{"id":1218,"date":"2022-05-04T11:18:11","date_gmt":"2022-05-04T10:18:11","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1218"},"modified":"2023-08-15T17:01:04","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:04","slug":"beth-ydy-teilwra-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Beth ydy teilwra cymdeithasol?"},"content":{"rendered":"<p>Math o seiberdrosedd faleisus ac ystrywgar ydy teilwra cymdeithasol. Trosedd sy\u2019n dibynnu ar ryngweithio rhwng pobl er mwyn eu twyllo i rannu gwybodaeth sensitif neu i ganiat\u00e1u mynediad diawdurdod at systemau a rhwydweithiau.<\/p>\n<p>Fel rheol, mae seiberdroseddwyr sy\u2019n defnyddio technegau teilwra cymdeithasol yn esgus eu bod yn ffynhonnell ddibynadwy &#8211; cydweithwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, ac ati &#8211; yn eu hymdrechion i ymdreiddio i systemau cyfrifiadurol cyfyngedig, i gael mynediad at ddata cyfrinachol a chreu tor diogelwch data, neu wasgaru maleiswedd megis firysau, ysb\u00efwedd a meddalwedd wystlo. Maent yn dibynnu ar barodrwydd pobl i helpu ac ar eu diffyg ymwybyddiaeth o deilwra cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, mae teilwra cymdeithasol yn boblogaidd ymysg seiberdroseddwyr oherwydd mae llawer ohonynt yn <a href=\"https:\/\/www.bcs.org\/articles-opinion-and-research\/is-social-engineering-the-easy-way-in\/\">ei chael hi&#8217;n haws<\/a> defnyddio ac ecsbloetio pobl go iawn yn hytrach na chwilio am wendidau o fewn system neu ddiogelwch rhwydwaith. Ac mae\u2019r ymosodiadau seiber hyn yn unigryw gan eu bod yn gallu digwydd, yn rhannol o leiaf, all-lein. Er enghraifft, efallai y bydd y sgamiwr yn cysylltu \u00e2\u2019r dioddefwr am y tro cyntaf dros y ff\u00f4n neu hyd yn oed wyneb yn wyneb. Ond yr un yw\u2019r nod fwy neu lai \u2013 difrodi systemau a dwyn.<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r technegau teilwra cymdeithasol cyffredin?<\/h2>\n<p>Gellir cael sawl math o deilwra cymdeithasol. Mae rhai technegau a mathau cyffredin o ymosodiadau teilwra cymdeithasol yn cynnwys:<\/p>\n<h3>Gosod abwyd<\/h3>\n<p>Mae\u2019r dechneg gosod abwyd yn denu dioddefwyr wrth apelio at eu chwilfrydedd naturiol neu eu barusrwydd. Gallai sgam we-rwydo fod yn un o\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>e-bost am roddion rhad ac am ddim neu gynnig arbennig.<\/li>\n<li>gyriant fflach neu gof bach USB wedi\u2019i adael mewn man gyhoeddus, fel mewn llyfrgell gyhoeddus, neu ystafell ymolchi neu faes parcio&#8217;r cwmni a dargedir.<\/li>\n<li>hysbyseb ar-lein yn annog pobl i lawrlwytho meddalwedd neu raglen sy\u2019n ymddangos yn ddilys.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fodd bynnag, nid oedd y dioddefwr yn gwybod bod yr atodiad a agorwyd ganddynt yn yr e-bost, y ddyfais a wnaethant ei chodi a\u2019i rhoi yn eu cyfrifiadur a\u2019r feddalwedd a wnaethant ei llawrlwytho, wedi mewn gwirionedd, heintio eu dyfais \u00e2 maleiswedd. Ac yn ei dro, gall y maleiswedd hwn \u2013 neu feddalwedd maleisus \u2013 amharu ar rwydweithiau, ganiat\u00e1u mynediad diawdurdod at ddata a systemau, ac ymyrryd ar brotocolau preifatrwydd a diogelwch sefydliadau.<\/p>\n<h3>Meddalwedd Codi Ofn<\/h3>\n<p>Mae meddalwedd codi ofn wedi\u2019i dylunio er mwyn codi ofn ac er mwyn brawychu. Gall fod ar ffurf ffenestr naid neu neges rybudd debyg arall sy\u2019n twyllo\u2019r dioddefwr i gredu bod eu dyfais wedi cael ei heintio neu fod eu cyfrif mewn perygl. Gan deimlo o dan fygythiad, mae\u2019r dioddefwr yn fwy tebygol o ymateb i\u2019r rhybudd.