{"id":4073,"date":"2023-09-08T14:18:58","date_gmt":"2023-09-08T13:18:58","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=4073"},"modified":"2023-09-08T14:18:58","modified_gmt":"2023-09-08T13:18:58","slug":"beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/","title":{"rendered":"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud?"},"content":{"rendered":"<p>Mae seicolegwyr addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal \u00e2\u2019u teuluoedd a\u2019u hysgolion, drwy ddefnyddio theori, ymchwil a thechnegau seicolegol i wella eu canlyniadau dysgu, eu sgiliau cyfathrebu a\u2019u lles emosiynol a chymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae seicolegwyr addysg yn aml yn gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ag:<\/p>\n<ul>\n<li>anawsterau dysgu, fel <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/dyslexia\/\">dyslecsia<\/a><\/li>\n<li>cyflyrau ymddygiadol, fel <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/attention-deficit-hyperactivity-disorder-adhd\/\">anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)<\/a><\/li>\n<li>anableddau datblygiadol, fel <a href=\"https:\/\/www.nhs.uk\/conditions\/autism\/what-is-autism\/\">awtistiaeth<\/a>.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Drwy eu defnydd o asesu, monitro a gwerthuso, gall seicolegwyr addysg helpu pob plentyn a pherson ifanc i gael addysg lawn a chyflawn, gan gefnogi eu dysgu yn ogystal \u00e2\u2019u datblygiad cymdeithasol, ymddygiadol a seicolegol.<\/p>\n<h2>Pam mae seicolegwyr addysg yn bwysig?<\/h2>\n<p>Mae seicolegwyr addysg yn rhan amhrisiadwy o\u2019r system addysgol ehangach, gan helpu i sicrhau bod plant ag anghenion addysgol arbennig yn gallu cymryd rhan mewn amgylcheddau dysgu cefnogol sy\u2019n hyrwyddo datblygiad iach plant. Gallant gefnogi plant sy\u2019n delio ag ystod eang o ofynion neu heriau \u2013 o anawsterau canolbwyntio ac anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol, i anableddau corfforol ac anghenion synhwyraidd \u2013 a\u2019u helpu i gyflawni eu potensial llawn.<\/p>\n<p>Gall gwasanaeth seicoleg addysg cynhwysfawr hefyd ddylanwadu ar ddysgu plant mewn ffyrdd cadarnhaol eraill. Er enghraifft, yn ddiweddar cyhoeddodd Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) bapur ar <a href=\"https:\/\/cms.bps.org.uk\/sites\/default\/files\/2022-05\/DECP%20Position%20Paper%20-%20The%20role%20of%20educational%20psychology%20in%20promoting%20inclusive%20education.pdf\">r\u00f4l seicoleg addysg wrth hyrwyddo addysg gynhwysol<\/a>:<\/p>\n<p>\u201cGall Seicolegwyr ddefnyddio eu sgiliau i gymhwyso seicoleg i helpu i adnabod, asesu a datrys<\/p>\n<p>materion drwy ddefnyddio dulliau sy\u2019n defnyddio atebion cydweithredol, gan ddefnyddio adnoddau plant a phobl ifanc, eu teuluoedd a\u2019u cymunedau, staff addysg ac asiantaethau proffesiynol, er mwyn hwyluso addysgeg gynhwysol.\u201d<\/p>\n<h2>Beth yw rhai o gyfrifoldebau seicolegydd addysg?<\/h2>\n<p>Mae r\u00f4l seicolegydd addysg yr un mor amrywiol \u00e2\u2019r dysgwyr a\u2019r disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dyletswyddau arferol yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Gweithio\u2019n uniongyrchol gyda phlant \u2013 boed yn un-i-un ac mewn grwpiau, yn ogystal \u00e2 mewn cydweithrediad \u00e2 gweithwyr addysg a gofal iechyd proffesiynol eraill \u2013 i gefnogi eu cyflawniadau addysgol.<\/li>\n<li>Asesu anghenion plant \u2013 addysgol ac emosiynol \u2013 gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, fel arsylwadau ac asesiadau dysgu.<\/li>\n<li>Ymgynghori a chydweithio \u00e2 rhieni ac addysgwyr eraill, yn ogystal \u00e2 thimau amlasiantaethol, i gasglu gwybodaeth a phenderfynu ar y dulliau gorau o gefnogi dysgu a datblygiad plant unigol.<\/li>\n<li>Gwneud diagnosis o anableddau ac anawsterau dysgu.<\/li>\n<li>Cynllunio a datblygu ymyriadau a strategaethau priodol ar gyfer dysgu, yn ogystal \u00e2 rhaglenni rheoli ymddygiad a therapiwtig.<\/li>\n<li>Cefnogi ysgolion a theuluoedd i sicrhau bod rhaglenni\u2019n cael eu gweithredu a\u2019u cynnal yn llwyddiannus.<\/li>\n<li>Goruchwylio atgyfeiriadau gan neu at asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill, fel uwch neu brif seicolegydd addysg yr awdurdod lleol perthnasol.<\/li>\n<li>Hyfforddi gweithwyr addysg proffesiynol, fel athrawon a chynorthwywyr addysgu, mewn meysydd sy&#8217;n berthnasol i seicoleg addysg, fel lles.<\/li>\n<li>Cynnal ymchwil newydd ym maes seicoleg addysg a datblygu damcaniaethau seicolegol newydd.<\/li>\n<li>Darparu ymgynghoriaeth arbenigol a chyfrannu at bolis\u00efau a rhaglenni addysgol newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Wrth gyflawni llawer o\u2019r cyfrifoldebau hyn, mae seicolegwyr addysg yn gweithio mewn ymgynghoriad \u00e2\u2019r holl bobl a gweithwyr proffesiynol eraill sy\u2019n ymwneud ag addysg a gofal plentyn. Mae hyn yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>rhieni a gofalwyr<\/li>\n<li>athrawon a staff eraill yr ysgol, megis Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig (SENCo) proffesiynol<\/li>\n<li>gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal cymdeithasol.