{"id":1062,"date":"2021-09-07T15:51:32","date_gmt":"2021-09-07T14:51:32","guid":{"rendered":"https:\/\/devnorthwales.wpengine.com\/?p=1062"},"modified":"2023-08-15T17:01:06","modified_gmt":"2023-08-15T16:01:06","slug":"rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/","title":{"rendered":"Rheoli risgiau cyfryngau symudol"},"content":{"rendered":"<p>Mae cyfryngau symudol wedi bod yn elfen bwysig o gyfrifiadura cyfoes ers degawdau. Mae wedi esblygu mewn sawl ffordd, gyda mwy o ymwybyddiaeth o risgiau seiberddiogelwch a diogelu data ar draws y sector cyfrifiadura, ond mae\u2019n bwysicach nag erioed i sicrhau bod cyfryngau symudol yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel sydd wedi\u2019i diogelu.<\/p>\n<h2>Beth yw cyfryngau symudol?<\/h2>\n<p>Pa un ai eich bod yn gyfarwydd ag ystyr cyfryngau symudol neu beidio, mae\u2019n debyg eich bod chi wedi ei ddefnyddio ar ryw adeg, yn bersonol neu\u2019n broffesiynol.<\/p>\n<p>Mae cyfryngau symudol yn cyfeirio at eitemau a dyfeisiau ffisegol sy\u2019n gallu cario a throsglwyddo gwybodaeth a data yn electronig drwy gael eu plygio neu eu mewnosod i ddyfais arall. Un o\u2019r ffurfiau cynharaf o gyfryngau symudol oedd <a href=\"https:\/\/www.ibm.com\/ibm\/history\/ibm100\/us\/en\/icons\/floppy\/\">disgiau hyblyg<\/a> nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio, ond sy\u2019n parhau i ymddangos ar yr eicon \u2018Arbed\u2019 yn y pecyn Microsoft Office.<\/p>\n<p>Heddiw, y dyfeisiau cyfryngau symudol mwyaf poblogaidd sy\u2019n cael eu defnyddio yw cofau bach USB megis gyriannau fflach a gyriannau \u2018bawd\u2019, dyfeisiau storio megis gyriannau caled allanol, cardiau cof a chardiau SD, gyriannau disgiau caled, CD-ROMs, DVD a Disgiau Blu-ray.<\/p>\n<p>Gall hefyd gynnwys dyfeisiau ffonau symudol a chamer\u00e2u digidol, gan fod modd eu plygio i gyfrifiadur i drosglwyddo data.<\/p>\n<h2>Risgiau cyfryngau symudol<\/h2>\n<p>Mae dwy brif risg yn bodoli wrth ddefnyddio cyfryngau symudol. Er bod maint bach a hygludedd llawer o\u2019r dyfeisiau hyn yn rhywbeth cadarnhaol, os c\u00e2nt eu colli, bydd y data a\u2019r wybodaeth ynddynt yn myned hefyd.<\/p>\n<p>Gall colli dyfeisiau cyfryngau symudol sy\u2019n cael eu defnyddio at ddibenion gwaith ac i ddal gwybodaeth sensitif fod yn gatastroffig. Mae llawer o achosion proffil uchel lle mae cwmn\u00efau wedi colli, neu wedi rhyddhau data sensitif yn ddamweiniol, ac yn llawer o\u2019r achosion hynny mae colli\u2019r data hwn wedi bod yn drychinebus o ran difrod i enw da a cholled ariannol.<\/p>\n<p>Risg arall i ddiogelwch wrth ddefnyddio cyfryngau symudol yw trosglwyddo maleiswedd o un ddyfais i\u2019r llall. Mewn rhai achosion gall hyn fod yn ddamweiniol. Yn wir, mae\u2019r rhan fwyaf o ymosodiadau seiberddiogelwch yn deillio o wallau gan bobl, a gellir trosglwyddo maleiswedd o gyfrifiadur personol i gyfrifiadur gwaith drwy gof bach USB heb sylweddoli bod feirws yn bodoli.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae ymosodwyr yn aml yn defnyddio dyfeisiau cyfryngau symudol a chofau bach i heintio systemau cyfrifiadur gan ddefnyddio <a href=\"https:\/\/www.imperva.com\/learn\/application-security\/social-engineering-attack\/\">peirianneg gymdeithasol<\/a> boblogaidd sef \u2018abwydo\u2019. Bydd dyfais sydd wedi\u2019i heintio \u00e2 maleiswedd yn cael ei gadael mewn man cyhoeddus prysur i rywun ddod o hyd iddo. Yna, bydd yr unigolyn chwilfrydig sy\u2019n dod o hyd iddi\u2019n plygio\u2019r dyfais honno i\u2019w beiriant ei hun, a bydd y faleiswedd yn heintio\u2019r rhwydwaith cyfan, ac yn dwyn gwybodaeth bersonol a sensitif.<\/p>\n<p>Pan fydd sgam maleiswedd neu feddalwedd wystlo yn digwydd ar gyfrifiadur sefydliad, gallai achosi goblygiadau difrifol. Gall y faleiswedd effeithio ar bob peiriant sydd wedi cysylltu \u00e2 rhwydwaith y cwmni, a gall fynd y tu hwnt i ffiniau os yw\u2019r cwmni\u2019n sefydliad byd-eang.