{"id":1251,"date":"2022-06-15T15:22:53","date_gmt":"2022-06-15T14:22:53","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1251"},"modified":"2023-08-15T17:01:03","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:03","slug":"beth-yw-seicoleg-iechyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/","title":{"rendered":"Beth yw seicoleg iechyd?"},"content":{"rendered":"<p>Mae seicoleg iechyd yn archwilio\u2019r ffactorau seicolegol, ymddygiadol, emosiynol a diwylliannol sy\u2019n effeithio ar iechyd a salwch.<\/p>\n<p>Mae seicolegwyr iechyd yn gwneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Defnyddio\u2019u dealltwriaeth o seicoleg iechyd i hyrwyddo llesiant a ffyrdd iach o ymddwyn mewn cymunedau. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd brechu\u2019r cyhoedd er mwyn sicrhau y bydd yr ymgyrchoedd hynny\u2019n fwy argyhoeddiadol ac effeithiol.<\/li>\n<li>Helpu cleifion i reoli eu llesiant seicolegol ac emosiynol eu hunain yn ystod eu triniaeth ac wrth iddynt adfer ar \u00f4l salwch difrifol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy\u2019n cael triniaeth canser, helpu pobl i reoli poen cronig, hirdymor, neu helpu pobl sydd newydd gael eu diagnosio \u00e2 diabetes i reoli eu hiechyd yn effeithiol.<\/li>\n<li>Gweithio gyda phobl i ddatblygu ffyrdd iachach o fyw. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu pobl i roi\u2019r gorau i smygu, neu\u2019n gweithio gyda phobl er mwyn eu hannog i wneud dewisiadau gwell o ran maeth.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ymhellach, mae seicolegwyr iechyd yn gweithio oddi mewn i systemau iechyd i wella gofal yn fwy cyffredinol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda meddygon a nyrsys i ddatblygu dulliau mwy effeithiol o gyfathrebu gyda chleifion, creu rhaglenni hyfforddi newydd mewn ysbytai, neu ymchwilio i ymyriadau seicolegol newydd er mwyn gwella iechyd y meddwl a\u2019r corff.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r gwahanol fathau o seicoleg iechyd?<\/h2>\n<p>Mae seicoleg iechyd yn seicoleg gymhwysol a hefyd yn seicoleg ddamcaniaethol, a gellir ei hollti\u2019n bum maes:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Seicoleg iechyd clinigol.<\/strong> Mae seicoleg iechyd clinigol yn canolbwyntio ar drin pobl ar lefel unigolion. Mae seicolegwyr iechyd clinigol yn defnyddio addysg, technegau newid ymddygiad neu seicotherapi i helpu pobl i wneud dewisiadau o ran eu hymddygiad neu ddewisiadau\u2019n ymwneud \u00e2\u2019u ffordd o fyw \u2013 sef dewisiadau a fydd yn gwella\u2019u hiechyd.<\/li>\n<li><strong>Seicoleg iechyd cymunedol.<\/strong> Mae seicoleg iechyd cymunedol yn arf pwysig wrth ymdrin \u00e2 chlefydau neu anhwylderau eraill sy\u2019n gyffredin mewn cymunedau a rhanbarthau. Gan fod seicolegwyr iechyd cymunedol \u00e2 golwg fwy cyffredinol ar bethau o fewn systemau iechyd, gallant helpu i sylwi ar anhwylderau newydd neu dueddiadau eraill yn ymwneud ag iechyd. Yn aml, byddant yn ymh\u00e9l ag ymyriadau iechyd cymunedol, megis ymgyrchoedd yn ymwneud ag iechyd y meddwl a\u2019r corff.<\/li>\n<li><strong>Seicoleg iechyd y cyhoedd.<\/strong> Mae seicoleg iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio ar ffactorau seicolegol ac ymddygiadol sydd ar waith yn iechyd y boblogaeth. Yn aml, mae seicolegwyr iechyd y cyhoedd yn gweithio gyda\u2019r llywodraeth neu sefydliadau iechyd y cyhoedd i ddatblygu polis\u00efau newydd neu i gynnal ymchwil newydd yn ymwneud ag ymyriadau iechyd y cyhoedd, o safbwynt seicolegol.<\/li>\n<li><strong>Seicoleg iechyd galwedigaethol.