{"id":1295,"date":"2022-11-02T15:06:19","date_gmt":"2022-11-02T15:06:19","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1295"},"modified":"2023-08-15T17:01:02","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:02","slug":"ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud."},"content":{"rendered":"<p>Mae niwrowyddoniaeth yn wyddoniaeth amlddisgyblaethol sy&#8217;n archwilio&#8217;r system nerfol \u2013 gan ganolbwyntio ar yr ymennydd yn bennaf. Mae astudio\u2019r system nerfol yn dod \u00e2 nifer amrywiol o ddisgyblaethau academaidd ynghyd, o fioleg a seicoleg, i gyfrifiadureg ac ystadegau. Mae\u2019n agor nifer diddiwedd o feysydd i\u2019w harchwilio ac ymchwilio ymhellach.<\/p>\n<p>Niwrowyddonwyr yw&#8217;r rhai sy&#8217;n arbenigo ym maes niwrowyddoniaeth. Maent yn astudio&#8217;r ymennydd a\u2019r system nerfol i ddeall ei strwythur, ei swyddogaeth, sut mae&#8217;n datblygu a sut mae&#8217;n gweithio yn well. Mae&#8217;r system nerfol yn gymhleth gan ei bod yn cynnwys celloedd sy&#8217;n cario negeseuon rhwng yr ymennydd a gweddill y corff. Mae dwy brif ran iddi:<\/p>\n<ol>\n<li>Y system nerfol ganolog, sy&#8217;n cynnwys y llinyn asgwrn cefn a&#8217;r ymennydd.<\/li>\n<li>Y system nerfol ymylol, sy&#8217;n cynnwys y nerfau a&#8217;r celloedd sydd wedi eu lledaenu trwy\u2019r corff ac yn cyfathrebu&#8217;n \u00f4l i&#8217;r system nerfol ganolog trwy synapsau.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Gall niwrowyddonwyr weithio mewn diwydiant, gan gynnal arbrofion labordy yn defnyddio samplau o gelloedd a meinweoedd a datblygu meddyginiaethau newydd i drin a rheoli cyflyrau niwrolegol. Mae rhai yn ymwneud yn uniongyrchol \u00e2 diagnosio a thrin cleifion, ac fe&#8217;u gelwir fel arfer yn niwrolegwyr. Fel arfer fodd bynnag, mae niwrowyddonwyr yn canolbwyntio&#8217;n bennaf ar ymchwil niwrowyddoniaeth. Gall hyn gynnwys gwaith academaidd a gwaith labordy, ysgrifennu erthyglau ymchwil a datblygu ymchwiliadau i feysydd pwysig niwrowyddoniaeth megis:<\/p>\n<ul>\n<li>Anhwylderau a chlefydau niwrolegol, megis clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, tiwmorau ar yr ymennydd, epilepsi, a ffitiau.<\/li>\n<li>Anafiadau i&#8217;r ymennydd, gan gynnwys sut mae niwed neu anaf yn effeithio ar wahanol rannau o&#8217;r ymennydd, a&#8217;r ffordd orau o gefnogi atgyweirio a gwella.<\/li>\n<li>Sut mae\u2019r ymennydd yn dysgu.<\/li>\n<li>Canfyddiadau poen yn yr ymennydd.<\/li>\n<li>Meysydd niwrowahaniaethol, megis dyslecsia a chyflwr ADHD.<\/li>\n<li>Syndrom Downs.<\/li>\n<li>Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).<\/li>\n<li>Caethiwed i sylwedd.<\/li>\n<li>Iechyd meddwl a salwch meddwl.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Oherwydd ehangder niwrowyddoniaeth mae gan niwrowyddonwyr yr opsiwn i arbenigo yn un o&#8217;r is-feysydd.<\/p>\n<h2>Meysydd Niwrowyddoniaeth<\/h2>\n<h3>Niwroseicoleg<\/h3>\n<p>Mae niwroseicoleg yn gyfuniad o niwrowyddoniaeth a seicoleg. Mae&#8217;n astudio&#8217;r ymennydd a gweddill y system nerfol, yn ogystal \u00e2&#8217;u cysylltiad ag ymddygiad a gwybyddiaeth pobl.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth ddatblygiadol<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth datblygiadol yn ystyried sut mae&#8217;r system nerfol yn ffurfio, yn tyfu ac yn newid. Mae ganddo hefyd gysylltiadau \u00e2 niwroplastigedd, neu blastigrwydd yr ymennydd sy&#8217;n ystyried sut mae rhwydweithiau niwral yn newid trwy dwf ac ad-drefnu.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth wybyddol<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth wybyddol yn astudio swyddogaethau&#8217;r ymennydd fel meddwl, datrys problemau, cof ac iaith.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth gellog a moleciwlaidd<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth gellog a niwrowyddoniaeth foleciwlaidd yn archwilio niwronau ar lefel gellog, ac yn astudio genynnau, proteinau, peptidau, derbynyddion, a moleciwlau eraill sy&#8217;n arwain gweithrediad niwronau. Mae gan y meysydd hyn gysylltiadau \u00e2 bioleg foleciwlaidd, bioleg celloedd, genomeg, a niwrobioleg.