{"id":17222,"date":"2025-03-19T21:55:18","date_gmt":"2025-03-19T21:55:18","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=17222"},"modified":"2025-03-19T21:55:36","modified_gmt":"2025-03-19T21:55:36","slug":"gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/","title":{"rendered":"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais"},"content":{"rendered":"<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae technoleg chwilio \u00e2 llais wedi chwyldroi\u2019r modd y defnyddiwn dechnoleg ddigidol. Mae cynorthwywyr rhithwir wedi bod o gwmpas ers degawd a mwy \u2013 lansiwyd Siri gan Apple yn 2010 a lansiodd Google ddull chwilio \u00e2 llais yn fuan wedyn, ac o fewn dim cafwyd seinyddion clyfar fel Alexa Amazon, a gyflwynwyd yn 2014.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Bob diwrnod, mae mwy na hanner oedolion y byd yn defnyddio dull chwilio \u00e2 llais o leiaf unwaith i brynu rhywbeth neu i chwilio am wybodaeth benodol. Yn \u00f4l<\/span><a href=\"https:\/\/www.forbes.com\/councils\/forbestechcouncil\/2024\/12\/17\/voice-activated-revolution-harnessing-voice-search-for-better-seo\/#:~:text=According%20to%20recent%20data%2C%20the,93.7%25%20of%20search%20queries%20correctly.\"> <span style=\"font-weight: 400;\">blog diweddar Cyngor Technoleg Forbes<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">, a luniwyd gan Akram Atallah, \u201cThe impact of voice search on SEO is far-reaching, with voice search assistants boasting an impressive accuracy rate, answering 93.7% of search queries correctly.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Nid ar chwarae bach y llwyddir i ateb ymholiadau mor gywir. Pan mae pobl yn siarad i mewn i\u2019w ff\u00f4n clyfar neu eu seinydd clyfar, maent yn tueddu i ddefnyddio llinynnau geiriau sgyrsiol yn hytrach na\u2019r llinynnau geiriau byr a phenodol y byddent yn eu bwydo i beiriant chwilio. Law yn llaw \u00e2 meddalwedd adnabod llais effeithiol ac algorithmau prosesu iaith naturiol (NLP), mae optimeiddio peiriannau chwilio \u00e2 llais (VSEO) yn faes sy\u2019n esblygu\u2019n gyflym.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Hefyd, mae ffyrdd defnyddwyr o ymddwyn yn newid yn gyflym, oherwydd mae mwy o ddefnyddwyr yn troi eu cefn ar fysellfyrddau ac yn troi at ddefnyddio microffonau eu cynorthwywyr rhithwyr adnabod llais. Gan fod dulliau chwilio \u00e2 llais ar gynnydd, mae marchnatwyr yn rhuthro i geisio dilyn yr arfer ac maent yn addasu i\u2019r tirlun marchnata newidiol er mwyn sicrhau y bydd eu cynhyrchion a\u2019u negeseuon yn parhau i gyrraedd eu cynulleidfaoedd. Dyma sut yr \u00e2nt ati.<\/span><\/p>\n<h2><b>Optimeiddio chwilio \u00e2 llais (VSO)<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Ar gyfer pawb sy\u2019n hyrwyddo cynhyrchion neu wasanaethau ar y rhyngrwyd, ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn apiau, y nod yw sicrhau y bydd cynnwys penodol y brand yn ymddangos ar frig y canlyniadau chwilio, pa un a fydd y darpar gwsmeriaid wedi chwilio gyda thestun neu gyda llais. Mae dyfeisiau adnabod llais yn defnyddio math arbennig o ddysgu peirianyddol, a elwir yn brosesu iaith naturiol (NLP), i ddehongli a gweithredu cyfarwyddiadau\u2019r unigolyn sy\u2019n siarad i mewn i\u2019r ddyfais. Rhaid i\u2019ch cynnwys ymgorffori allweddeiriau a ddefnyddir mewn gorchmynion llais er mwyn cynyddu\u2019r siawns y bydd eich negeseuon yn ymddangos yn y canlyniadau.<\/span><\/p>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Er mwyn sicrhau y byddant yn parhau i fod yn gystadleuol, mae marchnatwyr yn datblygu strategaethau marchnata digidol lle mae angen chwilio am allweddeiriau ac maent yn canolbwyntio ar optimeiddio chwilio \u00e2 llais. Mae hyn yn cynnwys:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">Defnyddio t\u00f4n sgyrsiol mewn cyd-destunau llafar ac ysgrifenedig. Mae iaith sgyrsiol ac allweddeiriau llafar yn tueddu i gynnwys llinynnau geiriau hirach.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">Bydd targedu eich cynnwys ar gyfer chwiliadau lleol yn helpu\u2019r dull optimeiddio peiriannau chwilio lleol, oherwydd yn aml bydd pobl sy\u2019n defnyddio chwiliadau adnabod llais yn symud o un lle i\u2019r llall, byddant yn defnyddio dyfeisiau symudol a byddant eisiau dod o hyd i fusnesau lleol mewn amser real.