{"id":9541,"date":"2024-03-19T16:02:38","date_gmt":"2024-03-19T16:02:38","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=9541"},"modified":"2024-03-19T16:02:38","modified_gmt":"2024-03-19T16:02:38","slug":"dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/","title":{"rendered":"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr"},"content":{"rendered":"<p>Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cyffredin sydd fel arfer yn effeithio ar allu person i ddarllen, ysgrifennu a sillafu.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig bod gan addysgwyr ac eraill sy\u2019n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth dda o ddyslecsia er mwyn gallu cefnogi dysgwyr sydd \u00e2\u2019r cyflwr yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwybod\u00a0 y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>beth yw dyslecsia<\/li>\n<li>symptomau dyslecsia cyffredin<\/li>\n<li>diagnosis ar gyfer dyslecsia \u2013 a pha mor aml y rhoddir diagnosis dyslecsia \u2013 ymysg plant ifanc, plant yn eu harddegau, ac oedolion<\/li>\n<li>goblygiadau hirdymor dyslecsia<\/li>\n<li>strategaethau ar gyfer rheoli dyslecsia.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Beth yw dyslecsia?<\/h2>\n<p>Mae dyslecsia yn un o sawl anhawster dysgu penodol, gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia (neu (neu Anhwylder Cydlynu Datblygiadol), dyscalcwla, cam-ysgrifennu, ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/dyslexia\/\">GIG<\/a>, nid yw dyslecsia yn gysylltiedig \u00e2 deallusrwydd, ac nid yw\u2019n anabledd dysgu nac yn anhwylder dysgu. Yn hytrach, mae\u2019n deillio o wahaniaethau yn y ffordd y mae\u2019r ymennydd yn prosesu gwybodaeth, gan ei gwneud hi\u2019n anodd i bobl ddarllen, ysgrifennu, a sillafu geiriau. Mae hyn o ganlyniad i wahaniaeth niwrolegol sy\u2019n effeithio ar brosesu ffonolegol, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar allu person i ddadgodio ac adnabod geiriau\u2019n gywir.<\/p>\n<p>Gall hyn effeithio ar sut mae pobl yn dysgu, gweithio a byw eu bywydau yn fwy cyffredinol.<\/p>\n<p>\u201cYn yr un ffordd ag y mae pob person yn unigryw, mae profiad pawb o ddyslecsia hefyd yn wahanol. Gall amrywio o symptomau ysgafn i ddifrifol, a gall fod yn bresennol ar yr un pryd ag anawsterau dysgu eraill. Mae\u2019r cyflwr fel arfer yn rhedeg yn y teulu, ac mae\u2019n gyflwr gydol oes,\u201d yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.bdadyslexia.org.uk\/dyslexia\/about-dyslexia\">Cymdeithas Dyslecsia Prydain<\/a>. \u201cMae\u2019n bwysig cofio bod elfennau cadarnhaol i feddwl yn wahanol. Mae nifer o bobl gyda dyslecsia yn dangos cryfderau mewn meysydd megis rhesymu ac mewn meysydd gweledol a chreadigol.\u201d<\/p>\n<h3>Pa mor gyffredin yw dyslecsia?<\/h3>\n<p>Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cymharol gyffredin. Yn y DU er enghraifft, mae sefydliadau megis y GIG yn amcangyfrif bod gan 1 o bob 10 person ddyslecsia. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol bod dyslecsia ar oddeutu 1 o bob 10 disgybl yn nosbarthiadau Prydain.<\/p>\n<p>Mae adnabod presenoldeb dyslecsia yn hanfodol i addysgwyr sy\u2019n dymuno creu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol i blant.<\/p>\n<h3>Goblygiadau hirdymor dyslecsia<\/h3>\n<p>Mae dyslecsia yn gyflwr gydol oes, ond gyda chefnogaeth briodol, gall unrhyw un sydd \u00e2 dyslecsia oresgyn yr heriau cysylltiedig \u2013 a ffynnu.<\/p>\n<p>Gall dyslecsia heb ddiagnosis neu gefnogaeth arwain at effeithiau hirdymor fodd bynnag, yn enwedig o ran hunan hyder, iechyd meddwl a chyrhaeddiad academaidd.<\/p>\n<p>Mae ymyrraeth gynnar a chefnogaeth wedi\u2019i deilwra yn allweddol er mwyn lliniaru\u2019r anawsterau posibl hyn.<\/p>\n<h2>Symptomau ac arwyddion cyffredin o ddyslecsia<\/h2>\n<p>Mae\u2019n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau cyffredin ar gyfer dyslecsia. Gallant amrywio yn \u00f4l oedran, ond mae bod yn ymwybodol o rai o\u2019r arwyddion mwyaf cyffredin yn gallu helpu addysgwyr &#8211; ac eraill sy\u2019n gweithio gyda phobl ifanc &#8211; i adnabod dysgwyr a allai elwa o asesu a chefnogaeth bellach yn gynt.