<\/strong> Mewn gwirionedd, mae seicoleg iechyd galwedigaethol yn estyniad o fesurau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd. Mae seicolegwyr iechyd galwedigaethol yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill i wella iechyd a pherfformiad gweithwyr, i lunio ac ymwreiddio polis\u00efau newydd sy\u2019n canolbwyntio ar lesiant y staff, ac i gynnig gwasanaethau cwnsela i weithwyr.<\/li>\n<li><strong>Seicoleg iechyd critigol.<\/strong> Mae seicoleg iechyd critigol yn archwilio\u2019r penderfynyddion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol sy\u2019n cyfrannu at wahaniaethau mewn ymddygiad iechyd neu brofiadau iechyd, ac anghydraddoldebau mewn polis\u00efau a systemau gofal iechyd. Mae seicolegwyr iechyd critigol yn gweithio gyda phobl mewn cymunedau a ymyleiddiwyd a chymunedau agored i niwed er mwyn ennill dealltwriaeth a gweithio tuag at gyfiawnder cymdeithasol \u2013 a newid cymdeithasol \u2013 a thynnu sylw at y modd y gall amgylchedd ffisegol, amgylchedd seicogymdeithasol neu statws economaidd-gymdeithasol unigolion ddylanwadu\u2019n fawr ar eu hiechyd.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Beth yw\u2019r gwahaniaeth rhwng seicoleg glinigol a seicoleg iechyd?<\/h3>\n<p>Ceir perthynas agos rhwng seicoleg iechyd a seicoleg glinigol, ac mae\u2019r ddwy elfen yn archwilio iechyd meddwl yn drylwyr. Ond mewn gwirionedd, nid ydynt yr un fath \u00e2\u2019i gilydd:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae seicoleg glinigol yn anelu at ddeall, diagnosio a thrin salwch meddwl ac anhwylderau meddwl.<\/li>\n<li>Mae seicoleg iechyd yn anelu at ddeall y berthynas rhwng iechyd y meddwl ac iechyd y corff \u2013 sut y mae\u2019r naill yn effeithio ar y llall, a<em> vice versa<\/em>. Trwy gyfrwng y ddealltwriaeth hon, gall seicolegwyr iechyd ddatblygu a chynnig ymyriadau effeithiol ar gyfer cleifion sydd angen ymyriadau o\u2019r fath.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Gyrfaoedd mewn seicoleg iechyd<\/h2>\n<p>Mae seicoleg iechyd yn faes sy\u2019n prysur dyfu ac yn llwybr gyrfa gwerth chweil. Mae amrywiaeth eang o rolau ar gael i seicolegwyr iechyd.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/careers.bps.org.uk\/area\/health\/where-do-health-psychologists-work\">Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)<\/a>, fel arfer mae seicolegwyr iechyd yn gweithio mewn:<\/p>\n<ul>\n<li>Ysbytai a thimau iechyd cymunedol<\/li>\n<li>Unedau ymchwil iechyd<\/li>\n<li>Awdurdodau lleol<\/li>\n<li>Adrannau iechyd y cyhoedd<\/li>\n<li>Ymgyngoriaethau<\/li>\n<li>Prifysgolion a lleoliadau addysg uwch o fath arall<\/li>\n<\/ul>\n<p>Er mwyn ymarfer fel seicolegydd iechyd yn y DU, byddwch angen:<\/p>\n<ul>\n<li>Cofrestriad gyda\u2019r <a href=\"https:\/\/www.hcpc-uk.org\/\">Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)<\/a><\/li>\n<li><u>Sail Graddedigion ar gyfer Aelodau Siartredig (GBC)<\/u> gan Gymdeithas Seicolegol Prydain<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n werth nodi hefyd bod <a href=\"https:\/\/www.bps.org.uk\/member-microsites\/division-health-psychology\">Is-adran Seicoleg Iechyd Cymdeithas Seicolegol Prydain<\/a> wedi datgan bod y pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen seicolegwyr iechyd, gan awgrymu y bydd gweithlu sy\u2019n meddu ar gymwyseddau a sgiliau proffesiynol mewn seicoleg iechyd yn helpu i wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Hybu ffyrdd iach a diogel o ymddwyn<\/li>\n<li>Cynnig cymorth adsefydlu seicolegol i bobl sy\u2019n cael anhawster \u00e2 chyflyrau hirdymor, yn cynnwys syndrom \u00f4l-Covid-19<\/li>\n<li>Cynnig gwell cymorth o ran llesiant a gwytnwch i weithwyr iechyd proffesiynol a darparwyr gofal iechyd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn \u00f4l y <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/health-psychologist\">cwmni recriwtio graddedigion, Prospects, mae gyrfaoedd mewn seicoleg iechyd<\/a> yn y GIG yn cwmpasu sawl lefel a sawl gradd gyflog.