{"id":1250,"date":"2022-06-15T15:19:54","date_gmt":"2022-06-15T14:19:54","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1250"},"modified":"2023-08-15T17:01:03","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:03","slug":"beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/","title":{"rendered":"Beth yw moeseg gyfrifiadurol?"},"content":{"rendered":"<p>Cyfres o egwyddorion cyffredin sy\u2019n llywodraethu\u2019r ffordd y defnyddiwn gyfrifiaduron \u2013 dyna yw moeseg gyfrifiadurol. Fel yn achos moeseg yn fwy cyffredinol, yn y b\u00f4n mae moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys cyfres o ganllawiau athronyddol neu safonau moesol sy\u2019n anelu at ddylanwadu ar ymddygiad ac atal niwed.<\/p>\n<p>Er bod moeseg gyfrifiadurol yn gweithio\u2019n galed i atal gwyddonwyr cyfrifiadurol, rhaglenwyr, ac unigolion eraill sy\u2019n gwneud penderfyniadau, rhag camddefnyddio technoleg yn y maes, gall hefyd helpu i lywio ymddygiad cymdeithasol a\u2019r modd y mae defnyddwyr yn rhyngweithio wrth ddefnyddio systemau cyfrifiadurol \u2013 yn enwedig mewn perthynas \u00e2\u2019r rhyngrwyd.<\/p>\n<h2>Hanes moeseg gyfrifiadurol<\/h2>\n<p>Daeth moeseg gyfrifiadurol i\u2019r amlwg yn gyntaf yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan ragwelodd Norbert Wiener, athro yn MIT, ganlyniadau cymdeithasol a moesol arwyddocaol yn sgil y dechnoleg seiberneteg yr oedd wrthi\u2019n ei datblygu.<\/p>\n<p>Ym 1950, cyhoeddodd Wiener <em>The Human Use of Human Beings<\/em>, lle\u2019r aethpwyd ati am y tro cyntaf i ystyried cyfres o faterion, cwestiynau a phynciau moesegol yn ymwneud \u00e2 chyfrifiadureg \u2013 ac erbyn 1973, roedd y <a href=\"https:\/\/www.acm.org\/\">Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura (ACM)<\/a> wedi mabwysiadu\u2019i chod moeseg cyntaf.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, ni chafodd y term \u2018moeseg gyfrifiadurol\u2019 ei fathu tan 1976, a hynny gan Walter Maner, athro ym Mhrifysgol Daleithiol Bowling Green, er mwyn disgrifio\u2019r gangen arbennig hon o foeseg gymhwysol. Aeth Maner yn ei flaen i hyrwyddo\u2019r maes, gan ysbrydoli\u2019r athronydd Terrell Ward Bynum, golygydd y cyfnodolyn gwyddonol <em>Metaphilosophy<\/em>, i lansio cystadleuaeth ar gyfer llunio traethodau\u2019n ymwneud \u00e2 moeseg gyfrifiadurol. Argraffwyd y canlyniadau ym 1985 mewn rhifyn arbennig o\u2019r cyfnodolyn a oedd yn dwyn y teitl <em>Computers and Ethics<\/em>. James Moor a ddaeth i\u2019r brig gyda\u2019i draethawd <em>What Is Computer Ethics<\/em>, lle nodir bod moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys:<\/p>\n<ol>\n<li>Pennu bylchau o ran polis\u00efau technoleg gyfrifiadurol.<\/li>\n<li>Egluro\u2019r hyn y mae Moor yn ei alw yn \u2018anhrefn gysyniadol\u2019.<\/li>\n<li>Llunio polis\u00efau ar gyfer defnyddio technoleg gyfrifiadurol.<\/li>\n<li>Cyfiawnhau polis\u00efau\u2019n foesegol.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Carreg filltir bwysig arall ym 1985 oedd cyhoeddi <em>Computer Ethics<\/em> gan Deborah Johnson, athro moeseg gymhwysol ym Mhrifysgol Virginia. Yn fuan iawn, cafodd <em>Computer Ethics<\/em> ei dderbyn fel gwerslyfr pwysig yn y maes, a phennodd yr agenda ymchwil mewn moeseg gyfrifiadurol ar gyfer y degawd nesaf.