{"id":1189,"date":"2022-03-21T15:51:33","date_gmt":"2022-03-21T15:51:33","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1189"},"modified":"2023-08-15T17:01:05","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:05","slug":"beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/","title":{"rendered":"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol?"},"content":{"rendered":"<p>Cymwysiadau cyfrifiadurol yw\u2019r feddalwedd rydych yn debygol o fod fwyaf cyfarwydd \u00e2\u2019i defnyddio. Maent yn rhaglenni sydd wedi\u2019u cynllunio i ymgymryd \u00e2 thasgau penodol, fel gwrando ar gerddoriaeth, anfon negeseuon e-bost, prosesu geiriau, neu lunio taenlen ar gyfer gwaith. Maent yn wahanol i feddalwedd fel meddalwedd gwasanaethu a system, sy\u2019n ymwneud \u00e2 gweithred a pherfformiad y cyfrifiadur ei hun.<\/p>\n<p>Meddyliwch amdano fel hyn: mae\u2019n debygol eich bod yn gwybod bod strwythur ffisegol eich cyfrifiadur \u2013 y monitor, y bysellfwrdd, ac unrhyw ddarn arall ohono y gallwch ei gyffwrdd \u2013 yn cael eu hadnabod fel caledwedd y cyfrifiadur.<\/p>\n<p>Mae\u2019r feddalwedd wedyn yn sicrhau bod eich cyfrifiadur yn gwneud rhywbeth pan fyddwch yn ei roi ymlaen. Meddalwedd system, er enghraifft, yw beth sy\u2019n dweud wrth y cyfrifiadur sut i weithio. Rhai o\u2019r enghreifftiau gorau o feddalwedd system yw systemau gweithredu, fel Windows, MacOS a Linux, sy\u2019n cefnogi swyddogaethau sylfaenol y cyfrifiadur. Mae meddalwedd gwasanaethu yn cefnogi rhwydwaith mewnol y cyfrifiadur \u2013 mae&#8217;n helpu i ffurfweddu, optimeiddio a chynnal y cyfrifiadur.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhain i gyd yn elfennau pwysig o gyfrifiaduron a systemau gwybodaeth. Ond ar eu pen eu hunain, mae\u2019r defnyddiwr terfynol \u2013 sef chi \u2013yn wynebu defnyddio dyfais eithaf di-nod.<\/p>\n<p>Dyma lle mae cymwysiadau cyfrifiadurol yn gwneud gwahaniaeth. Dyma\u2019r feddalwedd rydych chi\u2019n medru ei defnyddio go iawn. Microsoft Word, Excel, Powerpoint, Spotify, iTunes, Outlook, a phorwyr gwe fel Chrome \u2013 mae\u2019r rhain i gyd yn enghreifftiau cyffredin o gymwysiadau bwrdd gwaith rydych chi\u2019n debygol o\u2019u canfod a\u2019u defnyddio ar eich cyfrifiadur. Yn wir, mae\u2019n debygol bod eich cyfrifiadur eisoes wedi\u2019i rhagosod \u00e2 nifer o gymwysiadau sylfaenol fel y rhain.<\/p>\n<p>Sut mae cymwysiadau cyfrifiadurol yn gweithio<\/p>\n<p>Mae cymwysiadau cyfrifiadurol yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 gweddill meddalwedd eich cyfrifiadur. Mae eich cyfrifiadur yn eithaf di-nod heb gymwysiadau, ac mae cymwysiadau yn eithaf di-nod heb weddill y cyfrifiadur. Mae\u2019r cymwysiadau yn gofyn am feddalwedd system, er enghraifft, er mwyn rhedeg a gweithio fel y disgwyl. Er enghraifft, gall cymwysiadau gyfathrebu \u00e2 meddalwedd systemau er mwyn cael mynediad at adnoddau caledwedd fel storfa a chof y cyfrifiadur.<\/p>\n<p>Gall ambell i ffactor gwahanol effeithio ar sut mae meddalwedd cymwysiadau yn gweithio, fel sut mae wedi&#8217;i adeiladu, y cod y mae wedi&#8217;i ysgrifennu ynddo, a pha blatfform y mae&#8217;n rhedeg arno. Fel arfer, mae\u2019n perthyn i un o dri phrif gategori:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cymwysiadau brodorol.<\/strong> Mae\u2019r rhain yn rhedeg drwy ddefnyddio caledwedd penodol, fel camera ar eich gliniadur, ac yn cael eu hysgrifennu yn yr un <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/popular-modern-programming-languages-to-learn-for-career-progression\/\">iaith raglennu<\/a> a system weithredu\u2019r cyfrifiadur.<\/li>\n<li><strong>Cymwysiadau gwe.<\/strong> Fel arfer, mae\u2019r rhain ar gael drwy borwr gwe, ac nid oes ganddynt fynediad at galedwedd y cyfrifiadur. Gallant fod wedi\u2019u hysgrifennu mewn sawl iaith raglennu, fel HTML, JavaScript a CSS.<\/li>\n<li><strong>Cymwysiadau hybrid.<\/strong> Mae&#8217;r rhain yn gymysgedd o gymwysiadau brodorol a gwe \u2013 mae ganddynt fynediad at adnoddau dyfais, fel sydd gan gymwysiadau brodorol (drwy <a href=\"https:\/\/www.ibm.com\/cloud\/learn\/api\">Rhyngwynebau Rhaglennu Rhaglenni<\/a>), ond maent fel arfer wedi\u2019u hysgrifennu mewn ieithoedd fel HTML a CSS.