{"id":1274,"date":"2022-09-28T10:16:42","date_gmt":"2022-09-28T09:16:42","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1274"},"modified":"2023-08-15T17:01:03","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:03","slug":"beth-yw-dysgu-gwybyddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/","title":{"rendered":"Beth yw dysgu gwybyddol?"},"content":{"rendered":"<p>Pan fydd dealltwriaeth, cof a chymhwyso yn dod at ei gilydd, bydd dysgu gwybyddol yn digwydd. Drwy fanteisio i\u2019r eithaf ar botensial ein meddwl i ganolbwyntio a deall gwybodaeth, mae\u2019n ddull dysgu sydd \u00e2\u2019r nod o wneud y defnydd mwyaf effeithiol o\u2019r ymennydd &#8211; gan arwain at sgiliau datrys problemau gwell, a sgiliau cofio gwybodaeth yn gynt.<\/p>\n<h2>Sut beth yw enghraifft o ddysgu gwybyddol?<\/h2>\n<p>Yn aml, nodir bod <strong>dysgu uniongyrchol <\/strong>ac <strong>anuniongyrchol <\/strong>yn ddwy enghraifft graidd o ddysgu gwybyddol. Mae dysgu uniongyrchol yn cyfeirio at wybodaeth a gaiff ei chaffael drwy ymdrech ymwybodol; ac mae anuniongyrchol yn awgrymu\u2019r gwrthwyneb.<\/p>\n<p>Bob tro y byddwch chi\u2019n weithredol yn ceisio dealltwriaeth neu wybodaeth newydd, rydych chi\u2019n dysgu\u2019n uniongyrchol. Waeth os yw\u2019n ymwneud \u00e2 chyflawni sgil newydd, cofrestru ar gyfer cwrs, neu hyd yn oed cofio parau geiriau, y broses o fynd ar \u00f4l gwybodaeth mean ffordd ymwybodol a phresennol sy\u2019n gwneud dysgu uniongyrchol yn wahanol i ddulliau eraill o ddysgu gwybyddol.<\/p>\n<p>Ar y llaw arall, mae dysgu anuniongyrchol yn llai bwriadol. Mae\u2019n bosibl y bydd y caffaeliad gwybodaeth yn digwydd mewn ffordd fwy goddefol &#8211; neu hyd yn oed drwy gamgymeriad &#8211; megis gwybodaeth a geir drwy sgwrs, neu sgiliau a gaffaelir drwy ailadrodd gweithrediadau dros gyfnod o amser. Mae\u2019r gallu i deipio heb edrych ar fysellfwrdd neu ddysgu cyfeiriadau i leoliad yn enghreifftiau allweddol o ddysgu fel hyn.<\/p>\n<p>Dyma enghreifftiau eraill o ddysgu gwybyddol ar waith:<\/p>\n<h3>Dysgu ystyrlon<\/h3>\n<p>Mae dysgu ystyrlon yn ymwneud \u00e2 chymhwyso a chofio. Mae\u2019r dull dysgu gwybyddol yn nodi \u2013 po fwyaf parod ydyn ni i gymhwyso gwybodaeth newydd i brofiad dysgu blaenorol neu sail dystiolaeth bresennol, y mwyaf y gallwn ni ei dysgu a\u2019i deall. Er enghraifft, deall nodweddion diweddariad newydd adnodd meddalwedd neu ddysgu ffordd newydd o baratoi a choginio gyda chynhwysyn penodol.<\/p>\n<h3>Dysgu darganfod<\/h3>\n<p>Pryd bynnag y byddwn yn dechrau ymchwilio, rydyn ni\u2019n arddangos dysgu darganfod. Mae astudio pynciau, cysyniadau a phrosesau newydd yn defnyddio rhannau ymchwiliadol ein hymennydd. Gallai hyn fod ar ffurf cynnal cyfweliad, cynnal arbrawf neu ddarllen llawlyfr.<\/p>\n<h3>Dysgu derbyngar<\/h3>\n<p>Cymryd rhan mewn darlith, sesiwn hyfforddi neu weminar; dyma rai o brif enghreifftiau dysgu derbyngar. Mae\u2019r dysgu gwybyddol hwn yn digwydd pan fydd siaradwr yn cyflwyno gwybodaeth newydd ar bwnc penodol i wrand\u00e4wr gweithredol.