{"id":1115,"date":"2021-10-25T17:01:21","date_gmt":"2021-10-25T16:01:21","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1115"},"modified":"2023-08-15T17:01:06","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:06","slug":"sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/","title":{"rendered":"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid?"},"content":{"rendered":"<p>Mae sgiliau rheoli rhanddeiliaid yn hanfodol i weithwyr marchnata proffesiynol sy\u2019n rheoli prosiectau mawr neu gymhleth trwy\u2019r holl gwmni. Er mwyn i berthnasoedd da ffynnu yn y t\u00eem marchnata a rhwng rhanddeiliaid hollbwysig y t\u00eem, mae hi\u2019n hanfodol ichi gynnal arferion cyfathrebu da, yn fewnol ac yn allanol. Pan na chaiff strategaethau eu rhannu, mae hi\u2019n hawdd iawn i dimau weithio mewn \u2018seilos\u2019, gan arwain at weithio\u2019n groes neu ddyblu\u2019r gwaith.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, os na fydd eich ffordd o gyfathrebu \u00e2 rhanddeiliaid allanol yn ddigon amlwg, gall roi pwysau hyd yn oed ar berthnasoedd da gyda buddsoddwyr, er enghraifft. Trwy roi strategaeth rheoli rhanddeiliaid ar waith, bydd modd i dimau gydweddu trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb a diweddariadau trwy gyfrwng amryfal sianeli.<\/p>\n<p>Bydd defnyddio technegau <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=HP2MZscvFl8\">mapio rhanddeiliaid<\/a> yn helpu i bennu rhanddeiliaid hollbwysig. Mae yna bedwar o brif grwpiau i\u2019w cael, sef:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Diddordeb mawr \u2013 p\u0175er mawr:<\/strong> Yr unigolion hyn yw\u2019r rhai pwysicaf, a rhaid eu rheoli\u2019n ofalus er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys, ac er mwyn iddynt allu arfer eu dylanwad.<\/li>\n<li><strong>Diddordeb bach \u2013 p\u0175er bach:<\/strong> Er bod angen rhoi\u2019r diweddaraf i\u2019r rhanddeiliaid hyn, mae eu p\u0175er yn gyfyngedig iawn, felly y cwbl y bydd yn rhaid ichi ei wneud yw eu monitro am unrhyw newid yn lefel eu dylanwad.<\/li>\n<li><strong>Diddordeb bach \u2013 p\u0175er mawr:<\/strong> Rhaid cadw\u2019r rhanddeiliaid hyn yn hapus oherwydd mae ganddynt lawer o ddylanwad; serch hynny, bach yw eu diddordeb. Gwnewch yn si\u0175r na fyddwch yn eu gorlwytho \u00e2 gwybodaeth.<\/li>\n<li><strong>Diddordeb mawr \u2013 p\u0175er bach:<\/strong> Mae\u2019r aelodau hyn o\u2019r t\u00eem yn werthfawr oherwydd maent yn teimlo eu bod wedi buddsoddi\u2019n fawr yn y prosiect; serch hynny, nid oes ganddynt lawer o ddylanwad. Rhowch y diweddaraf iddynt a chadwch nhw o\u2019ch tu.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yna, bydd y gwaith mapio yn eich helpu i gynllunio calendr o negeseuon cyfathrebu\u2019n ymwneud \u00e2 cherrig milltir arbennig yn y prosiect, gan eich helpu hefyd i ganfod i ba randdeiliaid a thimau prosiect y mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol, a pha bryd. Wrth ystyried yr amryfal ffyrdd o ddiweddaru rhanddeiliaid prosiectau, mae hi\u2019r un mor bwysig ichi beidio \u00e2 pheledu pobl \u00e2 gwybodaeth amherthnasol. Gall hyn arwain at leihau eu diddordeb, gan roi\u2019r berthynas \u00e2\u2019r rhanddeiliaid \u2013 a llwyddiant y prosiect, hyd yn oed \u2013 yn y fantol.<\/p>\n<p>Ymhellach, dylid ystyried hygyrchedd yn achos pobl \u00e2 nam ar eu golwg. Felly, er bod <a href=\"https:\/\/piktochart.com\/blog\/internal-comms-infographics\/\">ffeithluniau<\/a> yn ffordd wych o rannu llawer o ddata mewn ffordd sy\u2019n ddealladwy yn syth, byddai\u2019n fuddiol anodi unrhyw asedau gweledol yn y testun plaen gyda manylion llawn am y cynnwys. Bydd hyn hefyd yn ddefnyddiol i randdeiliaid sydd angen ystadegau arbennig er mwyn gallu eu rhannu gyda\u2019u timau a chymell eu timau.<\/p>\n<p>Mae fideo yn ffordd hawdd a chyflym o rannu prif eitemau newyddion na ch\u00e2nt eu defnyddio bob amser. Nid oes yn rhaid i\u2019r fideo fod yn hir nac yn gymhleth ei natur; ond gan fod pobl wedi troi at gyfathrebu trwy fideo yn ystod y pandemig, maent yn fwy cyfarwydd \u00e2 chael gafael ar wybodaeth yn y ffordd hon erbyn hyn. Unwaith eto, ystyriwch anodi\u2019r fideo trwy ddefnyddio pwyntiau bwled er mwyn ymhelaethu ar y prif bwyntiau ac unrhyw ystadegau defnyddiol. Rhowch y fideo ar dudalen we a chynhwyswch y ddolen mewn diweddariad e-bost er mwyn osgoi llenwi mewnflychau pobl ag atodiadau mawr. Bydd hyn hefyd yn golygu y bydd gan y fideo gartref ac y gellir cael gafael arno bob amser, a throi\u2019n \u00f4l ato.