{"id":17253,"date":"2025-03-20T00:40:35","date_gmt":"2025-03-20T00:40:35","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=17253"},"modified":"2025-05-07T22:10:02","modified_gmt":"2025-05-07T21:10:02","slug":"strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/","title":{"rendered":"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid"},"content":{"rendered":"<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae ymdrechion gwerthu a marchnata llawer o fusnesau yn ymwneud yn bennaf \u00e2 chaffael cwsmeriaid newydd a chynyddu eu cyfran o&#8217;r farchnad. Er bod hwn yn ymddangos fel cynllun rhesymol, mae llawer iawn o werth mewn symud ffocws ychydig a rhoi mwy o ymdrech i gadw cwsmeriaid yn hytrach na dim ond chwilio\u2019n gyson am rai newydd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae llawer o astudiaethau sy&#8217;n awgrymu bod cadw cwsmeriaid yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ag ennill cwsmeriaid newydd. Gall ennill cwsmeriaid newydd fod rhwng<\/span><a href=\"https:\/\/hbr.org\/2014\/10\/the-value-of-keeping-the-right-customers\"> <span style=\"font-weight: 400;\">pump a 25 gwaith yn ddrytach<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> na chadw cwsmeriaid presennol. Gall cynyddu cyfraddau cadw cwsmeriaid 5%<\/span><a href=\"https:\/\/media.bain.com\/Images\/BB_Prescription_cutting_costs.pdf\"> <span style=\"font-weight: 400;\">gynyddu elw hyd at 95%<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Er mwyn dod o hyd i gwsmeriaid ffyddlon sy&#8217;n dychwelyd dro ar \u00f4l tro, mae dal angen i fusnes ennill cwsmeriaid newydd yn y lle cyntaf. Yna, gall y busnes ganolbwyntio ar drosi\u2019r cwsmeriaid newydd hynny yn gwsmeriaid ffyddlon sy\u2019n aros gyda\u2019r busnes ar hyd eu hoes.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio strategaethau i ennill cwsmeriaid newydd, metrigau allweddol bodlonrwydd cwsmeriaid, strategaethau cadw cwsmeriaid y gellir eu rhoi ar waith, a sut y gall busnes wella gwerth oes cwsmer.<\/span><\/p>\n<h2><b>Strategaethau i ennill cwsmeriaid newydd<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Rhaid i bob busnes fuddsoddi mewn strategaeth ennill cwsmeriaid er mwyn dod o hyd i&#8217;r gynulleidfa gywir ar gyfer y cynnyrch neu&#8217;r gwasanaeth y maent yn ei werthu. Drwy gael strategaeth effeithiol, mae\u2019n bosibl cynyddu eich siawns o ddod o hyd i nifer o gwsmeriaid rydych chi\u2019n debygol o\u2019u cadw. Bydd hyn yn gwneud eich marchnata yn fwy cost-effeithiol ac yn rhatach fesul trosiad, ac yn eich paratoi ar gyfer mwy o lwyddiant hirdymor.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae rhai o\u2019r dulliau y gall busnes eu defnyddio i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd a\u2019u targedu yn cynnwys:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0 \u00a0 <\/span><b>Chwilio organig: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Buddsoddi mewn strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) i gyrraedd safle uchel ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio (SERPs).<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Talu am hysbysebu ar beiriannau chwilio: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mae hysbysebu talu fesul clic (PPC) yn caniat\u00e1u i fusnesau dalu i gyrraedd safle uchel ar ganlyniadau peiriannau chwilio. Mae platfform PPC Google Ads hefyd yn caniat\u00e1u i chi gynnwys hysbysebion ar wefannau partner.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Cyfryngau cymdeithasol organig: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Rhannu cynnwys sy\u2019n cael ei bostio ar eich blog neu sianeli eraill, datblygu llais y cwmni a chynyddu ymwybyddiaeth o\u2019ch brand.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Talu am hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Talu am bostiadau ar Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn, neu TikTok i helpu eich cynnwys gyrraedd eich cynulleidfa darged yn haws.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Marchnata trwy e-bost: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Casglu data e-bost trwy strategaethau fel cynnwys adwyog neu weminarau. Yna defnyddio\u2019r rhestrau hynny i ddatblygu cwsmeriaid posib a\u2019u trosi trwy eu mewnflychau.