{"id":9518,"date":"2024-03-19T12:23:58","date_gmt":"2024-03-19T12:23:58","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=9518"},"modified":"2024-03-19T12:23:58","modified_gmt":"2024-03-19T12:23:58","slug":"effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/","title":{"rendered":"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant"},"content":{"rendered":"<h2>Sut mae cymhelliant staff yn effeithio ar gynhyrchiant?<\/h2>\n<p>Mae cymhelliant gweithiwr yn cyfeirio at ba mor hapus ac uchelgeisiol yw\u2019r unigolyn yn ei r\u00f4l. Mae gweithwyr llawn cymhelliant yn fwy tebygol o lawer o fod eisiau gweithio\u2019n galed, perfformio\u2019n dda, a dymuno i\u2019r busnes ffynnu. Mae mwy o gymhelliant yn golygu mwy o egni, creadigrwydd ac ymrwymiad, yn ogystal \u00e2 chyd-fynd yn well gyda nodau sefydliadol ehangach \u2013 a dealltwriaeth o sut mae gwaith o ddydd i ddydd yn cyfrannu at y \u2018darlun ehangach\u2019.<\/p>\n<p>Mae gweithlu llawn cymhelliant yn cynnig llu o fuddion eraill:<\/p>\n<ul>\n<li>llai o absenoliaeth a phresenoliaeth<\/li>\n<li>cadw mwy o staff a llai o drosiant staff<\/li>\n<li>tebygolrwydd uwch o ddenu ymgeiswyr a phartneriaethau o ansawdd uchel<\/li>\n<li>gwell cynhyrchiant a pherfformiad mewn swyddi<\/li>\n<li>gwell perthynas rhwng busnesau a gweithwyr<\/li>\n<li>diwylliant sefydliadol mwy cadarn a gwell amgylchedd gwaith<\/li>\n<li>gwasanaeth a phrofiad cwsmer o safon uwch.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ogystal, mae gweithwyr sydd \u00e2 mwy o gymhelliant yn aml yn cael eu hysbrydoli ac yn fwy parod i gadw at weithredoedd ac ymddygiadau dymunol: maent yn teimlo boddhad a gwerth o fynd \u2018uwchlaw a thu hwnt\u2019 gan eu bod yn gweld gwerth yn eu gwaith ac wedi ymrwymo i gyflawni eu r\u00f4l yn dda.<\/p>\n<p>Ar y llaw arall, mae gweithwyr gyda llai o gymhelliant yn fwy tebygol o wneud y gwrthwyneb, a gall hynny fod yn niweidiol i berfformiad y busnes. Daeth adroddiad \u2018State of the Global Workplace: 2023 Report\u2019 Gallup i\u2019r casgliad bod <a href=\"https:\/\/www.gallup.com\/workplace\/393497\/world-trillion-workplace-problem.aspx\">gweithwyr di-gymhelliant yn costio $8.8 triliwn ar draws y byd mewn colledion cynhyrchiant<\/a> \u2013 cyfwerth \u00e2 9% o gynnyrch gros domestig (GDP) byd-eang.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r ffordd orau o gymell staff?<\/h2>\n<p>Mae pobl yn dewis gweithio, a pharhau i weithio, mewn gweithleoedd penodol am sawl rheswm &#8211; ac mae teimlad o ysbrydoliaeth a chymhelliant yn un o\u2019r rhesymau hynny. Mae technegau cymell yn un o brif ystyriaethau arweinwyr, rheolwr a gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol, ac mae\u2019r technegau hyn ar eu mwyaf effeithiol pan fyddant wedi\u2019u teilwra i anghenion y sefydliad a gweithwyr unigol.<\/p>\n<p>Mae dulliau cyffredin o gynyddu lefelau cymhelliant y gweithlu yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>gosod nodau a disgwyliadau clir<\/li>\n<li>cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad<\/li>\n<li>ymreolaeth ac awdurdod<\/li>\n<li>cyfleoedd ar gyfer twf<\/li>\n<li>digollediad teg<\/li>\n<li>arweinyddiaeth dda<\/li>\n<li>adborth rheolaidd<\/li>\n<li>gwaith sy\u2019n ddigon heriol<\/li>\n<li>amgylchedd gwaith hyblyg<\/li>\n<li>diwylliant cynhwysol, cefnogol o fewn y cwmni<\/li>\n<li>cynlluniau cymhelliant a gwobrwyo.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Beth am ofyn i\u2019r gweithwyr eu hunain? Bu Statista yn holi gweithwyr drwy bleidlais i ganfod pa nodweddion o\u2019u gwaith sy\u2019n cynnig y cymhelliant mwyaf yn eu barn nhw. Y <a href=\"https:\/\/www.statista.com\/statistics\/1246966\/job-satisfaction-factors-worldwide\/\">pum nodwedd bwysicaf o ran cymhelliant<\/a> &#8211; yn eu trefn &#8211; oedd: gwaith sy\u2019n creu effaith, cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, digollediad sy\u2019n cyd-fynd \u00e2 pherfformiad, ymreolaeth, a threfniadau gweithio hyblyg.