<\/p>\n<h3>Dysgu di-gysylltiadol<\/h3>\n<p>Elfen allweddol ar ddysgu di-gysylltiadol yw amser. Mae\u2019r dull dysgu hwn, sydd hefyd yn cael ei alw\u2019n cynefino a sensiteiddio, yn digwydd drwy addasu i wybodaeth newydd pan fydd y ffynhonnell yn dod i\u2019r amlwg.<\/p>\n<p>Mae gwybodaeth synhwyrol yn ddull da o ddangos dysgu di-gysylltiadol &#8211; waeth os yw\u2019n ymwybyddiaeth gynyddol o ff\u00f4n yn canu mewn swyddfa (enghraifft o sensiteiddio) neu ddod i arfer yn raddol ar s\u0175n uchel peiriant (enghraifft o gynefino) nes ei fod yn y cefndir.<\/p>\n<h3>Dysgu emosiynol<\/h3>\n<p>Mae dysgu emosiynol yn nodweddiadol o\u2019n gallu i uniaethu \u00e2\u2019r byd o\u2019n cwmpas a rhyngweithio ag ef. Mae ymwybyddiaeth gymdeithasol a sgiliau hunan-reoli yn elfennau allweddol ar y math hwn o ddysgu, tra bod y gallu i arddangos empathi, cyfathrebu a chydweithio\u2019n effeithiol ac ystyried sefyllfa o safbwyntiau eraill oll yn enghreifftiau o ddysgu emosiynol ar waith.<\/p>\n<h3>Dysgu trwy brofiad<\/h3>\n<p>Mae dysgu trwy wneud wrth wraidd dysgu trwy brofiad. Caiff ei gategoreiddio yn ddull \u201cymarferol\u201d. Yn \u00f4l y seicolegydd, David Kolb, mae\u2019r math hwn o ddysgu <a href=\"https:\/\/www.simplypsychology.org\/learning-kolb.html\">yn digwydd trwy gylch gwybyddol sy\u2019n cynnwys pedwar cam<\/a>: (1) mae gan unigolyn brofiad uniongyrchol, ac yna (2) sylwad\/myfyrio ar y profiad hwnnw sy\u2019n arwain at (3) ffurfio cysyniadau haniaethol (dadansoddiad) a chyffredinoli (canfyddiadau) sydd yna\u2019n cael eu (4) defnyddio i brofi damcaniaethau mewn sefyllfaoedd i\u2019r dyfodol, sy\u2019n arwain at brofiadau newydd.<\/p>\n<p>Gall enghreifftiau gynnwys intern yn cysgodi uwch aelod staff, plentyn yn dysgu beicio drwy roi cynnig a methu, neu unigolyn yn tyfu gardd er mwyn dysgu mwy am lystyfiant.<\/p>\n<h3>Dysgu cydweithredol ac ar y cyd<\/h3>\n<p>Gall rhyngweithio ag eraill, yn enwedig mewn lleoliad gwaith neu addysg, arwain atom yn uchafu ein perfformiad. Mae gwaith prosiect yn enghraifft dda. Mae\u2019r broses o chwilio am wiredd a rennir neu wrthrychol drwy negodi yn pwysleisio rhyngweithio cymdeithasol, gan greu lle i gofleidio cryfderau\u2019r gr\u0175p ac unigolion.<\/p>\n<h3>Dysgu arsylwadol<\/h3>\n<p>Mae dysgu arsylwadol, sydd hefyd yn cael ei alw\u2019n \u2018siapio\u2019 neu \u2018fodelu\u2019, yn elfen allweddol ar <a href=\"https:\/\/www.simplypsychology.org\/social-cognitive-theory.html\">theori wybyddol gymdeithasol<\/a>, gan bwysleisio sut gall dysgu ddigwydd mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae\u2019n debyg fod y dull dysgu hwn ar ei amlycaf yn ystod plentyndod, pan fyddwn ni\u2019n gwylio sut mae pobl eraill yn cael eu gwobrwyo neu eu ceryddu am eu hymddygiad, er enghraifft. Mae gwylio arddangosiad o sgil newydd &#8211; ac yna efelychu\u2019r gweithrediadau a ddangoswyd er mwyn caffael y sgil hwnnw &#8211; yn enghraifft o ddysgu arsylwadol.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r gwahanol fathau o ddysgu gwybyddol?<\/h2>\n<p>Mae theori dysgu gwybyddol yn defnyddio metawybyddiaeth &#8211; \u201cmeddwl am feddwl\u201d er mwyn deall sut mae prosesau\u2019r meddwl yn dylanwadu ar ddysgu. Mae seicoleg fodern yn amlinellu dau is-gyfres craidd o theori dysgu gwybyddol: <strong>theori wybyddol gymdeithasol <\/strong>a <strong>theori ymddygiadol wybyddol<\/strong>.