{"id":9540,"date":"2024-03-19T15:57:32","date_gmt":"2024-03-19T15:57:32","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=9540"},"modified":"2024-03-19T15:57:32","modified_gmt":"2024-03-19T15:57:32","slug":"straen-ai-seicoleg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/","title":{"rendered":"Straen a&#8217;i seicoleg"},"content":{"rendered":"<p>Straen. Mae&#8217;n air sy&#8217;n cael ei ddefnyddio yn aml. Ond beth yw ei ystyr seicolegol? Sut yn union mae&#8217;n effeithio ar ein cyrff a&#8217;n meddyliau? Ac, yn bwysicach, beth allwn ni ei wneud amdano. Rydym yn edrych mewn mwy o fanylder ar hyn.<\/p>\n<p>Rydym ni i gyd wedi ei deimlo ar adegau yn ein bywydau &#8211; p&#8217;un a yw&#8217;n golygu wynebu\u2019r bwli ar iard yr ysgol, symud t\u0177, pwysau gwaith, rownd o ddiswyddiadau sydd yn yr arfaeth, neu ysgariad.<\/p>\n<p>Mae straen yn gyflwr o bryder neu densiwn meddyliol sy&#8217;n cael ei achosi pan fyddwn yn teimlo dan fygythiad neu o dan bwysau. Mae&#8217;n fecanwaith goroesi sydd wedi esblygu dros filenia; ymateb ein corff i\u2019n helpu i ganolbwyntio ein sylw ar ddelio \u00e2 heriau. Ond er bod pawb yn profi straen ar ryw adeg neu&#8217;i gilydd, mae&#8217;r ffordd yr ydym yn ymateb iddo yn gwneud gwahaniaeth mawr i&#8217;n hiechyd a&#8217;n lles yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn broblem gyffredin. Canfu<a href=\"https:\/\/www.mentalhealth.org.uk\/explore-mental-health\/statistics\/stress-statistics\"> arolwg a gynhaliwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn 2018 o bobl yn y DU<\/a> bod 74% o bobl, yn ystod y flwyddyn flaenorol, wedi teimlo dan gymaint o straen fel eu bod wedi cael eu llethu neu fethu ymdopi. O&#8217;r rhai a arolygwyd, dywedodd 46% eu bod wedi gorfwyta neu fwyta&#8217;n afiach oherwydd straen, 29% wedi yfed mwy o alcohol ac 16% wedi ysmygu mwy o ganlyniad. Dywedodd ychydig dros hanner yr oedolion a holwyd eu bod wedi teimlo&#8217;n isel a dywedodd 61% yn dweud eu bod wedi teimlo&#8217;n bryderus. O bryder mwy oedd y ffaith bod 16% o&#8217;r rhai a oedd wedi teimlo straen, wedi hunan-niweidio a bod 32% wedi cael meddyliau a theimladau hunanladdol.<\/p>\n<h2>Beth yw ymateb y corff i straen?<\/h2>\n<p>Meddyliwch am darw cynddeiriog yn carlamu tuag atoch chi, ei garnau\u2019n taranu a\u2019i ben wedi&#8217;i blygu, yn barod i\u2019ch twlcio gyda&#8217;i gyrn. Straen yn wir! Pan fyddwn yn wynebu perygl sy&#8217;n dynesu, mae ein llygaid a&#8217;n clustiau yn anfon signal i ganolfan brosesu emosiynol yr ymennydd, yr amygdala.<\/p>\n<p>Wedi synhwyro\u2019r bygythiad, mae&#8217;r amygdala yn anfon signal gofid i &#8216;ganolfan orchymyn&#8217; yr ymennydd \u2013 yr hypothalamws. Mae gan hwn linell gyfathrebu uniongyrchol gyda gweddill y corff \u2013 y system nerfol awtonomig \u2013 ac mae&#8217;n sbarduno\u2019r ymateb ymladd neu ddianc er mwyn darparu pwl o egni. Mae hynny&#8217;n caniat\u00e1u i ni naill ai ymosod ar yr hyn sy\u2019n ein bygwth, neu redeg i ffwrdd yn gyflym.<\/p>\n<p>Mae rhan o&#8217;n system endocrin, y chwarennau adrenal, yn dechrau pwmpio&#8217;r hormon adrenalin (a elwir hefyd yn epineffrine) gan beri i\u2019n calonnau guro\u2019n gyflymach ac anfon mwy o waed i&#8217;n cyhyrau, ein calon a&#8217;n horganau. Rydym ni&#8217;n anadlu&#8217;n gyflymach, mae ein pwysedd gwaed yn codi, ac mae&#8217;r llwybrau anadlu bychain yn yr ysgyfaint yn lledu i gymryd mwy o ocsigen a&#8217;n gwneud ni&#8217;n fwy effro. Mae ein golwg, ein clyw a&#8217;n synhwyrau eraill yn cael eu miniogi. Mae&#8217;r hormon straen, cortisol, hefyd yn cael ei sbarduno, gan ryddhau siwgr a brasterau yn ein gwaed o safleoedd storio dros dro a&#8217;u taflu i&#8217;r llif gwaed, gan danio pob rhan o&#8217;r corff.