{"id":1222,"date":"2022-05-10T15:48:58","date_gmt":"2022-05-10T14:48:58","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1222"},"modified":"2023-08-15T17:01:04","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:04","slug":"cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/","title":{"rendered":"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio"},"content":{"rendered":"<p>Ar y cychwyn, y perygl yw y bydd cryptoarian yn drysu pobl yn l\u00e2n; ond yn y b\u00f4n, math o arian digidol, datganoledig ydyw.<\/p>\n<p>Gan mai arian digidol ydyw, mae\u2019r holl drafodiadau\u2019n digwydd ar-lein yn hytrach nag ar ffurf papurau a darnau arian go iawn. Caiff cronfeydd, neu asedau digidol, eu storio mewn waledi digidol a chyfriflyfrau cyhoeddus, a thrwy weithredu system \u2018cymheiriad i gymheiriad\u2019 gall unrhyw un, yn unrhyw le, anfon a derbyn taliadau cryptoarian.<\/p>\n<h2>Beth sy\u2019n wahanol yngl\u0177n \u00e2 chryptoarian?<\/h2>\n<p>Wrth gymharu cryptoarian ag arian traddodiadol, fel y bunt Brydeinig neu ddoler yr Unol Daleithiau, mae yna rai pethau hollbwysig i\u2019w cadw mewn cof:<\/p>\n<h3>Amgryptio<\/h3>\n<p>Mae math unigryw o amgryptio yn sail i gryptoarian \u2013 neu \u2018grypto\u2019, fel y\u2019i gelwir. Mae cryptoarian yn gwbl ddatganoledig, felly nid yw\u2019n dibynnu ar fanc canolog nac ar awdurdodau eraill i ddilysu trafodiadau. Yn hytrach, caiff trafodiadau eu dilysu trwy ddefnyddio technegau amgryptio cryptoarian, o\u2019r enw cryptograffeg \u2013 mae\u2019r technegau hyn yn atal ffug ddarnau arian crypto, yn atal gwario ddwywaith, neu\u2019n atal camddefnydd neu ymyrraeth o fath arall.<\/p>\n<h3>Technoleg cadwyn floc<\/h3>\n<p>Mae cryptoarian yn ddibynnol ar gadwyn floc, sef cronfa ddata electronig lle cedwir toreth o wybodaeth mewn grwpiau a elwir yn flociau. Caiff y blociau hyn eu dosbarthu ar draws amryfal gyfrifiaduron, a elwir yn gyfriflyfrau gwasgaredig, ac ar \u00f4l i ryw floc gyrraedd ei derfyn storio, caiff ei gysylltu \u2013 neu ei \u2018gadwyno\u2019 \u2013 \u00e2 bloc arall. Yna, mae\u2019r broses yn ailddechrau gyda bloc newydd.<\/p>\n<p>Y dechnoleg hon yw asgwrn cefn cryptoarian. Caiff cronfeydd a chofnodion trafodiadau cryptoarian ac ati eu rhannu ar draws cyfriflyfrau cyhoeddus gwasgaredig, ac yna mae\u2019r gadwyn floc yn eu gwneud yn fwy digyfnewid, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel.<\/p>\n<p>Mae hi\u2019n bwysig cofio mai math arbennig o gyfriflyfr gwasgaredig yw cadwyn floc \u2013 nid yw\u2019r ddwy elfen yn gyfystyr \u00e2\u2019i gilydd. Felly, tra mae cadwyn floc yn fath arbennig o gyfriflyfr gwasgaredig, nid yw cyfriflyfr gwasgaredig yn gadwyn floc. Yn yr un modd, mae cryptoarian a chadwyn floc yn wahanol i\u2019w gilydd. Er bod cryptoarian yn dibynnu ar dechnoleg cadwyn floc, gall cadwyn floc gynnal amrywiaeth enfawr o dechnolegau yn ychwanegol at gryptoarian.<\/p>\n<h3>Cloddio<\/h3>\n<p>Caiff unedau ariannol cryptoarian \u2013 sef darnau arian crypto \u2013 eu creu a\u2019u dosbarthu gan broses a elwir yn \u2018gloddio\u2019. Mae cryptogloddio yn broses sy\u2019n mynd ati mewn modd effeithiol i gynnal a diogelu\u2019r cryptoarian ei hun: mae cloddwyr yn dilysu trafodiadau, yn eu hychwanegu at gyfriflyfrau gwasgaredig y gadwyn floc, yn diweddaru cyfriflyfrau gwasgaredig y gadwyn floc, ac yn diogelu rhag camddefnydd, gwario ddwywaith ac ati.<\/p>\n<p>Er mwyn gwneud hyn, rhaid cael caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol soffistigedig a all ddatrys hafaliadau mathemategol cryptograffig. Er mwyn cymell cloddwyr, caiff darnau arian crypto eu cynhyrchu pa bryd bynnag y caiff un o\u2019r hafaliadau hyn eu datrys, ac yna caiff y darnau hyn eu rhoi fel \u2018gwobr\u2019 i\u2019r datryswr. Yna, bydd y broses yn ailddechrau eto, gyda\u2019r cloddwyr am y cyntaf i ddatrys yr hafaliad nesaf.