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Atgyfeiriadau: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Gofyn i&#8217;ch cwsmeriaid presennol eich cyflwyno i&#8217;w ffrindiau yn gyfnewid am gymhelliad gyda rhaglen gyfeirio.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Digwyddiadau: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mynd i gynadleddau os yw&#8217;n briodol i&#8217;ch diwydiant, neu gynnal digwyddiadau rhithwir fel gweminarau i ddweud mwy am yr hyn rydych chi&#8217;n ei wneud wrth ddarpar gwsmeriaid.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Hysbysebu traddodiadol: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Gosod hysbysebion ar y teledu, y radio a\u2019r cyfryngau print, yn lleol neu\u2019n genedlaethol, yn dibynnu ar y math o fusnes a\u2019r gyllideb.<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h2><b>Sut i greu twndis marchnata i ennill cwsmeriaid<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae creu strategaeth ar gyfer ennill cwsmeriaid sy&#8217;n cyd-fynd ag egwyddorion twndis yn sicrhau eich bod yn dilyn dull profedig o ennill cwsmeriaid ac yn gwella&#8217;ch ymdrechion. Bydd hyn yn gwneud eich strategaeth yn llawer mwy effeithiol.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Pedwar cam y twndis ennill cwsmeriaid yw:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0 \u00a0 <\/span><b>Ymwybyddiaeth: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Sicrhau bod eich neges yn cyrraedd y cwsmeriaid cywir a chynyddu eu hymwybyddiaeth o\u2019ch cynnyrch neu wasanaeth.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Ystyriaeth: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Rhoi mwy o wybodaeth i gwsmeriaid i\u2019w helpu i wneud penderfyniad i brynu gennych chi.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Trosi: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Trosi eich cynulleidfa yn gwsmeriaid.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Cadw Cwsmeriaid: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Cadw eich cwsmeriaid newydd a\u2019u troi yn gwsmeriaid ffyddlon sy\u2019n dychwelyd.<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Cyn i chi greu eich strategaeth twndis, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn gwybod pwy yw&#8217;ch cynulleidfa, eu demograffeg a&#8217;u cymhellion er mwyn i chi ddeall eu hanghenion a chyfleu eich datrysiad yn effeithiol. Bydd angen i chi ddewis y sianeli cywir, gwybod le mae eich cwsmeriaid, a chreu cynllun cynnwys sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;r camau twndis. Ar \u00f4l i chi lansio eich strategaeth, bydd rhaid ichi neilltuo amser i ddadansoddi&#8217;r canlyniadau ac addasu a gwneud y gorau o&#8217;ch allbwn ar \u00f4l cyfnod penodol o amser.<\/span><\/p>\n<h2><b>Beth yw marchnata amlsianel?<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Marchnata amlsianel yw pan fo sefydliadau\u2019n defnyddio sianeli amrywiol i ryngweithio \u00e2\u2019u cwsmeriaid. Mae hyn fel arfer yn cyfeirio at y cyfuniad o sianeli ffisegol (fel siopau manwerthu) ynghyd \u00e2&#8217;u sianeli digidol (fel y cyfryngau cymdeithasol neu sgwrsfotiau ar wefannau e-fasnach sy&#8217;n ateb Cwestiynau Cyffredin mewn amser real).<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Trwy gael sawl man cyswllt ar gyfer denu cwsmeriaid at frand, mae&#8217;r math hwn o strategaeth yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer cyflawni ac i blesio\u2019r cwsmer trwy wasanaeth cwsmeriaid a phrofiad cwsmeriaid di-dor.<\/span><\/p>\n<h2><b>Beth yw&#8217;r metrigau bodlonrwydd cwsmeriaid allweddol?<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae bodlonrwydd cwsmeriaid yn ddangosydd allweddol o lwyddiant ar gyfer busnesau. Po fwyaf bodlon yw cwsmer, y mwyaf tebygol yw\u2019r cwsmer hwnnw o ddod yn gwsmer ffyddlon sy\u2019n dychwelyd ac argymell y brand i\u2019w ffrindiau a\u2019i deulu.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae metrigau bodlonrwydd cwsmeriaid yn hanfodol gan eu bod yn rhoi cipolwg ar sut mae defnyddwyr wir yn teimlo am fusnes ac a ydych chi&#8217;n bodloni disgwyliadau cwsmeriaid ai peidio. Drwy gasglu\u2019r wybodaeth hon, mae busnes yn gallu gweld yr hyn y maent yn ei wneud yn dda a meysydd y gellid eu gwella i gyflawni newid ystyrlon a chadarnhaol i\u2019w gwasanaethau. Mae posib awtomeiddio\u2019r gwaith hwn drwy anfon arolygon yn awtomatig at gwsmeriaid sydd wedi prynu rhywbeth.