<\/p>\n<p>Mae symptomau cyffredin yn cynnwys anawsterau gyda\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>ymwybyddiaeth ffonolegol a phrosesu (megis odli, segmentu, a chyfuno sain)<\/li>\n<li>ffoneg a deall yr hyn sy\u2019n cael ei ddarllen, gan gynnwys rhuglder a chywirdeb darllen<\/li>\n<li>sillafu a dadgodio geiriau anghyfarwydd<\/li>\n<li>trefnu meddyliau a chyfleu syniadau yn ysgrifenedig<\/li>\n<li>cofio trefn, megis dyddiau\u2019r wythnos neu\u2019r wyddor.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/dyslexia\/symptoms\/\">GIG yn rhannu symptomau i wahanol grwpiau oedran<\/a>:<\/p>\n<h3>Symptomau mewn plant cyn oed ysgol<\/h3>\n<ul>\n<li>Oedi gyda datblygiad lleferydd, neu broblemau lleferydd, megis methu ag yngan geiriau hir yn gywir a chymysgu brawddegau<\/li>\n<li>Problemau wrth fynegi eu hunain, megis methu \u00e2 chofio\u2019r gair cywir i\u2019w ddefnyddio, neu roi brawddegau at ei gilydd yn anghywir<\/li>\n<li>Ychydig iawn o ddealltwriaeth neu werthfawrogiad o eiriau sy\u2019n odli mewn hwiangerddi<\/li>\n<li>Anawsterau, neu ddiffyg diddordeb, mewn dysgu llythrennau\u2019r wyddor<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Symptomau mewn plant ysgol gynradd<\/h3>\n<ul>\n<li>Anawsterau wrth ddysgu enwau a synau llythrennau<\/li>\n<li>Sillafu anrhagweladwy ac anghyson<\/li>\n<li>Dryswch o ran llythrennau sy\u2019n edrych yn debyg, a rhoi llythrennau\u2019r ffordd groes<\/li>\n<li>Drysu trefn llythrennau mewn geiriau<\/li>\n<li>Anawsterau darllen, megis darllen yn araf neu wneud camgymeriadau wrth ddarllen yn uchel<\/li>\n<li>Ateb cwestiynau ar lafar yn dda, ond yn cael trafferth i ysgrifennu\u2019r ateb<\/li>\n<li>Anawsterau wrth ddilyn cyfres o gyfarwyddiadau<\/li>\n<li>Trafferth i ddysgu trefn, megis dyddiau\u2019r wythnos neu\u2019r wyddor<\/li>\n<li>Ysgrifennu\u2019n araf<\/li>\n<li>Llawysgrifen anniben<\/li>\n<li>Problemau wrth gop\u00efo iaith ysgrifenedig a chymryd mwy o amser nag arfer i gwblhau gwaith ysgrifenedig<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ar y cam hwn, mae\u2019r GIG hefyd yn nodi ei fod yn gyffredin i blant gyda dyslecsia neu ddangos diffyg ymwybyddiaeth ffonolegol &#8211; sef adnabod bod geiriau\u2019n cael eu creu o unedau llai o sain neu ffonemau, a sut mae addasu ffonemau yn gallu creu geiriau ac ystyr newydd &#8211; a sgiliau dadgodio geiriau, lle mae plant yn gwneud synnwyr o eiriau anghyfarwydd drwy chwilio am eiriau llai, neu gasgliad o lythrennau, y mae\u2019r plentyn eisoes wedi\u2019u dysgu.<\/p>\n<h3>Pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion<\/h3>\n<ul>\n<li>Gwaith ysgrifennu anhrefnus gyda diffyg mynegiant<\/li>\n<li>Anawsterau wrth gynllunio ac ysgrifennu traethodau, llythyrau neu adroddiadau, neu adolygu ar gyfer arholiadau|<\/li>\n<li>Ceisio osgoi darllen ac ysgrifennu lle bo\u2019n bosibl<\/li>\n<li>Anawsterau wrth gymryd nodiadau neu gop\u00efo<\/li>\n<li>Trafferthion wrth geisio cofio pethau, megis rhif PIN neu rif ff\u00f4n, neu drafferthion i gyrraedd terfynau amser<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Profi ar gyfer dyslecsia ymysg plant<\/h2>\n<p>Pan fo rhiant neu addysgwr yn amau dyslecsia, mae\u2019n arferol i gynnal asesiad diagnostig dyslecsia yn ysgol y plentyn. Mae\u2019r gwerthusiad cynhwysfawr hwn yn gallu cael ei gynnal gan seicolegydd addysg neu athro dyslecsia arbenigol cymwys. Bydd yr aseswr yn edrych ar feysydd megis sgiliau darllen y plentyn, sgiliau a datblygiad iaith, ac ymwybyddiaeth ffonolegol.<\/p>\n<p>Gall yr asesiad dyslecsia, ynghyd \u00e2 mewnbwn gan athro ac aelodau o deulu\u2019r plentyn, arwain at ddiagnosis ffurfiol o ddyslecsia.<\/p>\n<p>Os ceir diagnosis o ddyslecsia, mae arbenigwyr dyslecsia hefyd yn gallu cefnogi plant \u2013 ynghyd \u00e2\u2019u teuluoedd a\u2019u hathrawon \u2013 gydag ymyriadau a strategaethau addas ar gyfer delio gyda\u2019r cyflwr.<\/p>\n<h2>Profi ar gyfer dyslecsia ymysg\u00a0 oedolion<\/h2>\n<p>Mae dyslecsia yn aml yn mynd heb gael ei ganfod ymysg oedolion, sy\u2019n gallu effeithio ar eu bywydau proffesiynol a phersonol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n werth nodi mai dim ond drwy gwblhau asesiad diagnostig ardystiedig y gellir canfod dyslecsia mewn oedolion, ac nid yw\u2019r rhain ar gael drwy&#8217;r GIG.