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Cymwysiadau ac apiau: beth yw\u2019r gwahaniaeth?<\/p>\n<p>Rydych yn defnyddio cymwysiadau cyfrifiadurol bob dydd, ond efallai eich bod yn fwy cyfarwydd \u00e2\u2019r enw arall arnynt \u2013 apiau. Mae cymwysiadau ac apiau yr un peth yn y b\u00f4n, ond mae apiau yn cael eu cysylltu\u2019n bennaf \u00e2 dyfeisiau symudol, fel ffonau a llechi.<\/p>\n<p>Yn yr un modd \u00e2\u2019r cymwysiadau rydych chi\u2019n eu defnyddio ar eich cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, mae apiau symudol yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 system weithredu eich dyfais i wneud popeth, o chwarae gemau i weithredu swyddogaethau, fel camera neu seinydd y ff\u00f4n.<\/p>\n<p>Mae\u2019r unig wahaniaethau go iawn rhyngddynt yn rhai pitw. Gall rhaglenni cymwysiadau ar eich dyfais symudol ddefnyddio rhywbeth o\u2019r enw priodoliad ap symudol, sy\u2019n ffordd o olrhain a mesur defnydd defnyddiwr o fewn yr ap oherwydd nad yw\u2019n defnyddio pethau fel cwcis neu dagiau picsel, fel y byddai cymwysiadau gwe mwy traddodiadol yn debygol o wneud. Gall y wybodaeth defnyddiwr hon gynnwys pethau fel gweithgaredd neu bryniant o fewn yr ap, ac mae\u2019r wybodaeth wedyn yn cael ei dadansoddi er mwyn helpu i wella\u2019r ap.<\/p>\n<p>Gall <a href=\"https:\/\/www.w3.org\/WAI\/\">gofynion hygyrchedd<\/a> hefyd gyfrannu at wahaniaethau pitw rhwng cymwysiadau gwe ac apiau symudol. Mae hyn oherwydd bod pethau\u2019n gweithio ac yn ymddangos yn wahanol ar fonitor bwrdd gwaith mawr o gymharu \u00e2 sgrin symudol fechan, felly bydd hyn yn cael ei ystyried wrth ddatblygu meddalwedd.<\/p>\n<p>Mathau o gymwysiadau<\/p>\n<p>Os ydych chi erioed wedi pori drwy\u2019r Siop Apiau Apple ar iPhone neu Siop Google Play ar ddyfais Android, byddwch yn gwybod bod nifer di-rif o apiau ar gael. P\u2019un a ydych yn eu defnyddio drwy glicio ar eicon ar eich ff\u00f4n symudol, neu yn ymweld \u00e2 thudalennau gwe ar eich cyfrifiadur bwrdd gwaith, rydych yn defnyddio cymwysiadau.<\/p>\n<p>Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin mae:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Porwyr gwe:<\/strong> Mae opsiynau poblogaidd yn cynnwys Chrome, Safari a Firefox.<\/li>\n<li><strong>Prosesyddion geiriau.<\/strong> Microsoft Word yw\u2019r cymhwysiad prosesu geiriau mwyaf cyffredin ar gael, ac mae opsiynau am ddim hefyd, fel OpenOffice a Google Docs. Yn yr un modd, mae\u2019r holl offer sydd ar gael yn y pecyn Microsoft Office, o Excel i PowerPoint, yn gymwysiadau.<\/li>\n<li><strong>Systemau chwarae a golygu aml-gyfrwng.<\/strong> Mae popeth o VLC Media Player i YouTube yn apiau sy\u2019n chwarae fideos, ac os oes gennych chi brofiad o olygu lluniau, mae\u2019n debygol y byddwch eisoes yn gyfarwydd ag Adobe Photoshop a GIMP.<\/li>\n<li><strong>E-bost a rhaglenni cyfathrebu eraill.<\/strong> Mae apiau poblogaidd yn cynnwys Microsoft Outlook, Apple Mail, a Gmail ar gyfer negeseuon e-bost, a Zoom, FaceTime a Skype ar gyfer galwadau fideo. Ac wrth gwrs, apiau cyfryngau cymdeithasol \u2013 Facebook, WhatsApp, Instagram, TikTok, Twitter, a SnapChat, i restru ond rhai yn unig.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae digonedd o apiau eraill wedi\u2019u teilwra ar gyfer tasgau penodol hefyd, o feddalwedd addysgiadol &#8211; ar gyfer pob lefel astudio, a gan gynnwys popeth, o diwtorialau i opsiynau adborth &#8211; i gymwysiadau deallusrwydd artiffisial. Gallwch hyd yn oed ddefnyddio system rheoli cymwysiadau er mwyn helpu i fonitro a chynnal eich cymwysiadau. A bydd nifer o apiau yn manteisio ar <a href=\"https:\/\/azure.microsoft.com\/en-gb\/overview\/what-is-cloud-computing\">gyfrifiadura cwmwl<\/a> er mwyn sicrhau bod data\u2019n cael ei gadw mewn modd hygyrch, heb ddefnyddio gormod o le ar eich dyfais.<\/p>\n<p>Dysgwch fwy am gymwysiadau cyfrifiadurol<\/p>\n<p>Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymwysiadau cyfrifiadurol &#8211; neu efallai creu un eich hun hyd yn oed &#8211; mae galw sylweddol am weithwyr proffesiynol sy\u2019n medru helpu i lenwi\u2019r bwlch sgiliau TG a digidol yn y DU.