<\/p>\n<h3>Theori wybyddol gymdeithasol<\/h3>\n<p>Mae deall cyfraniadau gwybyddol dysgu arsylwadol &#8211; megis cysyniadau, beirniadaethau a chymhelliant &#8211; yn un o elfennau allweddol theori wybyddol gymdeithasol. Trwy ddadansoddi a chydnabod sut mae gweithrediadau ac ymddygiad eraill yn dylanwadu ac yn effeithio ar ein hymddygiad ni, gallwn ddechrau deall sut mae ein hamgylchedd a chymdeithasoli yn cael effaith uniongyrchol ar y ffyrdd rydyn ni\u2019n caffael gwybodaeth.<\/p>\n<p>Cyflwynodd Albert Bandura y safbwynt mwyaf amlwg ar theori wybyddol gymdeithasol, sy\u2019n seiliedig ar gysyniadau craidd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Penderfyniaeth dwyochrog:<\/strong> Yn cyfeirio at y rhyngweithiadau deinamig rhwng unigolyn (gyda\u2019i brofiadau bywyd go iawn a\u2019i gredoau), yr amgylchedd (cyd-destun cymdeithasol allanol) ac ymddygiad (ymatebion i stimwli i gyflawni nodau). Caiff hyn ei ategu gan ffactorau megis hunan-effeithiolrwydd, disgwyliadau deilliannau a hunanwerthuso. Er enghraifft, mae myfyriwr sy\u2019n credu fod ganddo\u2019r gallu i basio arholiad yn fwy tebygol o roi o\u2019i amser ac ymdrech i astudio na myfyrwyr sy\u2019n teimlo na fydd yn gallu llwyddo. Bydd y credoau hyn am eu gallu un ai\u2019n cael eu cadarnhau neu eu gwrthod gan ganlyniad gwirioneddol y prawf. Bydd y profiad hwn yn effeithio ar eu credoau i\u2019r dyfodol a\u2019u hymddygiad o ran astudio.<\/li>\n<li><strong>Atgyfnerthiad positif a negyddol:<\/strong> Mae ymateb mewnol neu allanol i ymddygiad unigolyn (megis cosb, canmoliaeth neu wobr) yn effeithio ar y tebygolrwydd o ailadrodd neu stopio\u2019r ymddygiad. Gall yr atgyfnerthiadau hyn fod yn hunan-gymhellol neu\u2019n deillio o amgylchedd yr unigolyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Caiff y broses ddysgu hon ei hategu gan ffactorau megis <strong>hunan-effeithiolrwydd, disgwyliadau deilliannau <\/strong>a <strong>hunanwerthuso.<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Disgwyliadau:<\/strong> Mae disgwyliadau yn cyfeirio at ddeilliannau a amcangyfrifir o ran ymddygiad &#8211; megis goblygiadau iechyd ar \u00f4l smygu, twyllo mewn prawf ar bwrpas, neu hyfforddi llawer ar gyfer cystadleuaeth. Gall amcangyfrif y deilliannau hyn effeithio ar a fyddwn ni\u2019n cyflawni\u2019r weithred ai peidio. Mae disgwyliadau deilliannau\u2019n seiliedig i raddau helaeth ar brofiadau blaenorol.<\/li>\n<li><strong>Hunan-effeithiolrwydd:<\/strong> Mae hunan-effeithiolrwydd yn cynnwys hyder unigolyn yn ei allu i gyflawni gweithred, a\u2019r rhwystrau, yr hwyluswyr a\u2019r profiadau blaenorol sy\u2019n effeithio ar ei hyder. Yn aml, dywedir fod hunan-effeithiolrwydd yn benodol i dasgau, sy\u2019n golygu y gall pobl deimlo\u2019n hyderus yn eu gallu i gyflawni un dasg, ond nid un arall. Er enghraifft, efallai y bydd myfyriwr yn hyderus yn ei allu i basio arholiad, ond nid felly yn ei allu i wneud ffrindiau &#8211; yn seiliedig ar brofiadau a chredoau blaenorol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r theori hon yn cael ei chymhwyso\u2019n helaeth, o ddeall datblygiad personoliaeth a thrin anhwylderau seicolegol, i lywio rhaglenni hyfforddiant addysgol a sefydliadol, strategaethau hyrwyddo iechyd ac ymgyrchoedd hysbysebu. Ar raddfa fwy gronynnol, mae\u2019r theori yn aml yn arsylwi sut mae pobl yn rheoleiddio eu hymddygiad i ddatblygu tueddiadau yn seiliedig ar dargedau.