<\/p>\n<p>Yn fwy diweddar, ac yn arbennig yn dilyn y cynnydd a welwyd yn y rhyngrwyd, mae trafodaethau a damcaniaethau moesegol yngl\u0177n \u00e2 moeseg gyfrifiadurol wedi newid yn sylweddol \u2013 ond er bod rhai wedi proffwydo y bydd moeseg gyfrifiadurol yn disodli moeseg yn gyfan gwbl rhyw ddydd, mae nifer o athronwyr yn anghytuno. Cred Johnson, er enghraifft, nad yw cyfrifiaduron yn creu problemau moesegol newydd. Yn hytrach, dywed eu bod yn cynnig \u201cnew versions of standard moral problems and moral dilemmas, exacerbating the old problems, and forcing us to apply ordinary moral norms in uncharted realms.\u201d Ymddengys fod Herman Tavani, athro mewn athroniaeth a chydgyfarwyddwr y <u>Gymdeithas Ryngwladol dros Foeseg a Thechnoleg Gwybodaeth<\/u>, yn cytuno \u00e2 Johnson. Yn ei werslyfr <em>Ethics and Technology<\/em>, mae\u2019n mynd ati i ddadansoddi pynciau dadleuol a gr\u00ebwyd gan dechnolegau datblygol, a hynny o safbwynt damcaniaethau a chysyniadau moesegol traddodiadol.<\/p>\n<h2>Moeseg gyfrifiadurol: pryderon ac ystyriaethau cyffredin<\/h2>\n<p>Mae nifer o bryderon moesegol wedi dod i\u2019r amlwg yn y maes cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth, yn enwedig yn dilyn y cynnydd a welwyd yn y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol, deallusrwydd artiffisial ac algorithmau dysgu peirianyddol uwch.<\/p>\n<h3>Troseddau cyfrifiadurol<\/h3>\n<p>Mae seiberdroseddu yn fygythiad sy\u2019n esblygu\u2019n gyflym ochr yn ochr \u00e2 thechnoleg newydd. Trwy gyfrwng hacio, maleiswedd, feirysau, mwydod, gwe-rwydo ac ymwelwyr diwahoddiad ac ati, gall seiberdroseddwyr a hacwyr ddwyn arian a data, cyflawni twyll, masnachu mewn eiddo deallusol a chynnwys anghyfreithlon, a dwyn hunaniaeth.<\/p>\n<h3>Preifatrwydd a diogelwch<\/h3>\n<p>Mae diogelwch digidol, anhysbysrwydd, moeseg gwybodaeth a phreifatrwydd gwybodaeth yn gallu bod yn eithriadol o bwysig i bobl. Fodd bynnag, mae yna nifer o fygythiadau i\u2019w cael, yn cynnwys cwmn\u00efau\u2019n mynd ati yn y dirgel i olrhain \u2013 a gwerthu \u2013 gweithgarwch ar-lein, pobl yn cael eu seiberfwlio a phobl yn <u>datgelu gwybodaeth bersonol am bobl eraill heb ganiat\u00e2d<\/u>.<\/p>\n<h3>Eiddo deallusol<\/h3>\n<p>Mae dwyn cynnwys digidol, cynnwys \u00e2 hawlfraint ac eiddo deallusol, neu ddosbarthu cynnwys ac eiddo o\u2019r fath heb ganiat\u00e2d, yn broblem barhaus ar-lein, a chaiff popeth \u2013 o\u2019r celfyddydau a\u2019r cyfryngau adloniant, i feddalwedd a chynhyrchion arloesol \u2013 eu rhannu\u2019n anghyfreithlon ar-lein.<\/p>\n<h2>Moeseg gyfrifiadurol yn ymarferol<\/h2>\n<p>Er bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu harwain gan eu moeseg bersonol eu hunain, mae\u2019n debygol hefyd eu bod yn dilyn codau moeseg neu bolis\u00efau cyfrifiadurol wrth ddefnyddio mathau arbennig o systemau neu feddalwedd, neu tra byddant yn y gwaith. Efallai hefyd eu bod yn aelodau o sefydliadau mwy ffurfiol, megis cyrff masnach a chanddynt eu fframweithiau a\u2019u codau ymddygiad eu hunain mewn perthynas \u00e2 moeseg broffesiynol ac ymddygiad proffesiynol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r BCS, y Sefydliad TG Siartredig, wedi llunio <a href=\"https:\/\/www.bcs.org\/membership-and-registrations\/become-a-member\/bcs-code-of-conduct\/\">Cod Ymddygiad<\/a> er mwyn diogelu ei safonau proffesiynol ynghyd ag uniondeb ei aelodau a gweithwyr eraill yn y maes TG a chyfrifiadureg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cod hwn yn cynnwys pedair egwyddor hollbwysig, sef:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Sicrhewch fod TG yn rhywbeth i bawb.<\/strong> Mae gweithwyr TG proffesiynol yn gweithio er budd y cyhoedd, gan roi sylw dyledus i breifatrwydd, diogelwch, iechyd y cyhoedd, a llesiant pobl eraill a\u2019r amgylchedd.