{"id":1179,"date":"2022-03-07T11:48:51","date_gmt":"2022-03-07T11:48:51","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1179"},"modified":"2023-08-15T17:01:05","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:05","slug":"pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p>Os oes angen i fusnes gyrraedd cynulleidfa darged newydd yn gyflym, yna hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yw un o\u2019r ffyrdd mwyaf effeithiol i wneud hynny. Ac un o\u2019r ffyrdd rhataf hefyd.<\/p>\n<p>Meddyliwch am y teclyn c\u0175l y prynoch chi i\u2019r gegin ar \u00f4l gweld hysbyseb ar Facebook, neu\u2019r dillad a brynoch chi\u2019n fyrbwyll ar \u00f4l gweld hysbysebion ar Instagram. Fe welsoch chi\u2019r hysbysebion hynny ar-lein oherwydd rydych chi ymysg demograffig targed eu nwyddau \u2013 ac, yn amlwg, fe weithiodd y strategaeth hysbysebu.<\/p>\n<p>Mae hyn oherwydd bod yr hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud defnydd da o\u2019r data personol yr ydym ni\u2019n eu rhoi ar apiau fel Facebook, Twitter ac Instagram i ddangos brandiau, nwyddau a gwasanaethau yr ydym ni\u2019n fwyaf tebygol o fod eu heisiau neu eu mwynhau. O safbwynt prisio, bydd hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn costio llai i fusnes na\u2019r dulliau mwy traddodiadol fel hysbysebu print, hysbysebu radio, neu hysbysebu tu allan fel hysbysfyrddau.<\/p>\n<h2>Pam bod hysbysebu yn bwysig<\/h2>\n<p>Os yw busnes eisiau gwerthu rhywbeth, bydd angen iddo hysbysebu. Ni all darpar gwsmeriaid neu gleientiaid brynu nwyddau neu wasanaethau os nad ydynt yn gwybod amdanynt.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae hysbysebu yn chwarae rhan bwysig mewn datblygu ymwybyddiaeth o frand ac yn gallu helpu busnes i ddal gafael ar ei gwsmeriaid presennol hyd yn oed.<\/p>\n<p>Mewn byd sydd yn gynyddol ar-lein, dylai hysbysebu digidol fod yn rhan greiddiol o<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/the-importance-of-a-strategic-marketing-strategy\/\">strategaeth farchnata<\/a> sefydliad i sicrhau ei fod yn dal yn gystadleuol yn y farchnad \u2013 ac yn sefyll allan.<\/p>\n<h2>Fformatau hysbysebu ar-lein<\/h2>\n<p>Gall hysbysebion ar-lein fod mewn llawer o ffurfiau. Er enghraifft, gallai ymgyrch hysbysebu ddigidol gynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Hysbysebion Google<\/strong>: Mae hysbysebwyr yn ceisio dangos eu hysbysebion mewn canlyniadau chwilio Google ac ar wefannau, apiau ar ffonau symudol, a fideos, ac yn talu am y gwasanaeth hwn o dan fodel prisio talu-fesul-clic (PPC). Yn y b\u00f4n, maent yn fath o <a href=\"https:\/\/pushninja.com\/push-and-pull-marketing\">hysbyseb dynnu<\/a>, ac yn gadael i hysbysebwyr ddangos hysbysebion ar Rwydwaith Arddangos Google (GDN), sef casgliad o fwy na dwy filiwn o wefannau sy\u2019n cyrraedd mwy na 90% o ddefnyddwyr rhyngrwyd y byd.<\/li>\n<li><strong>Hysbysebion arddangos<\/strong>: Os mai math o hysbyseb dynnu yw hysbysebion Google, yna mae hysbysebion arddangos yn fath o hysbyseb wthio, ble mae hysbysebwyr fel arfer yn talu ar sail cost-fesul-clic (CPC) i ddenu pobl i\u2019w safleoedd neu lwyfannau digidol eraill. Er enghraifft, efallai bod hysbyseb fras sy\u2019n ddeniadol i\u2019r llygad i\u2019w gweld mewn canlyniadau chwilio i ddenu defnyddwyr at dudalen lanio\u2019r hysbysebwr ble c\u00e2nt eu hannog i weithredu mewn rhyw ffordd, fel prynu rhywbeth.<\/li>\n<li><strong>Hysbysebion naid<\/strong>: Mae hysbysebion naid yn fath poblogaidd o hysbysebu ar-lein. Fel arfer, mae\u2019r rhain ar ffurf ffenestr fach o destun ac\/neu graffeg sy\u2019n neidio ar du blaen y dudalen we rydych chi\u2019n edrych arni. Gall busnes dalu i ddangos hysbyseb ar wefan berthnasol \u2013 er enghraifft, gallai asiantaeth deithio fod eisiau dangos hysbyseb naid ar flog teithio \u2013 neu\u2019n fwy cyffredin, fe welwch y rhain ar wefan y brand fel ffordd i helpu i droi porwyr yn brynwyr.