{"id":1280,"date":"2022-09-28T10:39:26","date_gmt":"2022-09-28T09:39:26","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1280"},"modified":"2023-08-15T17:01:03","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:03","slug":"beth-yw-technolegau-dysgu-digidol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/","title":{"rendered":"Beth yw technolegau dysgu digidol?"},"content":{"rendered":"<p>Bu i bandemig y coronafeirws arwain at gau nifer sylweddol o sefydliadau addysg ar sail dros dro yn fyd-eang, <a href=\"https:\/\/www.unesco.org\/en\/covid-19\/education-response\">gan effeithio ar fwy nag 1.5 biliwn o fyfyrwyr<\/a>. Ers hynny, mae\u2019r symudiad at e-ddysgu wedi bod yn un cyflym, ac yn sydyn, ystyrir fod dulliau dysgu technolegol yn angenrheidiol.<\/p>\n<p>Mae technolegau dysgu digidol yn rhai sy\u2019n cefnogi\u2019r broses o ddigideiddio\u2019r profiad dysgu, a hwyluso symudiad ar-lein. Yn \u00f4l y diffiniad, mae technolegau dysgu yn cynnwys unrhyw gyfathrebiad, gwybodaeth ac adnoddau technegol sy\u2019n hwyluso addysgu, datblygu ac asesu gwell.<\/p>\n<p>Mae caledwedd cyfrifiadurol (megis byrddau gwyn rhyngweithiol a llechi yn y dosbarth), meddalwedd (o ffrydio i gemeiddio), a theor\u00efau ac ymarferion addysgol (gan gynnwys dysgu gydol oes neu ddysgu nano), a gwelliannau i dechnolegau dysgu yn parhau i drawsnewid ein tirwedd addysgol.<\/p>\n<p>Dros y degawd diwethaf, mae technolegau newydd wedi cael eu hymgorffori mewn dosbarthiadau ym mhedwar ban byd. Mae\u2019r cyfuniad hwn o adnoddau TG a dulliau dysgu newydd, sy\u2019n aml yn cael ei alw yn \u2018<a href=\"https:\/\/builtin.com\/edtech\">edtech<\/a>\u2019, wedi cael effaith fawr iawn, gan gyfrannu at brofiad addysgol mwy cyffrous, cynhwysol ac addysgol &#8211; ac mae ein symudiad blaengar tuag at yr elfen ddigidol yn ystod y pandemig <a href=\"https:\/\/www.weforum.org\/agenda\/2022\/06\/online-learning-higher-education-covid-19\/\">hefyd wedi amlygu\u2019r manteision<\/a>.<\/p>\n<p>O\u2019r weminar syml i\u2019r dosbarth rhithwir cynhwysol, i ficro-gyrsiau, gemeiddio a hyd yn oed realiti estynedig, mae technolegau dysgu digidol yn arwain y ffordd at ddulliau mwy fforddiadwy, hyblyg, hygyrch ac sy\u2019n canolbwyntio ar ddisgyblion o ran hyfforddiant a datblygiad.<\/p>\n<h2>Enghreifftiau allweddol o dechnolegau dysgu digidol<\/h2>\n<p>Gan hwyluso dysgu wyneb yn wyneb, dysgu o bell a dysgu cyfunol, dyma rai enghreifftiau craidd o\u2019r moddau, dulliau a ffurfiau o dechnolegau sy\u2019n gwella ein mannau gwaith a\u2019n dosbarthiadau.<\/p>\n<h3>Dysgu symudol ac apiau<\/h3>\n<p>Mae dros<a href=\"https:\/\/www.bankmycell.com\/blog\/how-many-phones-are-in-the-world\"> 80% o\u2019r byd yn berchen ar ff\u00f4n clyfar<\/a>, ac mae defnyddio dyfeisiau symudol yn sicrhau bod dysgu ar-lein yn parhau i fod yn ystwyth, cyfleus a\u2019i ymestyn i fannau y tu hwnt i\u2019r dosbarth.<\/p>\n<p>Daw dysgu symudol, neu <em>\u201cm-learning\u201d<\/em> i\u2019r amlwg mewn sawl ffurf, o bodlediadau i apiau, gan ddarparu gwybodaeth mewn pytiau neu \u2018sesiynau\u2019. Mae\u2019r darparwr cyrsiau e-ddysgu poblogaidd, Udemy, yn enghraifft dda iawn, gan gyfuno cyrsiau dan arweiniad arbenigwyr ag aseiniadau ac asesiadau rhyngweithiol drwy ap dynodedig.<\/p>\n<p>Drwy ddefnyddio dysgu symudol, gall gweithwyr baratoi ar gyfer eu diwrnod cyntaf yn y gwaith heb orfod camu ar yr eiddo &#8211; ac mae diwydiannau megis manwerthu, lletygarwch ac adeiladu yn defnyddio technolegau dysgu digidol i gefnogi ymsefydlu, cyflawni hyfforddiant cydymffurfiaeth a chynnyrch a monitro perfformiad.