychologist\">Carol A Ireland o Gymdeithas Seicoleg Prydain<\/a>: \u201cMae lleihau\u2019r risg yn cynyddu cyfleoedd cleient i ddychwelyd i\u2019r gymuned, a gallai hynny wella ansawdd ei fywyd. Ond mae\u2019n rhaid i\u2019r gwelliannau hyn gael eu cydbwyso gyda sicrhau diogelwch y cyhoedd. Gall hwn fod yn un o\u2019r gwersi mwyaf anodd ei ddysgu gan y rhai sy\u2019n newydd i\u2019r proffesiwn. Byddwch naill ai\u2019n derbyn bod y gwaith yn gallu bod yn wirioneddol anodd, neu\u2019n dadrithio a chwilio am yrfa mewn maes arall.\u201d<\/p>\n<h2>Beth yw uchafbwyntiau gweithio fel seicolegydd fforensig?<\/h2>\n<p>Ceir nifer o gyfleoedd gyrfa ar gyfer seicolegwyr fforensig, yn y sector cyhoeddus ac yn y byd corfforaethol. Ond, p\u2019un a ydych chi\u2019n gweithio gyda throseddwyr neu ddioddefwyr, mae\u2019r gwaith bob amser yn ymwneud \u00e2 helpu rhywun i wella ei fywyd, sy\u2019n dod \u00e2 boddhad mawr yn eich gyrfa. At hynny, mae\u2019n swydd gyffrous gydag elfen o risg a chwilfrydedd. Unwaith y byddwch wedi cymhwyso, bydd galw mawr am eich sgiliau gan nad oes llawer o gystadleuaeth ar gyfer seicolegwyr fforensig, ac mae galw cynyddol am y math hwn o seicolegydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Elizabeth Gilchrist yn disgrifio faint o foddhad mae\u2019r swydd yn gallu ei gynnig. Mae hi wedi gweithio ar raglen ymyrraeth rhianta i ddynion a oedd wedi eu cael yn euog o gam-drin partner yn bersonol. Roedden nhw eisiau torri\u2019r cylch cenedliadol a newid eu hymddygiad i fod yn dadau da, ac i beidio \u00e2 gwneud yr hyn yr oedd eu tadau wedi\u2019i wneud iddyn nhw. Wrth siarad gyda <a href=\"https:\/\/www.bps.org.uk\/member-networks\/division-forensic-psychology\">Chymdeithas Seicoleg Prydain<\/a>, dywedodd:<\/p>\n<p>\u201cBum mlynedd yn ddiweddarach, cawsom adborth gwych: roedd y plant yn gallu cr\u00efo a chadw s\u0175n o amgylch eu tadau heb fod yn ofnus. Bu 55 o deuluoedd yn rhan o\u2019r prosiect hwn, felly 55 o bobl sy\u2019n fwy diogel, gyda gwell profiadau, ac yn bwysicaf oll, 55 o blant lle nad oes ffactorau risg iddyn nhw fynd ymlaen i droseddu. Mae yna dda ym mhob person, ac os ydych chi\u2019n gallu adnabod hynny a symud ymlaen, mae\u2019n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.\u201d<\/p>\n<h2>Pa fath o yrfaoedd y mae seicolegwyr fforensig yn eu dilyn?<\/h2>\n<p>Gallai rhywun sydd wedi graddio mewn seicoleg fforensig gyda\u2019r profiad gofynnol fynd ymlaen i wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>rhedeg adran seicoleg mewn carchar<\/li>\n<li>symud i mewn i r\u00f4l polisi, strategaeth neu reolaeth<\/li>\n<li>symud ymlaen i waith ymgynghori, er enghraifft fel tyst arbenigol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gyrfaoedd eraill posibl ar gyfer seicolegwyr fforensig yn cynnwys:<\/p>\n<p><strong>Swyddog carchar<\/strong>: mae\u2019r rhain yn sicrhau diogelwch pob carcharor, yn cyfathrebu gyda charcharorion a swyddogion eraill mewn modd clir a digyffro, yn rhoi tystiolaeth mewn llysoedd ac yn gorfodi rheolau\u2019r carchar, gan gynnwys cadw trefn o fewn y carchar.<\/p>\n<p><strong>Gweithiwr cymdeithasol fforensig<\/strong>: gan weithio ochr yn ochr \u00e2 gweithwyr cymdeithasol traddodiadol, mae gweithwyr cymdeithasol fforensig yn gweithredu fel cyswllt rhwng y system gyfiawnder a dioddefwyr. Maen nhw\u2019n gwneud argymhellion ar gyfer therapi sy\u2019n briodol ar gyfer sefyllfa benodol; gwerthuso cyflwr meddyliol diffynyddion, rhoi tystiolaeth fel tystion arbenigol ac yn adnabod ymddygiad troseddol.<\/p>\n<p><strong>Dadansoddwr troseddau:<\/strong> mae\u2019r rhain yn datblygu proffiliau troseddwyr i helpu i ddwyn troseddwyr i gyfrif; astudio troseddau er mwyn deall yr hyn sy\u2019n cymell y troseddwr; ac yn astudio lledaeniad daearyddol troseddau i sefydlu ystadegau troseddu.<\/p>\n<p><strong>Seicolegydd ymchwil fforensig:<\/strong> mae seicolegwyr ymchwil fforensig yn aml yn arbenigo mewn un maes megis troseddau ariannol neu droseddau coler wen, ac maent yn holi\u2019r rhai sy\u2019n cael eu hamau am droseddu a dioddefwyr ac yn canfod meysydd y gallai swyddogion eraill sy\u2019n gorfodi\u2019r gyfraith fod wedi ei fethu yn eu hymchwiliad.