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r newidiadau hyn yn digwydd yn syth bin, gan ein galluogi i ddianc rhag cyrn y tarw cyn i ni hyd yn oed gael cyfle i feddwl am yr hyn rydyn ni&#8217;n ei wneud.<\/p>\n<h2>Beth yw&#8217;r tri math o straen?<\/h2>\n<p>Mae straen yn cael ei achosi gan berygl a all fod yn real (fel y tarw\u2019n carlamu tuag atoch), yn un sydd wedi ei ddychmygu, yn un a all ddigwydd yn syth bin neu sydd ymhellach i ffwrdd &#8211; ond yn anffodus, ni all ein cyrff ddweud y gwahaniaeth. Mae<a href=\"https:\/\/www.apa.org\/topics\/stress\/tips\"> Cymdeithas Seicolegol America<\/a> yn rhannu straen yn dri phrif fath \u2014 ac\u00edwt, ac ac\u00edwt episodig, a chronig.<\/p>\n<p>Mae<strong> straen ac\u00edwt yn <\/strong>cael ei achosi gan sefyllfa sy&#8217;n achosi straen yn sydyn, fel damwain car ddifrifol neu eich pennaeth yn gofyn i chi gamu i\u2019r adwy a chyflwyno araith gyweirnod ar ei rhan ar y funud olaf un. Efallai y byddwch yn teimlo\u2019ch calon yn rasio a&#8217;r gic o adrenalin a ddisgrifir uchod, yn ogystal \u00e2 symptomau fel anniddigrwydd, pryder, tristwch, cur pen, problemau gyda\u2019ch perfedd a phoen cefn. Straen tymor byr yw hwn a bydd y symptomau&#8217;n cilio pan fydd y perygl neu&#8217;r bygythiad wedi mynd a&#8217;r straen yn lleihau.<\/p>\n<p>Mae<strong> straen ac\u00edwt episodig yn<\/strong> digwydd pan fyddwn yn profi digwyddiadau llawn straen yn rheolaidd, megis terfynau amser tynn yn codi\u2019n rheolaidd, delio \u00e2 chyfres o argyfyngau neu ymgymryd \u00e2 gormod o waith. Gall hyn olygu fod pobl yn byw mewn cyflwr o densiwn. Dros amser, gall hyn wneud difrod i\u2019ch gwaith neu\u2019ch perthnasoedd, gyrru pobl i ymddygiadau afiach fel goryfed neu orfwyta ac yn y pen draw, mae&#8217;n cyfrannu at broblemau iechyd fel clefyd y galon neu iselder a llosgi allan os na chaiff ei reoli&#8217;n iawn.<\/p>\n<p><strong>Straen cronig<\/strong> yw&#8217;r math mwyaf niweidiol o straen: lefelau straen hirdymor, di-baid sy&#8217;n llethu pobl dros gyfnod o flynyddoedd. Gallai hyn ddeillio o broblemau bywyd difrifol y tu hwnt i reolaeth unigolyn, fel tlodi neu fyw mewn ardal rhyfel. Gall straen cronig niweidio iechyd meddwl a chorfforol. Gall eich gadael yn flinedig ac yn methu canolbwyntio, gall achosi cur pen ac arwain at broblemau treuliad, o wlseri i achosion o glefyd coluddyn llidus. Mae\u2019n gwneud drwg hefyd i&#8217;ch system imiwnedd, gan eich gadael yn fwy tueddol o gael heintiau, ac mae&#8217;n effeithio ar eich iechyd cardiofasgwlaidd. Mae nifer o astudiaethau wedi canfod cysylltiad rhwng<a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/abs\/pii\/S0022399920308308\"> straen cronig a datblygu clefyd rhydwel\u00efau coronaidd<\/a>.<\/p>\n<h2>Rhai ffynonellau cyffredin o straen<\/h2>\n<p>Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydym yn eu mwynhau i wneud ein bywydau yn haws, ymddengys nad yw bywyd yn yr 21ain ganrif yn llai straenus nag yr oedd i genedlaethau blaenorol. Nododd<a href=\"https:\/\/www.mentalhealth.org.uk\/explore-mental-health\/statistics\/stress-statistics\"> Arolwg a gynhaliwyd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn 2018 o 4,619 o oedolion yn y DU<\/a> nifer o achosion cyffredin o straen:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>cyflyrau iechyd hirdymor<\/strong> \u2013 naill ai eu cyflwr eu hunain neu gyflwr rhywun annwyl neu aelod o&#8217;r teulu<\/li>\n<li><strong>dyled<\/strong> \u2013 mae hyd yn oed yn fwy perthnasol r\u0175an yn ystod argyfwng costau byw<\/li>\n<li><strong>galwadau digidol<\/strong> \u2013 teimlo&#8217;r angen cyson i ymateb i e-byst, negeseuon testun a negeseuon<\/li>\n<li>cymharu eich hun ag eraill \u2013 nododd 49% o bobl ifanc 18-24 oed a oedd dan straen mai dyma oedd ffynhonnell y broblem<\/li>\n<li><strong>anfodlonrwydd gyda delwedd y corff<\/strong> \u2013 yn enwedig ymhlith menywod (36% o gymharu \u00e2 23% o ddynion)<\/li>\n<li><strong>pryderon tai<\/strong> \u2013 yn enwedig ymhlith pobl iau (roedd 32% o bobl ifanc 18-24 oed dan straen oherwydd y broblem hon)<\/li>\n<li><strong>Pwysau i lwyddo<\/strong> \u2013 roedd 60% o bobl ifanc 18-24 oed a 41% o bobl 25-34 oed yn teimlo\u2019r pwysau hyn.