<\/p>\n<h3>Niwroanatomeg<\/h3>\n<p>Mae niwroanatomeg yn ystyried anatomeg meinwe nerfol, yn ogystal \u00e2&#8217;r strwythurau niwral a&#8217;r mecanweithiau niwral o fewn y system nerfol.<\/p>\n<h3>Niwrogeneteg<\/h3>\n<p>Mae neurogeneteg yn ymchwilio i nodweddion niwral etifeddol ac anhwylderau niwrolegol. Mae&#8217;n rhan hanfodol o ddeall clefydau genetig sy&#8217;n effeithio ar y system nerfol.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth ymddygiadol<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth ymddygiadol yn archwilio&#8217;r berthynas rhwng yr ymennydd dynol a sut mae pobl yn ymddwyn. Mae hefyd yn archwilio&#8217;r un berthynas mewn anifeiliaid.<\/p>\n<h3>Niwroffisioleg<\/h3>\n<p>Mae niwroffisioleg yn ystyried swyddogaeth y system nerfol yn hytrach na&#8217;i phensaern\u00efaeth neu strwythur.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth synhwyraidd<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth synhwyraidd yn archwilio&#8217;r berthynas rhwng y system nerfol a systemau synhwyraidd y corff.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth esblygiadol<\/h3>\n<p>Fe&#8217;i gelwir hefyd yn niwroesblygiad. Mae niwrowyddoniaeth esblygiadol yn ystyried esblygiad y system nerfol, ac mae ganddi gysylltiadau \u00e2 niwrowyddoniaeth a bioleg esblygiadol. Mae niwrowyddonwyr esblygiadol yn chwilio am newidiadau mewn genynnau, anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad dros amser. Mae hyn yn arbennig mewn meysydd fel yr amygdala, blaen yr ymennydd, serebelwm ac ardaloedd cortigol yr ymennydd sydd wedi&#8217;u lleoli yn y cortecs cerebral.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth gyfrifiadol<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth gyfrifiadol yn cyfuno modelu mathemategol a chyfrifiadureg i ddeall cymhlethdod systemau niwral a gweithgaredd yr ymennydd yn well. Defnyddir modelau cyfrifiannol i ddyblygu\u2019r systemau hyn, gan ymchwilio i\u2019w dylanwad ar swyddogaethau megis cyfathrebu ac ymddygiad, yn ogystal ag ateb cwestiynau am sut mae\u2019r ymennydd yn prosesu gwybodaeth.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth glinigol<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth glinigol yn cymhwyso ymchwil niwrowyddoniaeth mewn lleoliadau clinigol. Mae niwrolegwyr clinigol yn trin nifer o anhwylderau niwrolegol gan gynnwys anhwylderau datblygiadol, dirywiol a seiciatrig. Maent hefyd yn datblygu therap\u00efau a dulliau newydd ar gyfer cleifion gan ddefnyddio ymchwil mewn niwroleg, seiciatreg, ffarmacoleg a disgyblaethau perthnasol eraill.<\/p>\n<h3>Niwrowyddoniaeth systemau<\/h3>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth systemau yn ystyried cylchedau niwral a systemau synaptig. Mae\u2019n archwilio sut mae celloedd nerfol a chelloedd yr ymennydd yn ymddwyn o fewn rhwydweithiau niwral.<\/p>\n<h2>Beth yw manteision bod yn niwrowyddonydd?<\/h2>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth yn faes gwerth chweil sy&#8217;n cynnig cyfle gwirioneddol i ddatblygu ymchwil i&#8217;r ymennydd a newid bywydau. Mae mwy na 600 o glefydau niwrolegol wedi\u2019u cofnodi, ac mae\u2019r Gynghrair Niwrolegol wedi datgan bod mwy na 14.7 miliwn o achosion niwrolegol yn Lloegr yn unig sy\u2019n golygu y gall niwrowyddonwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol.<\/p>\n<p>O ystyried natur amlddisgyblaethol a chydweithredol niwrowyddoniaeth, mae gan niwrowyddonwyr hefyd yr hyblygrwydd i gyfuno eu hymchwil \u00e2 sawl disgyblaeth academaidd arall. Gallant wneud enw iddynt eu hunain wrth weithio i ddatblygu triniaethau meddygol ar gyfer anhwylderau niwrolegol a chlefydau &#8211; mae hyn yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i&#8217;r boblogaeth fyd-eang heneiddio a&#8217;r galw am ddatblygiadau mewn ymchwil niwrolegol gynyddu.