<\/li>\n<li>meddygon<\/li>\n<li>swyddogion addysg<\/li>\n<li>therapyddion iaith a lleferydd.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Ble mae seicolegwyr addysg yn gweithio?<\/h2>\n<p>Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.aep.org.uk\/interested-career-educational-psychology\">Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg (AEP)<\/a>, sef yr undeb llafur a\u2019r gymdeithas broffesiynol ar gyfer seicolegwyr addysgol yn y Deyrnas Unedig, mae seicolegwyr addysg fel arfer yn gweithio yn y sector cyhoeddus.<\/p>\n<p>Mae cyflogwyr cyffredin yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>awdurdodau lleol, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau plant awdurdodau lleol<\/li>\n<li>Ymddiriedolaethau\u2019r GIG<\/li>\n<li>Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a&#8217;r Glasoed (CAMHS)<\/li>\n<li>ysgolion a grwpiau ysgol<\/li>\n<li>meithrinfeydd a lleoliadau blynyddoedd cynnar a chyn-ysgol eraill<\/li>\n<li>mudiadau gwirfoddol ac elusennol<\/li>\n<li>mentrau cymdeithasol<\/li>\n<li>cwmn\u00efau ymgynghori preifat<\/li>\n<li>prifysgolion a cholegau, lle mae seicolegwyr addysg newydd yn cael eu hyfforddi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae seicolegwyr addysg eraill yn hunangyflogedig ac yn gweithio fel ymarferwyr unigol ac ymgynghorwyr preifat, neu ar gyfer partneriaethau ymarfer preifat.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r gwahaniaeth rhwng seicolegydd addysg a seicolegydd ysgol?<\/h2>\n<p>Yn union fel y mae cyswllt agos rhwng addysg ac ysgolion, ond sy\u2019n bethau gwahanol, felly hefyd seicolegwyr addysg a seicolegwyr ysgol. Mae seicolegwyr ysgol yn canolbwyntio\u2019n llwyr ar ddysgu mewn ysgol, felly mae eu gwaith wedi\u2019i gyfyngu i grwpiau oedran penodol, tra bo seicolegwyr addysg yn edrych yn ehangach, ac yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed \u2013 a gallant hyd yn oed weithio gydag oedolion h\u0177n.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019n werth nodi bod seicoleg addysg yn y Deyrnas Unedig fel arfer yn cwmpasu agweddau ar seicoleg ysgol, yn hytrach na\u2019u trin fel meysydd ymarfer ar wah\u00e2n.<\/p>\n<h2>Pa gymwysterau sydd eu hangen i fod yn seicolegydd addysg?<\/h2>\n<p>Fel arfer, mae\u2019n ofynnol i seicolegwyr addysg gwblhau gradd seicoleg neu gwrs trosi sydd wedi\u2019i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain er mwyn ennill Sylfaen Graddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig (GBC). Mae\u2019r rheolau ar gyfer hyfforddiant pellach yn amrywio o fewn gwahanol wledydd yn y Deyrnas Unedig, ond er mwyn ymarfer fel seicolegydd addysg yn y DU, rhaid i bob Seicolegydd Addysg fod wedi cofrestru \u00e2\u2019r <a href=\"https:\/\/www.hcpc-uk.org\/\">Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)<\/a>.<\/p>\n<p>Mae seicolegwyr addysg hefyd fel arfer yn ymgorffori datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn eu rolau, gan ei fod yn angenrheidiol i gadw eu cofrestriad HCPC. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu pellach, fel:<\/p>\n<ul>\n<li>cyrsiau \u00f4l-gymhwyso<\/li>\n<li>dysgu dulliau a thechnegau therapiwtig newydd<\/li>\n<li>mentora hyfforddeion<\/li>\n<li>datblygu arbenigedd, fel arbenigedd mewn gr\u0175p oedran neu gyflwr penodol<\/li>\n<li>dysgu ac addasu technolegau newydd i ymarfer seicoleg addysg.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Gwella profiadau yn yr ystafell ddosbarth drwy seicoleg addysg<\/h2>\n<p>Datblygu\u2019r sgiliau seicolegol i fod yn addysgwr eithriadol gyda\u2019r <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/msc-educational-psychology\/\">MSc Seicoleg Addysg <\/a>100% ar-lein a dysgu o bell o Ysgol Reoli Gogledd Cymru, sy\u2019n rhan o Brifysgol Wrecsam.<\/p>\n<p>Mae\u2019r radd meistr hon wedi\u2019i chreu i arfogi gweithwyr addysg proffesiynol \u2013 gan gynnwys athrawon, penaethiaid, rheolwyr ysgolion, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol, a staff cymorth, ymysg eraill \u2013 gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o r\u00f4l seicolegwyr addysg, yn ogystal \u00e2\u2019r cysyniadau seicolegol craidd sy\u2019n sail i ymarfer ym maes seicoleg addysg.<\/p>\n<p>Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso tystiolaeth seicolegol i lywio a gwella arferion dosbarth ac addysgol, a datblygu gwybodaeth mewn meysydd allweddol o seicoleg addysg, gan gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>datblygiad plant a phobl ifanc<\/li>\n<li>anhwylderau ymddygiad a r\u00f4l gwydnwch<\/li>\n<li>anghenion dysgu ychwanegol a dawn<\/li>\n<li>seicoleg iechyd a lles<\/li>\n<li>seicoleg fforensig<\/li>\n<li>dealltwriaeth o asesiadau clinigol a seicometrig.