<\/p>\n<p>Digwyddodd enghraifft boblogaidd o ymosodiad abwydo yn 2010, pan gafodd cof bach UBS ei heintio \u00e2 mwydyn maleiswedd o\u2019r enw Stuxnet a\u2019i ddefnyddio i gael mynediad at gyfrifiaduron mewn cyfleuster cyfoethogi wraniwm Iranaidd. Am ei fod yn gallu lledaenu ar draws y rhwydwaith yn gyflym, llwyddodd i heintio cyfrifiaduron mewn 155 o wledydd ar draws y byd ac achosi\u2019r caledwedd i ddinistrio ei hun. Ers yr ymosodiad hwn mae grwpiau eraill wedi addasu\u2019r feirws a\u2019i ddefnyddio i dargedu gorsafoedd trin d\u0175r, gorsafoedd p\u0175er, a llinellau nwy.<\/p>\n<h2>Sut allwch chi ddiogelu eich hun rhag risgiau cyfryngau symudol?<\/h2>\n<p>Bellach mae gan nifer o gwmn\u00efau bolisi diogelwch sy\u2019n cyfyngu\u2019r defnydd o\u2019r dyfeisiau hyn, er enghraifft, mae IBM wedi gwahardd y defnydd o gyfryngau symudol yn llwyr.<\/p>\n<p>Os yw\u2019n angenrheidiol defnyddio cyfryngau symudol, y ffordd orau i beidio \u00e2 cholli data yw plygio cyfryngau symudol dibynadwy yn unig i\u2019ch cyfrifiadur.<\/p>\n<p>I osgoi ymosodiadau maleiswedd, gall sicrhau bod meddalwedd gwrth-maleiswedd a gwrth-feirws wedi cael ei gosod, ei rhedeg, a\u2019i diweddaru\u2019n rheolaidd, ar yr holl beiriannau sydd wedi\u2019u cysylltu, atal ymosodiadau a chefnogi diogelwch data wrth ddefnyddio cyfryngau symudol. Os bydd cof bach USB yn cael ei blygio i gyfrifiadur, mae\u2019n bwysig sicrhau nad oes nodweddion sy\u2019n rhedeg yn awtomatig wedi cael eu galluogi ar y peiriant. Bydd nodweddion sy\u2019n rhedeg yn awtomatig yn rhedeg unrhyw raglenni sydd wedi\u2019u gosod ar y ddyfais cyfrwng symudol yn awtomatig ar \u00f4l ei blygio i mewn. Os oes maleiswedd wedi cael ei gosod ar y ddyfais, bydd y nodweddion sydd wedi cael eu galluogi yn eich rhwystro chi rhag atal y faleiswedd rhag lledaenu rhwng dyfeisiau.<\/p>\n<p>Ffordd dda o ychwanegu rheolyddion diogelwch a diogelwch data o fewn sefydliadau yw cyfyngu\u2019r ffeiliau all gael eu cop\u00efo i gyfrwng symudol, oni bai ei fod yn gwbl hanfodol. Gall sganio unrhyw gyfrwng am faleiswedd cyn cael ei throsglwyddo rhwng dyfeisiau atal ymosodiadau.<\/p>\n<p>Mewn achos lle bydd dyfais yn cael ei cholli, bydd nifer o ddyfeisiau storio symudol a chyfryngau symudol yn cael yr opsiwn i osod cyfrinair diogelu, i ddiogelu gwybodaeth ymhellach. I gyfyngu mynediad ac i gryfhau rheolyddion diogelwch ar unrhyw wybodaeth sy\u2019n cael ei throsglwyddo y tu allan i ffynonellau, bydd cyfrineiriau yn cael gwared ar y bygythiad, mewn achos lle bydd dyfais yn cael ei cholli neu ei dwyn. Dylai unrhyw wybodaeth sy\u2019n cael ei chadw ar ddyfais storio symudol gael ei hamgryptio er mwyn darparu haen ychwanegol o ddiogelwch.<\/p>\n<p>Mae rhoi polisi ar waith lle gofynnir i weithwyr adrodd am ddyfeisiau sydd ar goll neu sydd wedi\u2019u colli, a sicrhau bod unrhyw gyfryngau symudol nad ydynt yn cael eu defnyddio wedi\u2019u cadw\u2019n ddiogel mewn sefydliad, yn gallu diogelu yn erbyn risgiau.<\/p>\n<h2>Dod yn arbenigwr mewn seiberddiogelwch<\/h2>\n<p>Mae seiberdroseddu yn datblygu drwy\u2019r adeg, ac felly mae\u2019r galw am sgiliau seiberddiogelwch wedi cynyddu&#8217;n sylweddol ar draws nifer o sectorau. Yn wir, amcangyfrifir y bydd 3.5 miliwn o swyddi gwag ym maes seiberddiogelwch yn 2021 (New York Times, 2018).<\/p>\n<p>Pa un ai fod gennych gefndir ym maes gwyddoniaeth cyfrifiaduron neu beidio, bydd cwrs <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/mba-cyber-security\/\">MBA Seiberddiogelwch<\/a> Ysgol Reoli Gogledd Cymru yn darparu\u2019r sgiliau a\u2019r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i lwyddo yn y maes poblogaidd hwn.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwrs trylwyr yn taro golwg ar bynciau seiberddiogelwch megis diogelwch a rheoli risg mewn amgylchedd digidol a seiberddiogelwch ar gyfer busnesau digidol, yn ogystal \u00e2 phynciau busnes allweddol megis newid creadigol ac arloesedd fydd yn eich helpu chi i ddatblygu eich gyrfa.