<\/p>\n<p>Yn ogystal, gall cymhelliant fod naill ai\u2019n gynhenid neu\u2019n anghynhenid:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Cymhelliant cynhenid<\/strong> yw pan fo gweithiwr yn gwneud rhywbeth oherwydd bodlonrwydd greddfol ac nid am ei fod yn disgwyl cael ei wobrwyo ar wah\u00e2n amdano, ac mae\u2019n gallu bod yn effeithiol iawn yn yr hirdymor<\/li>\n<li><strong>Cymhelliant anghynhenid<\/strong> yw pan fo gweithiwr yn gwneud rhywbeth sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 gwobr allanol, a gall fod yn effeithiol iawn yn y tymor byr.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae sicrhau gwahanol fathau o gymhellion, sy\u2019n cwmpasu\u2019r elfen gynhenid ac anghynhenid, yn syniad da yn gyffredinol.<\/p>\n<h2>Beth yw effaith cymhellion o ran hybu cymhelliant?<\/h2>\n<p>Nod rhaglenni cymell a gwobrwyo gweithwyr yw hybu gweithredoedd ac ymddygiadau cadarnhaol \u2013 a\u2019u halinio gydag amcanion a gwerthoedd y busnes, gwobrwyo gweithwyr am berfformiad a chyfraniad i\u2019r swydd, a chreu gweithleoedd sy\u2019n gwerthfawrogi aelodau\u2019r t\u00eem. Yn \u00f4l Business Leadership Today, <a href=\"https:\/\/businessleadershiptoday.com\/employee-motivation-and-its-impact-on-productivity\/\">gall rhaglenni cymell arwain at gynnydd o 44% mewn perfformiad gweithwyr, a chymell 66% o weithwyr i aros gyda chyflogwr.<\/a><\/p>\n<p>Mae cymhellion yn gallu bod ar sawl ffurf, a gallant fod yn ariannol neu\u2019n anariannol. Mae cymhellion ariannol yn cynnwys taliad bonws, trefniadau rhannu elw, codiad cyflog, cardiau rhodd, opsiynau stoc, ad-daliadau am hyfforddiant, a buddion ymddeol; mae cymhellion anariannol yn cynnwys cyfoethogi swydd, cyfle i ddatblygu gyrfa, gwobrwyo profiad, cydnabyddiaeth gyhoeddus, hyblygrwydd yn y gwaith, sicrwydd swydd, a mwy o amser i ffwrdd o\u2019r gwaith gyda th\u00e2l. Gan ddibynnu p\u2019un a yw\u2019r busnes yn dewis cymhellion cynhenid neu anghynhenid, gallai cymell staff drwy wobrwyo gynnwys gosod targedau clir, creu amgylchedd braf i weithio, arwain gyda gweledigaeth, annog gwaith t\u00eem, pecynnau lles, sicrwydd swyddi a darparu amser i ffwrdd yn lle oriau a weithiwyd.<\/p>\n<p>Yr hyn sy\u2019n bwysig yw teilwra\u2019r cymhellion i wahanol anghenion, dyheadau a diddordebau timau ac aelodau timau. Mae\u2019r cymhelliant cywir ar gael i bawb; ond mae\u2019n rhaid dod o hyd i\u2019r hyn sy\u2019n eu sbarduno a\u2019r hyn sydd fwyaf gwerthfawr iddynt. Dewch i ni edrych yn fanylach ar hyn.<\/p>\n<h2>Pa ffactorau sy\u2019n gallu effeithio ar gymhelliant staff?<\/h2>\n<p>Pam mae effaith cymhellion yn amrywio? Pam nad oes un dull sy\u2019n addas i bawb wrth ddatblygu cynlluniau o\u2019r fath?<\/p>\n<p>Mae\u2019r hyn sy\u2019n cymell un person \u2013 ar lefel ddofn a phersonol \u2013 yn wahanol i\u2019r hyn sy\u2019n cymell person arall. Dylai arweinwyr a rheolwyr ystyried cymhelliant a gofynion unigryw er mwyn deall pa fath o wobrwyo sy\u2019n debygol o fod yn effeithiol, neu\u2019n aflwyddiannus.<\/p>\n<p>Gall amrywiaeth o ffactorau effeithio ar effeithiolrwydd rhaglen gymhellion benodol, a ph\u2019un a yw\u2019r gweithwyr yn gweld ei werth, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>gwerthoedd a chredoau personol<\/strong> \u2013Alinio\u2019r cymhellion gyda chredoau personol y gweithwyr yn aml yw\u2019r dull mwyaf effeithiol gan eu bod wedi ymwreiddio o fewn cymhelliant cynhenid. Pa mor bwysig yw\u2019r cymhellion i werthoedd a chredoau\u2019r unigolyn?<\/li>\n<li><strong>diwylliant sefydliadol <\/strong>&#8211; Gall cymhellion fod yn fwy effeithiol pan maent yn cyd-fynd \u00e2 diwylliant a diddordebau\u2019r sefydliad. A yw\u2019r math o gymhellion yn cyd-fynd \u00e2 diwylliant y busnes?<\/li>\n<li><strong>purpose and fulfilment <\/strong>\u2013 Mae pwrpas yn gallu bod yn bwerus. A yw\u2019r gweithiwr yn cysylltu\u2019r cymhellion gyda mwy o ymdeimlad o bwrpas neu fodlonrwydd yn y gwaith?