{"id":1205,"date":"2022-04-26T14:13:27","date_gmt":"2022-04-26T13:13:27","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1205"},"modified":"2023-08-15T17:01:04","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:04","slug":"diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/","title":{"rendered":"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel"},"content":{"rendered":"<p>Mae cyfrifiadura cwmwl wedi gweld cynnydd mawr o ran twf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y bu datblygiad cyflym o ran technoleg ar sail cwmwl, ond hefyd roedd pandemig Covid-19 yn golygu bod angen symud at opsiynau o bell wrth i fusnesau symud oddi wrth weithio mewn swyddfa.<\/p>\n<p>Roedd cyfrifiadura cwmwl &#8211; storio, gweinyddwyr, cronfeydd data, meddalwedd, APIau, a hyd yn oed systemau gweithredu a phob un o\u2019r rhain yn cael eu cynnal ar-lein &#8211; yn ddatrysiad delfrydol. Wrth i sefydliadau symud at weithio o bell, nid oedd yn rhaid iddynt ddibynnu\u2019n llwyr ar weinyddwyr neu storio ffisegol ar yr eiddo. Yn sydyn, roedd gweithwyr yn defnyddio gwasanaethau cwmwl ledled sawl pwynt terfyn, gan gynnwys popeth o ddulliau cydweithio i storio data, oll yn ystod eu trefniadau gwaith bob dydd.<\/p>\n<p>Mae mabwysiadu\u2019r cwmwl \u2013 boed yn gwmwl preifat, cwmwl cyhoeddus, cwmwl hybrid neu aml-gwmwl &#8211; wedi cynnwys nifer o wasanaethau ar sail y cwmwl, rhaglenni cwmwl a chynnyrch storio\u2019r cwmwl. Dyma rai enghreifftiau:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS)<\/strong>. Er enghraifft Microsoft 365, Slack, a Google Drive.<\/li>\n<li><strong>Llwyfan fel gwasanaeth (Pas)<\/strong>. Er enghraifft Microsoft Azure a Google App Engine.<\/li>\n<li><strong>Seilwaith fel gwasanaeth (IaaS)<\/strong>. Er enghraifft Microsoft Azure, Google Cloud Platform, ac Amazon Web Services (AWS).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae data\u2019r Cwmwl o gyfnod y pandemig Covid-19 yn dal i ddod i\u2019r amlwg, ond mae <a href=\"https:\/\/www.gartner.com\/en\">Gartner<\/a> yn rhagfynegi fod disgwyl i wario byd-eang ar wasanaethau cwmwl gyrraedd dros $482 biliwn yn 2022, cynnydd o\u2019r $313 biliwn a welwyd yn 2020. Felly hyd yn oed wrth i fwy o bobl ddechrau dychwelyd i\u2019w swyddfeydd a gweithleoedd eraill, does dim tystiolaeth bod defnydd o wasanaethau cwmwl yn arafu.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019r ffordd y mae amgylcheddau cwmwl a rhaglenni ar sail y cwmwl wedi cael eu mabwysiadu yn gyflym yn golygu bod angen dull tebyg o ran cyflymder gweithredu datrysiadau diogelwch. Heb fesurau digonol ar waith, mae busnesau\u2019n gadael eu hunain yn agored i nifer fawr o risgiau diogelwch.<\/p>\n<h2>Beth yw diogelwch cwmwl?<\/h2>\n<p>Mae diogelwch cwmwl yn fath o seiberddiogelwch. Yn ei hanfod, mae\u2019n unrhyw beth o dechnolegau i bolis\u00efau, sy\u2019n amddiffyn seilwaith ar sail y cwmwl, rhaglenni, a data o seiber-ymosodiadau a seiber-fygythiadau.<\/p>\n<p>Fel arfer, bydd strategaeth ddiogelwch cwmwl cynhwysfawr yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Diogelwch data<\/strong>. Pa ddulliau a thechnolegau sy\u2019n cael eu defnyddio i atal mynediad heb awdurdod i ddata?<\/li>\n<li><strong>Rheoli hunaniaeth a mynediad (IAM)<\/strong>. Sut mae cyfrifon defnyddwyr a\u2019u caniat\u00e2d yn cael eu rheoli? Mae hyn yn cynnwys dilysu ac awdurdodi cyfrifon.<\/li>\n<li><strong>Llywodraethu<\/strong>. Beth yw\u2019r polis\u00efau ar atal, canfod a lleddfu bygythiadau? Pa hyfforddiant i weithwyr sydd ar waith i sicrhau bod pawb yn gwybod am fesurau diogelwch y sefydliad, ac i sicrhau bod polis\u00efau\u2019n cael eu dilyn yn gywir?