<\/p>\n<h3>Theori ymddygiadol wybyddol<\/h3>\n<p>Mae\u2019r is-gyfres hwn o theori ymddygiadol gwybyddol yn archwilio sut mae meddyliau, teimladau a gweithredoedd unigolyn &#8211; <u>megis hunanymwybyddiaeth, dyheadau, chwilfrydedd a bregusrwydd <\/u>&#8211; yn dylanwadu\u2019r ffordd maen nhw\u2019n dysgu. Mae\u2019n theori allweddol o ran deall sut gall ein patrymau a\u2019n meddylfryd effeithio ar y ffordd rydyn ni\u2019n deall gwybodaeth, megis y <u>cysylltiad rhwng cymhelliant i ddysgu a chof gwybyddol.<\/u><\/p>\n<h2>Beth yw manteision dysgu gwybyddol?<\/h2>\n<p>Mae effeithiau positif dulliau dysgu gwybyddol yn bellgyrhaeddol, gan roi hwb i hyder unigolyn i gyflawni tasgau newydd, gwella sgiliau datrys problemau a gwella swyddogaethau gwybyddol allweddol megis dealltwriaeth a chofio gwybodaeth.<\/p>\n<p>At hynny, mae dysgu gwybyddol yn darparu strwythur hanfodol ar gyfer dysgu gydol oes, gan annog meddwl yn haniaethol, meithrin creadigrwydd ac arloesedd, a grymuso dysgwyr gyda\u2019r sgiliau cymhwyso sydd eu hangen i wella eu sail dystiolaeth sy\u2019n\u00a0 datblygu\u2019n gyson.<\/p>\n<h2>Ymchwiliwch i\u2019r ffordd y mae\u2019r meddwl yn gweithio gyda\u2019n MSc Seicoleg ar-lein.<\/h2>\n<p>Does dim dwywaith mai un o brif gryfderau\u2019r arweinwyr a rheolwyr mwyaf effeithiol yw\u2019r ffordd y maen nhw\u2019n deall ymddygiad bodau dynol. Mae deall sut i werthuso gwybodaeth a\u2019i chymhwyso yn allweddol i wneud penderfyniadau mewn ffordd fwy effeithiol, a bydd yn ategu eich gallu i gefnogi a chymell cydweithwyr a thimau.<\/p>\n<p>Nod yr <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/msc-psychology\/\">MSc Seicoleg gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sydd 100% ar-lein<\/a> yw eich grymuso chi gyda\u2019r fantais seicolegol hon, a\u2019ch helpu chi i symud eich gyrfa ymlaen i\u2019r cam nesaf. Mae\u2019n berthnasol i ystod eang o broffesiynau a disgyblaethau, o adnoddau dynol, i addysg ac arweinyddiaeth addysgol, i reolaeth marchnata ac ymchwil y farchnad.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pan fydd dealltwriaeth, cof a chymhwyso yn dod at ei gilydd, bydd dysgu gwybyddol yn digwydd. Drwy fanteisio i\u2019r eithaf ar botensial ein meddwl i ganolbwyntio a deall gwybodaeth, mae\u2019n ddull dysgu sydd \u00e2\u2019r nod o wneud y defnydd mwyaf effeithiol o\u2019r ymennydd &#8211; gan arwain at sgiliau datrys problemau gwell, a sgiliau cofio gwybodaeth &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1273,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,33],"tags":[],"class_list":["post-1274","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-psychology-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth yw dysgu gwybyddol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth yw dysgu gwybyddol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Pan