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Rhai awgrymiadau gwych ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 straen bywyd<\/h2>\n<p>Mae<a href=\"https:\/\/www.apa.org\/topics\/stress\/tips\"> Cymdeithas Seicolegol America yn<\/a> awgrymu&#8217;r isod ar gyfer rheoli straen a hynny\u2019n \u00a0seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd da, fel strategaethau ymdopi ar gyfer digwyddiadau anodd bywyd sy&#8217;n cael eu taflu atom ac i helpu i wrthbwyso effeithiau straen.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Gwnewch yr hyn sy&#8217;n eich gwneud chi&#8217;n hapus: <\/strong>Peidiwch \u00e2 rhoi\u2019r gorau i hob\u00efau a gweithgareddau rydych chi&#8217;n eu mwynhau pan fydd bywyd neu waith yn eich llethu. P&#8217;un a yw hynny&#8217;n ganu, dawnsio neu wylio eich hoff sioe gomedi ar y teledu, mae gwneud yr hyn rydych chi&#8217;n ei fwynhau yn rhoi rhyddhad hanfodol i chi rhag straen.<\/li>\n<li><strong>Ymestyn allan:<\/strong> Mae straen yn achosi i gyhyrau grebachu, gan roi pob math o boen a chur i ni. Gall ymestyn, tylino, baddonau cynnes neu<a href=\"https:\/\/www.tandfonline.com\/doi\/abs\/10.3109\/00207458908991618\"> \u2018progressive muscle relaxation\u2019<\/a> i gyd helpu.<\/li>\n<li><strong>Bwyta&#8217;n dda: <\/strong>Pan fyddwn dan straen, mae adrenalin a chortisol yn cael eu rhyddhau sy&#8217;n effeithio ar ein llwybr treulio. Er bod straen ac\u00edwt yn atal ein hawydd am fwyd, gall rhyddhau cortisol am gyfnod hir yn ystod straen cronig ein gwneud ni grefu braster a siwgr. Mae bwyta mwy o&#8217;r rhain yn arwain at<a href=\"https:\/\/onlinelibrary.wiley.com\/doi\/10.1002\/oby.20594\"> storio braster o amgylch ein horganau mewnol<\/a><u> sy\u2019n beryglus<\/u> ac yn gysylltiedig \u00e2 chlefydau cardiofasgwlaidd a metabolig. Felly i amddiffyn eich iechyd, torrwch y siwgr allan a bwyta diet cytbwys, maethlon.<\/li>\n<li><strong>Cael cwsg:<\/strong> Gall straen achosi nosweithiau di-gwsg, sy&#8217;n effeithio ar ein hwyliau a&#8217;n hystwythder meddyliol yn ystod y dydd. Gall osgoi edrych ar sgr\u00een yn hwyr y nos, rhoi\u2019r gorau i alcohol a chaffein a sefydlu trefn gyson ar gyfer amser gwely helpu gydag insomnia.<\/li>\n<li><strong>Myfyrdod:<\/strong> Mae myfyrdod gofalgar yn cael ei gefnogi gan ymchwil gadarn fel ffordd o leihau straen seicolegol a phryder \u2013 gall gwneud rhywfaint o<a href=\"https:\/\/jamanetwork.com\/journals\/jamainternalmedicine\/fullarticle\/1809754\"> fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar hyd yn oed am gyfnod byr<\/a><\/li>\n<li><strong>Symudwch:<\/strong> Mae ymarfer corff &#8211; hyd yn oed cerdded yn gyflym am hanner awr \u2013 yn ymladd straen a\u2019n helpu ni i gysgu. Dangosodd un astudiaeth fod oedolion sy&#8217;n weddol actif \u00e2 hanner lefelau<a href=\"https:\/\/journals.sagepub.com\/doi\/10.2466\/pms.1996.82.1.315\"> straen canfyddedig<\/a> y rhai nad oeddent yn gwneud ymarfer corff.<\/li>\n<li><strong>Helo coed, helo awyr!:<\/strong> Mae ymchwil ryngwladol wedi canfod bod<a href=\"https:\/\/www.mdpi.com\/1660-4601\/15\/3\/445\"> gofod gwyrdd yn gwella hwyliau<\/a>. Gall cymryd amser i sylwi ar yr adar, y coed a&#8217;r blodau, hyd yn oed os yw yn eich parc lleol yn unig, ailganolbwyntio eich meddwl.