<\/p>\n<p>Wrth chwilio am wybodaeth ar-lein, mae\u2019n bosib y bydd unigolyn yn gweld ffenestr naid sy\u2019n edrych yn ddilys ac sy\u2019n dweud wrthynt fod eu dyfais wedi cael ei heintio, ac y dylent osod y feddalwedd seiberddiogelwch sy\u2019n cael ei hargymell. Nid ydynt yn deall, er hynny, bod y feddalwedd yn llawn maleiswedd. Neu efallai bod yr unigolyn yn derbyn e-bost sy\u2019n dweud bod eu cyfrif mewn perygl, ac y dylent ateb y neges gan gynnwys eu manylion mewngofnodi preifat fel bod t\u00eem cefnogi darparwr y cyfrif e-bost yn gallu ei ddiogelu. Mae\u2019r unigolyn hwn newydd rannu allwedd ei gyfrif \u00e2 seiberdroseddwr.<\/p>\n<p>Enwau eraill ar gyfer meddalwedd codi ofn yw:<\/p>\n<ul>\n<li>Meddalwedd twyll<\/li>\n<li>Meddalwedd sganwyr twyllodrus<\/li>\n<li>Twyllwedd<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Dwyn hunaniaeth<\/h3>\n<p>Mae hyn yn digwydd pan mae sgamiwr yn cymryd hunaniaeth arbennig er mwyn ennill ymddiriedaeth eu dioddefwyr. Efallai bod y sgamiwr yn esgus bod yn:<\/p>\n<ul>\n<li>gydweithiwr, yn arbennig rhywun o\u2019r adran TG.<\/li>\n<li>cyflenwr neu werthwr.<\/li>\n<li>swyddog banc neu dreth.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Unwaith mae\u2019r sgamiwr wedi sefydlu perthynas \u00e2\u2019r dioddefwr ac wedi ennill ei ffydd, byddant yn ecsbloetio\u2019r berthynas hon er mwyn cael gwybodaeth sensitif. Efallai y byddai\u2019r sgamiwr yn esgus bod yn swyddog banc ac yn gofyn cwestiynau er mwyn cadarnhau hunaniaeth y dioddefwr, ond mewn gwirionedd mae wedi casglu gwybodaeth sensitif bwysig, fel cyfeiriad y dioddefwr, manylion cyfrif banc, manylion cerdyn credyd, rhif nawdd cymdeithasol a data personol eraill.<\/p>\n<h3>Gwe-rwydo<\/h3>\n<p>Gwe-rwydo yw\u2019r math mwyaf cyffredin o <a href=\"https:\/\/www.imperva.com\/learn\/application-security\/social-engineering-attack\/\">ymosodiad teilwra cymdeithasol<\/a>. Mae sgamiau gwe-rwydo yn ceisio sbarduno ymdeimlad o frys, chwilfrydedd, barusrwydd, neu ofn yn eu dioddefwyr er mwyn eu hannog i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol, clicio ar ddolenni i wefannau maleisus, neu agor atodiadau sydd wedi\u2019u heintio gan faleiswedd.<\/p>\n<p>Gall negeseuon gwe-rwydo yn aml ymddangos yn ddilys &#8211; gelwir hyn yn sb\u0175ffio. Efallai y bydd person yn derbyn e-bost sy\u2019n ymddangos fel pe bai wedi cael ei anfon gan frand dibynadwy, megis Microsoft neu Verizon. Mae\u2019r neges hon yn rhybuddio\u2019r unigolyn bod eu cyfrif mewn perygl, a\u2019u bod angen ailosod eu cyfrinair. Maent yn clicio ar ddolen i wefan ffug ac yn canfod bod y wefan yn edrych fwy neu lai yn union fel y wefan maent yn disgwyl ei gweld, felly pan ofynnir iddynt roi manylion eu cyfrif cyfredol a chreu cyfrinair newydd, maent yn gwneud hynny. Ond mewn gwirionedd, maent newydd gyflwyno eu manylion mewngofnodi i seiberdroseddwr.<\/p>\n<p>Gellir gosod ymosodiadau gwe-rwydo o dan sawl is-bennawd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Gwe-rwydo sbam<\/strong>. Adnabyddir hefyd fel gwe-rwydo torfol, mae\u2019r ymgyrchoedd hyn yn targedu llawer iawn o bobl. Nid yw\u2019r negeseuon wedi\u2019u personoli a\u2019u bwriad yw twyllo cymaint o bobl ddiniwed \u00e2 phosib.