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/msc-computer-science\/\">MSc Cyfrifiadureg<\/a> rhan-amser yn Ysgol Reoli Gogledd Cymru wedi\u2019i gynllunio gydag unigolion nad ydynt o gefndir cyfrifiadureg, ond sydd eisiau dechrau gyrfa yn y maes, mewn golwg, yn ogystal \u00e2 gweithwyr proffesiynol yn y maes sydd eisiau rhoi hwb i\u2019w gyrfa gyda chymhwyster o safon uchel &#8211; ac mae\u2019r radd hyblyg yn cael ei hastudio 100% ar-lein, felly gallwch ennill cyflog wrth ichi ddysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymwysiadau cyfrifiadurol yw\u2019r feddalwedd rydych yn debygol o fod fwyaf cyfarwydd \u00e2\u2019i defnyddio. Maent yn rhaglenni sydd wedi\u2019u cynllunio i ymgymryd \u00e2 thasgau penodol, fel gwrando ar gerddoriaeth, anfon negeseuon e-bost, prosesu geiriau, neu lunio taenlen ar gyfer gwaith. Maent yn wahanol i feddalwedd fel meddalwedd gwasanaethu a system, sy\u2019n ymwneud \u00e2 gweithred a pherfformiad &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1188,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1189","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Cymwysiadau cyfrifiadurol yw\u2019r feddalwedd rydych yn debygol o fod fwyaf cyfarwydd \u00e2\u2019i defnyddio. Maent yn rhaglenni sydd wedi\u2019u cynllunio i ymgymryd \u00e2 thasgau penodol, fel gwrando ar gerddoriaeth, anfon negeseuon e-bost, prosesu geiriau, neu lunio taenlen ar gyfer gwaith. Maent yn wahanol i feddalwedd fel meddalwedd gwasanaethu a system, sy\u2019n ymwneud \u00e2 gweithred a pherfformiad &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-21T15:51:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol?\",\"datePublished\":\"2022-03-21T15:51:33+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:05+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/\"},\"wordCount\":1152,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/\",\"name\":\"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg\",\"datePublished\":\"2022-03-21T15:51:33+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:05+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Computer applications work in partnership with the rest of a computer\u2019s software.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Cymwysiadau cyfrifiadurol yw\u2019r feddalwedd rydych yn debygol o fod fwyaf cyfarwydd \u00e2\u2019i defnyddio. Maent yn rhaglenni sydd wedi\u2019u cynllunio i ymgymryd \u00e2 thasgau penodol, fel gwrando ar gerddoriaeth, anfon negeseuon e-bost, prosesu geiriau, neu lunio taenlen ar gyfer gwaith. Maent yn wahanol i feddalwedd fel meddalwedd gwasanaethu a system, sy\u2019n ymwneud \u00e2 gweithred a pherfformiad &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-03-21T15:51:33+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:05+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol?","datePublished":"2022-03-21T15:51:33+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:05+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/"},"wordCount":1152,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/","name":"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg","datePublished":"2022-03-21T15:51:33+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:05+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Programmer-sat-at-a-computer-coding.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Computer applications work in partnership with the rest of a computer\u2019s software."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/beth-yw-cymwysiadau-cyfrifiadurol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Beth yw cymwysiadau cyfrifiadurol?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1189","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1189"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1189\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1188"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1189"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1189"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1189"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}