{"id":1214,"date":"2022-05-04T10:54:27","date_gmt":"2022-05-04T09:54:27","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1214"},"modified":"2023-08-15T17:01:04","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:04","slug":"beth-ydy-marchnata-b2c","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/","title":{"rendered":"Beth ydy marchnata B2C?"},"content":{"rendered":"<p>Mae marchnata B2C, neu farchnata busnes i gwsmer, yn targedu defnyddwyr unigol er mwyn ennill cwsmeriaid a gwerthiannau ar gyfer sefydliad. Dyma\u2019r model busnes mwyaf cyffredin yn y byd busnes, a\u2019r math o farchnata sy\u2019n gyfarwydd i\u2019r rhan fwyaf o bobl.<\/p>\n<p>Sonnir yn aml am farchnata B2C ochr yn ochr \u00e2 marchnata B2B, neu farchnata busnes i fusnes, sy\u2019n digwydd pan mae un busnes yn marchnata ei gynhyrchion neu ei wasanaethau i fusnes arall. Mewn gwirionedd, mae llawer o gwmn\u00efau yn defnyddio marchnata B2C yn ogystal \u00e2 marchnata B2B ar gyfer eu cynhyrchion a\u2019u gwasanaethau. Ond er bod peth tebygrwydd rhwng marchnata B2C a marchnata B2B, mae gwahaniaethau allweddol, hefyd<\/p>\n<h2>Beth yw\u2019r gwahaniaeth rhwng B2C a B2B?<\/h2>\n<p>Y gwahaniaethau mwyaf rhwng marchnata B2C a marchnata B2B ydy:<\/p>\n<h3>Cynulleidfa<\/h3>\n<p>Y gwahaniaeth mwyaf allweddol rhwng B2C a B2B ydy, wrth gwrs, y <a href=\"https:\/\/www.digitalmarketing.org\/blog\/what-is-target-audience\">gynulleidfa darged<\/a>. Tra bod marchnata B2B yn anelu at brynwyr a\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau mewn busnesau, mae B2C yn targedu cynulleidfa ehangach. Er enghraifft, gall busnes sy\u2019n gwerthu cynnyrch glanhau dyddiol neu gynnyrch bwyd, apelio at bron pawb. A hyd yn oed wrth dargedu grwpiau mwy arbenigol fel cwsmeriaid posib, yn nodweddiadol bydd B2C yn gweithio gyda gr\u0175p mwy o bobl na B2B.<\/p>\n<h3>Arddull<\/h3>\n<p>Mae\u2019r gwahaniaeth yn y cynulleidfaoedd hefyd yn golygu bod arddull y marchnata ychydig yn wahanol rhwng B2C a B2B. Yn B2B, er enghraifft, mae\u2019r marchnata yn canolbwyntio mwy ar ddata, yn darparu gwybodaeth ac yn uniongyrchol, yn gwybod y bydd busnesau yn gwneud mwy o ymchwil ac yn dilyn prosesau diwydrwydd dyladwy cyn prynu. Mae B2C, fodd bynnag, yn gweithredu yn gwybod bod defnyddwyr unigol yn tueddu i wneud penderfyniadau yn fwy cyflym \u2013 yn fyrbwyll hyd yn oed \u2013 ac felly bydd yn ceisio sbarduno ymateb emosiynol sy\u2019n cysylltu\u2019r defnyddiwr gyda\u2019r brand, y cynnyrch, neu\u2019r gwasanaeth sydd mewn golwg. Gall hyn ddylanwadu ar iaith ac arddull y marchnata, yn ogystal \u00e2\u2019r sianeli marchnata sy\u2019n cael eu defnyddio i dargedu defnyddwyr.<\/p>\n<h3>Dulliau gwerthu<\/h3>\n<p>Mae un gwahaniaeth mawr arall rhwng B2C a B2B sy\u2019n ymwneud \u00e2 lleoliad phryniannau a gwerthiannau. Er bod B2B fel arfer yn gweithredu wrth i werthwyr ymroddgar a rheolwyr cyfrifon adeiladu perthynas gyda chleientiaid, bydd B2C yn annog pobl i ymweld \u00e2 siop neu wefan e-fasnach eu hunain, ac mae\u2019n broses brynu mwy drafodiadol. Mae profiad y cwsmer yn parhau i fod yn bwysig, ond bydd y broses wedi\u2019i phersonoli llai ar gyfer unigolion o fewn B2C. Wedi dweud hynny, mae gan gwmn\u00efau B2C gyswllt mwy uniongyrchol \u00e2 defnyddwyr terfynol eu cynhyrchion a\u2019u gwasanaethau, ac mae hyn yn gallu bod yn ffordd effeithiol o ddatblygu perthnasau \u00e2 chwsmeriaid, ffyddlondeb cwsmeriaid, a sicrhau gwerthiannau.