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">Creu gwefannau sy\u2019n gydnaws \u00e2 dyfeisiau symudol er mwyn gwella profiad y cwsmeriaid.<\/span><\/li>\n<li><span style=\"font-weight: 400;\">Defnyddio ymadroddion allweddol cynffon hir sy\u2019n cynnwys geiriau cwestiwn. Efallai na fydd y geiriau a\u2019r ymadroddion hyn yn cyfateb i\u2019r allweddeiriau mwyaf cyffredin, ond byddant i\u2019w cael yng \u2018nghynffon hir\u2019 y termau chwilio a gofnodir gan y peiriant chwilio.<\/span><\/li>\n<\/ul>\n<h2><b>Sut i aros ar flaen y gad o ran optimeiddio chwilio \u00e2 llais<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae dyfodol chwilio \u00e2 llais yn sicr ac mae marchnatwyr yn bwrw ymlaen \u00e2 datblygiadau er mwyn sicrhau y bydd cynnwys eu brand yn ymddangos ar frig tudalennau canlyniadau peiriannau chwilio (SERP). Dyma awgrymiadau ar gyfer sut i wneud hyn:<\/span><\/p>\n<h3><b>Defnyddio microddata sgema<\/b><\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Data strwythuredig y gallwch ei ychwanegu at HTML eich gwefan i helpu peiriannau chwilio i ddeall eich cynnwys. Gall microddata sgema gynnwys gwybodaeth fel oriau, cyfeiriad, manylion cyswllt a phrisiau eich busnes. Gallwch ddefnyddio offer rhad ac am ddim fel \u2018Structured Data Markup Helper\u2019 Google i gymhwyso microddata sgema at eich safle.<\/span><\/p>\n<h3><b>Optimeiddio ar gyfer dyfyniadau a amlygir<\/b><\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Yn aml, bydd cynorthwywyr llais yn darllen dyfyniadau a amlygir pan fydd pobl yn gofyn cwestiynau. Hefyd, mae dyfyniadau a amlygir yn ymddangos ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio. Gall datblygu crynodebau annibynnol, byr, 2-3 brawddeg o hyd, sy\u2019n ateb Cwestiynau Cyffredin, fod yn agwedd ddefnyddiol ar strategaeth marchnata chwilio, gan gynyddu\u2019r siawns y bydd eich cynnwys yn ymddangos fel dyfyniad a amlygir mewn chwiliad Google.<\/span><\/p>\n<h3><b>Defnyddio cwestiynau a chynnwys sgyrsiol<\/b><\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae defnyddwyr dulliau chwilio \u00e2 llais yn tueddu i ofyn cwestiynau wrth wneud gorchmynion llais, ac yn aml mae ganddynt fwriad lleol, gan ddefnyddio dyfeisiau symudol i ddod o hyd i fusnesau neu gaffis\/siopau bwyd sydd gerllaw. Trwy gadw\u2019r cynnwys yn sgyrsiol a thrwy gynnwys gwybodaeth am y lleoliad, bydd modd helpu i ateb y cwestiynau cyffredin hyn a sicrhau bod eich cynnwys yn cyd-fynd \u00e2\u2019r ffordd y mae pobl yn chwilio am wybodaeth wrth ddefnyddio dulliau chwilio \u00e2 llais.<\/span><\/p>\n<h3><b>Parhau i fonitro eich cynnwys a\u2019r canlyniadau optimeiddio peiriannau chwilio<\/b><\/h3>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Mae\u2019n bwysig i bob busnes barhau i fod yn gystadleuol pan ddaw hi\u2019n fater o dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio ar \u00f4l i gwsmeriaid chwilio \u00e2 llais. Trwy fynd ati\u2019n rheolaidd i archwilio ac optimeiddio eich gwefan a\u2019ch strategaeth optimeiddio peiriannau chwilio, bydd modd ichi addasu i dueddiadau chwilio newidiol yn unol \u00e2 phrofiadau defnyddwyr.<\/span><\/p>\n<h2><b>Gwella eich sgiliau marchnata a rheoli<\/b><\/h2>\n<p><span style=\"font-weight: 400;\">Os ydych yn weithiwr marchnata proffesiynol sy\u2019n awyddus i ymestyn eich gwybodaeth fusnes a\u2019ch sgiliau arwain yn y byd marchnata a thu hwnt, beth am ystyried astudio<\/span><a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/online-mba-marketing\/?utm_source=google&amp;utm_medium=cpc&amp;utm_campaign=nwms_uk_mba_specialisms_aip&amp;utm_content=mba_marketing_prospecting&amp;utm_term=mba%20marketing&amp;gad_source=1&amp;gclid=Cj0KCQiAst67BhCEARIsAKKdWOlpt6v1UVW0diOcp0b-h-qMWcLuYe400UheQLfA5YjzJR7uQouj9gYaAjBaEALw_wcB\"> <span style=\"font-weight: 400;\">gradd MBA Marchnata, a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gydag Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">. Mae\u2019r cwrs hyblyg hwn yn defnyddio cynnwys a gaiff ei arwain gan y diwydiant ac sy\u2019n elwa ar gysylltiadau cryf \u00e2 busnesau, ac mae\u2019n adlewyrchu statws Wrecsam fel prifysgol sy\u2019n canolbwyntio ar yrfaoedd a phrifysgol sydd ymhlith y goreuon am baratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith. Byddwch