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.thecareerproject.org\/job-title\/jury-consultant\/\"><strong>Ymgynghorydd Rheithgor<\/strong><\/a>: Mae\u2019r rhain yn cynghori ac yn cynorthwyo ymgyfreithwyr drwy gydol achosion cyfreithiol, gan gyflawni tasgau megis: ymchwilio i bob aelod posibl o\u2019r rheithgor i gasglu gwybodaeth amdanynt a\u2019u hagweddau tebygol tuag at yr achos dan sylw; creu proffiliau ar gyfer rheithwyr; darparu awgrymiadau ynghylch sut y dylai\u2019r twrnai gyflwyno ei ddadl i\u2019r rheithgor; a chynnal cyfweliadau gyda rheithwyr yn dilyn achosion i ddysgu beth aeth o\u2019i le.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.thecareerproject.org\/job-title\/forensic-case-manager\/\"><strong>Rheolwr achosion fforensig<\/strong><\/a>: mae pobl yn y swydd hon yn gyfrifol am sgrinio, trin a rheoli achosion troseddwyr gyda salwch meddwl a\/neu\u2019n camddefnyddio sylweddau. Y llwybr mwyaf cyffredin ar gyfer bod yn rheolwr achosion fforensig yw cwblhau gradd bagloriaeth mewn seicoleg, ac yna astudio gradd meistr mewn seicoleg fforensig neu gyfiawnder troseddol.<\/p>\n<h2>Datblygwch eich sgiliau i fod yn addysgwr ardderchog<\/h2>\n<p>O seicoleg fforensig i ddatblygiad plant a phobl ifanc, ymunwch \u00e2 chwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/msc-educational-psychology\/\">MSc Seicoleg Addysgol yn Ysgol Reoli Gogledd Cymru<\/a>, i ddatblygu\u2019r sgiliau i ddeall yr hyn sy\u2019n ysgogi pobl ac i fod yn addysgwr ardderchog. Mae\u2019r cwrs meistr hwn, sydd ar gael yn gyfan gwbl ar-lein, wedi\u2019i lunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i weithwyr addysg proffesiynol \u2013 gan gynnwys athrawon, prifathrawon, rheolwyr ysgol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a staff cefnogi, ymysg eraill \u2013 o r\u00f4l seicolegwyr addysg, yn ogystal \u00e2 chysyniadau seicolegol craidd sy\u2019n sylfaen i ymarfer ym maes seicoleg addysg.<\/p>\n<p>Byddwch yn datblygu gwybodaeth mewn meysydd pwnc allweddol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gwaith seicolegwyr addysg, gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc yn eu harddegau, anhwylderau ymddygiad, ac anghenion arbennig a dawn.<\/p>\n<p>Ac yn fwy na hynny, gallwch astudio\u2019r rhaglen hon o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw ddyfais. Mae dyluniad hyblyg y rhaglen yn sicrhau y gallwch gyflawni eich astudiaethau o amgylch eich gwaith llawn amser a\u2019ch bywyd teuluol, a pharhau i ennill cyflog yn eich r\u00f4l bresennol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth yw seicoleg fforensig, yn fras? Mae seicoleg fforensig yn faes cymharol newydd o seicoleg sy\u2019n archwilio ymddygiad bodau dynol mewn perthynas \u00e2&#8217;r gyfraith. Mae\u2019n defnyddio adnoddau, gwaith ymchwil a syniadau o seicoleg mewn sefyllfaoedd cyfreithiol. Mae seicolegwyr fforensig yn gweithio gyda thwrneiod, barnwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol eraill i ddeall ac egluro elfennau seicolegol &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":8904,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,34,34,20,33,33,6],"tags":[],"class_list":{"0":"post-9543","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","5":"has-post-thumbnail","6":"hentry","7":"category-erthyglau","8":"category-education-cy","11":"category-psychology-cy","13":"category-uncategorized-cy"},"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae seicoleg fforensig yn faes seicoleg cymharol newydd sy&#039;n archwilio ymddygiad dynol mewn perthynas \u00e2&#039;r gyfraith.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae seicoleg fforensig yn faes seicoleg cymharol newydd sy&#039;n archwilio ymddygiad dynol mewn perthynas \u00e2&#039;r gyfraith.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-03-19T16:13:23+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Forensic-psychology.