<\/li>\n<li><strong>Ail-luniwch y ffordd yr ydych yn meddwl: <\/strong>Mae<a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/mental-health\/talking-therapies-medicine-treatments\/talking-therapies-and-counselling\/cognitive-behavioural-therapy-cbt\/overview\/\"> therapi gwybyddol ymddygiadol<\/a> (CBT) yn annog pobl i ddeall bod meddyliau&#8217;n dylanwadu ar emosiynau, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar eu hymddygiad ac mae cyfoeth o dystiolaeth y tu \u00f4l i&#8217;w effeithiolrwydd ar gyfer straen a phryder. Gall ail-lunio&#8217;ch meddyliau ynghylch straen helpu i reoli eich emosiynau a lleihau teimladau o straen.<\/li>\n<li><strong>Cael help:<\/strong> Os ydych chi&#8217;n teimlo&#8217;n flinedig, wedi&#8217;ch llethu a does dim un o&#8217;r uchod yn helpu, gall darparwyr iechyd meddwl eich helpu i ddysgu sut i reoli eich straen yn effeithiol. Gallant eich helpu i nodi sefyllfaoedd neu ymddygiadau sy&#8217;n sbarduno eich straen ac yna datblygu cynllun gweithredu i newid y straen, newid eich amgylchedd, a newid eich ymatebion.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Ennill mantais seicolegol<\/h2>\n<p>O reoli straen i ddeall cymhellion pobl, mae dealltwriaeth frwd o ymddygiad dynol yn gryfder i lawer o arweinwyr a rheolwyr effeithiol. Mae&#8217;r<a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/msc-psychology\/\"> MSc Seicoleg ar-lein o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/a> yn addysgu seicoleg ddynol a sut i&#8217;w chymhwyso yn y gweithle i wneud penderfyniadau effeithiol a chefnogi ac ysgogi cydweithwyr a thimau.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cwrs \u00f4l-raddedig hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol a rheolwyr yn y sector preifat a chyhoeddus ar draws AD, addysg, arweinyddiaeth addysgol, marchnata a\u2019r sawl sydd am gymhwyso eu hangerdd am seicoleg i fynd \u00e2&#8217;u gyrfa i&#8217;r lefel nesaf.<\/p>\n<p>Byddwch yn dysgu sgiliau gan gynnwys meddwl yn feirniadol, gwerthuso tystiolaeth, seicoleg addysgol, niwrowyddoniaeth, deall asesiadau seicometrig, seicoleg glinigol a fforensig a thechnolegau sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg mewn seicoleg. Ochr yn ochr \u00e2 hyn, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau y mae cyflogwyr mawr yn chwilio amdanynt fwyfwy, gan gynnwys sgiliau dadansoddi data, llythrennedd ystadegol a chyfrifiadurol, gwerthuso beirniadol a sgiliau ymchwil. Yn fwy na hynny, gellir astudio&#8217;r MSc hyblyg hwn ar unrhyw adeg, yn unrhyw le fel sy\u2019n gyfleus i chi a\u2019ch teulu a\u2019ch gyrfa.<a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/msc-psychology\/\"> Darganfyddwch fwy<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Straen. Mae&#8217;n air sy&#8217;n cael ei ddefnyddio yn aml. Ond beth yw ei ystyr seicolegol? Sut yn union mae&#8217;n effeithio ar ein cyrff a&#8217;n meddyliau? Ac, yn bwysicach, beth allwn ni ei wneud amdano. Rydym yn edrych mewn mwy o fanylder ar hyn. Rydym ni i gyd wedi ei deimlo ar adegau yn ein bywydau &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":17,"featured_media":8894,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,33,6],"tags":[],"class_list":["post-9540","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-psychology-cy","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Straen a&#039;i seicoleg - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydyn ni&#039;n eu mwynhau i wneud ein bywydau&#039;n haws, mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn ymddangos yn ddim llai o straen.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Straen a&#039;i seicoleg - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydyn ni&#039;n eu mwynhau i wneud ein bywydau&#039;n haws, mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn ymddangos yn ddim llai o straen.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-03-19T15:57:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Stress-and-its-psychology.