<\/p>\n<p>Rhywbeth sy\u2019n gwbl allweddol i\u2019r gwaith hwn yw\u2019r mecanweithiau consensws sy\u2019n dilysu trafodiadau, yn eu hychwanegu at y gadwyn floc ac yn creu tocynnau newydd. Y ddau fecanwaith consensws mwyaf yw \u2018prawf o waith\u2019 a \u2018dilysu buddsoddiad\u2019. Bydd \u2018prawf o waith\u2019 yn gwobrwyo unrhyw gloddiwr \u00e2 chryptoarian, tra mae \u2018dilysu buddsoddiad\u2019 dipyn yn fwy cymhleth. Yn gyffredinol, mae \u2018dilysu buddsoddiad\u2019 yn defnyddio rhwydwaith o ddilyswyr sy\u2019n mentro eu cryptoarian eu hunain ar y cyfle i ddiweddaru\u2019r gadwyn floc. Bydd y cyfranogwr uchaf ei fuddsoddiad yn cael ei ddewis gan y rhwydwaith i ddilysu\u2019r bloc diweddaraf o drafodiadau, a bydd modd i ddilyswyr eraill gadarnhau cywirdeb y bloc. Ar \u00f4l diweddaru\u2019r gadwyn floc, bydd yr holl gyfranogwyr yn cael eu gwobrwyo yn gymesur \u00e2\u2019u menter.<\/p>\n<h2>Prynu, storio a gwario crypto<\/h2>\n<p>Mae cloddio yn un ffordd o ennill darnau arian crypto, ond mae\u2019r rhan fwyaf o bobl sy\u2019n defnyddio cryptoarian yn tueddu i\u2019w brynu gan gyfnewidfeydd cryptoarian, yn ogystal \u00e2 chan froceriaid mwy traddodiadol, gan ddefnyddio arian Fiat, fel y bunt Brydeinig. Mae yna amrywiaeth o gyfnewidfeydd cryptoarian i\u2019w cael ac mae pob un ohonynt yn cynnig gwahanol fathau o arian, gwahanol opsiynau ar gyfer storio mewn waledi, gwahanol gyfraddau llog a gwahanol opsiynau prynu, ac fel arfer maent yn codi t\u00e2l. Yn gyffredinol, mae broceriaid traddodiadol yn codi ffioedd masnachu is, ond nid ydynt yn cynnig cynifer o nodweddion crypto.<\/p>\n<p>Gellir prynu cryptoarian gyda chardiau debyd neu gredyd, neu trwy ddefnyddio platfformau fel PayPal neu Venmo. Ar \u00f4l prynu cryptoarian, fel arfer caiff ei storio a\u2019i wario trwy ddefnyddio waledi cryptograffig, a gellir ei ddefnyddio ar nifer fechan o safleoedd technoleg a safleoedd e-fasnachu (er, mae nifer y safleoedd hyn yn cynyddu). Hefyd, ceir enghreifftiau o fanwerthwyr eitemau moethus, gwerthwyr ceir a darparwyr yswiriant yn derbyn t\u00e2l ar ffurf cryptoarian.<\/p>\n<p>Os byddwch yn buddsoddi mewn cryptoarian, efallai y byddai\u2019n ddefnyddiol ichi ddefnyddio offer fel <a href=\"https:\/\/coinmarketcap.com\/\">CoinMarketCap<\/a> i olrhain prisiau cryptoasedau, yn ogystal ag olrhain gwerth cyfalafiad y farchnad \u2013 a elwir yn \u2018market cap\u2019. Cyfalafiad y farchnad yw cyfanswm gwerth yr holl ddarnau arian a gloddiwyd o fewn y cryptoarian.<\/p>\n<h2>Mathau o gryptoarian<\/h2>\n<p>Bitcoin, a elwir hefyd yn BTC, oedd y cryptoarian cyntaf, a dyma\u2019r un y mae pobl yn dal i fod yn fwyaf cyfarwydd ag ef. Parat\u00f4dd Bitcoin y ffordd ar gyfer y diwydiant ac ar gyfer technoleg cadwyn floc, a dyma\u2019r enw mwyaf yn y farchnad cryptoarian o hyd. Fe\u2019i lansiwyd yn 2009; ni wyddys pwy a\u2019i dyfeisiodd, ond mae wedi cael ei gysylltu \u00e2\u2019r enw Satoshi Nakamoto, sef ffugenw fe dybir.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l i Bitcoin gael ei ryddhau, ymddangosodd sawl math arall o gryptoarian ar y farchnad. Gelwir y mathau hyn o gryptoarian yn \u2018ddarnau arian amgen\u2019, neu\u2019n \u2018altcoins\u2019 \u2013 sef unrhyw gryptoarian ac eithrio Bitcoin \u2013 ac maent yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Ether, neu ETH, sydd hefyd wedi datblygu ei gadwyn floc ei hun, o\u2019r enw Ethereum. Mae Ethereum yn gartref i\u2019r rhan fwyaf o <a href=\"https:\/\/ethereum.org\/en\/nft\/\">docynnau anghyfnewidadwy (NFTs)<\/a> sydd ar y farchnad, ef sydd \u00e2\u2019r gryptoecosystem fwyaf, ac mae wedi datblygu protocolau <a href=\"https:\/\/ethereum.org\/en\/defi\/\">cyllid datganoledig (DeFi)<\/a> hynod boblogaidd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau ariannol.