<\/li>\n<li><strong>Gwe-drywanu<\/strong>. Mae gwe-drywanu yn ddull sy\u2019n targedu mewn ffordd fwy uniongyrchol na gwe-rwydo sbam. Mae gwybodaeth wedi\u2019i phersonoli \u2013 megis enw, teitl swydd, rhif ff\u00f4n, ac ati \u2013 yn cael ei defnyddio er mwyn targedu unigolion, ac mae\u2019r negeseuon yn fwy tebygol o ymddangos yn ddilys.<\/li>\n<li><strong>Gwe-forfila<\/strong>. Yn debyg i we-drywanu, mae gwe-forfila yn targedu unigolion o werth mawr i sefydliadau fel uwch-reolwyr a gweithredwyr.<\/li>\n<li><strong>Gwe-rwydo llais<\/strong>. Hefyd yn cael ei adnabod fel llais-rwydo, mae gwe-rwydo llais yn digwydd dros y ff\u00f4n. Efallai y bydd neges wedi\u2019i recordio yn cael ei chwarae pan mae dioddefwr yn ateb yr alwad ff\u00f4n, neu efallai y bydd person o gig a gwaed yn siarad \u00e2\u2019r dioddefwr, yn arbennig er mwyn creu ymdeimlad o ddilysrwydd a brys.<\/li>\n<li><strong>Gwe-rwydo SMS<\/strong>. Adnabyddir hefyd fel SMS-rwydo, mae\u2019r math hwn o we-rwydo yn digwydd trwy negeseuon testun neu raglenni apiau symudol. Yn aml, byddant yn cynnwys Lleolydd Adnoddau Unffurf y we (URL) at wefan faleisus.<\/li>\n<li><strong>Gwe-rwydo trwy e-bost<\/strong>. Mae sgamiau gwe-rwydo e-bost fel arfer yn dibynnu ar atodiadau maleiswedd a dolenni maleisus.<\/li>\n<li><strong>Gwe-bysgota<\/strong>. Mae\u2019r math hwn o we-rwydo yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol, bydd sgamiwyr yn dynwared t\u00eem gwasanaeth i gwsmeriaid brand dibynadwy. Fel arfer, mae ymosodiadau yn digwydd trwy negeseuon uniongyrchol preifat, yn hytrach nac mewn negeseuon agored sy\u2019n gallu cael eu gweld gan bawb.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Twll dyfrio<\/h3>\n<p>Nod ymosodiad twll dyfrio ydy targedu gr\u0175p penodol o bobl wrth heintio gwefannau y gwyddys eu bod yn ymweld \u00e2 nhw.<\/p>\n<p>Os yw sefydliad yn aml yn ymweld \u00e2 gwefan cyflenwr bach er mwyn archebu stoc, efallai y bydd hacwyr yn ceisio llygru gwefan y cyflenwr gyda maleiswedd gyda\u2019r bwriad o heintio un neu fwy o weithwyr y sefydliad a dargedir. Gallent gael mynediad at rwydwaith y sefydliad er mwyn cael mynediad at ddata sensitif, difrodi eu systemau gweithredu, dwyn arian a gwybodaeth, ac ati.<\/p>\n<h3>Quid pro quo<\/h3>\n<p>Mae sgam quid pro quo yn digwydd pan mae peiriannydd cymdeithasol yn esgus darparu rhywbeth \u2013 fel gwasanaeth \u2013 yn gyfnewid am wybodaeth neu gymorth gan y dioddefwr.<\/p>\n<p>Efallai bydd y sgamiwr yn esgus bod yn weithiwr proffesiynol yn y maes TG ac yn ffonio gwahanol bobl o fewn sefydliad hyd nes eu bod yn canfod rhywun sydd wedi bod yn aros am gymorth technegol. Byddant yn esgus bod o gymorth i\u2019r person, ond yn ystod yr alwad, byddant yn casglu gwybodaeth neu\u2019n llwyddo i gael mynediad at systemau cyfyngedig.<\/p>\n<h3>Neidio ar gwt<\/h3>\n<p>Adnabyddir hefyd fel dringo ar gefn, mae neidio ar gwt yn digwydd pan mae peiriannydd cymdeithasol yn llwyddo i gael mynediad i adeilad diogel wrth ddilyn rhywun arall a chanddynt fynediad wedi\u2019i awdurdodi. Yna mae\u2019r sgamiwr yn gallu cael mynediad at systemau caledwedd y sefydliad a chasglu mwy o wybodaeth er mwyn helpu lansio ymosodiad seiber.<\/p>\n<h2>Sut i atal ymosodiadau teilwra cymdeithasol<\/h2>\n<p>Gyda chymaint o fathau ac enghreifftiau gwahanol o ymosodiadau teilwra cymdeithasol, mae\u2019n amlwg bod angen i fusnesau a sefydliadau fod ar flaen y gad wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-cymryd-seiberddiogelwch-yr-un-mor-ddifrifol-a-diogelwch-ffisegol\/\">seiberddiogelwch<\/a> ac wrth ddarparu hyfforddiant er mwyn cadw\u2019n ddiogel ac er mwyn amddiffyn gwybodaeth bersonol.