yn dysgu am y byd busnes, gan feithrin y sgiliau sy\u2019n angenrheidiol i gyflymu eich gyrfa fel uwch-farchnatwr. Bydd eich arbenigedd newydd yn cwmpasu meysydd hollbwysig yn ymwneud \u00e2 marchnata, yn cynnwys ymddygiad defnyddwyr, cyfathrebu integredig, marchnata strategol ac arloesi. Hefyd, byddwch yn dysgu am ddisgyblaethau hollbwysig eraill yn cynnwys Cyllid a Rheoli Adnoddau Dynol. Dyma gwrs rhan-amser, hollol hyblyg a gyflwynir dros ddwy flynedd, felly bydd modd ichi astudio ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw le. Ceir chwech o ddyddiadau dechrau bob blwyddyn, felly gallwch ddechrau astudio o fewn wythnosau.<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae technoleg chwilio \u00e2 llais wedi chwyldroi\u2019r modd y defnyddiwn dechnoleg ddigidol. Mae cynorthwywyr rhithwir wedi bod o gwmpas ers degawd a mwy \u2013 lansiwyd Siri gan Apple yn 2010 a lansiodd Google ddull chwilio \u00e2 llais yn fuan wedyn, ac o fewn dim cafwyd seinyddion clyfar fel Alexa Amazon, a gyflwynwyd yn 2014. Bob &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":17220,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,64,63],"tags":[],"class_list":["post-17222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-marketing-cy","category-mba-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.1.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae technoleg chwilio \u00e2 llais wedi chwyldroi\u2019r modd y defnyddiwn dechnoleg ddigidol. Mae cynorthwywyr rhithwir wedi bod o gwmpas ers degawd a mwy \u2013 lansiwyd Siri gan Apple yn 2010 a lansiodd Google ddull chwilio \u00e2 llais yn fuan wedyn, ac o fewn dim cafwyd seinyddion clyfar fel Alexa Amazon, a gyflwynwyd yn 2014. Bob &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2025-03-19T21:55:18+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-03-19T21:55:36+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais\",\"datePublished\":\"2025-03-19T21:55:18+00:00\",\"dateModified\":\"2025-03-19T21:55:36+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\"},\"wordCount\":1073,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Marketing\",\"MBA\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\",\"name\":\"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg\",\"datePublished\":\"2025-03-19T21:55:18+00:00\",\"dateModified\":\"2025-03-19T21:55:36+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"student-using-voice-assistant-search\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae technoleg chwilio \u00e2 llais wedi chwyldroi\u2019r modd y defnyddiwn dechnoleg ddigidol. Mae cynorthwywyr rhithwir wedi bod o gwmpas ers degawd a mwy \u2013 lansiwyd Siri gan Apple yn 2010 a lansiodd Google ddull chwilio \u00e2 llais yn fuan wedyn, ac o fewn dim cafwyd seinyddion clyfar fel Alexa Amazon, a gyflwynwyd yn 2014. Bob &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2025-03-19T21:55:18+00:00","article_modified_time":"2025-03-19T21:55:36+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais","datePublished":"2025-03-19T21:55:18+00:00","dateModified":"2025-03-19T21:55:36+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/"},"wordCount":1073,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg","articleSection":["Erthyglau","Marketing","MBA"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/","name":"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg","datePublished":"2025-03-19T21:55:18+00:00","dateModified":"2025-03-19T21:55:36+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/03\/student-using-voice-assistant-search.jpg","width":800,"height":300,"caption":"student-using-voice-assistant-search"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/gwneud-yn-fawr-o-farchnata-chwilio-a-llais\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Gwneud yn fawr o farchnata chwilio \u00e2 llais"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=17222"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/17222\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/17220"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=17222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=17222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=17222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}