<\/li>\n<li>ADA, cryptoarian mewnol ar gyfer y gadwyn floc Cardano.<\/li>\n<li>Dogcoin, neu DOGE; ystyrir mai dyma ddarn arian \u2018memyn\u2019 cyntaf y byd oherwydd ei gysylltiad \u00e2\u2019r memyn ci doge\/shiba inu. Mae hyd yn oed wedi ysbrydoli cryptoarian amgen seiliedig ar Ethereum, sef Shiba Inu (neu SHIB).<\/li>\n<li>XRP, a lansiwyd gan Ripple Labs, Inc., sef y sefydliad a ddatblygodd brotocol talu Ripple.<\/li>\n<li>Binance Coin (BNB), sef y cryptoarian a gyhoeddwyd gan Binance Exchange, y gyfnewidfa fwyaf yn y byd ar gyfer cryptoarian.<\/li>\n<li>Tether, neu USDT, sef cryptoarian sy\u2019n ymddangos ar nifer o gadwynau bloc, yn cynnwys cadwynau bloc Ethereum a Bitcoin.<\/li>\n<li>Litecoin, un o\u2019r darnau arian amgen cyntaf a oedd ar gael ar y farchnad cryptoarian.<\/li>\n<li>SOL, sy\u2019n defnyddio\u2019r gadwyn floc Solana.<\/li>\n<li>DOT, sy\u2019n defnyddio\u2019r gadwyn floc Polkadot.<\/li>\n<li>Monero; mae hwn yn defnyddio protocol ffynhonnell agored sy\u2019n gwella preifatrwydd er mwyn helpu i guddio trafodiadau a sicrhau anhysbysrwydd.<\/li>\n<li>Bitcoin Cash, neu BCH, sef cangen o Bitcoin. Cangen arall yw Bitcoin Gold.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Heriau\u2019n ymwneud \u00e2 chryptoarian<\/h2>\n<p>Mae cryptoarian, ynghyd \u00e2\u2019r dechnoleg cadwyn floc sy\u2019n sail iddo, yn llwyddiannau technolegol anhygoel, ond mae rhai anfanteision yn perthyn iddynt.<\/p>\n<p>Mae\u2019r heriau\u2019n cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Prisiau anwadal<\/strong>. Mae prisiau cryptoarian yn anodd eu rhagweld a gallant amrywio\u2019n fawr.<\/li>\n<li><strong>Mae cryptoarian yn d<\/strong><strong>efnyddio llawer o ynni<\/strong>. Mae gweithgareddau cloddio yn drwm iawn ar drydan, gan gynhyrchu \u00f4l troed carbon a all fod yn anghynaliadwy.<\/li>\n<li><strong>Camddefnydd troseddol<\/strong>. Gan na chaiff cryptoarian ei reoleiddio gan ddulliau traddodiadol, mae yna enghreifftiau lle defnyddir cryptoarian ar gyfer twyll neu drafodiadau anghyfreithlon. Un enghraifft yw cynnig darn arian cychwynnol. Mae cynnig darn arian cychwynnol (ICO) yn debyg i gynnig cyhoeddus cychwynnol (IPO), ac fel arfer caiff ei ddefnyddio fel ffordd o godi arian ar gyfer menter cryptoarian newydd. Fodd bynnag, gan na chaiff cynigion o\u2019r fath eu rheoleiddio, mae nifer o fuddsoddwyr wedi cael eu twyllo i gyfrannu llawer o arian at gryptoarian ffug.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Trwy fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau hyn, gellir gwneud cryptoarian yn fwy derbyniol a chynaliadwy \u2013 ar sawl lefel \u2013 ac mae\u2019n werth nodi bod atebion eisoes ar waith. Un ateb yw cyflwyno darnau arian sefydlog, neu \u2018stablecoins\u2019, sef mathau o gryptoarian sydd ynghlwm wrth asedau mwy confensiynol, fel arian Fiat, er mwyn helpu i sefydlogi prisiau. Er enghraifft, mae USD Coin yn ddarn arian sefydlog a gysylltir \u00e2 doler yr Unol Daleithiau.<\/p>\n<h2>Datgelu ffyrdd newydd o ddefnyddio cadwynau bloc a chryptoarian<\/h2>\n<p>Mae cryptoarian yn gwneud cryn ddefnydd o gadwynau bloc; ond mae yna botensial i ddefnyddio technoleg cadwyn floc at sawl diben arall. Er enghraifft, caiff contractau clyfar eu rhedeg ar dechnoleg cadwyn floc, a gallant awtomeiddio a datganoli unrhyw gytundeb neu drafodiad mewn modd diogel a dibynadwy \u2013 nid cytundebau a thrafodiadau ariannol yn unig. Gellir eu defnyddio ar gyfer cofnodion iechyd, a systemau pleidleisio hyd yn oed.