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Sar Harrop\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Sar Harrop\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Sar Harrop\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/becb351a7d3e1bb6141b4aef0e9156a3\"},\"headline\":\"Straen a&#8217;i seicoleg\",\"datePublished\":\"2024-03-19T15:57:32+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/\"},\"wordCount\":1877,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Stress-and-its-psychology.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Psychology\",\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/\",\"name\":\"Straen a'i seicoleg - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Stress-and-its-psychology.jpg\",\"datePublished\":\"2024-03-19T15:57:32+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/becb351a7d3e1bb6141b4aef0e9156a3\"},\"description\":\"Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydyn ni'n eu mwynhau i wneud ein bywydau'n haws, mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn ymddangos yn ddim llai o straen.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Stress-and-its-psychology.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Stress-and-its-psychology.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Tired stressed businesswoman feeling strong headache massaging temples exhausted from overwork, fatigued overwhelmed lady executive worker suffering from pain in head or chronic migraine in office\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/straen-ai-seicoleg\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Straen a&#8217;i seicoleg\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/becb351a7d3e1bb6141b4aef0e9156a3\",\"name\":\"Sar Harrop\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8cdd68837918e6e78d821078d3952921c0f89e8f5779b0976f69a05eadca78f1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8cdd68837918e6e78d821078d3952921c0f89e8f5779b0976f69a05eadca78f1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/8cdd68837918e6e78d821078d3952921c0f89e8f5779b0976f69a05eadca78f1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Sar Harrop\"},\"description\":\"Sarah Harrop is a freelance science writer and editor with two decades\u2019 experience of communicating about science. Before taking the plunge into freelancing she worked for the University of Reading writing stories about everything from reducing greenhouse gases in cow burps to cannabis-derived epilepsy drugs. She worked for nearly a decade at the Medical Research Council (UKRI) where she edited the organisation\u2019s magazine, wrote and produced its Annual Review and contributed to its podcast, blog and website. She has also worked as a writer for the UK Clinical Research Collaboration and in the drug information team at Thomson Reuters. In the distant past she dabbled in travel writing, winning a Guardian Young Travel Writer of the Year award. She has a BSc in biological sciences from Sheffield University and a certificate in journalism from Birkbeck College.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/sarah-harrop\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Straen a'i seicoleg - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","description":"Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydyn ni'n eu mwynhau i wneud ein bywydau'n haws, mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn ymddangos yn ddim llai o straen.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Straen a'i seicoleg - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydyn ni'n eu mwynhau i wneud ein bywydau'n haws, mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn ymddangos yn ddim llai o straen.","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2024-03-19T15:57:32+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Stress-and-its-psychology.