<\/p>\n<p>Mae chwe dyddiad dechrau ar gael yn ystod y flwyddyn felly gallwch ddechrau\u2019r cwrs o fewn wythnosau. Cwrs rhan amser ydyw, felly gallwch ddefnyddio\u2019r hyn rydych yn ei ddysgu o fewn eich swydd bresennol wrth i chi barhau i ddysgu.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyfryngau symudol wedi bod yn elfen bwysig o gyfrifiadura cyfoes ers degawdau. Mae wedi esblygu mewn sawl ffordd, gyda mwy o ymwybyddiaeth o risgiau seiberddiogelwch a diogelu data ar draws y sector cyfrifiadura, ond mae\u2019n bwysicach nag erioed i sicrhau bod cyfryngau symudol yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel sydd wedi\u2019i diogelu. Beth &hellip; <a href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/\">Continued<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":13,"featured_media":1061,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_daim_seo_power":"","_daim_enable_ail":"","footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1062","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Rheoli risgiau cyfryngau symudol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Rheoli risgiau cyfryngau symudol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae cyfryngau symudol wedi bod yn elfen bwysig o gyfrifiadura cyfoes ers degawdau. Mae wedi esblygu mewn sawl ffordd, gyda mwy o ymwybyddiaeth o risgiau seiberddiogelwch a diogelu data ar draws y sector cyfrifiadura, ond mae\u2019n bwysicach nag erioed i sicrhau bod cyfryngau symudol yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel sydd wedi\u2019i diogelu. Beth &hellip; Continued\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2021-09-07T14:51:32+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2023-08-15T16:01:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"300\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Ruth Brooks\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Ruth Brooks\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"headline\":\"Rheoli risgiau cyfryngau symudol\",\"datePublished\":\"2021-09-07T14:51:32+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:06+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/\"},\"wordCount\":1147,\"commentCount\":0,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/09\\\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg\",\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/\",\"name\":\"Rheoli risgiau cyfryngau symudol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/09\\\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg\",\"datePublished\":\"2021-09-07T14:51:32+00:00\",\"dateModified\":\"2023-08-15T16:01:06+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/09\\\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/09\\\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg\",\"width\":800,\"height\":300,\"caption\":\"Hand inserting a USB stick into a laptop\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Rheoli risgiau cyfryngau symudol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/\",\"name\":\"North Wales Management School - Wrexham University\",\"description\":\"Rhaglenni gradd 100% ar-lein\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded\",\"name\":\"Ruth Brooks\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Ruth Brooks\"},\"description\":\"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.