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r swyddi mwyaf cyffredin i niwrowyddonwyr?<\/h2>\n<p>Mae niwrowyddonwyr yn canolbwyntio&#8217;n bennaf ar brosiectau ymchwil. Mae nifer yn gweithio yn y byd academaidd gan gynnwys ymchwil ac addysgu academaidd.<\/p>\n<p>Mae yna yrfaoedd y tu allan i&#8217;r byd academaidd hefyd. Yn \u00f4l Prospects UK, mae cyfleoedd i niwrowyddonwyr mewn:<\/p>\n<ul>\n<li>gwyddorau clinigol.<\/li>\n<li>biotechnoleg ac ymchwil cytundebol.<\/li>\n<li>datblygiadau fferyllol a chyffuriau.<\/li>\n<li>niwroseicoleg.<\/li>\n<li>niwroddelweddu neu ddelweddu&#8217;r ymennydd.<\/li>\n<li>materion rheoleiddio, yn ogystal \u00e2 gweinyddiaeth polisi ac ymchwil.<\/li>\n<li>cyfathrebu gwyddonol ac ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae cyflogwyr yn cynnwys prifysgolion ac adrannau&#8217;r llywodraeth, yn ogystal \u00e2 sefydliadau mawr fel y GIG, <u>Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol<\/u> (NIH) neu ddiwydiannau fferyllol neu fwyd.<\/p>\n<h2>A yw niwrowyddonwyr yn cael eu talu&#8217;n dda?<\/h2>\n<p>Mae Prospects UK yn amlinellu tair ystod gyflog wahanol ar gyfer niwrowyddonwyr:<\/p>\n<ul>\n<li>Gall cynorthwywyr ymchwil ym maes niwrowyddoniaeth ennill rhwng \u00a325,000 a \u00a335,000 y flwyddyn.<\/li>\n<li>Mae cyflogau cychwynnol ymchwilwyr \u00f4l-ddoethurol rhwng \u00a332,000 a \u00a345,000 y flwyddyn.<\/li>\n<li>Mae niwrowyddonwyr profiadol ac uwch yn ennill cyflogau o \u00a350,000 i \u00a360,000 neu fwy y flwyddyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Swyddi eraill sydd ar gael trwy niwrowyddoniaeth<\/p>\n<p>Mae niwrowyddoniaeth yn agor ystod amrywiol o gyfleoedd y tu allan i rolau niwrowyddonwyr. Er enghraifft, yn \u00f4l LinkedIn gall cefndir mewn niwrowyddoniaeth arwain at rolau fel:<\/p>\n<ul>\n<li>Technegydd labordy.<\/li>\n<li>Cynorthwyydd ymchwil.<\/li>\n<li>Therapydd corfforol.<\/li>\n<li>Addysgwr iechyd.<\/li>\n<li>Prosthetydd.<\/li>\n<li>Ceiropractydd.<\/li>\n<li>Awdiolegydd.<\/li>\n<li>Seicolegydd clinigol.<\/li>\n<li>Optometrydd.<\/li>\n<li>Niwrolegydd.<\/li>\n<li>Deintydd.<\/li>\n<li>Niwrolawfeddyg.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Beth yw&#8217;r gwahaniaeth rhwng niwrowyddoniaeth a seicoleg?<\/h2>\n<p>Mae cysylltiad agos rhwng seicoleg a niwrowyddoniaeth. Ond mae un &#8211; seicoleg &#8211; yn canolbwyntio ar y meddwl ac ymddygiadau dynol, tra bod y llall &#8211; niwrowyddoniaeth &#8211; yn canolbwyntio ar yr ymennydd corfforol a gweddill y system nerfol.<\/p>\n<h2>Fodd bynnag, mae yna rai sy&#8217;n gwneud y ddau: mae niwroseicolegwyr yn archwilio&#8217;r berthynas rhwng yr ymennydd corfforol ac ymddygiad dynol.<\/h2>\n<p>Dyfnhau eich dealltwriaeth o niwrowyddoniaeth a seicoleg<\/p>\n<p>Trowch eich angerdd am seicoleg yn yrfa drwy&#8217;r MSc Seicoleg o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, rhan o Brifysgol Wrecsam.<\/p>\n<p>Addysgir y radd meistr hyblyg hon yn gyfan gwbl ar-lein, ac mae&#8217;n cynnwys modiwl allweddol mewn niwrowyddoniaeth. Mae\u2019n rhoi trosolwg o systemau gwybyddol a niwrolegol, a&#8217;r canlyniad yn dilyn aflonyddwch, anafiadau a thriniaeth. Mae\u2019r cynnwys yn rhychwantu egwyddorion a thybiaethau craidd niwroseicolegol, ac yn ymdrin \u00e2 safbwyntiau cyfoes ar systemau ac anhwylderau niwrolegol allweddol y gellir dod ar eu traws yn ymarferol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae niwrowyddoniaeth yn wyddoniaeth amlddisgyblaethol sy&#8217;n archwilio&#8217;r system nerfol \u2013 gan ganolbwyntio ar yr ymennydd yn bennaf. Mae astudio\u2019r system nerfol yn dod \u00e2 nifer amrywiol o ddisgyblaethau academaidd ynghyd, o fioleg a seicoleg, i gyfrifiadureg ac ystadegau. Mae\u2019n agor nifer diddiwedd o feysydd i\u2019w harchwilio ac ymchwilio ymhellach. Niwrowyddonwyr yw&#8217;r rhai sy&#8217;n arbenigo ym &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1294,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,33],"tags":[],"class_list":["post-1295","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-psychology-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud. - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud. - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae niwrowyddoniaeth yn wyddoniaeth amlddisgyblaethol sy&#8217;n archwilio&#8217;r system nerfol \u2013 gan ganolbwyntio ar yr ymennydd yn bennaf. Mae astudio\u2019r system nerfol yn dod \u00e2 nifer amrywiol o ddisgyblaethau academaidd ynghyd, o fioleg a seicoleg, i gyfrifiadureg ac ystadegau. Mae\u2019n agor nifer diddiwedd o feysydd i\u2019w harchwilio ac ymchwilio ymhellach. Niwrowyddonwyr yw&#8217;r rhai sy&#8217;n arbenigo ym &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-11-02T15:06:19+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:02+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud.\",\"datePublished\":\"2022-11-02T15:06:19+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:02+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/\"},\"wordCount\":1287,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Psychology\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/\",\"name\":\"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud. - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg\",\"datePublished\":\"2022-11-02T15:06:19+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:02+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/11\\\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Two neuroscientists looking at brain scans on a screen\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud.\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud. - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud. - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae niwrowyddoniaeth yn wyddoniaeth amlddisgyblaethol sy&#8217;n archwilio&#8217;r system nerfol \u2013 gan ganolbwyntio ar yr ymennydd yn bennaf. Mae astudio\u2019r system nerfol yn dod \u00e2 nifer amrywiol o ddisgyblaethau academaidd ynghyd, o fioleg a seicoleg, i gyfrifiadureg ac ystadegau. Mae\u2019n agor nifer diddiwedd o feysydd i\u2019w harchwilio ac ymchwilio ymhellach. Niwrowyddonwyr yw&#8217;r rhai sy&#8217;n arbenigo ym &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-11-02T15:06:19+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:02+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud.","datePublished":"2022-11-02T15:06:19+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:02+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/"},"wordCount":1287,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg","articleSection":["Erthyglau","Psychology"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/","name":"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud. - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg","datePublished":"2022-11-02T15:06:19+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:02+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/Two-neuroscientists-looking-at-brain-scans-on-a-screen.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Two neuroscientists looking at brain scans on a screen"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/ydych-chin-ystyried-gyrfa-ym-myd-niwrowyddoniaeth-dyma-beth-mae-niwrowyddonydd-yn-ei-wneud\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Ydych chi\u2019n ystyried gyrfa ym myd niwrowyddoniaeth? Dyma beth mae niwrowyddonydd yn ei wneud."}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1295","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1295"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1295\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1294"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1295"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1295"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1295"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}