<\/li>\n<li><strong>Dangoswch yr hyn a wyddoch, dysgwch yr hyn na wyddoch.<\/strong> Yr unig dasgau y dylai gweithwyr TG proffesiynol ymgymryd \u00e2 nhw yw tasgau y mae ganddynt y cymwyseddau, y sgiliau a\u2019r adnoddau i\u2019w cwblhau.<\/li>\n<li><strong>Parchwch y sefydliad neu\u2019r unigolyn y gweithiwch iddo.<\/strong> Dylai gweithwyr TG proffesiynol weithredu er budd pennaf eu cleient neu eu cwmni bob amser, gan sicrhau disgresiwn a safonau moesegol.<\/li>\n<li><strong>Sicrhewch fod TG yn real. Sicrhewch fod TG yn broffesiynol. Trosglwyddwch ef.<\/strong> Dylai gweithwyr TG proffesiynol weithredu gydag uniondeb bob amser, gan gynorthwyo eu cydweithwyr yn eu twf personol a phroffesiynol.<\/li>\n<\/ol>\n<h3>Moeseg Gyfrifiadurol \u2013 Y Deg Gorchymyn<\/h3>\n<p>Enghraifft boblogaidd arall o foeseg gyfrifiadurol ar waith yw\u2019r <a href=\"http:\/\/cpsr.org\/issues\/ethics\/cei\/\">Ten Commandments of Computer Ethics<\/a>, a luniwyd ym 1992 gan y Sefydliad Moeseg Gyfrifiadurol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gorchmynion yn cynnwys:<\/p>\n<ol>\n<li>Peidiwch \u00e2 defnyddio cyfrifiaduron i niweidio pobl eraill.<\/li>\n<li>Peidiwch ag ymyrryd \u00e2 gwaith cyfrifiadurol pobl eraill.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 busnesa yn ffeiliau cyfrifiadurol pobl eraill.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 defnyddio cyfrifiaduron i ddwyn.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 defnyddio cyfrifiaduron i ddwyn camdystiolaeth.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 chop\u00efo na defnyddio meddalwedd berchnogol nad ydych wedi talu amdani (heb ganiat\u00e2d).<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 defnyddio adnoddau cyfrifiadurol pobl eraill heb ganiat\u00e2d neu iawndal priodol.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 chymryd meddiant ar gynnyrch deallusol pobl eraill.<\/li>\n<li>Meddyliwch am ganlyniadau cymdeithasol y rhaglen rydych yn ei hysgrifennu neu\u2019r system rydych yn ei llunio.<\/li>\n<li>Defnyddiwch gyfrifiaduron mewn ffordd a fydd yn sicrhau y byddwch yn ystyried ac yn parchu pobl eraill.<\/li>\n<\/ol>\n<h2>Ymwreiddio moeseg gyfrifiadurol yn eich gyrfa<\/h2>\n<p>Gallwch ennill gradd werthfawr mewn cyfrifiadureg \u2013 gradd a fydd yn ymwreiddio ystyriaethau cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol ym mhob un o\u2019i modiwlau \u2013 trwy astudio ein cwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/msc-cyfrifiadureg\/\">MSc Cyfrifiadureg<\/a>. Dyma gwrs a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein yng Nghanolfan Reolaeth Gogledd Cymru.<\/p>\n<p>Yn ychwanegol at faterion yn ymwneud \u00e2 moeseg gyfrifiadurol, byddwch hefyd yn dysgu am beirianneg systemau, peirianneg meddalwedd, diogelwch cyfrifiadurol, ac ieithoedd rhaglenni megis HTML, JavaScript, PHP, a MySQL.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs Gradd Meistr hyblyg hwn yn addas i bawb, pa un a oes gennych gefndir mewn cyfrifiadureg, ai peidio. Caiff ei ddysgu\u2019n gyfan gwbl ar-lein, felly gallwch astudio o amgylch eich ymrwymiadau proffesiynol a phersonol presennol ac ennill arian tra byddwch yn dysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyfres o egwyddorion cyffredin sy\u2019n llywodraethu\u2019r ffordd y defnyddiwn gyfrifiaduron \u2013 dyna yw moeseg gyfrifiadurol. Fel yn achos moeseg yn fwy cyffredinol, yn y b\u00f4n mae moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys cyfres o ganllawiau athronyddol neu safonau moesol sy\u2019n