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae metrigau hanfodol y gall pob cwmni eu defnyddio i fesur pa mor fodlon yw cwsmeriaid yn cynnwys:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0 \u00a0 <\/span><b>Sg\u00f4r Hyrwyddo Net (NPS):<\/b><span style=\"font-weight: 400;\"> Mae\u2019r metrig hwn yn holi cwsmeriaid am eu parodrwydd i argymell eich brand. Y mwyaf o \u2018hyrwyddwyr\u2019 sydd gennych, y mwyaf y bydd eich brand yn lledaenu trwy argymhellion cwsmeriaid.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Bodlonrwydd Gwasanaeth Cwsmeriaid (CSS): <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Yn mesur boddlonrwydd cwsmeriaid \u00e2\u2019r gwasanaeth ar \u00f4l-prynu. Bydd y metrig hwn yn eich galluogi i olrhain ymholiadau a phryderon cyffredin, ac a yw eich cynnig cymorth i gwsmeriaid yn effeithlon.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Sg\u00f4r Ymdrech i Gwsmeriaid (CES): <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r metrig hwn yn pennu pa mor rhwydd yw eich cynhyrchion neu wasanaethau i\u2019w defnyddio. Yr haws mae eich cwsmeriaid yn gweld defnyddio eich cynhyrchion neu wasanaethau, y mwyaf tebygol ydynt o aros gyda chi.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Sg\u00f4r Bodlonrwydd Cwsmeriaid (CSAT): <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r metrig hwn yn mesur pa mor fodlon mae cwsmeriaid yn teimlo am eich cynnyrch neu wasanaeth.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Sg\u00f4r Iechyd Cwsmeriaid (CHS): <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r metrig hwn yn nodi teyrngarwch cwsmeriaid ac a fydd cwsmeriaid presennol yn cael eu cadw neu a fyddent yn trosi dros amser.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Cyfradd Trosiant Cwsmeriaid (CCR): <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019r metrig hwn yn nodi\u2019r canran o gwsmeriaid sydd wedi\u2019u colli yn hytrach na\u2019u cadw.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><b>Adolygiadau gan gwsmeriaid: <\/b><span style=\"font-weight: 400;\">Mae llawer o brynwyr newydd yn troi at adolygiadau cyn penderfynu a ydynt am brynu\u2019r cynnyrch ai pheidio. Mae adborth ac adolygiadau yn cael eu casglu ar ystod o byrth neu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rhaid i fusnesau fod yn ymwybodol o\u2019r rhain i gyd.<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h2><b>Enghreifftiau o strategaethau cadw cwsmeriaid effeithiol<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae cyfradd cadw cwsmeriaid yn fetrig y gellir ei ddefnyddio i fesur llwyddiant cyffredinol. Os yw cwsmer yn aros yn ffyddlon i&#8217;ch brand, bydd yn parhau i gynhyrchu elw i chi trwy brynu dro ar \u00f4l tro ac argymell eich brand i&#8217;w ffrindiau a&#8217;i deulu.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae rhai strategaethau cadw cwsmeriaid y gall busnesau eu defnyddio i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn dychwelyd dro ar \u00f4l tro yn cynnwys:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Creu argraff gyntaf gofiadwy gyda phroses gynefino gref<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Personoli profiad eich cwsmeriaid gyda datrysiadau wedi\u2019u teilwra<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Datblygu ymddiriedaeth drwy gynnig gwerth, prisiau teg a dibynadwyedd yn gyson<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Casglu adborth gan gwsmeriaid a mynd i\u2019r afael \u00e2 beirniadaeth neu gwynion gan gwsmeriaid yn sydyn<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Cadw mewn cysylltiad \u00e2 chwsmeriaid gyda chynnwys gwerthfawr a chyfleoedd i uwchwerthu neu groeswerthu i gynnal eu sylw.<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h2><b>Technegau effeithiol i wella gwerth oes cwsmeriaid<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae gan gwsmeriaid ffyddlon sy\u2019n dychwelyd dro ar \u00f4l tro i brynu gennych chi werth oes cwsmer uchel (CLV). CLV yw\u2019r swm o arian y byddan nhw\u2019n ei wario gyda chi yn ystod eu hoes. Yn ddelfrydol, bydd busnes yn gwneud CLV yn ffocws i bob cwsmer, ac yn ceisio tyfu eu sylfaen cwsmeriaid a\u2019i chadw.