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae llawer o opsiynau o ran hysbysebu ar-lein, boed hynny\u2019n hysbysebu ar wefannau eraill, o fewn canlyniadau chwilio, neu rhwng clipiau fideo. Mae hyn oherwydd bod llawer o fusnesau digidol yn cynhyrchu eu refeniw drwy werthu hysbysebion, tanysgrifiadau, neu&#8217;r ddau.<\/p>\n<p>Er enghraifft, gall papur newydd ar-lein werthu tanysgrifiadau misol fel y gall defnyddwyr fynd at straeon newyddion, neu byddant yn gwerthu hysbysebion fel bod eu darllenwyr yn gallu mynd at y cynnwys am ddim. Bydd rhai yn gwneud cymysgedd o\u2019r ddau beth, yn cynnig cynnwys yn arbennig i danysgrifwyr ac yna\u2019n ennill arian drwy gyfrwng eu newyddion sydd ar gael yn rhwydd drwy werthu hysbysebion ar y tudalennau hynny.<\/p>\n<h2>Opsiynau hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol<\/h2>\n<p>Dylai strategaeth i hysbysebu brand bron yn sicr gynnwys hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol \u2013 pa ffordd well i sicrhau bod hysbyseb yn cael ei gweld nag wrth ei dangos ar ffonau symudol sylfaen o gwsmeriaid targed?<\/p>\n<p>Fel hysbysebu ar-lein yn fwy cyffredinol, mae gwahanol fathau o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol. Gellir prynu hysbysebion yn uniongyrchol o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter neu TikTok, neu gall busnes hurio asiantaeth hysbysebu i wneud hyn ar ei ran. Mae gwahanol nwyddau ar y farchnad hefyd a fydd yn awtomeiddio\u2019r broses.<\/p>\n<p>Yn rhan o\u2019r broses, gellir creu hysbysebion i ganolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd targed penodol. Er enghraifft, efallai bod busnes eisiau targedu gr\u0175p oedran, rhyw neu ranbarth arbennig. Mae modd addasu\u2019r opsiynau o fewn hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a\u2019u gosod i dargedu cynulleidfaoedd cul ac eang \u2013 boed hynny yn bawb yn y Deyrnas Unedig, neu\u2019n oedran penodol mewn un ardal neilltuol.<\/p>\n<p>Gallai busnesau hefyd ofyn am gefnogaeth neu \u2018hysbysebion golygyddol\u2019 gan ddylanwadwyr poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai dylanwadwr sydd \u00e2 thipyn o ddylanwad ar-lein mewn ffasiwn helpu i werthu dillad. Gallai\u2019r dylanwadwr hwn dderbyn rhai nwyddau yn rhad ac am ddim, ac yna byddai\u2019n eu gwisgo ac yn siarad amdanynt i\u2019w ddilynwyr ar-lein.<\/p>\n<p>Er hynny, mae\u2019n werth nodi bod y math hwn o hysbysebu yn un sy\u2019n esblygu, ac mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.asa.org.uk\/advice-online\/recognising-ads-social-media.html\">Awdurdod Safonau Hysbysebu wedi cyhoeddi cyngor yn ddiweddar ar hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sproutsocial.com\/insights\/social-media-use-by-generation-en_gb\/\">Yn \u00f4l un canllaw ar sut mae gwahanol genedlaethau yn defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol, <\/a>os yw busnes eisiau cyrraedd cynulleidfa Cenhedlaeth Z, mae TikTok yn ddewis da \u2013 a bydd angen i hysbyseb fod ar ffurf clip fideo byr. Yn y cyfamser, mae\u2019n debyg mai Facebook yw\u2019r llwyfan mwyaf priodol i dargedu Cenhedlaeth X.<\/p>\n<p>O ran costau, <a href=\"https:\/\/www.falcon.io\/insights-hub\/topics\/social-media-roi\/how-much-do-ads-cost-on-facebook-instagram-twitter-and-linkedin-in-2018\/\">bydd y pris yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau<\/a><u>,<\/u> gan gynnwys pa lwyfan cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir, ac ym mha faes y mae\u2019r busnes.<\/p>\n<h2>Cadw golwg ar hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol<\/h2>\n<p>Wrth i\u2019r cyfryngau cymdeithasol dyfu a newid, felly hefyd y mae\u2019r hysbysebu ar y cyfryngau hyn. Gallwch aros ar y blaen gyda <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/mba-marketing\/\">gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) a Marchnata<\/a> gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru sydd yn ddelfrydol i weithwyr proffesiynol sydd eisiau gwella eu rhagolygon gyrfa drwy ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o farchnata.