<\/p>\n<p>Fel arfer, mae seicolegwyr iechyd yn dechrau eu gyrfa fel hyfforddeion, gan ennill \u00a332,306 y flwyddyn. Bydd y cyflog hwn yn codi i \u00a340,057 ar \u00f4l iddynt ennill cymwysterau llawn.<\/p>\n<p>Gall seicolegwyr gofal iechyd mwy profiadol ennill hyd at \u00a363,862, a gall ymgynghorwyr ennill hyd at \u00a390,387. Gall penaethiaid gwasanaethau seicolegol ennill mwy fyth.<\/p>\n<h2>Pa swyddi sydd ar gael yn y maes seicoleg iechyd?<\/h2>\n<p>Mae yna nifer o rolau traddodiadol i\u2019w cael yn y maes seicoleg iechyd, yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Seicolegydd iechyd<\/li>\n<li>Seicolegydd iechyd clinigol<\/li>\n<li>Seicolegydd iechyd cymunedol<\/li>\n<li>Seicolegydd iechyd y cyhoedd<\/li>\n<li>Seicolegydd iechyd galwedigaethol<\/li>\n<li>Seicolegydd iechyd critigol<\/li>\n<li>Seicolegydd iechyd ymgynghorol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae llwybrau gyrfa eraill yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Eiriolwr iechyd cymunedol<\/li>\n<li>Seicolegydd ymchwil sy\u2019n arbenigo mewn prosiectau ymchwil seicoleg iechyd a dulliau ymchwil (yn cynnwys ymchwil meintiol ac ansoddol)<\/li>\n<li>Addysgu a hyfforddi<\/li>\n<li>Gwaith ymgynghorol o fath arall, yn cynnwys datblygu seminarau a rhaglenni datblygiad proffesiynol ar gyfer seicolegwyr iechyd, cynnal adolygiadau systematig, a gweithio gyda meddygon teulu, nyrsys, deietegwyr, llawfeddygon a therapyddion adsefydlu er mwyn cynorthwyo pobl i newid eu hymddygiad<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Rhoi egwyddorion seicoleg iechyd ar waith yn eich gyrfa bresennol<\/h2>\n<p>Mae seicoleg iechyd yn faes amlochrog y gellir ei roi ar waith mewn nifer o broffesiynau. Gallwch wella eich dealltwriaeth o seicoleg iechyd a rhoi\u2019r egwyddorion ar waith yn eich r\u00f4l bresennol trwy astudio <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/programme\/msc-seicoleg\/\">MSc Seicoleg<\/a> yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru, sef rhan o Brifysgol Wrecsam. Cyflwynir y cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein.<\/p>\n<p>Trwy gyfrwng y cwrs Gradd Meistr hyblyg hwn, bydd modd ichi dreiddio\u2019n ddyfnach i\u2019r ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol sy\u2019n cyfrannu at iechyd, salwch a llesiant unigolion ac o fewn cymdeithasau a gweithleoedd. Hefyd, byddwch yn dysgu am bynciau fel hybu iechyd ac effaith y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag effaith straen a salwch cronig a sut i\u2019w rheoli.<\/p>\n<p>Caiff y cwrs \u00f4l-radd rhan-amser hwn ei addysgu\u2019n gyfan gwbl ar-lein. Fe\u2019i lluniwyd er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol i roi egwyddorion seicolegol ar waith mewn cyd-destunau proffesiynol ehangach, yn ogystal \u00e2 deall yn well y ffordd y mae gweithwyr a chwsmeriaid yn ymddwyn. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, yn cynnwys manylion am ffioedd addysgu, gofynion mynediad, cymhwystra a gwaith cwrs, cymerwch gipolwg ar <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\">wefan y Brifysgol<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae seicoleg iechyd yn archwilio\u2019r ffactorau seicolegol, ymddygiadol, emosiynol a diwylliannol sy\u2019n effeithio ar iechyd a salwch. Mae seicolegwyr iechyd yn gwneud y canlynol: Defnyddio\u2019u dealltwriaeth o seicoleg iechyd i hyrwyddo llesiant a ffyrdd iach o ymddwyn mewn cymunedau. