{"id":1185,"date":"2022-03-15T11:47:58","date_gmt":"2022-03-15T11:47:58","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1185"},"modified":"2023-08-15T17:01:05","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:05","slug":"wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/","title":{"rendered":"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#8217;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu"},"content":{"rendered":"<p>Mae Wi-Fi Cyhoeddus bron ym mhob man y dyddiau hyn. Pryd bynnag y byddwch chi i ffwrdd o&#8217;ch llwybrydd cartref neu swyddfa, mae&#8217;n debygol na fydd rhaid i chi ddefnyddio data eich ff\u00f4n symudol os nad ydych chi am wneud hynny. Mae rhai o rwydweithiau ffonau symudol mwyaf y DU yn cynnig poethfannau Wi-Fi rhad ac am ddim \u2013 hyd yn oed i bobl nad ydyn nhw\u2019n gwsmeriaid \u2013 ac mae llawer o leoedd yn cynnig Wi-Fi rhad ac am ddim i gwsmeriaid ac ymwelwyr.<\/p>\n<p>Mae O2 a Sky, er enghraifft, gyda&#8217;i gilydd yn cynnig mwy na 35,000 o boethfannau rhad ac am ddim mewn mannau cyhoeddus ledled y wlad, ac maen nhw ar gael hyd yn oed i&#8217;r rhai nad ydynt yn defnyddio eu rhwydweithiau. Rydych chi hefyd yn debygol o allu defnyddio cysylltiad Wi-Fi rhad ac am ddim mewn lleoedd fel bwytai cadwyn, siopau coffi, amgueddfeydd a meysydd awyr.<\/p>\n<h2>Sut i gysylltu \u00e2 Wi-Fi cyhoeddus<\/h2>\n<p>P&#8217;un a ydych chi&#8217;n defnyddio iPhone neu un o&#8217;r gwahanol ddyfeisiau Android sydd ar gael, gallwch gael mynediad rhad ac am ddim i&#8217;r rhyngrwyd drwy boethfannau Wi-Fi cyhoeddus drwy ymweld \u00e2&#8217;r gosodiadau ar eich dyfais a chwilio am eich opsiynau Wi-Fi, ac yna dewis poethfan rydych chi&#8217;n ymddiried ynddi.<\/p>\n<p>Ond cofiwch, mae ambell beth y dylech chi fod yn ymwybodol ohono wrth ddefnyddio rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus.<\/p>\n<ol>\n<li>Nid yw pob un ohonynt yn rhad ac am ddim. Er enghraifft, os ydych chi am ddefnyddio poethfan BT ond nad ydych chi\u2019n gwsmer BT, bydd angen i chi dalu naill ai ar alw fesul awr neu fesul diwrnod, neu gofrestru ar gyfer cynllun tanysgrifio.<\/li>\n<li>Mae cyflymder y cysylltiad fel arfer yn eithaf araf, felly fel arfer nid yw&#8217;n addas ar gyfer ffrydio cerddoriaeth neu fideos.<\/li>\n<li>Yn bwysicaf oll, mae angen i chi gofio na fydd eich cysylltiad o reidrwydd yn ddiogel pan fyddwch chi\u2019n defnyddio\u2019r rhwydweithiau di-wifr hyn, a gall hyn eich gadael yn agored i nifer o fygythiadau.<\/li>\n<\/ol>\n<h2>Y risgiau o ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus<\/h2>\n<p>Mae seiberddiogelwch yr un mor bwysig pan fyddwch chi\u2019n cyrchu&#8217;r rhyngrwyd ar <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/what-is-mobile-device-security\/\">ddyfais symudol<\/a> ag ydyw pan fyddwch chi\u2019n defnyddio&#8217;ch cyfrifiadur a chysylltiad diogel gartref. Ac os ydych chi&#8217;n defnyddio cysylltiad Wi-Fi cyhoeddus, gallwch fod mewn mwy o berygl o ildio i sgam gan hacwyr neu seiberdroseddwyr eraill.<\/p>\n<p>Gall y risgiau hyn gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Drwgwedd. <\/strong>Gellir plannu firysau, mwydod, ceffylau Trojan, meddalwedd wystlo a meddalwedd hysbysebu a&#8217;u gosod ar eich dyfais heb i chi wybod a heb eich caniat\u00e2d.<\/li>\n<li><strong>Dwyn<\/strong>. Gall troseddwyr gael gafael ar eich data personol, gwybodaeth sensitif, manylion cerdyn credyd, cyfrineiriau cyfryngau cymdeithasol, a mwy, ar-lein os nad ydych chi\u2019n amddiffyn eich hun yn eu herbyn.<\/li>\n<li><strong>Ymosodiadau dyn yn y canol.<\/strong> Yn cael eu galw hefyd yn ymosodiadau canol, mae&#8217;r senarios hyn yn digwydd pan fydd seiberfwlio yn rhyng-gipio cyfathrebu \u2013 h.y. data neu neges \u2013 rhyngoch chi a&#8217;r endid rydych chi&#8217;n ceisio cyfathrebu ag ef.<\/li>\n<li><strong>Efeilliaid drwg<\/strong>. Rhwydweithiau Wi-Fi yw&#8217;r rhain sy&#8217;n ymddangos yn ddilys, ond nid ydyn nhw\u2019n ddilys. Er enghraifft, efallai eich bod yn Starbucks ac yn gweld &#8216;Starbucks2&#8217; fel rhwydwaith Wi-Fi agored. Efallai y bydd rhai&#8217;n tybio bod y rhwydwaith yn ddiogel i&#8217;w ddefnyddio, ond yn yr achos hwn, nid Wi-Fi Starbucks ar gyfer cwsmeriaid yw hwn \u2013 ond sgamiwr clyfar sydd wedi eich twyllo i gael mynediad i&#8217;w rhwydwaith fel y gallant ddilyn eich gweithgarwch ar-lein.