<\/p>\n<p>Mae gwahaniaethau eraill yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Maint y pryniannau<\/strong>. Yn nodweddiadol, mae pryniannau B2C yn llawer llai na phryniannau B2B. Efallai y byddai rhai pethau, fel ceir neu declynnau, yn costio mwy o arian i gwsmeriaid B2C. Mae gwerthiannau B2B yn cael eu gwneud ar ran y busnes cyfan, felly efallai\u2019n cynnwys peiriannau, offer, stoc, neu lawer iawn o nwyddau.<\/li>\n<li><strong>Hyd siwrnai\u2019r cwsmer.<\/strong> Yn nodweddiadol, mae pryniannau B2B yn gorfod mynd trwy haenau o ymchwil a chymeradwyaeth gan sefydliadau ond mae pryniannau B2C yn digwydd yn fwy cyflym, gan gwtogi hyd y cylchred gwerthu o gryn dipyn.<\/li>\n<li><strong>Cost y marchnata<\/strong>. Ar gyfartaledd, mae marchnata B2C yn llai costus na marchnata B2B, achos mae llai o bobl yn cael eu cynnwys ac mae\u2019n cymryd llai o amser, o ganlyniad i gylchred gwerthu byrrach.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Strategaethau marchnata B2C<\/h2>\n<p>Mae amgylchedd marchnata B2C yn gyflym a chyfnewidiol. Mae\u2019n rhaid i fasnachwyr ymgyfarwyddo\u2019n gyson \u00e2 thueddiadau cwsmeriaid a phatrymau ymddygiad cwsmeriaid, a rhagfynegi sut y gallai\u2019r farchnad newid yn y dyfodol. Mae\u2019n dipyn o gamp ond yn bosib gyda:<\/p>\n<ul>\n<li>dealltwriaeth dda o gynnyrch cystadleuwyr a thactegau marchnata<\/li>\n<li>dadansoddiad manwl o arferion prynu cwsmeriaid<\/li>\n<li>strategaethau a chynlluniau marchnata addas.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae rhai o strategaethau marchnata B2C yn cynnwys ymdrechion i farchnata\u2019n ddigidol, fel:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ymgyrchoedd y cyfryngau cymdeithasol<\/strong>. Mae sianeli\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn ofod cost-effeithiol iawn ar gyfer marchnata, felly maent yn boblogaidd gyda phawb, o gorfforaethau mawr i fusnesau bach. Mae\u2019r ymgyrchoedd yn gallu cynnwys unrhyw beth o gystadlaethau i roi naid ar gefn tueddiadau firol sydd eisoes yn bodoli, ac maent yn ffordd wych i fusnes gysylltu\u2019n uniongyrchol \u00e2\u2019u defnyddwyr posib. Maent hefyd yn rhoi\u2019r cyfle i fusnesau gael blas ar awtomeiddio marchnata, gan ddefnyddio offer awtomeiddio ymroddedig er mwyn hwyluso eu hymdrechion ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/li>\n<li><strong>Marchnata dylanwadwyr<\/strong>. Mae marchnata dylanwadwyr yn golygu gweithio gyda dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol cyfredol, rhywun sydd yn meddu ar gynulleidfa debyg i\u2019r gynulleidfa darged neu ddemograffiaeth busnes B2C, ac sydd wedi llwyddo i ennill ymddiriedaeth ei gynulleidfa. Gall y gwaith hwn gynnwys lleoli cynnyrch neu gefnogaeth gan y dylanwadwr.<\/li>\n<li><strong>Marchnata cynnwys<\/strong>. Mae marchnata cynnwys B2C yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth o frand. Mae\u2019n cynnwys creu a rhannu cynnwys o safon uchel sydd o ddiddordeb i ddemograffeg targed sefydliadau ac yn helpu i ennill cwsmeriaid a hybu defnyddwyr i brynu. Er enghraifft, efallai y bydd busnesau yn creu gweminarau neu bodlediad ynghylch sut i ddefnyddio eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau yn effeithiol, a rhannu hyn mewn sianeli perthnasol, fel YouTube, LinkedIn, neu Facebook.