<\/p>\n<p>Mewn dosbarthiadau, mae platfformau cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau ar-lein megis Google Drive a Dropbox yn cael eu defnyddio i alluogi athrawon a myfyrwyr i edrych ar waith mewn modd cydamserol (ar yr un pryd) ac anghydamserol (ar adegau gwahanol) drwy gydol y diwrnod dysgu.<\/p>\n<h3>Gemeiddio<\/h3>\n<p>Mae gemeiddio yn farchnad sy\u2019n tyfu\u2019n hynod gyflym, ac mae disgwyl iddo <a href=\"https:\/\/uk.finance.yahoo.com\/news\/global-gamification-market-size-expected-140400848.html\">gyrraedd dros 58 biliwn o ddoleri UDA erbyn 2028<\/a>.<\/p>\n<p>Mae cysyniadau gemeiddio, sy\u2019n seiliedig ar gydnabyddiaeth a gwobrwyo (dau ffactor allweddol o ran cymhelliant i fyfyrwyr a gweithwyr), yn ymgorffori cydrannau a nodweddion traddodiadol gemau &#8211; megis pwyntiau, bathodynnau, tablau arweinwyr, heriau wedi\u2019u hamseru a lefelau &#8211; i gyd-destunau y tu hwnt i gemau.<\/p>\n<p>Ceir graddfeydd i\u2019r ymyrraeth a chyfranogiad cynyddol er mwyn dwysau dysgu\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan, gan ysgogi cystadleuaeth gyfeillgar, gwella cysylltedd cymdeithasol a chymell cyflawniad academaidd.<\/p>\n<h3>Dosbarthiadau rhithwir<\/h3>\n<p>Nod systemau rheoli dysgu (LMS) megis <a href=\"https:\/\/moodle.org\/\">Moodle<\/a> yw efelychu hyfforddiant wyneb yn wyneb, gan greu profiad dysgu sy\u2019n cyfuno rhyngweithio fel gr\u0175p a darparu cynnwys ar-lein. O diwtorialau fideo, gweithgareddau a chwisiau, i ystafelloedd grwpiau bach a mannau cymdeithasol, mae dosbarthiadau rhithwir yn efelychu\u2019r profiad mewn dosbarth go iawn.<\/p>\n<p>Mae platfformau megis Padlet a Jamboard wedi dod yn gynyddol boblogaidd, gan feithrin sgiliau creadigol a chydweithio rhwng cyfoedion a chan gynnwys nodweddion megis mapiau cysyniadau, darlunio a nodiadau <em>post-it<\/em>. Ar y llaw arall, mae Flipgrid yn ddatrysiad dysgu fideo gan Microsoft sy\u2019n galluogi athrawon i weld, clywed a chael adborth byw gan bob dysgwr yn y dosbarth.<\/p>\n<h3>Deallusrwydd artiffisial (AI)<\/h3>\n<p>Gan greu llwybr sy\u2019n arwain at brofiad dysgu mwy personol, gellid cymhwyso deallusrwydd artiffisial i fonitro perfformiad unigol, asesu anghenion a diddordebau dysgwyr unigol, ac addasu i ddarparu cynnwys perthnasol sy\u2019n cefnogi addysg bellach.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.businesswire.com\/news\/home\/20210120005015\/en\/Higher-Ground-Education-Acquires-Altitude-Learning-LMS-to-Accelerate-%E2%80%98Montessori-Everywhere%E2%80%99-Mission\">Altitude Learning<\/a> (system sy\u2019n cael ei hariannu\u2019n rhannol gan Facebook) yn defnyddio AI i awgrymu llwybrau dysgu personol i blant, ac mae cynorthwywyr digidol personol megis <a href=\"https:\/\/www.fenews.co.uk\/skills\/meet-merlyn-the-world-s-first-digital-assistant-for-teachers\/\">Merlyn<\/a> wedi cael eu dylunio i helpu athrawon reoli\u2019r dosbarth.<\/p>\n<p>Ymysg enghreifftiau mwy unigryw mae algorithmau <u>\u2019<\/u>wediu datblygu i sgorio papurau, gwneud y mwyaf o adnoddau ac arbed amser addysgwyr &#8211; a meddalwedd fel Smart Eye, sy\u2019n defnyddio technoleg adnabod wynebau i <u>\u2018\u2019wneud yn si\u0175r bod myfyrwyr yn talu sylw<\/u>.<\/p>\n<p>Er nad ydyn nhw\u2019n hynod gyffredin eto, mae\u2019r technolegau hyn yn bendant yn arddangos capasiti digideiddio, ac yn taflu golau ar sut gallai ein hamgylcheddau dysgu edrych yn y dyfodol.