<\/p>\n<p>Mae rhai o\u2019r arfau pwysig yn y frwydr yn erbyn teilwra cymdeithasol yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Amddiffyniad gwrthfeirysau cadarn<\/strong>. Mae meddalwedd gwrthfeirysau cyfredol yn gallu bod yn amhrisiadwy wrth frwydro yn erbyn ymosodiadau teilwra cymdeithasol achos mae\u2019n gallu canfod maleiswedd hyd yn oed pan nad yw rhywun yn ymwybodol bod ymosodiad seiber yn digwydd.<\/li>\n<li><strong>Prawf dilysu dau gam<\/strong>. Mae rhoi ar waith o leiaf dau lefel o ddilysu cyn caniat\u00e1u mynediad at system neu rwydwaith yn hanfodol. Golyga hyn, hyd yn oed os yw peiriannydd cymdeithasol wedi cael gafael ar fanylion mewngofnodi person, bydd llai o siawns ganddynt i fynd mewn i\u2019r cyfrif.<\/li>\n<li><strong>Wal d\u00e2n gref<\/strong>. Mae monitro a rheoli traffig y rhwydwaith yn ffordd bwysig o rwystro gweithgareddau amheus a throseddol.<\/li>\n<li><strong>Hidlwyr sbam<\/strong>. Mae hidlwyr sbam yn gallu allwyro e-byst gwe-rwydo ac yn amddiffyn unigolion ymddiriedus rhag sgamiau a thriciau.<\/li>\n<li><strong>Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch<\/strong>. Gwendid unrhyw system seiberddiogelwch yw pobl &#8211; a rhain yw ysglyfaeth y peirianyddion cymdeithasol. Y cam cyntaf wrth amddiffyn pobl rhag seiberdrosedd yw sicrhau bod pob unigolyn mewn sefydliad yn ymwybodol o deilwra cymdeithasol, a sut i adnabod sg\u00e2m teilwra gymdeithasol.<\/li>\n<li><strong>Profion hacio<\/strong>. Mae efelychu ymosodiad seiber ar eu systemau eu hunain yn ffordd wych i sefydliadau adnabod eu gwendidau. Gall y profion hyn gynnwys anfon e-byst sbam ffug i\u2019r holl weithwyr er mwyn gweld pwy fyddai\u2019n cael eu twyllo. Yna, bydd timau diogelwch yn gallu gweithio i lenwi unrhyw fylchau gydag ychwanegiadau a hyfforddiant ar ddiogelwch.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Helpwch i frwydro yn erbyn sgamiau teilwra cymdeithasol<\/h2>\n<p>Mae seiberdrosedd yn parhau i ehangu ac i ddatblygu a dyma pam mae\u2019r galw am weithwyr medrus sy\u2019n arbenigwyr seiberddiogelwch hefyd yn parhau i fod ar gynnydd.<\/p>\n<p>Gallwch warchod eich gyrfa at y dyfodol gyda <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/mba-seiberddiogelwch\/\">MBA Seiberddiogelwch<\/a> Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Mae\u2019r radd hyblyg hon wedi\u2019i datblygu ar gyfer pobl broffesiynol \u2013 boed ganddynt gefndir yn y maes cyfrifiadureg neu beidio \u2013 sydd eisiau ehangu eu gorwelion. A chan fod yr astudiaethau 100% ar-lein, gallwch astudio o amgylch eich ymrwymiadau presennol a pharhau i ennill cyflog wrth ddysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Math o seiberdrosedd faleisus ac ystrywgar ydy teilwra cymdeithasol. Trosedd sy\u2019n dibynnu ar ryngweithio rhwng pobl er mwyn eu twyllo i rannu gwybodaeth sensitif neu i ganiat\u00e1u mynediad diawdurdod at systemau a rhwydweithiau. Fel rheol, mae seiberdroseddwyr sy\u2019n defnyddio technegau teilwra cymdeithasol yn esgus eu bod yn ffynhonnell ddibynadwy &#8211; cydweithwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, ac &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1217,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1218","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.1.