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ben Nancholas\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"headline\":\"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell\",\"datePublished\":\"2024-03-19T16:13:23+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/\"},\"wordCount\":1700,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Forensic-psychology.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Education\",\"Education\",\"Erthyglau\",\"Psychology\",\"Psychology\",\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/\",\"name\":\"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Forensic-psychology.jpg\",\"datePublished\":\"2024-03-19T16:13:23+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"description\":\"Mae seicoleg fforensig yn faes seicoleg cymharol newydd sy'n archwilio ymddygiad dynol mewn perthynas \u00e2'r gyfraith.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Forensic-psychology.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Forensic-psychology.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Forensic Psychologist Showing Position Clinician And Shrink\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\",\"name\":\"Ben Nancholas\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ben Nancholas\"},\"description\":\"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ben-nancholas\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","description":"Mae seicoleg fforensig yn faes seicoleg cymharol newydd sy'n archwilio ymddygiad dynol mewn perthynas \u00e2'r gyfraith.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae seicoleg fforensig yn faes seicoleg cymharol newydd sy'n archwilio ymddygiad dynol mewn perthynas \u00e2'r gyfraith.","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2024-03-19T16:13:23+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Forensic-psychology.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ben Nancholas","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ben Nancholas","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/"},"author":{"name":"Ben Nancholas","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"headline":"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell","datePublished":"2024-03-19T16:13:23+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/"},"wordCount":1700,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Forensic-psychology.jpg","articleSection":["Erthyglau","Education","Education","Erthyglau","Psychology","Psychology","Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/","name":"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Forensic-psychology.jpg","datePublished":"2024-03-19T16:13:23+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"description":"Mae seicoleg fforensig yn faes seicoleg cymharol newydd sy'n archwilio ymddygiad dynol mewn perthynas \u00e2'r gyfraith.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Forensic-psychology.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Forensic-psychology.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Forensic Psychologist Showing Position Clinician And Shrink"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/seicoleg-fforensig-deall-meddwl-troseddwyr-i-helpu-pobl-i-fyw-bywydau-gwell\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Seicoleg fforensig: deall meddwl troseddwyr i helpu pobl i fyw bywydau gwell"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d","name":"Ben Nancholas","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ben Nancholas"},"description":"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ben-nancholas\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9543","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9543"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9543\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8904"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9543"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9543"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9543"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}