<\/li>\n<li><strong>Cadw data a chynllunio parhad busnes<\/strong>. Pa fesurau adfer sydd ar waith os bydd data\u2019n cael ei golli? A yw gweithwyr yn gwybod sut i weithredu mesurau adfer mewn argyfwng os oes angen? A yw pawb yn gwybod pwy sy\u2019n gyfrifol am ddiogelwch?<\/li>\n<li><strong>Cydymffurfiaeth gyfreithiol<\/strong>. A yw\u2019r holl ofynion cyfreithiol a\u2019r rheoliadau ynghylch diogelwch, yn enwedig lle mae preifatrwydd a data cleientiaid dan sylw, yn cael eu dilyn? Er enghraifft, a yw\u2019r <a href=\"https:\/\/gdpr-info.eu\/\">Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)<\/a> yn cael ei ddilyn yn y DU a\u2019r UE? Yw <a href=\"https:\/\/www.hhs.gov\/hipaa\/index.html\">HIPAA<\/a> yn cael ei ddilyn yn UDA?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n werth nodi bod cyfrifiadura cwmwl fel arfer yn fwy diogel na systemau traddodiadol ar y safleoedd. Mae hyn oherwydd y bydd busnesau yn elwa ar eu mesurau seiberddiogelwch eu hunain, yn ogystal \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n cael eu defnyddio gan eu darparwyr gwasanaeth cwmwl. Mae\u2019r darparwyr hyn yn gyfrifol am sicrhau bod y seilwaith cwmwl yn gyfredol, a byddant fel arfer yn trwsio chwilod a phroblemau eraill cyn gynted ag sy\u2019n bosibl. Mae hyn yn bwysig gan fod bygythiadau seiber yn newid yn gyson, felly gall yr adnoddau ychwanegol y mae darparwr cwmwl yn eu cynnig chwarae rhan fawr o ran seiberddiogelwch.<\/p>\n<h2>Sut mae diogelwch cwmwl yn gweithio?<\/h2>\n<p>Mae sawl rhan i ddiogelwch cwmwl. Yn \u00f4l <a href=\"https:\/\/www.kaspersky.co.uk\/\">Kaspersky<\/a>, er enghraifft, bydd pob mesur diogelwch cwmwl yn ceisio gwneud un neu fwy o\u2019r canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Galluogi adfer data os yw data\u2019n cael ei golli.<\/li>\n<li>Amddiffyn storio a rhwydweithiau yn erbyn lladrad dara maleisus.<\/li>\n<li>Atal camgymeriadau dynol neu esgeulustod sy\u2019n achosi i ddata gael ei rannu\u2019n amhriodol.<\/li>\n<li>Lleihau effaith unrhyw gyfaddawd data neu system.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ymhlith y mesurau cyffredin mae:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhoi mesurau amgryptio ar waith a defnyddio rhwydwaith preifat rhithwir (VPN) i gadw data\u2019n ddiogel ac yn breifat.<\/li>\n<li>Sefydlu prosesau rheoli mynediad i sicrhau bod defnyddwyr &#8211; hyd yn oed defnyddwyr gwirioneddol &#8211; yn methu \u00e2 chyfaddawdu data a systemau sensitif.<\/li>\n<li>Defnyddio egwyddorion rheoli cyfrineiriau a dilysu aml-ffactor i sicrhau mai dim ond defnyddwyr ag awdurdod sy\u2019n gallu cael mynediad i\u2019r cwmwl.<\/li>\n<li>Sicrhau bod mesurau wrth gefn ar waith mewn canolfannau data.<\/li>\n<li>Defnyddio mur gwarchod neu systemau diogelwch rhwydwaith eraill i fonitro a rheoli defnyddwyr y rhwydwaith.<\/li>\n<li>Bod \u00e2 th\u00eem gwasanaethau diogelwch proffesiynol fel dull o reoli risgiau, sydd hefyd yn gallu helpu i leddfu camgymeriadau dynol megis camffurfweddiad a phroblemau o ran gweithredu.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Cynnyrch diogelwch ar sail cwmwl<\/h3>\n<p>Yn wahanol i ddiogelwch cwmwl cyffredinol mae cynnyrch diogelwch a gynhelir yn y cwmwl. Mae\u2019r rhain hefyd yn cael eu galw yn ddiogelwch fel gwasanaeth (SECaaS) \u2013 er enghraifft, Brocer Diogelwch Mynediad Cwmwl (CASB) Oracle \u2013 weithiau mae pobl yn drysu rhwng y rhain a diogelwch cwmwl.