<\/li>\n<li><strong>SEO y we (Optimeiddio Peiriannau Chwilio)<\/strong>. Dylai un o\u2019r prif flaenoriaethau wrth ddatblygu cynnwys ar gyfer gwefan fusnes fod yn SEO. Mae <a href=\"https:\/\/www.semrush.com\/blog\/seo-tips\/\">SEO da<\/a> yn golygu bod cynnwys yn debygol o ymddangos yn agos i frig y canlyniadau chwilio yn Google ac mewn peiriannau chwilio eraill \u2013 ac mae hyn yn sicrhau bod y busnes ym meddyliau pobl wrth chwilio am gynnyrch a gwasanaethau perthnasol. Mae Amazon, er enghraifft, yn gwneud defnydd effeithiol o arferion SEO, ac yn aml yn ymddangos ar frig chwiliadau cynnyrch Google, wrth chwilio am bopeth o deganau a llyfrau i offer p\u0175er a dodrefn.<\/li>\n<li><strong>Marchnata trwy e-bost<\/strong>. Mae marchnata trwy e-bost yn un o ddulliau marchnata mwyaf poblogaidd B2C, achos mae\u2019n ddull hawdd, fforddiadwy o gyfathrebu\u2019n uniongyrchol \u00e2 defnyddwyr. Mewn sawl ffordd, o gylchlythyrau i hyrwyddiadau, mae busnesau yn gallu ennill cwsmeriaid newydd, cadw cwsmeriaid sydd ganddynt eisoes, a chreu chwilfrydedd a ffydd yn eu brand.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ac yn ogystal \u00e2 chynlluniau marchnata digidol, mae strategaethau B2C eraill sy\u2019n gallu bod yn effeithiol ar gyfer brandiau B2C. Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Rhaglenni aelodaeth<\/strong>. Mae busnesau yn gallu annog defnyddwyr mynych trwy raglenni aelodaeth sy\u2019n gwobrwyo cwsmeriaid am eu pryniannau a\u2019u ffyddlondeb.<\/li>\n<li><strong>Cynigion arbennig<\/strong>. Mae cynigion arbennig yn denu cwsmeriaid newydd a chwsmeriaid mynych, yn cynyddu gwerthiannau, ac yn helpu wrth gael gwared \u00e2 hen stoc.<\/li>\n<li><strong>Siopau fflach.<\/strong> Hefyd yn cael eu hadnabod fel m\u00e2n werthu \u2018pop-up\u2019, mae siopau codi yn ffordd wych o greu cynnwrf ar gyfer brand. Yn nodweddiadol mae brand yn codi siop dros dro neu\u2019n defnyddio blaen siop \u2013 un mewn lleoliad lle ceir llawer o bobl yn mynd heibio ar droed \u2013 ac sydd yn gallu ennyn diddordeb cwsmeriaid. Maent hefyd yn ffordd ddefnyddiol o ymchwilio i\u2019r farchnad, lansio cynnyrch newydd, neu brofi lleoliad newydd.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Dod yn arbenigwr marchnata B2C<\/h2>\n<p>Mae marchnata yn faes cyfnewidiol tu hwnt, ac mae hyn yn hynod o wir am B2C, sy\u2019n gorfod bod yn flaenllaw o ran tueddiadau newydd, sianeli, a thactegau, er mwyn ateb galw\u2019r defnyddwyr.<\/p>\n<p>Gallwch fod ar flaen y gad a chyflymu eich llwybr gyrfaol gyda\u2019r <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/mba-marchnata\/\">Cwrs MBA Marchnata<\/a> yn Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru. Bydd y radd feistr hyblyg hon yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth allweddol a sgiliau mewn meysydd fel marchnata strategol, arloesedd a chreadigrwydd, yn ogystal \u00e2 deall a gwneud defnydd o dueddiadau macro. Hefyd, mae\u2019n cael ei gynnig 100% ar-lein, fel eich bod yn gallu astudio o gwmpas eich ymrwymiadau personol a\u2019ch swydd bresennol, ac ennill arian wrth ddysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae marchnata B2C, neu farchnata busnes i gwsmer, yn targedu defnyddwyr unigol er mwyn ennill cwsmeriaid a gwerthiannau ar gyfer sefydliad. Dyma\u2019r model busnes mwyaf cyffredin yn y byd busnes, a\u2019r math o farchnata sy\u2019n gyfarwydd i\u2019r rhan fwyaf o bobl. Sonnir yn aml am farchnata B2C ochr yn ochr \u00e2 marchnata B2B, neu farchnata &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1213,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1214","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.1.