<\/li>\n<li><strong>cydbwysedd bywyd-gwaith a blaenoriaethau<\/strong> &#8211; Mae mwy a mwy o weithwyr &#8211; yn enwedig y rhai gydag ymrwymiadau teuluol, gofalu, neu ymrwymiadau eraill &#8211; yn ystyried hyblygrwydd yn flaenoriaeth uchel. Gall y dulliau hyn fod yn ffordd fwy cost effeithiol o annog gweithwyr i fusnesau. A fyddai modd cysylltu\u2019r cymhellion gyda gwahanol drefniadau cydbwysedd bywyd gwaith?<\/li>\n<li><strong>datblygiad proffesiynol <\/strong>\u2013 Mae hyn yn werthfawr i weithwyr, o ran dilyniant gyrfa, ac i fusnesau o ran datblygu sgiliau gweithwyr. Sut mae\u2019r cymhellion yn gysylltiedig \u00e2 datblygiad proffesiynol a thwf hirdymor?<\/li>\n<li><strong>sefyllfa economaidd <\/strong>\u2013 Mewn rhai amgylchiadau, mae\u2019n bosibl mai cymhellion ariannol \u2013 neu becynnau t\u00e2l sy\u2019n cynnwys elfennau eraill, megis gofal iechyd \u2013 fyddai\u2019r opsiwn mwyaf gwerthfawr er mwyn hybu cymhelliant. Gall ystyried anghenion sylfaenol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Hierarchaeth Anghenion Maslow, ddatblygu\u2019r cymhellion mwyaf ystyrlon ac effeithiol. A yw\u2019r cymhellion yn rhoi ystyriaeth i\u2019r realiti economaidd sy\u2019n wynebu\u2019r gweithwyr?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae monitro ac addasu systemau gwobrwyo dros amser yn ffordd dda o werthuso effeithiau cadarnhaol a negyddol cymhellion penodol, a sicrhau bod gweithwyr yn dal i gael eu hysgogi gan ddefnyddio\u2019r dulliau gorau.<\/p>\n<h2>Defnyddiwch eich dealltwriaeth o ffactorau cymell i wella perfformiad sefydliadol<\/h2>\n<p>Ydych chi\u2019n barod i ddysgu sut i wella ymgysylltiad, bodlonrwydd a pherfformiad gweithwyr yn eu gwaith?<\/p>\n<p>Cyfle i gyflymu trywydd eich gyrfa ym maes busnes ac arweinyddiaeth \u2013 a dysgu cyfrinachau\u2019n ymwneud ag ymgysylltiad a chymhelliant gweithwyr \u2013 gyda rhaglen <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/mba\/\">MBA<\/a> ar-lein Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.<\/p>\n<p>P\u2019un a ydych chi\u2019n lansio eich menter eich hun neu\u2019n dymuno datblygu sgiliau er mwyn cael swydd lefel uwch mewn busnes presennol, gall ein cwrs gradd meistr hyblyg, ar-lein, fod o fudd i chi. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o sut i reoli a rhedeg busnes cymhleth, gan archwilio disgyblaethau allweddol megis rheolaeth strategol, marchnata, cyllid, rheoli adnoddau dynol, gweithrediadau, a mwy. Gallwch ddatblygu eich sgiliau busnes ymarferol a damcaniaethol, a dysgu sut i roi\u2019r sgiliau hyn ar waith wrth wneud penderfyniadau, datrys problemau a meddwl yn strategol ar y lefelau uchaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sut mae cymhelliant staff yn effeithio ar gynhyrchiant? Mae cymhelliant gweithiwr yn cyfeirio at ba mor hapus ac uchelgeisiol yw\u2019r unigolyn yn ei r\u00f4l. Mae gweithwyr llawn cymhelliant yn fwy tebygol o lawer o fod eisiau gweithio\u2019n galed, perfformio\u2019n dda, a dymuno i\u2019r busnes ffynnu. Mae mwy o gymhelliant yn golygu mwy o egni, creadigrwydd &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":8560,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[5,36,6],"tags":[],"class_list":["post-9518","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-articles","category-mba","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Mae gweithwyr sydd \u00e2 chymhelliant yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweithio&#039;n galed, perfformio&#039;n dda, a gofalu os yw&#039;r busnes yn ffynnu.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae gweithwyr sydd \u00e2 chymhelliant yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweithio&#039;n galed, perfformio&#039;n dda, a gofalu os yw&#039;r busnes yn ffynnu.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2024-03-19T12:23:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Staff-Motivation.