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Awgrymiadau i gadw&#8217;n ddiogel wrth ddefnyddio poethfan Wi-Fi cyhoeddus<\/h2>\n<p>Mae nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i roi hwb i&#8217;ch diogelwch Wi-Fi cyhoeddus wrth ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd cyhoeddus.<\/p>\n<p>Yr awgrym gorau yw bod yn ofalus. Smaliwch y gall unrhyw beth rydych chi&#8217;n ei ddefnyddio neu&#8217;n ei rannu ar-lein wrth ddefnyddio Wi-Fi heb ei ddiogelu \u2013 neu boethfannau mynediad Wi-Fi cyhoeddus eraill \u2013 gael eu gweld gan rywun arall.<\/p>\n<p>Dylech analluogi neu gyfyngu ar rannu ffeiliau, bod yn ystyriol o ddata personol neu sensitif rydych chi&#8217;n ei rannu \u2013 fel manylion banc, manylion mewngofnodi, ac yn y blaen \u2013 a bod yn wyliadwrus yn erbyn unrhyw bwyntiau mynediad sy&#8217;n ymddangos yn amheus neu&#8217;n anghyfreithlon. Byddwch yn wyliadwrus, hefyd, o unrhyw rwydweithiau sy&#8217;n codi materion dilysu, neu&#8217;n gofyn i chi roi llawer o wybodaeth bersonol, fel eich rhif ff\u00f4n, y tro cyntaf y byddwch chi\u2019n ei ddefnyddio i gael mynediad i&#8217;r rhyngrwyd.<\/p>\n<p>Dyma ychydig o ragofalon ychwanegol y gallwch chi eu cymryd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ymweld \u00e2 gwefannau HTTPS yn unig.<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae eich cysylltiad yn ddiogel ac wedi&#8217;i amgryptio os byddwch chi\u2019n gweld HTTPS yn yr URL gwe rydych chi&#8217;n ymweld ag ef.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, cofiwch na fydd hyn bob amser yn golygu bod y wefan ei hun yn ddilys. Nid yw&#8217;r ffaith bod gwefan sgamiwr wedi&#8217;i hamgryptio yn newid y ffaith ei bod yn wefan i sgamiwr.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Defnyddio ap Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN).<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Drwy osod cleient VPN ar eich dyfais, byddwch yn ennill cyfeiriad IP newydd ac yn amgryptio&#8217;r data sy&#8217;n teithio i&#8217;ch dyfais ac oddi arni. Mae hyn yn golygu na fydd pobl sy&#8217;n defnyddio&#8217;r un rhwydwaith \u2013 neu weithredwr y rhwydwaith ei hun \u2013 yn gallu gweld eich gweithgarwch na&#8217;ch manylion yn hawdd.<\/p>\n<p>Mae yna opsiynau VPN taledig gan fusnesau gwrth-feirws a seiberddiogelwch fel <a href=\"https:\/\/us.norton.com\/products\/norton-secure-vpn\">Norton<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.kaspersky.co.uk\/vpn-secure-connection\">Kaspersky<\/a>. Mae&#8217;r rhain yn gweithio ar gyfer system weithredu Apple iOS a system weithredu Android ar gyfer dyfeisiau symudol, yn ogystal ag ar Mac a Windows.<\/p>\n<p>Gallech hefyd roi cynnig ar ddefnyddio <a href=\"https:\/\/support.mozilla.org\/en-US\/kb\/firefox-private-network-extension-browse-securely-\">estyniad Rhwydwaith Preifat Firefox<\/a>, sydd yn rhad ac am ddim am gyfnod cyfyngedig o amser bob mis. Mae&#8217;n caniat\u00e1u i chi droi ei &#8216;rwydwaith preifat&#8217; ymlaen pan fyddwch chi\u2019n defnyddio Wi-Fi cyhoeddus ac eisiau amgryptio eich gweithgarwch.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Gwirio eich gosodiadau Wi-Fi fel mater o drefn<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n<p>Efallai y bydd gan eich ff\u00f4n swyddogaeth lle mae&#8217;n cysylltu&#8217;n awtomatig ag unrhyw wasanaeth Wi-Fi agored sydd ar gael. Gallwch analluogi&#8217;r gosodiad hwn yn eich dewisiadau system i sicrhau nad yw&#8217;n digwydd.<\/p>\n<p>Dylech hefyd sicrhau eich bod yn dileu neu &#8216;anghofio&#8217; unrhyw rwydwaith cyhoeddus rydych chi&#8217;n ei ddefnyddio ar \u00f4l i chi orffen ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu na fydd eich ff\u00f4n yn cofio&#8217;r rhwydwaith, ac na fydd yn ceisio cysylltu ag ef eto yn awtomatig yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Ac os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, byddwch yn ddiogel a chadw at ddefnyddio&#8217;ch data symudol, yn hytrach na defnyddio rhwydwaith cyhoeddus. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi ar-lein i wirio eich manylion banc neu ddata sensitif iawn arall.<\/p>\n<h2>Eisiau cadw&#8217;n ddiogel ar-lein \u2013 a helpu eraill i gadw&#8217;n ddiogel hefyd?<\/h2>\n<p>Mae bygythiadau newydd yn dod i&#8217;r amlwg ar-lein bob dydd, sef un o&#8217;r rhesymau pam mae busnesau angen pobl sydd \u00e2 sgiliau seiberddiogelwch i helpu i leihau risgiau posibl.<\/p>\n<p>Gallwch ddiogelu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol gyda&#8217;r <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/mba-cyber-security\/\">MBA Seiberddiogelwch<\/a> o Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru.\u00a0 Mae&#8217;r radd hyblyg yn cael ei hastudio 100% ar-lein, ac mae&#8217;n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol \u2013 p&#8217;un a oes ganddynt gefndir mewn cyfrifiadureg ai peidio \u2013 sydd am wella eu rhagolygon gyrfa drwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau seiberddiogelwch poblogaidd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Wi-Fi Cyhoeddus bron ym mhob man y dyddiau hyn. Pryd bynnag y byddwch chi i ffwrdd o&#8217;ch llwybrydd cartref neu swyddfa, mae&#8217;n debygol na fydd rhaid i chi ddefnyddio data eich ff\u00f4n symudol os nad ydych chi am wneud hynny. Mae rhai o rwydweithiau ffonau symudol mwyaf y DU yn cynnig poethfannau Wi-Fi rhad &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1184,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1185","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#039;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#039;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Wi-Fi Cyhoeddus bron ym mhob man y dyddiau hyn. Pryd bynnag y byddwch chi i ffwrdd o&#8217;ch llwybrydd cartref neu swyddfa, mae&#8217;n debygol na fydd rhaid i chi ddefnyddio data eich ff\u00f4n symudol os nad ydych chi am wneud hynny. Mae rhai o rwydweithiau ffonau symudol mwyaf y DU yn cynnig poethfannau Wi-Fi rhad &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-15T11:47:58+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#8217;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu\",\"datePublished\":\"2022-03-15T11:47:58+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:05+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/\"},\"wordCount\":1214,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/\",\"name\":\"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw'n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg\",\"datePublished\":\"2022-03-15T11:47:58+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:05+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Cybersecurity is just as important when you\u2019re accessing the internet on a mobile device as it is when you\u2019re using your computer and a secure connection at home.\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#8217;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw'n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw'n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae Wi-Fi Cyhoeddus bron ym mhob man y dyddiau hyn. Pryd bynnag y byddwch chi i ffwrdd o&#8217;ch llwybrydd cartref neu swyddfa, mae&#8217;n debygol na fydd rhaid i chi ddefnyddio data eich ff\u00f4n symudol os nad ydych chi am wneud hynny. Mae rhai o rwydweithiau ffonau symudol mwyaf y DU yn cynnig poethfannau Wi-Fi rhad &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-03-15T11:47:58+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:05+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#8217;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu","datePublished":"2022-03-15T11:47:58+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:05+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/"},"wordCount":1214,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/","name":"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw'n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg","datePublished":"2022-03-15T11:47:58+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:05+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Hands-holding-a-mobile-phone-in-a-public-place-with-a-wifi-sign-above.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Cybersecurity is just as important when you\u2019re accessing the internet on a mobile device as it is when you\u2019re using your computer and a secure connection at home."},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wi-fi-cyhoeddus-sut-i-gadwn-ddiogel-tra-byddwch-chi-wedi-cysylltu\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Wi-Fi Cyhoeddus: sut i gadw&#8217;n ddiogel tra byddwch chi wedi cysylltu"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1185","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1185"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1185\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1184"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1185"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1185"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1185"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}