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth ydy marchnata B2C? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth ydy marchnata B2C? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae marchnata B2C, neu farchnata busnes i gwsmer, yn targedu defnyddwyr unigol er mwyn ennill cwsmeriaid a gwerthiannau ar gyfer sefydliad. Dyma\u2019r model busnes mwyaf cyffredin yn y byd busnes, a\u2019r math o farchnata sy\u2019n gyfarwydd i\u2019r rhan fwyaf o bobl. Sonnir yn aml am farchnata B2C ochr yn ochr \u00e2 marchnata B2B, neu farchnata &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-05-04T09:54:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth ydy marchnata B2C?\",\"datePublished\":\"2022-05-04T09:54:27+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\"},\"wordCount\":1350,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\",\"name\":\"Beth ydy marchnata B2C? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg\",\"datePublished\":\"2022-05-04T09:54:27+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Woman holding a tablet with a hologram of icons over the top\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth ydy marchnata B2C?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth ydy marchnata B2C? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth ydy marchnata B2C? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae marchnata B2C, neu farchnata busnes i gwsmer, yn targedu defnyddwyr unigol er mwyn ennill cwsmeriaid a gwerthiannau ar gyfer sefydliad. Dyma\u2019r model busnes mwyaf cyffredin yn y byd busnes, a\u2019r math o farchnata sy\u2019n gyfarwydd i\u2019r rhan fwyaf o bobl. Sonnir yn aml am farchnata B2C ochr yn ochr \u00e2 marchnata B2B, neu farchnata &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-05-04T09:54:27+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:04+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth ydy marchnata B2C?","datePublished":"2022-05-04T09:54:27+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/"},"wordCount":1350,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/","name":"Beth ydy marchnata B2C? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg","datePublished":"2022-05-04T09:54:27+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/05\/Woman-holding-a-tablet-with-a-hologram-of-icons-over-the-top.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Woman holding a tablet with a hologram of icons over the top"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-ydy-marchnata-b2c\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth ydy marchnata B2C?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1214","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1214"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1214\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1213"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1214"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1214"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1214"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}