anelu at ddylanwadu ar ymddygiad ac atal niwed. Er bod moeseg gyfrifiadurol yn gweithio\u2019n galed i atal &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1246,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1250","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth yw moeseg gyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth yw moeseg gyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cyfres o egwyddorion cyffredin sy\u2019n llywodraethu\u2019r ffordd y defnyddiwn gyfrifiaduron \u2013 dyna yw moeseg gyfrifiadurol. Fel yn achos moeseg yn fwy cyffredinol, yn y b\u00f4n mae moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys cyfres o ganllawiau athronyddol neu safonau moesol sy\u2019n anelu at ddylanwadu ar ymddygiad ac atal niwed. Er bod moeseg gyfrifiadurol yn gweithio\u2019n galed i atal &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-06-15T14:19:54+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth yw moeseg gyfrifiadurol?\",\"datePublished\":\"2022-06-15T14:19:54+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/\"},\"wordCount\":1220,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/\",\"name\":\"Beth yw moeseg gyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg\",\"datePublished\":\"2022-06-15T14:19:54+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:03+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/06\\\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Three people sat around a computer screen together\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth yw moeseg gyfrifiadurol?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth yw moeseg gyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth yw moeseg gyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Cyfres o egwyddorion cyffredin sy\u2019n llywodraethu\u2019r ffordd y defnyddiwn gyfrifiaduron \u2013 dyna yw moeseg gyfrifiadurol. Fel yn achos moeseg yn fwy cyffredinol, yn y b\u00f4n mae moeseg gyfrifiadurol yn cynnwys cyfres o ganllawiau athronyddol neu safonau moesol sy\u2019n anelu at ddylanwadu ar ymddygiad ac atal niwed. Er bod moeseg gyfrifiadurol yn gweithio\u2019n galed i atal &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-06-15T14:19:54+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:03+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth yw moeseg gyfrifiadurol?","datePublished":"2022-06-15T14:19:54+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/"},"wordCount":1220,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/","name":"Beth yw moeseg gyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg","datePublished":"2022-06-15T14:19:54+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:03+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Three-people-sat-around-a-computer-screen-together.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Three people sat around a computer screen together"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-moeseg-gyfrifiadurol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth yw moeseg gyfrifiadurol?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1250","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1250"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1250\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1246"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1250"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1250"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1250"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}