<\/p>\n<h2>Tueddiadau technoleg dysgu digidol newydd yn 2022<\/h2>\n<p>Mae technolegau newydd yn parhau i lywio\u2019r ffyrdd rydyn ni\u2019n gweithio ac yn dysgu, ac mae <a href=\"https:\/\/www.forbes.com\/sites\/bernardmarr\/2022\/02\/18\/the-five-biggest-education-and-training-technology-trends-in-2022\/?sh=6cfa8b872f4d\">Forbes yn nodi bod tueddiadau newydd rhaglenni dysgu digidol<\/a> yn rhai sy\u2019n cefnogi dysgu gydol oes, dysgu trochol a nano-ddysgu.<\/p>\n<h3>Technolegau dysgu gydol oes<\/h3>\n<p>Rhaid i\u2019r ffordd rydyn ni\u2019n addysgu myfyrwyr heddiw barhau i adlewyrchu\u2019r dirwedd gyflogaeth bresennol.<\/p>\n<p>Mae cyflymder gwelliannau technolegol yn gofyn i gymwyseddau penodol gael eu disodli\u2019n gyflym er mwyn ateb y galw o ran busnes. Mewn gwirionedd, roedd adroddiad o 2018 a gyflwynwyd <a href=\"https:\/\/www.weforum.org\/reports\/the-future-of-jobs-report-2018\">gan Fforwm Economaidd y Byd yn amcangyfrif y bydd<\/a> 54% o swyddi yn gofyn am ail-sgilio neu uwch-sgilio &#8211; gan gyflwyno achos cryf dros ddysgu gydol oes.<\/p>\n<p>Yn hynny o beth, mae angen i ddysgwyr fod yn ystwyth ac yn barod i newid; does dim disgwyl i fyfyrwyr hyfforddo ar gyfer \u201cswydd am oes\u201d mwyach. Mae\u2019r symudiad tuag at blatfformau gwasanaethau tanysgrifio, micro-gyrsiau ac apiau dysgu symudol yn cefnogi\u2019r alwad hon am addysg barhaus i oedolion.<\/p>\n<h3>Technolegau dysgu trochol<\/h3>\n<p>Gyda ffenestri amser a chapasiti i dalu sylw yn lleihau, mae\u2019r angen am gyfleoedd dysgu cyffrous sydd ar gael ar unwaith yn creu cyfle i dechnolegau realiti estynedig (XR), sy\u2019n cynnwys cyfryngau realiti rhithwir, realiti estynedig a realiti cymysg.<\/p>\n<p>Mae hyfforddiant mewn rhith-amgylcheddau yn meithrin gallu i uwch-sgilio, gwybodaeth brofiadol ac adborth amser go iawn heb gostau, adnoddau dynol na risg, ac mae wedi\u2019i ddefnyddio i hwyluso sawl maes dysgu, o weithdrefnau llawfeddygol i hyfforddiant ymladd.<\/p>\n<h3>Technolegau nano-ddysgu<\/h3>\n<p>Mae fideos hir yn dod yn llai cynaliadwy, gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol cryno eu naws megis Twitter a TikTok yn dod yn ffynhonnell allweddol o gynnwys i lawer o bobl. Mae angen i amgylcheddau dysgu heddiw fod yn gydamserol, yn fodiwlaidd ac yn afaelgar, a hyd yn oed yn rhai sy\u2019n creu tueddiadau o bosibl, er mwyn cystadlu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r achos dros nano-ddysgu yn cefnogi technolegau dysgu digidol fel dosbarthiadau rhithwir ac apiau m-ddysgu, sy\u2019n cynnig gwersi bras a all gael eu hastudio a\u2019u defnyddio dro ar \u00f4l tro. Mae\u2019n debyg y bydd y symudiad tuag at gynnwys cryno a syml y normal newydd ym maes addysg, gyda gwasanaethau negeseuon Testun fel <a href=\"https:\/\/www.arist.co\/\">Arist<\/a> yn cael eu defnyddio i ddarparu pynciau academaidd.<\/p>\n<h2>Beth yw manteision ac anfanteision technolegau dysgu digidol?<\/h2>\n<p>Fel rhai sydd wedi\u2019u geni yn yr oes ddigidol, mae dadleuon sy\u2019n nodi fod myfyrwyr heddiw angen symbyliad delfrydol. Mae llawer iawn o fanteision i dechnolegau dysgu digidol, gan gynnwys rhoi hwb i ymgysylltiad, cymhelliant a chysylltedd cymdeithasol, wrth fod yn addas i sawl arddull dysgu. Ond a yw\u2019r technolegau hyn yn y dosbarth yn tarfu? A ydyn nhw\u2019n addas ar gyfer ein sgiliau talu sylw, sydd ar i lawr, neu a ydyn nhw\u2019n gwneud pethau\u2019n waeth?