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae seicolegwyr addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal \u00e2\u2019u teuluoedd a\u2019u hysgolion, drwy ddefnyddio theori, ymchwil a thechnegau seicolegol i wella eu canlyniadau dysgu, eu sgiliau cyfathrebu a\u2019u lles emosiynol a chymdeithasol. Mae seicolegwyr addysg yn aml yn gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":3952,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[5,32,30,6],"tags":[],"class_list":["post-4073","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-articles","category-education","category-psychology","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae seicolegwyr addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal \u00e2\u2019u teuluoedd a\u2019u hysgolion, drwy ddefnyddio theori, ymchwil a thechnegau seicolegol i wella eu canlyniadau dysgu, eu sgiliau cyfathrebu a\u2019u lles emosiynol a chymdeithasol. Mae seicolegwyr addysg yn aml yn gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2023-09-08T13:18:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/psychologist-education.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ben Nancholas\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"headline\":\"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud?\",\"datePublished\":\"2023-09-08T13:18:58+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/\"},\"wordCount\":1076,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/09\\\/psychologist-education.jpg\",\"articleSection\":[\"Articles\",\"Education\",\"Psychology\",\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/\",\"name\":\"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/09\\\/psychologist-education.jpg\",\"datePublished\":\"2023-09-08T13:18:58+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/09\\\/psychologist-education.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2023\\\/09\\\/psychologist-education.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Adult and children hands holding brain with puzzle paper cutout, autism, memory loss, dementia, epilepsy and alzheimer awareness, world mental health day, world Parkinson day concept\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\",\"name\":\"Ben Nancholas\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ben Nancholas\"},\"description\":\"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ben-nancholas\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae seicolegwyr addysg yn cefnogi plant a phobl ifanc, yn ogystal \u00e2\u2019u teuluoedd a\u2019u hysgolion, drwy ddefnyddio theori, ymchwil a thechnegau seicolegol i wella eu canlyniadau dysgu, eu sgiliau cyfathrebu a\u2019u lles emosiynol a chymdeithasol. Mae seicolegwyr addysg yn aml yn gweithio gyda dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2023-09-08T13:18:58+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/psychologist-education.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ben Nancholas","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ben Nancholas","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/"},"author":{"name":"Ben Nancholas","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"headline":"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud?","datePublished":"2023-09-08T13:18:58+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/"},"wordCount":1076,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/psychologist-education.jpg","articleSection":["Articles","Education","Psychology","Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/","name":"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/psychologist-education.jpg","datePublished":"2023-09-08T13:18:58+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/psychologist-education.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/psychologist-education.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Adult and children hands holding brain with puzzle paper cutout, autism, memory loss, dementia, epilepsy and alzheimer awareness, world mental health day, world Parkinson day concept"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-mae-seicolegydd-addysg-yn-ei-wneud-2\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth mae seicolegydd addysg yn ei wneud?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d","name":"Ben Nancholas","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ben Nancholas"},"description":"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ben-nancholas\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4073","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4073"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4073\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3952"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4073"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4073"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4073"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}