<\/p>\n<p>Gan fod rhai busnesau\u2019n parhau i weithio o bell, am gyfran o\u2019r amser o leiaf, ac yn sicr yn achos busnesau rhyngwladol mewn rhanbarthau amser gwahanol, mae llawer ohonynt yn dal i gyfathrebu trwy gyfrwng cynadleddau fideo. Yn \u00f4l adroddiadau sydd wedi ymddangos ar sawl platfform newyddion, roedd gweithwyr wedi dechrau <u>syrffedu ar alwadau fideo<\/u> hyd yn oed yn ystod misoedd cyntaf y pandemig. Dyma reswm arall pam y gall diweddariadau fideo sydd wedi\u2019u recordio ymlaen llaw fod yn ddefnyddiol, er mwyn i wahanol randdeiliaid allu eu gwylio yn eu hamser eu hunain. Ond wrth gwrs, mae hi\u2019n bwysig parhau i gynnal cyfarfodydd un-i-un hefyd, yn ogystal \u00e2 sicrhau bod yna ddigon o amser yn ystod galwadau fideogynadledda mawr i gynnwys sesiwn Holi ac Ateb er mwyn i bawb gael cyfle i siarad.<\/p>\n<p>Er mai tasg eithaf hawdd yw dod o hyd i dempled cynllun ymgysylltu a gwrando ar wahanol <a href=\"https:\/\/www.forbes.com\/sites\/forbescoachescouncil\/2021\/01\/22\/13-ways-to-better-keep-stakeholders-in-the-communications-loop\/?sh=78bde3677e7c\">awgrymiadau<\/a> yngl\u0177n \u00e2 sut a phryd i gyfarfod ag amryfal randdeiliaid, mae pob busnes yn wahanol. Efallai y bydd cynnal cyfarfod sefyll wythnosol ar gyfer rheolwyr prosiectau o fudd i rai busnesau, tra bydd busnesau eraill yn ffafrio cynnal \u00f4l-drafodaeth bob mis. Gofynnwch i\u2019r rhanddeiliaid pwysig sut yr hoffent gael gwybod y diweddaraf a defnyddiwch yr wybodaeth hon i lywio eich cynllun rheoli rhanddeiliaid. Mae dulliau da o reoli rhanddeiliaid yn ystwyth ac yn hyblyg, felly os na fydd rhyw strategaeth gyfathrebu arbennig yn denu digon o ddiddordeb, byddwch yn barod bob amser i newid y cynllun (o fewn rheswm \u2013 os cyflwynwch ormod o newidiadau, efallai na fyddwch yn llwyddo i ennyn ymddiriedaeth). Ewch ati i deilwra eich strategaeth ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid er mwyn diwallu anghenion y rhanddeiliaid, fel y bydd modd ichi fynd ati\u2019n rhwydd i reoli disgwyliadau a sicrhau diddordeb mawr.<\/p>\n<p>Er mwyn ategu\u2019r cyfarfodydd rheolaidd sy\u2019n rhan o\u2019ch cynllun ymgysylltu, gwnewch yn si\u0175r fod modd dod o hyd yn ddidrafferth i\u2019r dogfennau a rennir yn y cyfarfodydd, a\u2019u bod ar gael i\u2019r timau prosiect i gyd. Hefyd, byddai\u2019n werth anfon crynodeb gofalus trwy e-bost. Gwnewch yn si\u0175r fod y negeseuon cyfathrebu hyn yn rheolaidd ac yn gyson er mwyn ichi allu diwallu disgwyliadau\u2019r rhanddeiliaid mewn da bryd. Ystyriwch yr e-byst hyn fel rhyw fath o gylchlythyr: po fwyaf amrywiol fydd yr wybodaeth a\u2019r dulliau o gyfleu\u2019r data, po fwyaf tebygol yw hi y bydd rhanddeiliaid yn dymuno cael gwybod y diweddaraf.<\/p>\n<p>Wrth feddwl am y modd y caiff yr wybodaeth ei rhannu a\u2019i rhaeadru, ystyriwch eich prosiect mewn modd cyfannol. Bydd y gwaith dadansoddi rhanddeiliaid a ddeilliodd o\u2019r broses fapio yn eich galluogi i bennu lefel y cyfranogi, lefel y diddordeb a lefel y dylanwad, a sut y bydd yr elfennau hyn oll yn cyfrannu at brosiect llwyddiannus. Yn achos grwpiau rhanddeiliaid a gynhwysir yn gynnar yng nghylch oes y prosiect, bydd angen iddynt sicrhau eu bod wedi dogfennu\u2019r holl wybodaeth berthnasol ar gyfer ei throsglwyddo i\u2019r gr\u0175p rhanddeiliaid nesaf yn y cylch. Po gynharaf a pho fanylaf y caiff hyn ei wneud, po fwyaf effeithlon fydd y broses benderfynu a\u2019r broses rheoli risg ar gyfer cam nesaf y prosiect. Er y bydd noddwr y prosiect yn cadw golwg ar hyn oll, fe fydd yn dibynnu\u2019n helaeth ar randdeiliaid a chanddynt b\u0175er mawr o fewn pob t\u00eem i gadw\u2019r cylch i droi mor effeithiol \u00e2 phosibl. Cofiwch fod sgiliau rheoli rhanddeiliaid \u2013 fel dirprwyo ac ennyn cefnogaeth eraill \u2013 cyn bwysiced ag arwain wrth fynd ati i reoli prosiectau.<\/p>\n<h2>Gwella eich sgiliau rheoli rhanddeiliaid<\/h2>\n<p>Os ydych yn weithiwr marchnata proffesiynol sy\u2019n dymuno gwella eich sgiliau arwain a\u2019ch sgiliau rheoli prosiectau er mwyn mynd \u00e2\u2019ch gyrfa i\u2019r lefel nesaf, efallai y byddai MBA Marchnata gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru yn ddelfrydol ichi. Mae\u2019r Ysgol hon ymhlith y 10 prifysgol gorau yn y DU o ran cyflogadwyedd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser. Cewch <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/mba-marchnata\/\">ragor o wybodaeth<\/a> yma yngl\u0177n \u00e2 sut y gallwch ennill gradd meistr trwy fynd i\u2019r afael ag astudiaeth hyblyg sy\u2019n canolbwyntio ar yrfa.