<\/p>\n<h2>Bygythiadau cyffredin i ddiogelwch cyfrifiadura cwmwl<\/h2>\n<p>Mae rhestr sy\u2019n newid yn gyson o risgiau posibl i gyfrifiadura cwmwl, ond fel arfer, mae\u2019n cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Mynediad heb awdurdod<\/li>\n<li>Torri rheolau data<\/li>\n<li>Cyfrifon wedi\u2019u hacio<\/li>\n<li>Niwed i enw da<\/li>\n<li>Colled ariannol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mewn llawer o ffyrdd, mae\u2019r heriau diogelwch o fewn cyfrifiadura cwmwl yr un rhai \u00e2\u2019r rheiny sy\u2019n cael eu hwynebu o fewn seiberddiogelwch yn fwy cyffredinol. Er enghraifft, gall bygythiadau diogelwch gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ymosodiadau gwrthod gwasanaeth wedi\u2019i ddyrannu (DDoS)<\/strong>. Ymdrechion maleisus yw\u2019r rhain i darfu ar draffig arferol gweinydd, gwasanaeth neu rwydwaith drwy ei lorio &#8211; neu ei seilwaith &#8211; gyda llu o draffig ar-lein.<\/li>\n<li><strong>Maleiswedd<\/strong>. Mae hyn yn cynnwys feirysau, mwydod a meddalwedd wystlo a all gael eu cyflwyno i\u2019r cwmwl heb ymwybyddiaeth neu ganiat\u00e2d y defnyddiwr.<\/li>\n<li><strong>Hacwyr<\/strong>. Heb fesurau diogelwch digonol ar waith, gall y seiber-droseddwyr hyn gael mynediad i amgylchedd cwmwl i ddwyn data a gwybodaeth sensitif, neu systemau difrodi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dyna pam mae sefyllfa ddiogelwch &#8211; cryfder seiberddiogelwch cyffredinol sefydliad &#8211; yn hynod bwysig. Gyda rheolaethau diogelwch priodol, polis\u00efau diogelwch, ac arferion DevOps cadarn, gall busnesau gynnal cwmwl diogel a thaclo materion diogelwch yn effeithiol.<\/p>\n<h2>Tueddiadau newydd mewn cyfrifiadura cwmwl a diogelwch cwmwl<\/h2>\n<ul>\n<li><strong>Awtomeiddiad cwmwl<\/strong>. Gall awtomeiddiad cwmwl helpu busnesau i fonitro eu hamgylcheddau cwmwl, gan ei gwneud hi\u2019n haws gweld ble mae adnoddau\u2019n cael eu defnyddio\u2019n effeithiol &#8211; neu\u2019n aneffeithiol &#8211; yn ogystal \u00e2 ble mae modd gwneud addasiadau neu ddiwygiadau.<\/li>\n<li><strong>Segmentiad llwyth gwaith y cwmwl<\/strong>. Dull ar sail y cwmwl yw segmentiad llwyth gwaith y cwmwl o wella diogelwch. Gall busnesau segmentio llwythi gwaith rhaglenni i ddatgelu risgiau a rhoi amddiffyniad ar waith heb orfod newid y rhwydwaith ehangach.<\/li>\n<li><strong>AI a chyfrifiadura cwmwl<\/strong>. Gall deallusrwydd artiffisial (AI) a chyfrifiadura cwmwl greu perthynas fuddiol i\u2019r ddwy elfen, yn y ffordd y gall AI helpu\u2019r cwmwl i reoli data a chael mewnwelediadau, a gall y cwmwl roi amddiffyniad data cyson wrth gefn ac adfer mewn amgylchedd AI. Disgwylir i\u2019r berthynas wella mewn blynyddoedd i ddod.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Helpu i gadw systemau\u2019r cwmwl yn ddiogel<\/h2>\n<p>Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrifiadura cwmwl, mae\u2019n werth nodi fod LinkedIn wedi\u2019i nodi\u2019n un o\u2019r sgiliau caled mwyaf poblogaidd ymysg cyflogwyr yn fyd-eang ar hyn o bryd. O ganlyniad, mae cyfrifiadura cwmwl &#8211; a diogelwch cwmwl &#8211; yn cynnig cyfleoedd a rhagolygon swyddi da iawn.<\/p>\n<p>Gallwch ddiogelu eich gyrfa i\u2019r dyfodol yn y maes hwn sy\u2019n newid yn gyflym gyda\u2019r <u>MBA Seiberddiogelwch &lt;https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/mba-cyber-security\/&gt;<\/u> hyblyg yn Ysgol Reoli Gogledd Cymru. Mae\u2019r radd hon, a fydd yn cael ei hastudio yn llwyr ar-lein, yn addas ar gyfer pobl o gefndir cyfrifiadureg ac fel arall, ac mae modd ei hastudio o amgylch eich ymrwymiadau presennol fel bod modd i chi ennill wrth ddysgu.