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae ffyrdd o wella perthnasoedd cwsmeriaid a sicrhau CLV uchel yn cynnwys:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Defnyddio uwchwerthu a chroeswerthu cymaint \u00e2 phosib<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Cynnig profiad cofiadwy i gwsmeriaid<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Creu rhaglen teyrngarwch cwsmeriaid a chynnig cymhellion i rai sy\u2019n prynu<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Gwrando ar eich cwsmeriaid<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Sefydlu rhaglen gyfeirio i wobrwyo eich cwsmeriaid ffyddlon am eich argymell chi<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 <\/span><span style=\"font-weight: 400;\">Datblygu cymuned ymhlith eich cwsmeriaid<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h2><b>Dod yn arbenigwr ar sicrhau cwsmeriaid sy\u2019n dychwelyd<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Astudio am<\/span><a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/mba-marchnata\/\"> <span style=\"font-weight: 400;\">radd MBA mewn Marchnata 100% ar-lein gyda Phrifysgol Wrecsam<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> i ddysgu sut i greu strategaethau marchnata effeithiol sy&#8217;n cynhyrchu busnes rheolaidd.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">B<\/span><span style=\"font-weight: 400;\">yddwch yn datblygu\u2019r sgiliau i ddeall taith lawn cwsmeriaid, nodi materion sy\u2019n achosi problemau gydol cylch oes y cynnyrch, ynghyd \u00e2\u2019r wybodaeth i lansio cynhyrchion newydd yn effeithiol wrth gasglu data cwsmeriaid ar gyfer strategaethau cadw hirdymor. Byddwch yn astudio ochr yn ochr \u00e2 chymheiriaid byd-eang ac yn cael y cyfle i rannu syniadau ar bynciau fel gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, sut i gasglu argymhellion, a sut i sicrhau llwyddiant cwsmeriaid, wrth ddatblygu eich gyrfa a rhoi eich hun mewn sefyllfa i wneud cynnydd ym maes marchnata.<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ymdrechion gwerthu a marchnata llawer o fusnesau yn ymwneud yn bennaf \u00e2 chaffael cwsmeriaid newydd a chynyddu eu cyfran o&#8217;r farchnad. Er bod hwn yn ymddangos fel cynllun rhesymol, mae llawer iawn o werth mewn symud ffocws ychydig a rhoi mwy o ymdrech i gadw cwsmeriaid yn hytrach na dim ond chwilio\u2019n gyson am &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":16,"featured_media":17255,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,64,63],"tags":[],"class_list":["post-17253","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-marketing-cy","category-mba-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"description\" content=\"Extend your business knowledge and leadership skills in marketing, consider a 100% online MBA degree from North Wales Management School.\" \/>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Extend your business knowledge and leadership skills in marketing, consider a 100% online MBA degree from North Wales Management School.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-03-20T00:40:35+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-05-07T21:10:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/acquiring-retaining-customers.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ben Nancholas\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ben Nancholas\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"headline\":\"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid\",\"datePublished\":\"2025-03-20T00:40:35+00:00\",\"dateModified\":\"2025-05-07T21:10:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\\\/\"},\"wordCount\":1580,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/03\\\/acquiring-retaining-customers.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Marketing\",\"MBA\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\",\"name\":\"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/03\\\/acquiring-retaining-customers.jpg\",\"datePublished\":\"2025-03-20T00:40:35+00:00\",\"dateModified\":\"2025-05-07T21:10:02+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\"},\"description\":\"Extend your business knowledge and leadership skills in marketing, consider a 100% online MBA degree from North Wales Management School.