<\/p>\n<h3>Manteision:<\/h3>\n<h4>1. Mae bod yn ddigidol yn ategu dysgu cynhwysol<\/h4>\n<p>Macro neu ficro, cyfunol neu wrthdro, gweledol neu glywedol &#8211; waeth beth yw arddull dysgu\u2019r myfyriwr, mae technolegau dysgu digidol yn galluogi i ddarpariaeth cynnwys fod yn bersonol, gan fodloni anghenion pob unigolyn. Mae dysgu o bell yn creu dosbarth hygyrch i\u2019r rhai ag anableddau corfforol neu gyfyngiadau ariannol, er enghraifft, wrth roi ymreolaeth i bob myfyriwr dros ei amserlen ddysgu &#8211; dyma\u2019r datrysiad hyblyg i integreiddio hyfforddiant i fywyd bob dydd.<\/p>\n<h4>2. Gwell profiad dysgu<\/h4>\n<p>Nid yn unig y mae cysyniadau digidol megis gemeiddio yn sbarduno hwyl, chwilfrydedd a\u2019r dychymyg, maen nhw hefyd yn cefnogi hyder cynyddol myfyrwyr ac yn creu amgylchedd ble gall dysgwyr roi cynnig ar bethau, methu ac arbrofi heb ofn.<\/p>\n<h4>3. Mae dysgu digidol yn gynaliadwy<\/h4>\n<p>Mae dysgu digidol yn gynaliadwy ym mhob ystyr o\u2019r gair. Bydd technoleg yn parhau, ac wrth i\u2019n dibyniaeth barhau i dyfu, mae\u2019n hanfodol fod dysgwyr ifanc yn dod i arfer \u00e2 dyfeisiau newydd. Mae gweithrediad technolegau dysgu digidol yn gost-effeithiol, yn lleihau adnoddau ffisegol (megis papurau a thaflenni gwaith wedi\u2019u hargraffu), ac yn lleihau\u2019r angen i gymudo &#8211; sy\u2019n golygu ei fod yn well i\u2019r amgylchedd hefyd.<\/p>\n<h3>Anfanteision:<\/h3>\n<h4>1. Diffyg cyswllt cymdeithasol<\/h4>\n<p>Mae chwarae rhyngbersonol a rhyngweithio corfforol yn hanfodol i ddysgu a datblygiad cymdeithasol, yn enwedig ymysg plant. Mae ymyrraeth technoleg yn ychwanegu rhwystrau o ran cysylltiad rhwng cyfoedion, a all wneud i rai deimlo\u2019n ynysig ac yn unig.<\/p>\n<h4>2. Mae\u2019n fewnwthiol<\/h4>\n<p>Roedd dod \u00e2 gwaith adref yn hanfodol yn ystod cyfnodau clo\u2019r pandemig, ond gyda thechnolegau dysgu digidol yn galluogi hyfforddiant parhaus a symudol, nid oes llawer o gyfle i weithwyr neu fyfyrwyr ymlacio ac anghofio am y gwaith neu astudio.<\/p>\n<h4>3. Mae dysgu digidol yn gofyn am sgiliau eraill<\/h4>\n<p>Mae rheoli amser a hunan-gymhelliant yn elfennau hanfodol ar y model dysgu digidol &#8211; ond nid yw plant bach (a rhai myfyrwyr h\u0177n) yn meddu\u2019r sgiliau hyn. Mae dosbarthiadau hybrid a gwersi dysgu cyfunol hefyd yn rhoi straen ar addysgwyr, sydd angen rhoi mwy o ymdrech ac adnoddau i greu cynnwys ar-lein. Mae\u2019n bosibl hefyd nad oes gan rai athrawon yr arbenigedd hwn.<\/p>\n<h2>Profwch b\u0175er dysgu digidol drosoch chi eich hun<\/h2>\n<p>Byddwch yn rhan o\u2019r dirwedd ddysgu sy\u2019n newid yn gyson, gyda chwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/ma-education\/\">MA Addysg<\/a> Ysgol Rheolaeth Gogledd Cymru sydd 100% ar-lein. Bydd y cwrs yn rhoi\u2019r hanfodion addysgu hanfodol i chi er mwyn ymgysylltu, cael effaith a datblygu ymhellach myfyrwyr heddiw.<\/p>\n<p>Mae\u2019r radd yn hollol hyblyg ac yn dilyn model dysgu anghydamserol, ac mae wedi\u2019i dylunio i sicrhau hyblygrwydd llwyr, gan alluogi myfyrwyr i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain, a\u2019u telerau eu hunain.<\/p>\n<p>Gan gyfuno ymarfer myfyriol, astudio damcaniaethol a datblygiad personol, fe fyddwch chi\u2019n astudio modiwlau gan gynnwys meddwl yn feirniadol, mentora a hyfforddi a thechnolegau dysgu, gan eich grymuso gyda\u2019r holl adnoddau, technegau a mewnwelediadau sydd eu hangen arnoch i fwrw ymlaen \u00e2\u2019ch gyrfa fel addysgwr effeithiol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu i bandemig y coronafeirws arwain at gau nifer sylweddol o sefydliadau addysg ar sail dros dro yn fyd-eang, gan effeithio ar fwy nag 1.5 biliwn o fyfyrwyr. Ers hynny, mae\u2019r symudiad at e-ddysgu wedi bod yn un cyflym, ac yn sydyn, ystyrir fod dulliau dysgu technolegol yn angenrheidiol. Mae technolegau dysgu digidol yn rhai &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1279,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[34,20],"tags":[],"class_list":["post-1280","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-education-cy","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth yw technolegau dysgu digidol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth yw technolegau dysgu digidol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Bu i bandemig y coronafeirws arwain at gau nifer sylweddol o sefydliadau addysg ar sail dros dro yn fyd-eang, gan effeithio ar fwy nag 1.5 biliwn o fyfyrwyr. Ers hynny, mae\u2019r symudiad at e-ddysgu wedi bod yn un cyflym, ac yn sydyn, ystyrir fod dulliau dysgu technolegol yn angenrheidiol. Mae technolegau dysgu digidol yn rhai &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-09-28T09:39:26+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth yw technolegau dysgu digidol?\",\"datePublished\":\"2022-09-28T09:39:26+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/\"},\"wordCount\":1813,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg\",\"articleSection\":[\"Education\",\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/\",\"name\":\"Beth yw technolegau dysgu digidol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg\",\"datePublished\":\"2022-09-28T09:39:26+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Hands on a laptop with holograms with education icons on over the top\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth yw technolegau dysgu digidol?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth yw technolegau dysgu digidol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth yw technolegau dysgu digidol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Bu i bandemig y coronafeirws arwain at gau nifer sylweddol o sefydliadau addysg ar sail dros dro yn fyd-eang, gan effeithio ar fwy nag 1.5 biliwn o fyfyrwyr. Ers hynny, mae\u2019r symudiad at e-ddysgu wedi bod yn un cyflym, ac yn sydyn, ystyrir fod dulliau dysgu technolegol yn angenrheidiol. Mae technolegau dysgu digidol yn rhai &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-09-28T09:39:26+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:03+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth yw technolegau dysgu digidol?","datePublished":"2022-09-28T09:39:26+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/"},"wordCount":1813,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg","articleSection":["Education","Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/","name":"Beth yw technolegau dysgu digidol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg","datePublished":"2022-09-28T09:39:26+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Hands-on-a-laptop-with-holograms-with-education-icons-on-over-the-top.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Hands on a laptop with holograms with education icons on over the top"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-technolegau-dysgu-digidol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth yw technolegau dysgu digidol?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1280","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1280"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1280\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1279"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1280"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1280"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1280"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}