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ben Nancholas\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"headline\":\"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant\",\"datePublished\":\"2024-03-19T12:23:58+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/\"},\"wordCount\":1337,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Staff-Motivation.jpg\",\"articleSection\":[\"Articles\",\"MBA\",\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/\",\"name\":\"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Staff-Motivation.jpg\",\"datePublished\":\"2024-03-19T12:23:58+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"description\":\"Mae gweithwyr sydd \u00e2 chymhelliant yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweithio'n galed, perfformio'n dda, a gofalu os yw'r busnes yn ffynnu.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Staff-Motivation.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/02\\\/Staff-Motivation.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Excited company boss or team leader introducing new employee to colleagues in office welcoming hired newcomer member congratulating with promotion applauding celebrating reward, supporting coworker\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\",\"name\":\"Ben Nancholas\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ben Nancholas\"},\"description\":\"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ben-nancholas\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","description":"Mae gweithwyr sydd \u00e2 chymhelliant yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweithio'n galed, perfformio'n dda, a gofalu os yw'r busnes yn ffynnu.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae gweithwyr sydd \u00e2 chymhelliant yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweithio'n galed, perfformio'n dda, a gofalu os yw'r busnes yn ffynnu.","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2024-03-19T12:23:58+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Staff-Motivation.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ben Nancholas","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ben Nancholas","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/"},"author":{"name":"Ben Nancholas","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"headline":"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant","datePublished":"2024-03-19T12:23:58+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/"},"wordCount":1337,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Staff-Motivation.jpg","articleSection":["Articles","MBA","Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/","name":"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Staff-Motivation.jpg","datePublished":"2024-03-19T12:23:58+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"description":"Mae gweithwyr sydd \u00e2 chymhelliant yn llawer mwy tebygol o fod eisiau gweithio'n galed, perfformio'n dda, a gofalu os yw'r busnes yn ffynnu.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Staff-Motivation.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/Staff-Motivation.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Excited company boss or team leader introducing new employee to colleagues in office welcoming hired newcomer member congratulating with promotion applauding celebrating reward, supporting coworker"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/effaith-cymhellion-i-gymell-staff-ar-gynhyrchiant\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Effaith cymhellion i gymell staff ar gynhyrchiant"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d","name":"Ben Nancholas","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ben Nancholas"},"description":"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ben-nancholas\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9518","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9518"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9518\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8560"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9518"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9518"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9518"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}