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyfrifiadura cwmwl wedi gweld cynnydd mawr o ran twf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y bu datblygiad cyflym o ran technoleg ar sail cwmwl, ond hefyd roedd pandemig Covid-19 yn golygu bod angen symud at opsiynau o bell wrth i fusnesau symud oddi wrth weithio mewn swyddfa. Roedd cyfrifiadura cwmwl &#8211; &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1204,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1205","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae cyfrifiadura cwmwl wedi gweld cynnydd mawr o ran twf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y bu datblygiad cyflym o ran technoleg ar sail cwmwl, ond hefyd roedd pandemig Covid-19 yn golygu bod angen symud at opsiynau o bell wrth i fusnesau symud oddi wrth weithio mewn swyddfa. Roedd cyfrifiadura cwmwl &#8211; &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-04-26T13:13:27+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:04+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"7 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel\",\"datePublished\":\"2022-04-26T13:13:27+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/\"},\"wordCount\":1394,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/\",\"name\":\"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg\",\"datePublished\":\"2022-04-26T13:13:27+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:04+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/04\\\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Businessman using a laptop with a hologram of a cloud and a padlock over the top to indicate cloud security\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae cyfrifiadura cwmwl wedi gweld cynnydd mawr o ran twf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y bu datblygiad cyflym o ran technoleg ar sail cwmwl, ond hefyd roedd pandemig Covid-19 yn golygu bod angen symud at opsiynau o bell wrth i fusnesau symud oddi wrth weithio mewn swyddfa. Roedd cyfrifiadura cwmwl &#8211; &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-04-26T13:13:27+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:04+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"7 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel","datePublished":"2022-04-26T13:13:27+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/"},"wordCount":1394,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/","name":"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg","datePublished":"2022-04-26T13:13:27+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:04+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/Businessman-using-a-laptop-with-a-hologram-of-a-cloud-and-a-padlock-over-the-top-to-indicate-cloud-security.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Businessman using a laptop with a hologram of a cloud and a padlock over the top to indicate cloud security"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/diogelwch-ar-y-cwmwl-cadw-cyfrifiadura-cwmwl-yn-ddiogel\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Diogelwch ar y cwmwl: cadw cyfrifiadura cwmwl yn ddiogel"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1205"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1205\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1204"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1205"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1205"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}