<\/p>\n<p>Boed chi eisoes yn gweithio yn y byd hysbysebu neu awydd newid, mae\u2019r radd MBA hyblyg yn gyfan gwbl ar-lein, a gallwch astudio unrhyw bryd, unrhyw le, ac ar unrhyw ddyfais.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os oes angen i fusnes gyrraedd cynulleidfa darged newydd yn gyflym, yna hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yw un o\u2019r ffyrdd mwyaf effeithiol i wneud hynny. Ac un o\u2019r ffyrdd rhataf hefyd. Meddyliwch am y teclyn c\u0175l y prynoch chi i\u2019r gegin ar \u00f4l gweld hysbyseb ar Facebook, neu\u2019r dillad a brynoch chi\u2019n fyrbwyll ar &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1176,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1179","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Os oes angen i fusnes gyrraedd cynulleidfa darged newydd yn gyflym, yna hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yw un o\u2019r ffyrdd mwyaf effeithiol i wneud hynny. Ac un o\u2019r ffyrdd rhataf hefyd. Meddyliwch am y teclyn c\u0175l y prynoch chi i\u2019r gegin ar \u00f4l gweld hysbyseb ar Facebook, neu\u2019r dillad a brynoch chi\u2019n fyrbwyll ar &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-03-07T11:48:51+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol\",\"datePublished\":\"2022-03-07T11:48:51+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:05+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\"},\"wordCount\":1064,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\",\"name\":\"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg\",\"datePublished\":\"2022-03-07T11:48:51+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:05+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Close up of hands using a smartphone with icons of likes hovering above to indicate social media use\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Os oes angen i fusnes gyrraedd cynulleidfa darged newydd yn gyflym, yna hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol yw un o\u2019r ffyrdd mwyaf effeithiol i wneud hynny. Ac un o\u2019r ffyrdd rhataf hefyd. Meddyliwch am y teclyn c\u0175l y prynoch chi i\u2019r gegin ar \u00f4l gweld hysbyseb ar Facebook, neu\u2019r dillad a brynoch chi\u2019n fyrbwyll ar &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2022-03-07T11:48:51+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:05+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol","datePublished":"2022-03-07T11:48:51+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:05+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/"},"wordCount":1064,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/","name":"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg","datePublished":"2022-03-07T11:48:51+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:05+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/Close-up-of-hands-using-a-smartphone-with-icons-of-likes-hovering-above-to-indicate-social-media-use.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Close up of hands using a smartphone with icons of likes hovering above to indicate social media use"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/pwysigrwydd-hysbysebu-ar-y-cyfryngau-cymdeithasol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Pwysigrwydd hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1179","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1179"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1179\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1176"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1179"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1179"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1179"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}