\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/03\\\/acquiring-retaining-customers.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/03\\\/acquiring-retaining-customers.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"acquiring-retaining-customers\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d\",\"name\":\"Ben Nancholas\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ben Nancholas\"},\"description\":\"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ben-nancholas\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","description":"Extend your business knowledge and leadership skills in marketing, consider a 100% online MBA degree from North Wales Management School.","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Extend your business knowledge and leadership skills in marketing, consider a 100% online MBA degree from North Wales Management School.","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2025-03-20T00:40:35+00:00","article_modified_time":"2025-05-07T21:10:02+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/acquiring-retaining-customers.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ben Nancholas","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ben Nancholas","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/"},"author":{"name":"Ben Nancholas","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"headline":"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid","datePublished":"2025-03-20T00:40:35+00:00","dateModified":"2025-05-07T21:10:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/"},"wordCount":1580,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/acquiring-retaining-customers.jpg","articleSection":["Erthyglau","Marketing","MBA"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid","name":"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/acquiring-retaining-customers.jpg","datePublished":"2025-03-20T00:40:35+00:00","dateModified":"2025-05-07T21:10:02+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d"},"description":"Extend your business knowledge and leadership skills in marketing, consider a 100% online MBA degree from North Wales Management School.","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/acquiring-retaining-customers.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/acquiring-retaining-customers.jpg","width":800,"height":300,"caption":"acquiring-retaining-customers"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/strategaethau-i-ennill-a-chadw-cwsmeriaid#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Strategaethau i ennill a chadw cwsmeriaid"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/11facc090b0c4dc4165e3f25a597d06d","name":"Ben Nancholas","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/a9e686e44376f536b0c622dff6ec9db305dfefaecd1a505214dab4611d1b5051?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ben Nancholas"},"description":"Ben Nancholas is a higher education content specialist with a passion for creating engaging and impactful content. With over 8 years\u2019 experience in the sector, he has worked with renowned institutions such and the University of Surrey and Portsmouth. Ben\u2019s expertise lies in creating compelling content that resonates with current and prospective students, faculty members, and all major stakeholders in the higher education sector. Throughout his career, Ben has developed a diverse range of content including website copy, articles, white papers, email campaigns and newsletters.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ben-nancholas\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17253","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/16"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17253"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17253\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17255"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17253"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=17253"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=17253"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}