fydd dealltwriaeth, cof a chymhwyso yn dod at ei gilydd, bydd dysgu gwybyddol yn digwydd. Drwy fanteisio i\u2019r eithaf ar botensial ein meddwl i ganolbwyntio a deall gwybodaeth, mae\u2019n ddull dysgu sydd \u00e2\u2019r nod o wneud y defnydd mwyaf effeithiol o\u2019r ymennydd &#8211; gan arwain at sgiliau datrys problemau gwell, a sgiliau cofio gwybodaeth &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-09-28T09:16:42+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth yw dysgu gwybyddol?\",\"datePublished\":\"2022-09-28T09:16:42+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/\"},\"wordCount\":1586,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Psychology\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/\",\"name\":\"Beth yw dysgu gwybyddol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg\",\"datePublished\":\"2022-09-28T09:16:42+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/09\\\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Illustration of a person turning on a lightbulb inside a big head\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth yw dysgu gwybyddol?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth yw dysgu gwybyddol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth yw dysgu gwybyddol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Pan fydd dealltwriaeth, cof a chymhwyso yn dod at ei gilydd, bydd dysgu gwybyddol yn digwydd. Drwy fanteisio i\u2019r eithaf ar botensial ein meddwl i ganolbwyntio a deall gwybodaeth, mae\u2019n ddull dysgu sydd \u00e2\u2019r nod o wneud y defnydd mwyaf effeithiol o\u2019r ymennydd &#8211; gan arwain at sgiliau datrys problemau gwell, a sgiliau cofio gwybodaeth &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-09-28T09:16:42+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:03+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth yw dysgu gwybyddol?","datePublished":"2022-09-28T09:16:42+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/"},"wordCount":1586,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg","articleSection":["Erthyglau","Psychology"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/","name":"Beth yw dysgu gwybyddol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg","datePublished":"2022-09-28T09:16:42+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/09\/Illustration-of-a-person-turning-on-a-lightbulb-inside-a-big-head.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Illustration of a person turning on a lightbulb inside a big head"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-dysgu-gwybyddol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth yw dysgu gwybyddol?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1274","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1274"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1274\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1273"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1274"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1274"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1274"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}