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae <a href=\"https:\/\/www.bdadyslexia.org.uk\/advice\/adults\/am-i-dyslexic\/diagnosis\">Cymdeithas Dyslecsia Prydain<\/a> yn nodi bod diagnosis ffurfiol yn golygu:<\/p>\n<ul>\n<li>ei bod yn ddyletswydd ar weithleoedd a sefydliadau addysg i wneud addasiadau rhesymol i addasu i anawsterau dyslecsia, gan fod dyslecsia yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010<\/li>\n<li>bod oedolion gyda dyslecsia yn gallu cael gwell dealltwriaeth o natur eu hanawsterau, sy\u2019n gallu eu helpu i weithredu strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli dyslecsia yn eu bywydau o ddydd i ddydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ceir hefyd nifer o brofion sgrinio dyslecsia ar-lein, ond mae\u2019n bwysig cofio, er bod y rhain yn gallu bod yn ddefnyddiol, nid ydynt yn gallu rhoi diagnosis ffurfiol o ddyslecsia.<\/p>\n<h2>Trin a rheoli dyslecsia<\/h2>\n<p>Ar \u00f4l derbyn diagnosis, gall plant ac oedolion gyda dyslecsia elwa o nifer o ymyriadau a strategaethau gwahanol. Gall strategaethau effeithiol gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>defnyddio adnoddau technoleg gynorthwyo megis meddalwedd testun i leferydd neu lyfrau sin, i gefnogi gweithgareddau dysgu neu waith<\/li>\n<li>dulliau dysgu amlsynhwyraidd sy\u2019n defnyddio gwahanol rannau o\u2019r ymennydd, megis cyffyrddiad a symudiad<\/li>\n<li>gofyn am amser ychwanegol ar gyfer asesiadau neu aseiniadau.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Cydweithio a chymorth<\/h3>\n<p>Mae cydweithio rhwng addysgwyr, cydlynwyr anghenion addysgol arbennig, seicolegwyr addysg, a rhieni hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant dysgwyr gyda dyslecsia. Trwy gydweithio, gallant ddatblygu cynlluniau addysg unigol wedi\u2019u teilwra i anghenion bob plentyn, gan sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth briodol drwy gydol eu taith addysgol ac yn cyrraedd eu potensial yn llawn.<\/p>\n<h2>Ewch \u00e2\u2019ch gyrfa ym myd addysg i\u2019r lefel nesaf<\/h2>\n<p>Defnyddiwch seicoleg addysgol i wella profiadau yn y dosbarth i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr gyda dyslecsia, gyda\u2019r cwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/programme\/msc-seicoleg-addysgol\/\">gradd MSc Seicoleg Addysgol<\/a> cwbl ar-lein y gellir ei astudio o bell o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, rhan o Brifysgol Wrecsam.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs meistr hwn wedi\u2019i lunio i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i weithwyr addysg proffesiynol \u2013 gan gynnwys athrawon, prifathrawon, rheolwyr ysgol, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a staff cefnogi, ymysg eraill \u2013 o r\u00f4l seicolegwyr addysg, yn ogystal \u00e2 chysyniadau seicolegol craidd sy\u2019n sylfaen i ymarfer ym maes seicoleg addysg.<\/p>\n<p>Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio tystiolaeth seicolegol i siapio a gwella arferion addysgiadol ac yn y dosbarth, a datblygu gwybodaeth mewn meysydd allweddol o fewn seicoleg addysgol, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>datblygiad plant a phobl ifanc<\/li>\n<li>anhwylderau ymddygiad a r\u00f4l gwytnwch<\/li>\n<li>anghenion dysgu ychwanegol a dawn<\/li>\n<li>seicoleg iechyd a lles<\/li>\n<li>seicoleg fforensig<\/li>\n<li>deall asesiadau clinigol a seicometreg.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae dyslecsia yn anhawster dysgu cyffredin sydd fel arfer yn effeithio ar allu person i ddarllen, ysgrifennu a sillafu. Mae\u2019n bwysig bod gan addysgwyr ac eraill sy\u2019n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth dda o ddyslecsia er mwyn gallu cefnogi dysgwyr sydd \u00e2\u2019r cyflwr yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys gwybod\u00a0 y canlynol: beth yw dyslecsia symptomau &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":8898,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[5,32,30,6],"tags":[],"class_list":["post-9541","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-articles","category-education","category-psychology","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Dylai fod gan addysgwyr sy&#039;n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth gadarn o ddyslecsia er mwyn cefnogi dysgwyr \u00e2&#039;r cyflwr yn effeithiol\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Dylai fod gan addysgwyr sy&#039;n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth gadarn o ddyslecsia er mwyn cefnogi dysgwyr \u00e2&#039;r cyflwr yn effeithiol\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-03-19T16:02:38+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Dyslexia.