<\/p>\n<p>Mae yna bosibiliadau datblygu enfawr yn perthyn i\u2019r technolegau hyn, a bydd modd i\u2019r cwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/msc-cyfrifiadureg\/\">MSc Cyfrifiadureg<\/a> yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru \u2013 sef cwrs a gyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein \u2013 eich helpu i greu dyfodol i chi eich hun yn y maes. Mae\u2019r radd Meistr hyblyg hon yn canolbwyntio ar y byd go iawn. Caiff y cwrs ei ddysgu ar sail ran-amser, felly gallwch astudio o gwmpas eich ymrwymiadau presennol ac ennill arian tra byddwch yn dysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ar y cychwyn, y perygl yw y bydd cryptoarian yn drysu pobl yn l\u00e2n; ond yn y b\u00f4n, math o arian digidol, datganoledig ydyw. Gan mai arian digidol ydyw, mae\u2019r holl drafodiadau\u2019n digwydd ar-lein yn hytrach nag ar ffurf papurau a darnau arian go iawn. Caiff cronfeydd, neu asedau digidol, eu storio mewn waledi digidol &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1221,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Ar y cychwyn, y perygl yw y bydd cryptoarian yn drysu pobl yn l\u00e2n; ond yn y b\u00f4n, math o arian digidol, datganoledig ydyw. Gan mai arian digidol ydyw, mae\u2019r holl drafodiadau\u2019n digwydd ar-lein yn hytrach nag ar ffurf papurau a darnau arian go iawn. Caiff cronfeydd, neu asedau digidol, eu storio mewn waledi digidol &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-05-10T14:48:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"8 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio\",\"datePublished\":\"2022-05-10T14:48:58+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/\"},\"wordCount\":1607,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/\",\"name\":\"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg\",\"datePublished\":\"2022-05-10T14:48:58+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/05\\\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Hands on a laptop keyboard with hologram depicting blockchain above\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Ar y cychwyn, y perygl yw y bydd cryptoarian yn drysu pobl yn l\u00e2n; ond yn y b\u00f4n, math o arian digidol, datganoledig ydyw. Gan mai arian digidol ydyw, mae\u2019r holl drafodiadau\u2019n digwydd ar-lein yn hytrach nag ar ffurf papurau a darnau arian go iawn. Caiff cronfeydd, neu asedau digidol, eu storio mewn waledi digidol &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-05-10T14:48:58+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:04+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"8 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio","datePublished":"2022-05-10T14:48:58+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/"},"wordCount":1607,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/","name":"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg","datePublished":"2022-05-10T14:48:58+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Hands-on-a-laptop-keyboard-with-hologram-depicting-blockchain-above.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Hands on a laptop keyboard with hologram depicting blockchain above"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/cadwyn-floc-a-darnau-arian-crypto-sut-y-mae-cryptoarian-yn-gweithio\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Cadwyn floc a darnau arian crypto: sut y mae cryptoarian yn gweithio"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1222"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1222\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1221"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}