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd brechu\u2019r cyhoedd er mwyn sicrhau y &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1249,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20,33],"tags":[],"class_list":["post-1251","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau","category-psychology-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth yw seicoleg iechyd? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth yw seicoleg iechyd? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae seicoleg iechyd yn archwilio\u2019r ffactorau seicolegol, ymddygiadol, emosiynol a diwylliannol sy\u2019n effeithio ar iechyd a salwch. Mae seicolegwyr iechyd yn gwneud y canlynol: Defnyddio\u2019u dealltwriaeth o seicoleg iechyd i hyrwyddo llesiant a ffyrdd iach o ymddwyn mewn cymunedau. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd brechu\u2019r cyhoedd er mwyn sicrhau y &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-06-15T14:22:53+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth yw seicoleg iechyd?\",\"datePublished\":\"2022-06-15T14:22:53+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/\"},\"wordCount\":1264,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\",\"Psychology\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/\",\"name\":\"Beth yw seicoleg iechyd? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg\",\"datePublished\":\"2022-06-15T14:22:53+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Close up of hands holding a notepad with a blurred patient in the background\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-seicoleg-iechyd\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth yw seicoleg iechyd?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth yw seicoleg iechyd? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth yw seicoleg iechyd? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae seicoleg iechyd yn archwilio\u2019r ffactorau seicolegol, ymddygiadol, emosiynol a diwylliannol sy\u2019n effeithio ar iechyd a salwch. Mae seicolegwyr iechyd yn gwneud y canlynol: Defnyddio\u2019u dealltwriaeth o seicoleg iechyd i hyrwyddo llesiant a ffyrdd iach o ymddwyn mewn cymunedau. Er enghraifft, efallai y byddant yn helpu i hyrwyddo ymgyrchoedd brechu\u2019r cyhoedd er mwyn sicrhau y &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-06-15T14:22:53+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:03+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth yw seicoleg iechyd?","datePublished":"2022-06-15T14:22:53+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/"},"wordCount":1264,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg","articleSection":["Erthyglau","Psychology"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/","name":"Beth yw seicoleg iechyd? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg","datePublished":"2022-06-15T14:22:53+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Close-up-of-hands-holding-a-notepad-with-a-blurred-patient-in-the-background.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Close up of hands holding a notepad with a blurred patient in the background"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-seicoleg-iechyd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth yw seicoleg iechyd?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1251","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1251"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1251\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1249"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1251"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1251"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1251"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}