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth ydy teilwra cymdeithasol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth ydy teilwra cymdeithasol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Math o seiberdrosedd faleisus ac ystrywgar ydy teilwra cymdeithasol. Trosedd sy\u2019n dibynnu ar ryngweithio rhwng pobl er mwyn eu twyllo i rannu gwybodaeth sensitif neu i ganiat\u00e1u mynediad diawdurdod at systemau a rhwydweithiau. Fel rheol, mae seiberdroseddwyr sy\u2019n defnyddio technegau teilwra cymdeithasol yn esgus eu bod yn ffynhonnell ddibynadwy &#8211; cydweithwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, ac &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-05-04T10:18:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"9 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth ydy teilwra cymdeithasol?\",\"datePublished\":\"2022-05-04T10:18:11+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\"},\"wordCount\":1760,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\",\"name\":\"Beth ydy teilwra cymdeithasol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg\",\"datePublished\":\"2022-05-04T10:18:11+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Screen with a popup box reading system hacked on it\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth ydy teilwra cymdeithasol?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth ydy teilwra cymdeithasol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth ydy teilwra cymdeithasol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Math o seiberdrosedd faleisus ac ystrywgar ydy teilwra cymdeithasol. Trosedd sy\u2019n dibynnu ar ryngweithio rhwng pobl er mwyn eu twyllo i rannu gwybodaeth sensitif neu i ganiat\u00e1u mynediad diawdurdod at systemau a rhwydweithiau. Fel rheol, mae seiberdroseddwyr sy\u2019n defnyddio technegau teilwra cymdeithasol yn esgus eu bod yn ffynhonnell ddibynadwy &#8211; cydweithwyr, cyflenwyr, cwsmeriaid, rhanddeiliaid, ac &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-05-04T10:18:11+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:04+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"9 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth ydy teilwra cymdeithasol?","datePublished":"2022-05-04T10:18:11+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/"},"wordCount":1760,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/","name":"Beth ydy teilwra cymdeithasol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg","datePublished":"2022-05-04T10:18:11+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Screen-with-a-popup-box-reading-system-hacked-on-it.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Screen with a popup box reading system hacked on it"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-teilwra-cymdeithasol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth ydy teilwra cymdeithasol?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1218","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1218"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1218\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1217"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1218"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1218"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1218"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}