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Sar Harrop","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Sar Harrop","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/"},"author":{"name":"Sar Harrop","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/becb351a7d3e1bb6141b4aef0e9156a3"},"headline":"Straen a&#8217;i seicoleg","datePublished":"2024-03-19T15:57:32+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/"},"wordCount":1877,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Stress-and-its-psychology.jpg","articleSection":["Erthyglau","Psychology","Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/","name":"Straen a'i seicoleg - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Stress-and-its-psychology.jpg","datePublished":"2024-03-19T15:57:32+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/becb351a7d3e1bb6141b4aef0e9156a3"},"description":"Er gwaethaf yr holl ddatblygiadau technolegol rydyn ni'n eu mwynhau i wneud ein bywydau'n haws, mae bywyd yn yr 21ain ganrif yn ymddangos yn ddim llai o straen.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Stress-and-its-psychology.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Stress-and-its-psychology.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Tired stressed businesswoman feeling strong headache massaging temples exhausted from overwork, fatigued overwhelmed lady executive worker suffering from pain in head or chronic migraine in office"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/straen-ai-seicoleg\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Straen a&#8217;i seicoleg"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/becb351a7d3e1bb6141b4aef0e9156a3","name":"Sar Harrop","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8cdd68837918e6e78d821078d3952921c0f89e8f5779b0976f69a05eadca78f1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8cdd68837918e6e78d821078d3952921c0f89e8f5779b0976f69a05eadca78f1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/8cdd68837918e6e78d821078d3952921c0f89e8f5779b0976f69a05eadca78f1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Sar Harrop"},"description":"Sarah Harrop is a freelance science writer and editor with two decades\u2019 experience of communicating about science. Before taking the plunge into freelancing she worked for the University of Reading writing stories about everything from reducing greenhouse gases in cow burps to cannabis-derived epilepsy drugs. She worked for nearly a decade at the Medical Research Council (UKRI) where she edited the organisation\u2019s magazine, wrote and produced its Annual Review and contributed to its podcast, blog and website. She has also worked as a writer for the UK Clinical Research Collaboration and in the drug information team at Thomson Reuters. In the distant past she dabbled in travel writing, winning a Guardian Young Travel Writer of the Year award. She has a BSc in biological sciences from Sheffield University and a certificate in journalism from Birkbeck College.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/sarah-harrop\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9540","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/17"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9540"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9540\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8894"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9540"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9540"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9540"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}