\",\"url\":\"https:\\\/\\\/online.wrexham.ac.uk\\\/cy\\\/author\\\/ruth-brooks\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Rheoli risgiau cyfryngau symudol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Rheoli risgiau cyfryngau symudol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","og_description":"Mae cyfryngau symudol wedi bod yn elfen bwysig o gyfrifiadura cyfoes ers degawdau. Mae wedi esblygu mewn sawl ffordd, gyda mwy o ymwybyddiaeth o risgiau seiberddiogelwch a diogelu data ar draws y sector cyfrifiadura, ond mae\u2019n bwysicach nag erioed i sicrhau bod cyfryngau symudol yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel sydd wedi\u2019i diogelu. Beth &hellip; Continued","og_url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/","og_site_name":"Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","article_published_time":"2021-09-07T14:51:32+00:00","article_modified_time":"2023-08-15T16:01:06+00:00","og_image":[{"width":800,"height":300,"url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Ruth Brooks","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Ruth Brooks","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/"},"author":{"name":"Ruth Brooks","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"headline":"Rheoli risgiau cyfryngau symudol","datePublished":"2021-09-07T14:51:32+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:06+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/"},"wordCount":1147,"commentCount":0,"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg","inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/","name":"Rheoli risgiau cyfryngau symudol - Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg","datePublished":"2021-09-07T14:51:32+00:00","dateModified":"2023-08-15T16:01:06+00:00","author":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#primaryimage","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg","contentUrl":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/09\/Hand-inserting-a-USB-stick-into-a-laptop.jpg","width":800,"height":300,"caption":"Hand inserting a USB stick into a laptop"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/rheoli-risgiau-cyfryngau-symudol\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Rheoli risgiau cyfryngau symudol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/","name":"North Wales Management School - Wrexham University","description":"Rhaglenni gradd 100% ar-lein","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/#\/schema\/person\/78a0572f5f1b0cd34114b7db2fce2ded","name":"Ruth Brooks","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/5942e6358ffa4077a6e89b185b9848be79842dcd0c792e94b7e62f49f2ffdfa1?s=96&d=mm&r=g","caption":"Ruth Brooks"},"description":"Ruth Brooks is a content production specialist of more than 15 years\u2019 experience working in Australian and UK higher education. Ruth graduated from the University of South Australia (UniSA) with a Bachelor of Arts (Professional and Creative Communications) in 2007 and a Graduate Certificate in Marketing in 2015. Her experience spans the research, writing and editing of print and digital communications and marketing collateral for UniSA, as well as the creative development and design of a wide variety of visual communications including print publications and digital marketing assets for University College London. Today, Ruth works to produce and publish digital content that both informs and engages across an array of postgraduate subject areas, as well as web content in the higher education space.","url":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/author\/ruth-brooks\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1062","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/13"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1062"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1062\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1061"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1062"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1062"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/online.wrexham.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1062"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}