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae sgiliau rheoli rhanddeiliaid yn hanfodol i weithwyr marchnata proffesiynol sy\u2019n rheoli prosiectau mawr neu gymhleth trwy\u2019r holl gwmni. Er mwyn i berthnasoedd da ffynnu yn y t\u00eem marchnata a rhwng rhanddeiliaid hollbwysig y t\u00eem, mae hi\u2019n hanfodol ichi gynnal arferion cyfathrebu da, yn fewnol ac yn allanol. Pan na chaiff strategaethau eu rhannu, mae &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1114,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[20],"tags":[],"class_list":["post-1115","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-erthyglau"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.1.1 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae sgiliau rheoli rhanddeiliaid yn hanfodol i weithwyr marchnata proffesiynol sy\u2019n rheoli prosiectau mawr neu gymhleth trwy\u2019r holl gwmni. Er mwyn i berthnasoedd da ffynnu yn y t\u00eem marchnata a rhwng rhanddeiliaid hollbwysig y t\u00eem, mae hi\u2019n hanfodol ichi gynnal arferion cyfathrebu da, yn fewnol ac yn allanol. Pan na chaiff strategaethau eu rhannu, mae &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-10-25T16:01:21+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid?\",\"datePublished\":\"2021-10-25T16:01:21+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:06+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\"},\"wordCount\":1288,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg\",\"articleSection\":[\"Erthyglau\"],\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\",\"name\":\"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg\",\"datePublished\":\"2021-10-25T16:01:21+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:06+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Side view of a business man talking to stakeholders around a table\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid?\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae sgiliau rheoli rhanddeiliaid yn hanfodol i weithwyr marchnata proffesiynol sy\u2019n rheoli prosiectau mawr neu gymhleth trwy\u2019r holl gwmni. Er mwyn i berthnasoedd da ffynnu yn y t\u00eem marchnata a rhwng rhanddeiliaid hollbwysig y t\u00eem, mae hi\u2019n hanfodol ichi gynnal arferion cyfathrebu da, yn fewnol ac yn allanol. Pan na chaiff strategaethau eu rhannu, mae &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2021-10-25T16:01:21+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:06+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"6 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid?","datePublished":"2021-10-25T16:01:21+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:06+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/"},"wordCount":1288,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg","articleSection":["Erthyglau"],"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/","name":"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid? - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg","datePublished":"2021-10-25T16:01:21+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:06+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/Side-view-of-a-business-man-talking-to-stakeholders-around-a-table.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Side view of a business man talking to stakeholders around a table"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/sut-ydych-yn-cyfathrebun-effeithiol-gyda-rhanddeiliaid\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Sut ydych yn cyfathrebu\u2019n effeithiol gyda rhanddeiliaid?"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/image\/","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1115","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1115"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1115\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1114"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1115"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1115"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1115"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}