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"500\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ben Nancholas\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"headline\":\"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr\",\"datePublished\":\"2024-03-19T16:02:38+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/\"},\"wordCount\":1440,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Dyslexia.jpg\",\"articleSection\":[\"Articles\",\"Education\",\"Psychology\",\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/\",\"name\":\"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Dyslexia.jpg\",\"datePublished\":\"2024-03-19T16:02:38+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"description\":\"Dylai fod gan addysgwyr sy'n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth gadarn o ddyslecsia er mwyn cefnogi dysgwyr \u00e2'r cyflwr yn effeithiol\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Dyslexia.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Dyslexia.jpg\",\"width\":800,\"height\":500,\"caption\":\"Close up photo of the word dyslexia\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\",\"name\":\"Ben Nancholas\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ben Nancholas\"},\"description\":\"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ben-nancholas\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","description":"Dylai fod gan addysgwyr sy'n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth gadarn o ddyslecsia er mwyn cefnogi dysgwyr \u00e2'r cyflwr yn effeithiol","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Dylai fod gan addysgwyr sy'n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth gadarn o ddyslecsia er mwyn cefnogi dysgwyr \u00e2'r cyflwr yn effeithiol","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2024-03-19T16:02:38+00:00","og_image":[{"width":800,"height":500,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Dyslexia.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ben Nancholas","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ben Nancholas","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/"},"author":{"name":"Ben Nancholas","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"headline":"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr","datePublished":"2024-03-19T16:02:38+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/"},"wordCount":1440,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Dyslexia.jpg","articleSection":["Articles","Education","Psychology","Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/","name":"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Dyslexia.jpg","datePublished":"2024-03-19T16:02:38+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"description":"Dylai fod gan addysgwyr sy'n gweithio gyda phlant ddealltwriaeth gadarn o ddyslecsia er mwyn cefnogi dysgwyr \u00e2'r cyflwr yn effeithiol","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Dyslexia.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Dyslexia.jpg","width":800,"height":500,"caption":"Close up photo of the word dyslexia"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/dyslecsia-eglurhad-i-addysgwyr\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Dyslecsia: eglurhad i addysgwyr"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d","name":"Ben Nancholas","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ben Nancholas"},"description":"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ben-nancholas\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9541","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9541"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9541\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8898"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9541"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9541"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9541"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}